O Lyfrgell Owain Owain Owain y person; ei fywyd 1929 -1993 Y Dydd Olaf: un o lyfrau Owain Owain Y Tafod cyfarchion y nadolig: gan yr arlunydd Owain Owain dyfyniadau am Owain Owain
 


Cyfeiriadaeth at Owain Owain
ar ôl ei farw yn 1993:

Englynion    Gwilym Tudur    Dylan Phyllips    Islwyn Ffowc Ellis    John L Williams    Emyr Preis    Emyr Llew    Maldwyn Lewis    Dafydd Iwan

Owain Owain


Gwron na wybu seguryd - ydoedd
a'i wlad yn ei hadfyd,
ac anrhaith ei hiaith o hyd
yn faich ar ei afiechyd.

Geraint Lloyd Owen


'Nhad
(a fy athro mathemateg yn Ysgol Uwchradd Tywyn!)

Ar y deis yng nghledr Duw - ei rif oedd;
Ar fwrdd creu-a-distryw:
Un eilrif o'r ddynolryw!
Mae'n ei fedd, a minnau'n fyw.

robin llwyd ab owain


     
       
       
1989    Gwilym Tudur     Wyt ti'n Cofio? (Gwasg y Lolfa)      
Tudalen 21. Sylwadau ar ei gyfraniad i sefydlu Cymdeithas yr Iaith:


"Ym Mangor, gan Owen Owen (Owain wedyn, fel yr hysbysodd, wedi Calan 1965) a'i gefnogwyr yr oedd yr unig gangen go-iawn. Wedi magu profiad yn herio'r coleg gwrthnysig, aeth ati fel mudiad ynddo'i hun. Cenhadodd sefydliadau cyhoeddus a masnach ei ardal yn drylwyr, ac yna dosbarthu miloedd ar filoedd o'i daflenni nodedig drwy'r wlad. Ei gymwynas fwyaf fu sefydlu Tafod y Ddraig, y ceir ei hanes rhyfeddol ganddo yn Tan a Daniwyd. Fe dyfodd mewn chwe mis o ddalen ddyblygedig 400 copi i gylchgrawn gloyw â chylchrediad o 2,500, gyda stamp newydd, miniog ar ei holl gynnwys.  Cofiwn am ei ddywediadau , fel 'Gorau addysg, ediwceshion' neu 'canmol dy fro, a thrig yno o leiaf unwaith y flwyddyn'; ei fathiad enwocaf oedd 'y Fro Gymraeg' ('enillwn y Fro Gymraeg ac fe enillwn Gymru; oni enillir y Fro Gymraeg, nid Cymru a enillir'). Mae cenhedlaeth gyfan yn ddyledus iddo am ein haddysgu a'n herio; eglurai'n fanwl sut i fynnu defnyddio'r Gymraeg yn gyhoeddus, a dyfeisiai ymgyrchoedd newydd ar ran y mudiad.

Lluniodd hefyd gynllun (o'r Tafod) sy'n hynod o debyg i'r 'tafod' crwn presennol (gweler ysgrif Robat Gruffudd); ond tafod sgwar a fabwysiadwyd yn fathodyn cyntaf Cymdeithas yr Iaith.

     

1998     Dylan Phyllips    'Drwy Ddulliau Chwyldro...?      
Sefydlu Cymdeithas yr Iaith

Fodd bynnag, cafwyd eithriad tra disglair ym Mangor, lle y ffurfiwyd cangen gyntaf y mudiad gan Owain Owain, gwr yr oedd ei waith diflino dros yr iaith yn ddihareb... ac mae'n deg dweud i'r Gymdeithas ddilyn arweiniad y gangen honno mewn sawl maes ac iddi yn ffodus iawn iddi etifeddu un o arfau pennaf Owain Owain, sef Tafod y Ddraig... a phan aeth gwaith cynnal y gangen a rhanbarth Arfon yn ormod i Owain Owain ym mis Medi 1965, daeth 'un o'r cyfnodau mwyaf addawol yn hanes y Gymdeithas i ben.' (Tudalen 100).

'Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf  ym 1963 gan Owain Owain fel 'dalengyswllt Cangen Dinas Bangor', sef crynhoad o'r newyddion diweddaraf ynglyn ag amrywiol ymgyrchoedd y rhanbarth hwnnw. Yn fuan, fodd bynnag, sylweddolwyd gwerth y fenter, yn enwedig yng ngoleuni'r ffaith fod 5000 o gopiau o rifyn deg y gyfres o Tafod y Ddraig wedi eu gwerthu yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Abertawe, 1964... Bu Tafod y Ddraig yn rhan anhepgor o gyfundrefn gyfathrebu'r mudiad er ei sefydlu, ac yn fodd i daenu propoganda  o blaid ymgyrchoedd yr iaith trwy gydol y cyfnod dan sylw. (Tudalen 109).

Fodd bynnag, llwyddodd y Gymdeithas droeon i ddefnyddio'r cyfryngau torfol... Fel y dengys llythyrau Owain Owain yn y papurau cenedlaethol o blaid statws swyddogol i'r Gymraeg, defnyddid y wasg yn rheolaidd gan swyddogion cyntaf y Gymdeithas er mwyn taenu ei neges. (Tudalen 117).

Credai Owain Owain mai'r iaith Gymraeg oedd yr arf grymusaf yn y frwydr dros ymreolaeth, nid ymladd etholiadau. Awgrymodd y gellid chwyldroi'r drefn wleidyddol yng Nghymru yn gyfan gwbwl petai dim ond un y cant o'r Cymry Cymraeg yn mynnu defnyddio'u mamiaith ym mhob cylch o fywyd. (Tudalen 138).

Bathwyd y term 'Y Fro Gymraeg' gan Owain Owain, cadeirydd cangen Bangor o'r Gymdeithas yn rhifyn Ionawr 1964 o Tafod y Ddraig, pan gyhoeddodd fap yn dangos dosbarthiad y siaradwyr Cymraeg ledled Cymru. Mewn sawl erthygl yn y wasg yn yr un flwyddyn pwysleisiodd bwysigrwydd achub yr iaith yn Y Fro Gymraeg: 'oni ennillwn y Fro Gymraeg ac fe enillir Cymru.' (Tudalen 146)... Cydiodd syniad Y Fro Gymraeg yn nychymyg nifer o genedlaetholwyr.
Gweler hefyd tud. 219, 220 a 281

 

 

Roeddwn i'n edmygydd mawr o Owain Owain. Islwyn Ffowc Ellis 19 Tachwedd, 1999.

     
       
 
 
2003     John Lasarus Williams    Crwsâd Drwy Berswâd      
Tudalen 9-10: Brwydr iaith Tanygrisiau (Brewer Spinks)

Brwydr Ffestiniog ydoedd yn y lle cyntaf yn ôl Owain Owain, Bangor, ond yr oedd wedi troi yn frwydr Cymru. Yr oedd yn rhaid gwneud rhywbeth ymarferol heb dreisio'r unigolyn. Os na fyddai'r pendrefyniad yn gryf ac os methai gweithredu lleol, cyfreithlon, byddai raid i aelodau Cymdeithas yr iaith Gymraeg ystyried sut i weithredu. Rhybuddiodd Owain, os na cheid penderfyniad cryf y byddai ef, wythnos i'r noson honno am saith o'r gloch, liw dydd, yn mynd o'r ty gyda phot o baent du a brwsh ac yn dileu hynny a fedrai o eiriau saesneg oddi ar hysbysfyrddau ac adeiladau'r llywodraeth yn ninas Bangor.

Er iddo gael gwahoddiad, ddaeth Huw T Edwards ddim i'r ail gyfarfod (ym Mlaenau ffestiniog) ag yntau'n Llywydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Credai Owain Owain y dylai Plaid Cymru fod wedi cynnal protest gref a dylanwadol ar y dechrau.

Nodyn gan RO: torriad o'r Wester Mail. Sefydlwyd Undeb y Gymraeg Fyw gan John L Williams ac Owain Owain.

Dylanwad Owain Owain:

Roeddwn i wedi cael sgyrsiau hir a dwys efo O.O. yn trafod darlith Saunders Lewis Tynged yr Iaith a syniadau Cymdeithas yr iaith Gymraeg nes bod perthynas agos iawb rhyngom. Ers blwyddyn neu ddwy ymddangosai ffrwyth ei argyhoeddiad dwfn yn y camau ymarferol yr oedd yn brysur yn eu cylch ym Mangor a'r dull cyhoeddusrwydd effeiliol a ddefnyddiai. Yn ogystal â sgrifennu llythyrau i'r wasg, cyhoeddai bamffledi dwy neu bedair ochor fel sy'n arferol ynglyn â materionion ysgolheigaidd yn ffurf ailargraffiad o erthygl neu grynodeb ohoni o'r cylchgronau safonol. Er enghraifft, cyhoeddwyd dan enw Owain owain ailargraffiad o erthygl o'r Faner, 21 Hydref 1965, sef Y Dystiolaeth Brydeinig. Pamffled cynharach oedd Iaith y Papurach, o dan yr enw Owen Owen, Ysgrifennydd Rhanbarth Arfon o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg. Y 'papurach' yw ffurflenni, sieciau, gwysion, hysbysebion, bysbysiadau, a'r apêl oedd i'r Cymry Cymraeg a'r di-Gymraeg argyhoeddiedig ddefnyddio'r Gymraeg ar y papurau hynfesul un ac, yn benodol, sgrifennu 'Cymraeg' ar y ffurflen Rhestr Etholwyr a'i dychwelyd heb ei llenwi....

Dengys un arall o gyhoeddiadau cangen Dinas Bangor o Gymd. yr Iaith Gymraeg gan Owain mai prif amcan y Gymdeithas oedd sicrhau statws swyddogol i'r Gymraeg mewn gweinyddiaeth a llywodraeth ac ym myd masnach. Mae'n glir hefyd mai syniadau meddylgar Owain am weithredu ymarferol oedd sylfaen llawer iawn o waith Undeb y Gymraeg Fyw...

Roedd cyfraniad Owain Owain, dyn mor eithriadol o alluog ac mor ddiffuant, yn gaffaeliad aruthrol i unrhyw ymdrech (dros y Gymraeg).

Daethai Owain i'r casgliad mai'r ffordd ymlaen oedd cael criw bychan o ryw bump wedi ymdynghedu i'r dasg o fynnu ei lle i'r Gymraeg a hynny'n golygu bod y frwydr i gael blaenoriaeth ar bopeth ond gwraig a phlant. Rhwng fy mharch i ddidwylledd Owain a'i ddylanwad arnaf ac effaith ein hymwneud ag achos Tanygrisiau fe'm cefais fy hun mewn argyfwng personol dwys...

   
       
       
       
2002     Emyr Preis      Fy Hanner Canrif i
Tud 77 - 79:

Serch hynny mi wnes i fynd i un brotest iaith yn 1963, a gynhaliwyd yn y coleg ym Mangor yn erbyn awdurdodau'r coleg am eu hagwedd drahaus yn erbyn rhoi lle teilwng i'r iaith ym Mangor. Trefnyddion y brotest oedd... ac Owain Owain, sefydlydd Tafod y Ddraig, darlithydd yn y Normal a brawd fy mam.

O barch at fy Ewythr Owain yr euthum i efo fo yn 1963 i weld achos llys Owain Willams ym Mlaenau Ffestiniog,
pan ddygwyd ef o flaen ei well am osod ffrwydron yn Nhryweryn.

       
2005     Emyr Llew      Y Faner Newydd
     

     
2006     Maldwyn Lewis     Wir Yr!      

Tud 186- 190 (Pennod gyfan arno); ailargraffwyd hefyd yn Rhifyn 38 (Rhagfyr 2006) o Y Faner Newydd.

Buasai angen cyfrol drwchus iawn i son amdano fel llenor amryddawn, darlledwr ac yn arbennig fel ymgyrchydd arloesol dros yr iaith. Arloesol yw'r gair i ddisgrifio Owain. Sylwedolodd rym y pethau bychain a'u rhoi ar waith. .. Pwysleisiodd bwysigrwydd ateb ffôn yn yr iaith, a siaradai Gymraeg ym mhob siop er ei fod yn gwybod nad oedd yr un o'r staff yn medru'r iaith.

Pan oedd Owain Owain yn byw ym Mangor yn y chwedegau cyhoeddodd ar ei gost ei hun daflenni i berswadio rhieni pa mor fanteisiol oedd i'w plant fod yn ddwyieithog. Cyn bod sôn am Gymdeithas yr Iaith galwodd y gyfres o bamffledi yn Tafod y Ddraig ac roedd Eira ac yntau'n eu rhannu i gartrefi'r ardal.

 

 

2007    Dafydd Iwan    Ebost

" Un o'r athrawon mwyaf ysbrydoledig a gefais yn Ysgol Ty Tan Domen, y Bala oedd Owen Owen, yr athro Cemeg.

Ond wedi iddo adael y Bala y cafodd ei weledigaeth fawr parthed lle'r Gymraeg ym mywyd Cymru, ac roedd Owain Owain yn un o symbylwyr gwleidyddol ymarferol mwyaf allweddol ein cenedl.

Daeth yn sbardun ac yn ysgogwr i nghenedlaeth i, a does dim dwywaith nad oedd yn gyfrifol am osod sylfeini cadarn i'r Gymdeithas.

Fel gyda phob mudiad o bwys, daeth nifer o ffrydiau ynghyd i sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, ac un o'r ffrydiau mwyaf croyw oedd ffrwd Bangor, ym mherson Owain Owain.

Gwelai Owain frwydr y Gymraeg mewn cyd-destun rhyngwladol, a gwelai ein diwylliant fel caleidosgop amryliw gyda'r iaith fel canolbwynt. Doedd dim byd yn llwyd ym myd Owain Owain, ac yn ystod ei gyfnod fel Dirprwy Gyfarwyddwr Addysg yr hen Wynedd, helpodd i osod sylfeini cyfundrefn addysg i Ogledd Orllewin Cymru oedd yn esiampl loyw i Gymru gyfan."

       
Hyd yma (2006)     Y Cydymaith i Lenyddiaeth     Dim gair. Boed i'r tawelwch lefaru.