Perlau:
Dyfynu Owain Owain:
Canaiteir
cyhoeddi'r canlynol, gan nodi'r ffynhonell wreiddiol ym mhob
achos. |
||
I'r Sawl a Garo ei Hanner-Iaith | Cwrteisi cynhenid y Cymro yw gelyn pennaf yr iaith Gymraeg. | Barn, Awst, 1963 |
Gweithredu'n Gall | Pan fo argyhoeddiadau lleiafrif yn gwrthdaro yn erbyn rhagfarnau mwyafrif, ni ellir gweithredu'n gyfiawn bob amser heb weithredu'n anghyfreithlon hefyd. |
Y Faner 10/09/1964 |
Y We Fyd-eang | Yn syml, mae'r [cyfrifiadur] yn ei gwneud hi'n
bosib i gofnodi y cyfan o wybodaeth yr hil ddynol drwy'r
oesau mewn un lle, mewn modd sy'n galluogi unrhyw unigolyn -
o'i gartref ei hun er enghraifft - archebu a derbyn unrhyw
ran o'r wybodaeth honno.' 'Rydych am weld cerflun mwyaf o geffyl sydd mewn bod? Yna, o'ch cadair freichiau, a chyn i'r bys olaf adael y botwm olaf, fe fydd llun y ceffyl ar y llen deledu yn eich ystafell.' Neu gynllun pensaerniol Eglwys St Pedr yn Rhufain? Pwyswch fotymau eraill a dyna'r cynllun pensaerniol yn dilyn y ceffyl mewn llai na chwinciad!' |
Y Cymro 23/7/1969 |
Effaith y cyfrifiadur ar addysg | Beth fydd effaith hyn i gyd ar fyd addysg, dyweder yn 2000
O.C.? Yn gyntaf, fe fydd addysgu'r dechneg o ddefnyddio
cyfundrefn o gyfrifyddion yn bwysicach - yn llawer pwysicach
- na chael plant i gofio rhestri di-bendraw o ffeithiau; y
cyfrifydd bellach fydd y "cof"... ... a bydd athrawon y flwyddyn 2000 yn cael eu dyrchafu o fod yn gyflenwyr ffeithiau i fod yn dywyswyr - yn tywys y disgyblion i gyfeiriad y profiadau gwerthfawr a chyfoethog hynny sy'n gyfystyr a gwir addysg. |
Y Cymro 23/07/1969 |
Y Fro Gymraeg | Enillwn y Fro Gymraeg, ac fe enillir Cymru, ac oni enillir y Fro Gymraeg, nid Cymru a enillir. | Y Cymro, 12 Tachwedd, 1964 |
Rhyfel | Pam felly mae rhyfeloedd yn parhau? Un peth sy'n sicr: mae rhamantu am ryfel ymhlith y pwysicaf o'r ffactorau a wna parhad rhyfeloedd yn ffaith. Dileu y rhamant yw'r cam cyntaf tuag at ddileu rhyfeloedd. | 'Gwyliedydd' Rhif 122, Mai 2003 (Ailgyhoeddiad) |
Cadwraeth | Rydym yn rhy barod o'r hanner i dderbyn elw'r presennol heb ystyried colledion y dyfodol. |
Y
Cymro, Mai 1970 |
Cyfoeth yr Amrywiaeth... a chyd-destun y frwydr byd-eang dros y Gymraeg |
Undod mewn Amrywiaeth. Parchu a diogelu,
noddi a chreu, cryfhau a lledaenu undod mewn amrywiaeth - ar
lefelau yr unigolyn, y teulu, y plwyf, y genedl, y byd... A hyn yn unig, gan hynny,
a all roi ystyr i fywyd ac i weithredoedd dyn. Y mae unrhyw ystyr clodwiw y gellir ei briodoli i fywyd heddiw, ac unrhyw werth parhaol y gellir ei briodoli i fywyd ddoe, yn dibynnu ar barhad a chryfder yr iaith Gymraeg a'i diwylliant a feithrinwyd ac a feithrinir drwy gyfrwng yr iaith honno; nid i Gymru a'i phobl yn unig, ond i fyd dynion benbaladr; canys fe fydd diflaniad yr iaith Gymraeg yn gyfystyr â rhoi sêl oferedd ar yr hyn oll a fu yn hanes y byd yr ydym ni yn rhan ohono. |
Barn, Gorffennaf, 1969 |
Cyfoeth yr Amrywiaeth | Cyfoeth yr amrywiaeth yw cyfoeth Daear. A'i dyfodol. |
Y Cymro 19/01/1973 |
Adnoddau Prin y Ddaear | Nid yw ein Daear yn ddigon mawr i ni fedru fforddio gwstraffu ein hadnoddau prin, nac ychwaith yn yn ddigon mawr i fod yn gartref i fwy nag un gwladwriaeth mewnblyg, hunanol, dreisiol a materol.... darbodaeth ofalus a chyd-weithrediad llwyr yw amodau di-amod parhad bywyd. |
Y Cymro 19/01/1973 |
Bwyd Organig | Ceir mwy a mwy o'r gwenwyn "gwrteithiol" i halogi'r pridd, mwy a mwy o wenwyn trychfilod a chwyn i ddifwyno'r amgylchfyd byw ac i suro cynghanedd Natur; elw cynyddol tros-dro, gyda'r dyfodol agos yn talu'n ddrud am y llygru, yr erydio a'r rheibio. | Y Cymro, Awst 1969 |
Atomfeydd Niwclear | Yn enw Duw ac yn enw
dyn - yn enw plant ein plant ac yn enw Cymru - gadewch i ni
sylweddoli'n gwbwl glir yr hyn sydd ar droed yn ein Gwynedd ni...ac
wele'r syniad cwbwl wallgof o ddod a thrydedd atomfa i Wynedd. ...
Trwy gydol y gyfres hon o 'Nodion' ceisiais ddangos o bryd i'w gilydd effeithiau peryglus yr atomfeydd ar yr amgylchfyd, a'r peryglon mwy i'n plant, ynghudd yng nghrombil y melinau satanaidd hyn....' |
Y Cymro, Awst 1970 |
Y Meddwl Taeog |
Na feier y Cymry'n rhy drwm am eu darostyngiad presennol i gyflwr meddyliol taeogion, nac am eu parodrwydd i fabwysiadu safonau materol a safbwynt meddwl cul, ynysol, brodorion Lloegr. Fe fu Lloegr yn ddiwyd iawn drwy'r canrifoedd yn ein halogi a'n llurgunio - yn gwbwl fwriadol, yn ddi-ildio ac yn ddidrugaredd, a gyda'r fath gyfrwystra fel nad ydym yn fodlon credu i hyn ddigwydd o gwbwl. Druain ohonom - un o symtomau ein hafiechyd cenedlaethol yw ein hamharodrwydd i gredu ein bod yn afiach. |
Barn Mehefin 1964 |
Cyd-destyn y Frwydr Iaith |
Ond yr un yw'r frwydr: brwydr y "pethau bychain" yn erbyn y DDELWEDD FAWR. A chan mai Cymry ydym, a chan mai'r Gymraeg yw ein hiaith ac iaith ein plant, yna'r frwydr i adnewyddu ac ymgryfhau'r iaith hon yw ein sgarmes neilltuol ni yn y frwydr fwy. Nid oes unrhyw "foesoldeb newydd" i gyfiawnhau’r amser a'r egni a'r arian a werir i frwydro dros yr iaith Gymraeg yn wyneb brwydrau cyfoes eraill sy'n aros i'w hennill. Nid oes angen cyfiawnhad, canys agweddau yn unig o UN frwydr yw'r brwydrau hyn i gyd. |
Y Faner 15/10/1964 |
Y Burum fu'n Creu'r Bara... |
O edrych yn ôl i'm cyfnod
fel golygydd Tafod y Ddraig yn ystod 1963 - 1964, pa neges
sy'n treiddio drwodd yn glir i'r cyfnod hwn? Effeithiolrwydd
gwaith caled, gwaith cyson - yn aml yn ddiramant, yn aml yn
bedestraidd, serch hynny yn amrywiol, Hyn yw angen mawr Cymru
heddiw: |
'Rifynnau Cyntaf Tafod y Ddraig' Erthygl yn 'Tân a Daniwyd' (Gol Aled Eurig) |