O Lyfrgell Owain Owain Owain y person; ei fywyd 1929 -1993 Y Dydd Olaf: un o lyfrau Owain Owain Y Tafod cyfarchion y nadolig: gan yr arlunydd Owain Owain dyfyniadau am Owain Owain
 


Dyfyniadau bachog am Owain:

 

 


  • 'Ni welwyd dim byd tebyg i'r llyfr hwn (Y Dydd Olaf) yn ein hiaith o'r blaen,
    na dim byd hollol debyg mewn unrhyw iaith.
    Llawenhewn fod y math yma o ddisgleirdeb yn bosibl yn y Gymraeg.' Pennar Davies, 1976.

 


  • '... i fynegi fy edmygedd o'r gwaith mawr y buoch yn ei wneud dros yr iaith. Yn gyflym iawn daethoch yn un o'n harweinwyr o achos gweledigaeth ac egni ac ymroddiad...' Gwynfor Evans, 1964

  • Roeddwn i'n edmygydd mawr o Owain Owain. Islwyn Ffowc Ellis; 19 Tachwedd, 1999.

 


  • 'Rhybuddiodd Owain, os na cheid penderfyniad cryf y byddai ef, wythnos i'r noson honno am saith o'r gloch, liw dydd, yn mynd o'r ty gyda phot o baent du a brwsh ac yn dileu hynny a fedrai o eiriau saesneg oddi ar hysbysfyrddau ac adeiladau'r llywodraeth yn ninas Bangor.'

    '...Roedd cyfraniad Owain Owain, dyn mor eithriadol o alluog ac mor ddiffuant, yn gaffaeliad aruthrol i unrhyw ymdrech dros y Gymraeg.'

    (Crwsâd Drwy Berswâd, John L Williams, 2003)

 


  • 'Edmygaf yr egnio rydych yn ei wneud dros yr iaith...' Saunders Lewis, 1963


  • '... un o storiwyr mwyaf arbennig ein dyddiau...' Llais LLyfrau 11


  • '... un o'n llenorion mwyaf amryddawn...' Llais Llyfrau 12


  • 'Mae cenhedlaeth gyfan yn ddyledus iddo am ein haddysgu a'n herio;
    eglurai'n fanwl sut i fynnu defnyddio'r Gymraeg yn gyhoeddus,
    a dyfeisiai ymgyrchoedd newydd ar ran y mudiad. ' Gwilym Tudur, Wyt Ti'n Cofio? (Gwasg y Lolfa)


  • 'Gellir dweud, heb seboni mai chdi (Owain Owain) YDY Cymdeithas yr Iaith ar hyn o bryd (1964)...' Geraint Jones ("Twm")


  • 'Bathwyd y term 'Y Fro Gymraeg' gan Owain Owain, cadeirydd cangen Bangor o'r Gymdeithas  yn rhifyn Ionawr 1964 o Tafod y Ddraig ...' Dylan Phillips, 'Trwy Ddulliau Chwyldro ... ?'


  • 'Arloesol yw'r gair i ddisgifio Owain. Sylweddolodd rym y pethau bychain, a'u rhoi ar waith.
    Cyn bod sôn am Gymdeithas yr Iaith galwodd y gyfres o bamffledi yn Tafod y Ddraig...' 'Wir yr!', Maldwyn Lewis, 2006

  • "...llwyddodd Owain Owain i osod ein brwydr yn ei chyd-destun byd-eang." Gareth Miles, Y Faner 03-07-69

  • 'Mae na ambell un wedi haijacio'r Gymdeithas oddi wrth Owain Owain; troi'r dwr i'w melin eu hunain.' Eurig Wyn, 2004

  • 'Roedd Owain yn un o symbylwyr gwleidyddol ymarferol mwyaf allweddol ein cenedl.' Dafydd Iwan, Rhagfyr 2007


  • "dim gair" - Y Cydymaith i Lenyddiaeth Gymraeg. Pam? Golygydd...