O Lyfrgell Owain Owain Owain y person; ei fywyd 1929 -1993 Y Dydd Olaf: un o lyfrau Owain Owain Y Tafod cyfarchion y nadolig: gan yr arlunydd Owain Owain dyfyniadau am Owain Owain
 


Saunders Lewis

Owain Owain yn llythyru gyda S.L. ar ran Cymdeithas yr Iaith.

(gweler hefyd yr adran ar Blaid Cymru)

Dyma peth o'r ohebiaeth a fu rhyngddynt.  Yn ei ddarlith radio 'Tynged yr Iaith' fe alwodd S.L.
ar Blaid Cymru i addasu ei hun yn fudiad iaith.

Drwy ei ysgrifau ("Llais neu Bleidlais" ayb) dangosodd Owain Owain fod angen dau fudiad; fod angen i'r Gymdeithas fod yn gwbwl ar wahan i Blaid Cymru.
Dyma frwydr a oedd raid ei hymladd nid yn unig gyda S.L. ond hefyd gyda swyddogion cenedlaethol y Gymdeithas.

 

21 Gorffennaf 1963

Llythyr gan Owain Owain at Saunders Lewis.

 

Derbyniwyd ateb, i'w gyhoeddi eto.
28 Gorffennaf 1963.

Owain Owain yn rhoi gwybod i S.L. o'r ymgyrchoedd a oedd ar y gweill a bod Cangen Bangor o G.yrI.G yn cynhyrchu
ffurflen Dreth Incwm Cymraeg.

 

   
llythyr gan Saunders Lewis at Owain Owain ...ac ateb Saunders Lewis iddo, dyddiedig y 10ed o Dachwedd, 1963, lle mae'n glynnu at ei weledigaeth wreiddiol yn
"Nhynged yr Iaith" sef  mai gweithio o fewn y Blaid y dylid ei wneud gan geisio troi llywodraeth leol Cymru'n fwy Cymraeg,
fel bod "llywodraethu Cymru'n amhosibl i Saeson".

Mae felly'n anghytuno ag Owain Owain fod angen mudiad iaith neu "cenedligrwydd" (sef Cymd. yr Iaith Gymraeg) yn annibynol i'r Blaid.
   
Llythyr gan Saunders Lewis at Owain Owain Rhan 2
   
11 Tachwedd, 1963

Mae drafft cyntaf y llythyr canlynol i'w weld yma.
Mae drafftiau llawysgrifen bron pob llythyr gan Owain Owain wedi eu cadw'n ofalus.

"Ni allaf gredu y gall Blaid Cymru fod yn blaid ac yn fudiad (iaith)."

"Beth a wnawn? Gwthio B.C. ... i anwybyddu'r iaith yn llwyr. I beth? I ryddhau ei haelodau...
i weithredu o fewn i fudiad cenedligrwydd (neu iaith) newydd.

   
Rhan 2
   
19 Hydref 1964

Llythyr gan Owain Owain at Saunders yn ei wahodd i alw ar aelodau Plaid Cymru i naill ai droi'r Blaid yn ol i "lwybrau'r iaith"
neu droi at Gymdeithas yr Iaith. Dadleuodd O.O. ers cyhoeddi "Llais neu Bleidlais" y dylai Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
fod yn fudiad iaith cwbwl annibynol i Blaid Cymru.

Rhan 2
   
amlen Amlen llythyr 7 Tachwedd 1964.
   
Llythyr gan Saunders Lewis at Owain Owain 7 Tachwedd 1964

Llythyr gan Saunders Lewis at Owain Owain, 4 Plas Llwyd Bangor.

   
Llythyr gan Saunders Lewis at Owain Owain Rhan 2.
   
Llythyr gan Saunders Lewis at Owain Owain Yna, tridiau wedyn, ar y 10ed o Dachedd, 1964, danfonodd Saunders lythyr arall at Owain Owain.
Yma mae S.L. yn galw llywydd y Blaid yn wan,
ond yn annog O.O. i droi at Blaid Cymru, a'i Chymreigio hi yn hytrach na chreu C. yr Iaith yn fudiad iath,
yn annibynol i'r Blaid.
   
Llythyr gan Saunders Lewis at Owain Owain Rhan 2
   
Llythyr gan Saunders Lewis at Owain Owain Rhan 3
   
Llythyr gan Saunders Lewis at Owain Owain Rhan 4
   

 

(Nodyn gan y golygydd: Am ddwy flynedd a hanner, felly, bu i S.L. ac eraill ddadlau mai gweithio o fewn y Blaid
y dylai aelodau C.yr.I.G.
Efallai na ddylem, felly, ei labelu fel 'tad' y Gymdeithas, eithr fel "Tad anfoddog,
nad oedd yn dymuno ymwneud a'i blentyn gwrthryfelgar";
mae'n dal ei afael mor dynn a phosibl yn ei blentyn hynaf: Plaid Cymru.)