Ysgrifau o'r 60au
yn nhrefn y wyddor:
CHWARTER CANRIF
CWRTEISRWYDD Y CYMRO
DEISYFIAD
FFAIR PWC
GWEITHREDU'N GALL
GWEITHREDU'N WLEIDYDDOL
I'R SAWL A GARO El HANNER-IAITH
LLAIS NEU BLEIDLAIS
LLYTHYR AGORED AT Y CENHEDLOED UNEDIG
"ONI ENILLIR Y FRO GYMRAEG. . . . "
PUM DAFFODIL
'RHEN LANC
SIOU A MOWNTI
"STRYD FAWR? TRY HIGH STREET!"
TRIDEG-SAITH
Y CHWYLDRO LLYFRYDDOL
Y DYSTIOLAETH BRYDEINIG
Y DDELWEDD FAWR
Y "SITI OF BANGUH"
Y TRI LLWYBR
YR AGERDREIGLYDD
YR IAITH - ARF WLEIDYDDOL
I'R SAWL A GARO El HANNER-IAITH
"'Sgennych
chi amlenni?"
"Nac oes - ddim i Welsh Nash! Enfilops 'dach chi'n feddwl?"
Ond drannoeth, a'r siopwr wedi'i weddnewid yn flaenor, 'roedd yn ynganu'n glir ac yn gryf o'r Set Fawr: "Fe ddaw'r casglyddion oddi amgylch i gasglu'r amlenni."
Ia, dyna hi! Mae'r Gymraeg yn iawn yn y capel, mae'n iawn yn y 'Steddfod, mae'n iawn mewn ysgolion Cymraeg a chyfarfodydd diwylliannol Cymraeg ond ceisiwch iddi gael ei defnyddio mewn maes newydd ym myd masnach a chyllid a gweinyddiaeth, ac yn y mân fydoedd swyddogol, ac fe'ch cyhuddir o weithredu'n wleidyddol, o fod yn granc, o ofyn am y lleuad. Neu, yn gyfrwys, gyfrwys, fe dywelltir cefnfor o resymau nacaol, amherthnasol, dros y cyfan, nes boddi'r rhesymau dilys am y cais gwreiddiol a'u boddi mewn mwd, os oes modd.
Ac weithiau - gyda chlep ar y drws - fe'ch cyhuddir o fradychu'r Gymraeg.
O, dristwch pob tristwch! Onid Cymro Da yr eisteddfod a'r capel a'r "meysydd cydnabyddedig" sy'n aml yn clepian y drws?
Paham? Beth yw'r rheswm dros yr ystyfnigrwydd yma ynglŷn â defnyddio'r Gymraeg mewn rhai meysydd? Mae llu o esgusodion, ond syrthiant i gyd i un o ddau ddosbarth: "Y Diffuant" neu "Y Ffals".
Nid yw esgusodion y dosbarth olaf yn haeddu eu dadansoddi.
Baw ydi baw, pa mor fân bynnag yr holltir ef. Digon yw dweud mai uchelgais personol (gyda'i gysgod, parch digydwybod i'r Establishment) a esgor arnynt fynychaf. Gadawn iddynt fod.
Ond mae'r gweddill - esgusodion diffuant y Cymro Da dros led-dagu'r Gymraeg - yn weddus i'w trin. Rhown gynnig arnynt, gan awgrymu'r feddyginiaeth.
1. '"Waeth i ni heb. 'Ddaw'r Gymraeg byth yn iaith masnach a chyllid, etc." Oni ddaw, yna hanner iaith yw hi. Ac os hanner iaith yw hi, yna mae cywilydd arnom am ei siarad, am ei swcro yn y "meysydd cydnabyddedig," am ei chydnabod pan restrir hi fel un o gymwysterau swydd wag, ... am fagu'n plant yn Gymraeg. Ofer yw'r cyfan; rhown gyllell ynddi a'i chladdu'n barchus. Dysgwn Saesneg i'n plant - maent yn haeddu iaith gyflawn. Nid oes gan unrhyw rieni yr hawl i fagu eu plant yn Gymraeg, nac unrhyw swyddog yr hawl i ymffrostio yn ei Gymreictod, onid ydynt yn gwneud y pethau syml, pwysig - yn gofyn am eu nwyddau yn y siop yn Gymraeg, yn ysgrifennu eu sieciau yn Gymraeg, yn ateb y ffôn yn Gymraeg, yn gofyn am ffurflen Gymraeg (er gwybod nad oes un i'w chael) bob tro y gofynnir iddynt lenwi un Saesneg.
Pethau bach - pethau pwysig!
2. "Wel 'wnes i ddim meddwl am y peth." Yna, meddyliwch - heddiw! Bydd yn rhy hwyr yfory. Cythruddwch eich meddwl i'r fath radd fel bod pob ffurflen Saesneg a ddaw i'ch tŷ yn rhoi cnofeydd i chwi am ei bod yn archeb i chwi fradychu eich iaith. A hyd nes daw'r cnofeydd, yna nid oes gennych hawl i siarad yn emosiynol ar lwyfan cyhoeddus neu mewn Cinio Gŵyl Ddewi am "Deyrngarwch i'r Iaith." Trallod y cnofeydd a rydd i chwi'r hawl i orfoleddu yn y wefr a ddilyna'r geni.
3. "Ni ellir ei defnyddio - yn hwylus - bob amser."
Yna, gwnewch ddefnydd o'r Gymraeg bob tro y mae yn hwylus.
Wrth ateb y ffôn - bob amser. Wrth gyfeirio llythyr - bob amser. Mewn siop a swyddfa, wrth gyfarch dieithryn neu blismon neu swyddog - bob amser. Siaradwch Saesneg wedyn os bydd rhaid, ond ymfalchïwch yn eich Cymraeg i ddechrau.
Fe synnwch pa mor aml y mae'r Saesneg yn ddianghenraid, a pha mor anaml y mae'r Gymraeg yn "anhwylus."
4. "Wel, a dweud y gwir - ydi hi'n bwysig i mi wneud rhyw bethau bach fel hyn?" Ydi, yn hynod bwysig. Y mae'r Gymraeg yn iach mewn eisteddfod ac ysgol Gymraeg, yn lled-iach yn y capelau Cymraeg ac yn adran Gymraeg y Weinyddiaeth Addysg, yn weddol iach yn y fasnach lenyddol ac ar nifer o aelwydydd, ac nid yw wedi llwyr farw yn yr "University of Wales"; ond ym myd masnach a chyllid a gweinyddiaeth, nid yw ond baban. Ac fel pob babi, mae'n gofyn am ychydig, ond am yr ychydig yn aml. Ac na feddylied neb mai rhywbeth bychan yw, dyweder, siec yn Gymraeg; fe wêl o leiaf bump o bobl bob siec, a phe defnyddid dim ond 50 yr un o sieciau Cymraeg y flwyddyn gan ddim ond mil o bobl drwy Gymru, dyna 25,000 symbyliad bob blwyddyn i eraill weithredu'n gyffelyb. Rhowch gynnig arni - mae'r "pethau bach" yn bwysig, a llwyddiant y "pethau bach" yn fuddugoliaeth foesol ynddi'i hun.
5. "'Chredwch chi ddim, ond weithiau 'rwy'n rhy swil i'w defnyddio." Fe'ch credaf chwi'n syth! Mae cof plentyn am sibrwd Cymraeg mewn caffi crachachaidd ym Mhen Llŷn o bob man - yn rhy fyw i mi beidio â'ch credu. 'Rwy'n cydymdeimlo â chwi o waelod calon. Ac yn cydymdeimlo â'r tad hwnnw a gollodd ei fab dwyflwydd, uniaith Gymraeg, Dafydd, yng nghanol y dorf ar brom Y Rhyl, ac a redai'n wyllt yma a thraw gan floeddio "David!" Greddf anodd i'w choncro yw'r swildod yma. Ond mae'n rhaid ei choncro er mwyn y plentyn. Mae'r argyfwng y mae'r iaith ynddo yn rhoi'r hawl (ia - yr hawl) i ni fod yn haerllug ac yn ddigywilydd yn ein defnydd ohoni ac yn ein hymdrechion drosti.
Cwrteisi cynhenid y Cymro yw gelyn pennaf yr iaith Gymraeg.
Peidiwch â siarad Cymraeg - gwaeddwch hi! A pho gryfaf fo'r tafodau aflafar o'ch cwmpas, yna, uchaf fo'ch gwaedd.
Dysgwch eich plant i barablu'r Gymraeg yn gryf ac uchel a hyderus mewn siop a chaffi ac ar y stryd. Ymfalchïwch yn ymffrostgar yn eich gallu. Hyrddiwch eich iaith i mewn i'r clustiau main sidanaidd. Mae'r hawl gennym i'w defnyddio yn ddigywilydd nid yn unig ar lafar ond ar bapurau swyddogol a ffurflenni a sieciau a hysbysebion cyhoeddus a phopeth.
6. "Mae defnyddio'r iaith fel hyn yn bwysig, efallai, ond mae yna ffyrdd eraill o achub yr iaith." Wrth gwrs. Defnyddiwch bob ffordd sy'n gymeradwy i chwi. Ond peidiwch â bychanu pwysigrwydd y frwydr yma. Os ydych yn gwrthod dulliau anghyfreithlon neu basiffistaidd-anghyfansoddiadol o ddeffro'r ymdeimlad Cymreig er achub yr iaith, yna mae'n ddyletswydd arnoch i brofi eich diffuantrwydd drwy ddefnyddio pob dull cyfansoddiadol sy'n bod. A gellir gwneud peth wmbredd o waith cyfansoddiadol ym myd masnach a chyllid a gweinyddiaeth er atgyfnerthu'r iaith.
7. "Onid iaith yr aelwyd sy'n bwysig? Onid yma y dylem frwydro?" Cywir - dyma'r ffynhonnell. Ond gofynnwn - paham y gwrthyd rhai rhieni Cymraeg drosglwyddo'r enedigaeth-fraint i'w plant? Paham y mynnant fastardeiddio'r epil? Am iddynt edrych ar y Gymraeg fel iaith israddol ac anghyflawn - am iddynt wybod na roddir yr iawn le iddi ym myd gweinyddiaeth a masnach a chyllid. Bydded i ni symud y gwaradwydd, ac fe ddiflanna'r gwrthodiad.
Mae esgusodion eraill, wrth gwrs. Darganfyddwch chwi hwy, ac awgrymwch y feddyginiaeth. Ac os tyfwch i garu eich iaith yn lle eich hanner-iaith, yna, rhowch gynnig ar broselytio.
Peidiwch â suro gan amlder yr esgusodion ffals, a pheidiwch â cholli'ch amynedd efo perchennog yr esgusodion diffuant.
Gweithiwch arno - mae gobaith. A pheidiwch, da chwi, â bod yn rhy wylaidd - fe'ch sethrir; nac yn rhy gwrtais - fe'i dehonglir fel gwendid; nac yn rhy bwyllog - mae'n rhy hwyr i hynny.
Cyhoeddwyd yn Barn, Awst, 1963 Ad-argraffwyd yn Bara Brith (Cyhoeddiadau Modern, 1971).Ailagraffwyd yn Rhifyn 35 o'r Faner Newydd, Rhagfyr, 2005.
Teipiwyd drafft cyntaf yr ysgrif ganlynol gan Owain Owain yn Nhachwedd, 1963 - wedi'i seilio ar dair ysgrif a gyhoeddwyd cyn hynny yn Y Faner: 12, 19, 16 Medi 1963.
Ychydig wythnosau yn ôl fe ysgrifennais erthygl i'r "Faner" gyda'r pennawd "Llais a Phleidlais" (12, 19, 26 Medi 1963). Ceisiais ddangos fod yna ddwy frwydr i'w hymladd yng Nghymru, a bod angen dau gatrawd annibynol i wneud y gwaith.
Plaid etholiadol yw un - yn "wleidyddol" yn ystyr mwyaf cyfyng y gair. Tasg y gatrawd yma fyddai ennill pleidleisiau'r mwyafrif - sef y di-Gymraeg a'r gwrth-Gymreig - mewn etholiadau seneddol. Drwy drin Cymru fel endid economaidd a dangos fod manteision materol yn deillio o hyn. I'r perwyl yma, byddai'n anwybyddu'r iaith a thraddodiadau'r gorffennol i raddau helaeth, os nad yn gyfangwbwl. Saesneg, sef iaith y mwyafrif, fyddai ei phrif iaith, oddieithr yn yr ardaloedd cwbwl Gymreig. Eu hunig apel i'r ymdeimlad cenedlaethol fyddai'r wireb nad yw'r Cymry di-Gymraeg yn Saeson - er i'r mwyafrif llethol ohonynt fod yn gwbl amddifad o unrhyw ymdeimlad o genedligrwydd, ac yn gwbwl anwybodus o darddiad eu harbenigrwydd.
Yr ail gatrawd fyddai mudiad cenedligrwydd, deinamig ac ymosodol, yn "wleidyddol" yn ystyr ehangaf y gair, ond nid yn etholiadol - o leiaf nid yn ymladd etholiadau seneddol. Ei thasg fyddai gwarchod a chryfhau arbenigrwydd y genedl - yr iaith yn bennaf - ac ennill tir newydd yn y meysydd yma. Cymraeg, sef ffynhonnell yr arbenigrwydd yma a fyddai'r prif iaith ond defnyddid y Saesneg pan fyddai hynny'n fanteisiol.
Credaf fod y "gwahaniaeth barn" o fewn Plaid Cymru heddiw'n deillio o'r ffaith nad yw arweinyddion ac aelodau Plaid Cymru yn sylweddoli fod yna ddwy frwydyr i'w ymladd yn gofyn techneg a thacteg gwahanol.
Ni all P.C. ymladd y ddwy frwydr. Collir pleidleisiau os canolbwyntir ar iaith a thraddodiadau; collir y cenedligrwydd os canolbwytir ar bleidleisiau; collir y cyfan os na bydd canolbwyntio. Nid oes cyfaddawd; nid yw cymysgedd yn bosib. Y mae'n rhaid i Blaid Cymru ddewis, a dewis yn fuan: ai plaid etholiadol yn ceisio ennill pleidleisiau'r mwyafrif di-Gymraeg ynteu mudiad cenedligrwydd ymosodol, yn swcro ac yn annog ac yn arwain y lleiafrif Cymraeg a'r ychydig di-Gymraeg sy'n ymwybodol o'u cenedligrwydd?
Os mai dewis bod yn blaid etholiadaol a wna Plaid Cymru, yna fe fydd angen mudiad cenedligrwydd cryf ac ymosodol i weithio'n annibynol o'r Blaid, ond yn gyfochrog â hi. Os mai dewis bod yn fudiad cenedligrwydd a wna plaid Cymru, yna fe fydd angen plaid etholiadol newydd: " Y Blaid Sosialaidd Gymraeg" (yn Saesneg) mae'n debyg.
Beth fydd y dewis? Nid myfi ai piau. Ond dywedaf hyn: nid yw adnoddau materol a chyllidol Plaid Cymru yn werth ymgecru amdanynt, ac nid yw'r enw - a gofid calon yw gorfod dweud hyn - namyn "gair budr" yng nghlustiau'r mwyafrif. Adnoddau'r Blaid yw ei harweinyddion a'i haelodau - o'r ddwy garfan - ac yn bresennol, mae'r adnoddau hyn yn cael eu hafradloni yn y cyfaddawd anymarferol a elwir yn "Blaid Cymru".
Ni all Cymru fforddio gwastraffu brwdfrydedd a gweithgarwch a gwladgarwch arweinyddion ac aelodau Plaid Cymru. Ac onid yw'r "cyfaddawd anymarferol" yn ein amddifadu o un o Gymry mwya'r ganrif?
Ni all Cymru fforddio Plaid Cymru mwyach. Bydded i bob arweinydd a swyddog ac aelod ymroi i sefydlu plaid etholiadol newydd a mudiad cenedligrwydd newydd - pob un yn aelod o'r ddau, ond pob un yn dewis, yn ôl ei dalentau a'i argyhoeddiad ei hun, un o'r ddau faes fel maes ei weithgarwch pennaf.
Nid nychdod ond aeddfedrwydd yw hyn. Nid corff a gleddir ond ffrwyth aeddfed a briddir mewn gobaith a sicrwydd am dyfiant a had.
12 Tachwedd 1963; Y Dyfodol (CPC, Bangor)
Credaf mai un o seiliau'r anghydfod presennol ynglŷn â'r dull mwyaf effeithiol o ennill hunan-lywodraeth yw camddehongliad o dermau, megis "gweithredu'n wleidyddol," "gwleidyddiaeth plaid" a "mudiad politicaidd."
Y mae unrhyw weithred sy'n peri newid unrhyw ran o gyfundrefn lywodraethol yn weithred wleidyddol. Ac felly, y mae unrhyw blaid neu fudiad sy'n gweithredu er newid y status quo mewn gweinyddiaeth wladol yn gweithredu'n wleidyddol. Nid y dull a ddefnyddir i sicrhau'r newid sy'n gwneud gweithred yn wleidyddol, ond yn unig addasrwydd y weithred fel modd i newid rhywfaint ar y gyfundrefn lywodraethol.
Mewn gwlad ddemocrataidd hunan-lywodraethol, y ffordd o newid y gyfundrefn - "y Llywodraeth" yn y cyswllt yna - yw drwy ddefnyddio pleidlais mewn etholiad seneddol. Rhydd hyn fodolaeth i "wleidyddiaeth plaid" sef y newidiadau (neu'r diffyg newidiadau!) a addewir gan y "blaid wleidyddol."
Felly, yn y cyswllt yma (sef mewn gwlad ddemocrataidd hunan-lywodraethol), y mae "gweithredu'n wleidyddol" yn hollol gyfystyr ag ennill pleidleisiau mewn etholiadau seneddol.
Mewn gwlad o'r fath, ennill pleidleisiau yw'r unig "weithred wleidyddol" gwerth sôn amdani. Efallai nad oes y fath wlad yn bod. Yn bendant, nid yw Cymru yn ddemocrataidd hunan-lywodraethol. Gan hynny, nid yw "gweithredu'n wleidyddol" yng Nghymru yn hollol gyfystyr ag ennill pleidleisiau mewn etholiadau seneddol; nid ennill pleidleisiau yw'r unig "weithred wleidyddol" yng Nghymru, o bell ffordd.
Gwlad fechan yw Cymru, a lleiafrif yw'r Cymry yn Ynysoedd Prydain. Lleiafrif hefyd yw'r Cymry Cymraeg yng Nghymru ei hunan. Ac i leiafrifoedd, yr arf politicaidd cryfaf yw'r neilltuolrwydd a'u gwahana oddi wrth y mwyafrif. Ffynhonnell ac amddiffynfa ein neilltuolrwydd ni fel cenedl yw'r iaith Gymraeg. Hi a'n gwahana oddi wrth y mwyafrif.
Hi, felly, yw'r cryfaf o'n harfau politicaidd - politicaidd, sylwer, ac nid "etholiadol."
Mudiad iaith sy'n defnyddio'r iaith fel arf politicaidd yw unig obaith Cymru. Nid rhyw "sort of Welsh Fabian Society" - disgrifiad Harri Webb o gynllun Gwilym Prys Davies - nac ychwaith "fudiad amhleidiol, hanner-diwylliannol" - disgrifiad Colofn Olygyddol Y Ddraig Goch - ond mudiad neu blaid neu gymdeithas (galwch hi be' mynnwch), neu ffederaliaeth o fudiadau, sy'n defnyddio'r iaith mewn modd ymarferol, ymosodol, haerllug ac effeithiol fel arf politicaidd. O wneud hyn, ac ennill hawliau'r iaith ym mhob rhan o fywyd - yn ein cyfundrefnau addysg a'n llywodraeth leol a'n ffatrïoedd, er enghraifft - fe orfodir newid y gyfundrefn lywodraethol bresennol yng Nghymru. Drwy orfodi lle'r Gymraeg yn y gyfundrefn, fe geir cyfundrefn Gymreig yn fuan iawn. Cymry yn unig a all lywodraethu'r Gymru Gymraeg.
Y mae'r iaith Gymraeg yn rhy werthfawr fel arf politicaidd i'w hanwybyddu ar adegau, neu i'w defnyddio i bwrpasoedd eilradd, megis hel arian i gronfa etholiad. Rhaid ei defnyddio'n feunyddiol a'i defnyddio'n rymus - a hi yn unig. Y mae i unrhyw fudiad neu blaid ddefnyddio'r iaith yn achlysurol neu ei thrin fel arf politicaidd eilradd yn dihysbyddu'r potensial enfawr sydd yn yr iaith.
Brad Cymru yw "chwarae" efo'r iaith.
Cyhoeddwyd yn Y Ddraig Goch, Ebrill, 1964. Ad-argraffwyd yn Bara Brith (Cyhoeddiadau Modern, 1971).
Ailagraffwyd yn Rhifyn 35 o'r Faner Newydd, Rhagfyr, 2005.
Gwlad fechan yw Cymru - dyna ei mawredd - ac ychydig yw nifer y rhai sy'n siarad Cymraeg. Ond er eu bod yn ychydig, y mae pob un ohonynt yn fod dynol, yn unigolyn, yn un o ddinasyddion y byd. A'r Gymraeg yw mamiaith yr unigolion hyn.
Y mae dros 650,000 o Gymry Gymraeg yng Nghymru yn unig. Nid yw'r cyfrifiad Prydeinig swyddogol yn caniatáu i'r miloedd o Gymry a alltudiwyd gan orfodaeth economaidd i wledydd eraill Prydain nodi eu Cymreictod, a chyfrifir hwy fel Saeson uniaith yn yr ystadegau iaith.
Iaith, ac nid tafodiaith, yw'r Gymraeg. Nid "patois", ychwaith. Iaith gyfoethog, ystwyth, gref - yn ddigon cryf i oroesi canrifoedd o ymlid uniongyrchol a pholisi o ddiystyrwch sarhaus gan Lywodraeth Lloegr, yn ddigon cyfoethog i wrthod diflannu'n llwyr yn wyneb yr halogi beunyddiol a ddaw yn sgil llifeiriant Saesneg y teledu, y radio, y wasg boblogaiddd, yr hysbysebu masnachol a'r cyfundrefnau addysg anghymreig, ac yn ddigon ystwyth i'w haddasu ei hun i fywyd heddiw.
Mae'r Gymraeg yn un o ieithoedd byw hynaf Ewrob. Hi oedd iaith y Gododdin, barddoniaeth Gymraeg y chweched ganrif - ac iaith fyw, gyfoethog y traddodiad llenyddol di-dor sy'n dal i flodeuo. Hi oedd iaith Cyfreithiau Hywel Dda yn y ddegfed ganrif - iaith mor goeth na ellid cyfieithu nifer o'i thermau cyfreithiol a haniaethol i'r Lladin. Hi oedd iaith y chwedlau Arthuraidd a'r Mabinogi yn yr unfed ganrif ar ddeg.
A hi yw mamiaith ein plant - heddiw.
* * * *
Mae'r Gymraeg mewn argyfwng. Ac mewn byd lle mae amrywiaeth yn diflannu (ond eto heb ddod ag undod yn ei le), y mae colli neilltuolrwydd iaith arbennig - a'r llenyddiaeth a'r diwylliant a'r ffordd o fyw sydd ynghlwm wrth iaith - yn golled i'r byd. Nid undod yw unoliaeth; nid anghydfod yw amrywiaeth.
Nl FYDD I'R GYMRAEG GAEL YMWARED O'I HARGYFWNG NES RHODDIR IDDI YNG NGHYMRU STATWS SWYDDOGOL GYDRADD Â'R SAESNEG. Nl ELLIR HYN OND DRWY DDEDDFWRIAETH. HYD YMA, GWRTHODWYD HYNNY.
Gan hynny, erfyniwn arnoch, gynrychiolwyr y cenhedloedd rhydd, i bwyso ar Lywodraeth Lloegr, hyd eithaf eich gallu, i atal ei pholisi gwaradwyddus, anfoesol ac anwaraidd tuag at yr iaith Gymraeg a chenedl y Cymry.
Cyhoeddwyd fel rhifyn arbennig (3 iaith; 5,000 o gopiau) o Tafod y Ddraig, Mai, 1964.)
6 Mai 1964 Western Mail; Ad-argraffwyd yn Bara Brith (Cyhoeddiadau Modern, 1971).
Pan fo argyhoeddiadau lleiafrif yn gwrthdaro yn erbyn rhagfarnau mwyafrif, ceir chwerwder ac atgasedd fel nodweddion amlwg o adwaith y mwyafrif. Mae hyn yn anochel ac nid yn unig yn anochel, ond hefyd yn rhywbeth i'w groesawu a'i ddefnyddio. Mae i'w groesawu am ei fod yn dangos llwyddiant y lleiafrif: ofn y mwyafrif o'r llwyddiant hwn yw tarddiad eu chwerwder. Mae i'w groesawu hefyd fel y cam cyntaf, o bosib', tuag at dröedigaeth yr erlidwyr; onid tenau iawn yw'r ffin rhwng cariad a chasineb? Ac oni fydd tröedigaeth, fe erys y chwerwder yn ddefnyddiol fel bathodyn diamwys i amlygu'r gelyn: ni enillwyd unrhyw frwydr erioed heb yn gyntaf adnabod y gelyn, a'i adnabod yn dda.
Brwydr lleiafrif yn erbyn rhagfarnau mwyafrif yw brwydr yr iaith Gymraeg. Po fwyaf yw llwyddiant y lleiafrif yn y frwydr, mwyaf gerwin y chwerwder a miniog yr atgasedd o du'r mwyafrif. Na ddigalonnwn, felly, oherwydd y chwerwder a'r atgasedd presennol tuag at ymgyrchoedd yr iaith. Arwyddion llwyddiant ydynt, ac arfau i'w defnyddio. Nid oes dim gwell i ddinoethi'r ffug-Gymry yn ein plith nag ymgyrch iaith, yn enwedig felly pan fo nod yr ymgyrch y tu allan i feysydd cydnabyddedig y Sefydliad; mae adwaith bustlaidd y ffug-Gymry hyn yn eu nodi fel gwir ddisgynyddion Dic Siôn Dafydd. O'u hadnabod, fe'u trechwn - neu'n well, o'u hadnabod eu hunain, fe ddaw tröedigaeth iddynt.
Dywedir yn aml fod yn rhaid "gweithredu'n gall" os ydym i ennill brwydr yr iaith. Purion. Ond gan amlaf, yr hyn a olygir wrth "weithredu'n gall" yw osgoi'r chwerwder a'r atgasedd. Siarad gwag yw hyn. Ni ellir eu hosgoi heb aberthu'r egwyddorion hynny sy'n symbylu brwydr yr iaith. Brwydr yn erbyn materoliaeth a dysgeidiaeth grym, yn erbyn difaterwch meddwl a safonau bas yw brwydr yr iaith. Ni ellir brwydro yn erbyn y rhain heb chwerwi'r llu sy'n gafael mor dynn yn eu gau egwyddorion materol. Oni chyfyd y chwerwder a'r atgasedd, nid ydym yn llwyddo – cyfaddawdu yr ydym, gan geisio'r nod drwy ddefnyddio'r dulliau neis-neis, dan-din, sy'n nodweddiadol o'r llyfrdra moesol yr ydym, yn brwydro yn ei erbyn.
Dywedir hefyd mai yn ddistaw, ddistaw, yn gyfrwys, gyfrwys, yr enillir brwydr yr iaith - buddugoliaeth fach ddistaw ddel fan hyn, un arall fan draw. Eto - purion peth. Mae lle i weithredu fel yna. Mae pob buddugoliaeth felly yn fuddugoliaeth o ryw fath. Ond gochelwn. Gall y mân fuddugoliaethau hyn fod yn gyfryngau i golli'r frwydr. Gall y celu a'r cyfaddawdu a'r cymedroli sy'n dod â'r fuddugoliaeth fach ddistaw ddel ein cymrodeddu â'r gelyn, a meithrin ynom gymeradwyaeth ddirgel o'r safonau bas yr ymgodymwn â hwynt.
Mae'r pris a delir am ochel pob chwerwder ac atgasedd yn bris rhy uchel i'w dalu. O'i dalu, tlodi ysbrydol a llymdra moesol yw'r canlyniad.
Y brwydro, ac nid y fuddugoliaeth ei hun, sy'n bwysig.
Ychydig o elw sydd i fuddugoliaeth "ar blât." Y brwydro yn erbyn anoddefgarwch a safonau materol y rhai sy'n amharchu ac yn sarhau hawliau'r lleiafrif yw "cynnwys moesol" brwydr yr iaith. Nid oes unrhyw "foesoldeb uwch" yn perthyn i'r Gymraeg; ond pan fo teyrngarwch i safonau moesol israddol yn disodli'r Gymraeg ac yn gwthio'r Saesneg i'w lle, yna, mae brwydro dros y Gymraeg yn ddull ymarferol a beunyddiol a phendant o frwydro dros foesoldeb uwch a safonau llai materol. Y brwydro digymrodedd a diddichell a grea Gymry - ac felly ddynion - cyflawn a chyfan. Nid buddugoliaethau mân a enillir drwy gyfaddawdu. Ac onid yw creu dynion cyflawn a chyfan yn bwysicach hyd yn oed nag ennill hawliau iaith?
Er nad yw'r chwerwder a'r atgasedd a gyfyd yn sgîl brwydr yr iaith yn bethau i'w gochel am unrhyw bris, dylem gofio, ar y llaw arall, nad ydynt yn bethau i'w meithrin yn uniongyrchol a bwriadol. Gallwn eu croesawu pan gyfodant yn anuniongyrchol yn sgîl yr ymgyrchoedd iaith, am y rhesymau a nodwyd - maent yn arwyddion o lwyddiant, gallant fod yn rhagarweiniad i dröedigaeth, maent yn dinoethi'r ffug-Gymry. Ond nid yw hyn yn cyfreithloni eu meithrin yn fwriadol. Perygl y fath chwerwder-gwneud yw i'r bustl dreiddio i gyfansoddiad y gwneuthurwr; o'i suro, ychydig fydd ei werth yn y frwydr, llai fyth ei werth fel dyn.
Hyn, yn wir, yw un o beryglon y dull arall o weithredu dull yr "ymfflamychwyr", dull cwbl wrthgyferbyniol i'r dull o "weithredu'n gall." Anogant a deisyfant weithrediadau gwyllt a digyswllt a dibaratoad dros yr iaith. Ond arwynebol iawn yw effeithiau gweithrediadau ysbeidiol ac ymfflamychol o'r fath. Nid ydynt yn treiddio i galon y genedl, er iddynt ogleisio'r meddwl - a hynny'n effeithiol. Gall gweithrediadau o'r fath, fel y "gweithrediadau call," ddod â buddugoliaethau.
Ond unwaith eto, gochelwn y buddugoliaethau gwag. Nid arddangosfeydd ysbeidiol o dân gwyllt lliwgar sy'n mynd i greu Cymry cyflawn. Prif wendid y dull yma o weithredu yw hyn - i'r digwyddiadau anfynych â'u heffeithiau anwadal greu anfodlonrwydd a siomiant yn y gweithredwr: daw'r suro, a chydag ef, collir dyn.
Y nod, yn sicr, yw meithrin dynion cyflawn, dynion sydd yn gweld ffieidd-dra safonau materol ein gwlad, dynion sydd yn gwrthod gau egwyddorion y "Sefydliad" yn ogystal â'r "Establishment," dynion sy'n meddu ar ddigon o hunan-barch i ddeisyfu bod yn unigolion yn hytrach nag yn gysgodion o bersonau eraill. Gan mai Cymry ydym, ni allwn fod yn ddynion cyflawn a chyfan, diragrith a dirodres, heb fod yn Gymry cyflawn. Ni allwn fod yn Gymry cyflawn heb fod yn Gymraeg, heb fynnu i'r iaith Gymraeg gael tyfu'n iaith gyflawn, heb frwydro i symud pob sarhad sydd ar ein hiaith.
Ond sut?
Gallwn "weithredu'n gall." Ni chwerwir y gelyn. Ni chreir atgasedd. Daw mân fuddugoliaethau. Ond daw cymrodedd a chyfaddawd, hefyd. Efallai y daw'r Gymraeg yn iaith gyflawn. Ond ni fydd Cymry cyflawn i'w siarad. Drwy gyfaddawdu, drwy barchu swyddi a bod yn deyrngar i ddefodau cymdeithas yn hytrach na pharchu dynion a bod yn deyrngar i egwyddorion diledryw, fe gollwn yr hawl i'n galw'n hunain yn ddynion cyflawn.
Gallwn weithredu'n "ymfflamychol." Fe enillir buddugoliaethau eto. Efallai y ceir statws swyddogol gyflawn i'r iaith. Tybed a geir Cymry Cymreiciach i arddel ac arfer yr iaith swyddogol newydd a enillwyd fel hyn? Tybed a geir Cymry a all elwa o'r bri newydd a roddwyd i'r iaith, a'i defnyddio yn sylfaen i adeiladu cenedl newydd o ddynion cyfan a chyflawn, yn hunan-hyderus ac yn llawn o hunan-barch?
Mae'r dull o frwydro yn bwysicach nag ennill buddugoliaeth. Sut, felly, y dylid gweithredu? Nid drwy gymrodeddu hyd at ragrith, ac ymgreinio'n ffiaidd er atal chwerwder a chadw parchusrwydd, yn sicr. Nac ychwaith drwy ymfflamychu'n ysbeidiol. Ein parodrwydd i weithio'n bedestraidd ac yn ddiramant, ond yn gwbl ddi-ildio a digyfaddawd, gan gynllunio'r gwahanol ymgyrchoedd iaith yn fanwl ac yn gynhwysfawr, gan broselytio a chenhadu ymhlith ein cyd-Gymry, gan fraenaru'r tir yn ddiwyd, a rydd i ni'r cyfle i greu Cymry cyflawn. A'r parodrwydd yma i weithredu'n bedestraidd ond yn ddigyfaddawd, o ddydd i ddydd, a ddengys ddilysrwydd ein argyhoeddiad a diffuantrwydd ein hegwyddorion. Hyn a rydd gryfder ysbrydol a chyfiawnhad moesol i'n hymgyrchoedd. Hyn hefyd a'n galluoga i ddewis yn eofn pan gyfyd y cwestiwn: gweithredu'n gyfreithlon, ynteu gweithredu'n gyfiawn?
Canys pan fo argyhoeddiadau lleiafrif yn gwrthdaro yn erbyn rhagfarnau mwyafrif, ni ellir gweithredu'n gyfiawn bob amser heb weithredu'n anghyfreithlon hefyd.
Cyhoeddwyd yn Y Faner, 10 Medi, 1964.
Ad-argraffwyd yn Bara Brith (Cyhoeddiadau Modern, 1971).
Y mae Cymru'n genedl, ond nid yn wladwriaeth; gwireb yw hyn, ac nid oes angen cyfiawnhau'r datganiad. Gwireb hefyd yw dweud nad oes modd i genedl gyrraedd ei llawn dwf - nid oes modd iddi feithrin dinasyddion cyflawn, na chyfranogi'n llawn i drysorfa dynoliaeth, na chyfrannu'n helaeth i'r byd - onid yw'r genedl honno yn wladwriaeth hefyd.
Mewn geiriau eraill, ni all cenedl ffynnu os yw'n amddifad o freintiau a dyletswyddau gwladwriaeth; ni all ond marw.
Mae Cymru, fel cenedl, yn marw; canys i genedl, marwolaeth yw pob metamorffosis sy'n ddieithr ac estronol i ddatblygiad mewnol a chynhenid y genedl yn llif Hanes. Felly hefyd y wladwriaeth Gymreig a fyddai'n angenrheidiol i roi bywyd newydd i genedl y Cymry - oni fyddai llywodraeth y wladwriaeth honno yn driw i'n gorffennol, yn parchu'r hyn a'n gwnaeth yn genedl ac sy'n ein cynnal yn genedl, yna metamorffosis angheuol fyddai canlyniad annibyniaeth wleidyddol.
Gorffennol Cymru yw'r unig sylfaen ar yr hwn yr iawn adeiledir dyfodol Cymru.
Er mor angenrheidiol, felly, yw ennill yr hawl elfennol i'n llywodraethu'n hunain fel modd i feithrin dinasyddion cyflawn a chenedl urddasol, y mae'r un mor bwysig nad enillir hunan-lywodraeth drwy fradychu'r gorffennol drwy anwybyddu iaith a thraddodiad, a thrwy fabwysiadu materoliaeth Eingl-Americanaidd a'i wneud yn brif reswm dros annibyniaeth wleidyddol.
Nid "rhyddid" yw annibyniaeth wleidyddol a enillir fel hyn, ond caethiwed cenedl dan feistr newydd, estronol. Nid yw hyn yn golygu mai Sais yw Cymro di-Gymraeg; ond Sais politicaidd yw pob Cymro gwrth-Gymreig, beth bynnag fo'i iaith. A gwladwriaeth Seisnig, er yn annibynnol ar Loegr, a fyddai unrhyw wladwriaeth yng Nghymru a greid drwy sathru ac aberthu ein cenedligrwydd.
Rhaid, felly, i'r arfau gwleidyddol a ddefnyddiwn er sicrhau annibyniaeth wleidyddol fod yn gydnaws â'n cenedligrwydd.
A chan mai yn y Fro Gymraeg y mae'r ymwybyddiaeth cryfaf o genedligrwydd, yna, yn y Fro Gymraeg y mae'r frwydr wleidyddol bwysicaf i'w hennill. Enillwn y Fro Gymraeg, ac fe enillir Cymru, ac oni enillir y Fro Gymraeg, nid Cymru a enillir.
Pa erfyn gwleidyddol sydd yn gydnaws â'n cenedligrwydd ac yn gymwys i'w ddefnyddio ym mrwydr y Fro Gymraeg?
Yn sicr ddigon, nid pleidleisiau etholiadau seneddol. Erfyn mwyafrifoedd yw'r bleidlais seneddol, a materoliaeth yw'r hyn sy'n rhaid ei bregethu i ennill pleidlais y mwyafrif. Y mae ennill nifer sylweddol o bleidleisiau seneddol, gan hynny, yn golygu aberthu ein cenedligrwydd, oherwydd i'r mwyafrif o'n pobl fod yn hollol amddifad o unrhyw ymdeimlad o genedligrwydd. A hyd yn oed petai ennill rhyddid Cymru yn y modd hwn yn rhywbeth amgenach na breuddwyd gwrach, pa fath Gymru a fyddai'r Gymru Rydd a greid gan bleidleisiau'r anghymreig?
Na. Os yw Cymru i ennill annibyniaeth wleidyddol heb hunan-laddiad y genedl, yna dylid defnyddio arfau gwleidyddol sy'n gymwys i leiafrifoedd ac nid i fwyafrifoedd. A chan mai bregus yw Cymreictod Cymru yn y Fro Gymraeg hyd yn oed, yna buddiol yw i'r dull o frwydro fod hefyd yn ddull uniongyrchol o gryfhau'r Cymreictod hwn.
Yr erfyn gwleidyddol pwysicaf, gan hynny, yw'r iaith Gymraeg. Gall mudiad gwleidyddol, yn defnyddio'r iaith fel erfyn gwleidyddol ond yn gwrthod afradloni adnoddau cenedlaetholwyr Cymru ar etholiadau seneddol, orfodi mesurau cynyddol o annibyniaeth i'r Fro Gymraeg, yn fuan ac yn llwyddiannus, drwy ddefnyddio hawliau iaith yn fwriadol ac yn ddigyfaddawd, ac felly gorfodi'r Gymraeg i mewn i weinyddiaeth llywodraeth leol ac adrannau gweinyddol Llywodraeth Lloegr yn y Fro Gymraeg. Gyda'r arian a werir ar etholiadau seneddol, gellir ennill nifer da o ymgyrchoedd iaith; a chyda phob buddugoliaeth, dwyseir arbenigrwydd gwleidyddol Cymru. Ceir ysgogiad i weithredu'n wleidyddol o ddydd i ddydd, yn hytrach na mis o weithgarwch llugoer unwaith bob pum mlynedd.
Dadleuir yn aml mai prif amcan cenedlaetholwyr wrth ymladd etholiadau seneddol yw dylanwadu ar Lywodraeth Lloegr, yn rhinwedd cyfanrif y pleidleisiau, drwy "fygwth y drefn"; mai cyfle i fagu cenedlaetholwyr yw brwydr etholiadol.
Os "bygwth y drefn" yw'r amcan, onid yw bygythiad cant o Gymry blaenllaw yn mynnu defnyddio'r iaith yn ddi-ildio ac yn ddigyfaddawd, ac mewn cyswllt "anghyfansoddiadol", yn weithred wleidyddol bositif a fyddai'n dylanwadu'n gryfach ar Lywodraeth Lloegr na deng mil o bleidleisiau amhersonol?
Ac os magu cenedlaetholwyr yw'r nod, pa fath genedlaetholwyr a fegir drwy aberthu cenedligrwydd?
Cyhoeddwyd yn Y Cymro, 12 Tachwedd, 1964.
GWELER HEFYD LYTHYRAU'R ATHRO J R JONES
Ad-argraffwyd yn
Bara Brith
(Cyhoeddiadau Modern, 1971).
26.11.1964 yn Y Faner
YR IAITH - ARF WLEIDYDDOL
Y Faner. 12 Tachwedd 1964
[Yn ystod yr wythnos cyn ymddangosiad Adroddiad Syr D. Hughes Parry, cafodd pump o Gymry wahoddiad i ddatgan yn rhaglen "Good Morning, Wales!' y BBC, yr hyn yr hoffent weld yn yr Adroddiad - mewn sgwrs 3 munud!]
By sheer accident of history and geography, I am Welsh speaking. This does not necessarily mean that I recite Welsh verse, or compete in Eisteddfodau, or give after-dinner speeches in Welsh on St. David's Day. It means a great deal more.
It means that Welsh is the language in which I praise (and scold), entertain, educate - and love - my children. It is the language in which I courted my wife, the language in which we continue to share the trivialities - and the more exalted moments - of married life. It is the language in which I swear, in which I chat with friends and colleagues, in which I praise God, in which I shop, in which I dream. Inescapably and ineradicably, it is part of me.
My children speak Welsh. NOT because we (as parents) had decided accordingly. But because - quite simply - it is our language. It belongs as naturally to them as does the English language to every child who is born of English parents in England. Were it otherwise, it would be a negation of common decency, a pandering to the baser qualities, a betrayal of past generations.
This is our language. And it is only those of us who seek to live our daily lives completely in and through this language who have experienced the self-righteous antagonism and the illogical prejudices which are slowly strangling it. It is in this context - and remembering that verbosity is a prelude to inactivity - that I would wish the Sir Dafydd Hughes Parry report to consist of two sentences only:
"Let the language which is on the tongues of our children be treated by our people with that reverence, that love and that care which civilized communities bestow on the most precious of their national treasures.”
"Let government legislate so as to restore to the Welsh speaker that most elementary of human rights - the right to use one's own language in one's own country on all occasions; without this, there can be no true democracy."
(Darlledwyd ar "Good Morning Wales'" BBC, 15/10/65. Ail-ddarlledwyd ar "Items from Good Morning Wales'")
BBC, 24/10/65.
Ad-argraffwyd yn Bara Brith (Cyhoeddiadau Modern, 1971).
Ddwy flynedd yn ôl, yn The Celtic Nations (gol. Dr. Ceinwen Thomas; Gwasg Gee, 1963), ymddangosodd erthygl dan y pennawd "Phenomenology and Brittany," gan y Llydawr alltud Alan Heussaff. Seiliwyd erthygl Heussaff ar lith o'r eiddo'r Dr. Etienne-AbAnna yn rhifyn Medi-Hydref, 1960, o'r deufisolyn Llydaweg Al Liamm (gol. R. Huon; Suresnes, Ffrainc).
Mae erthygl wreiddiol y Dr. Etienne-AbAnna yn ddieithr i mi; ond mae cyfaddasiad Heussaff yn gyflawn, ynddi'i hun. Gan hynny, oherwydd pwysigrwydd y cynnwys i bob Cymro "gwleidyddol," a chan mai ychydig iawn o sylw a roddwyd i'r erthygl yn ystod y ddwy flynedd a aeth heibio, ceisiaf roi crynodeb ohoni, ac addasu rhai o'r syniadau parthed "Ffenomeneg a Llydaw" i Gymru fel cyd-destun gydag ychydig sylwadau eraill.
Beth yw Ffenomeneg? "Gwyddoniaeth newydd sy'n ymwneud â thystiolaeth (h.y. y disgrifiad a roddir gan dyst geirwir), o'i gyferbynnu â realiti gwrthrychol."
Beth sydd a wnelo'r wyddoniaeth hon ag athrawiaeth wleidyddol y Cymro? Hyn o beth: "Mae cenedl yn bodoli yn y darlun (neu'r drychfeddwl) ohoni a goleddir gan ei haelodau unigol. Nid yw cenedl (o'i chyferbynnu â gwlad) yn bodoli mewn natur, megis ynys neu gwmwl; mae'n boboli mewn tystiolaeth yn unig." (A chofiwn, rhwng cromfachau, fod gwladwriaeth, o'i chyferbynnu â gwlad ar y naill law ac â chenedl ar y llaw arall, yn bodoli ym mherthynas ymarferol y bobl â'u llywodraeth).
Felly, os oes ystyr o gwbl i'r term "Cenedl y Cymry," yna mae'r ystyr i'w ganfod yn nhystiolaeth pobol ohoni; rhaid deall natur y dystiolaeth cyn y deallwn deithi cenedl; ac onis deallwn, diffrwyth a llwm fydd unrhyw athroniaeth wleidyddol o'n heiddo, ac estron a di-fudd unrhyw wladwriaeth a dyf o'r athroniaeth honno.
Beth yw natur y dystiolaeth? Sylwer: "nid yw wedi'i phennu gan yr amryw ffactorau a ystyrir, gan amlaf, yn elfennau gwneuthuriad cenedl, megis y ffactorau daearyddol, ethnig, diwylliannol, ac ati. . . er nad yw'r dystiolaeth yn hollol annibynnol ar y ffactorau hyn. Yn hytrach, rheolir gweithrediad a datblygiad y ffactorau hyn gan dystiolaeth y bobol o'u perthynas â chenedl arbennig."
Nid damcaniaeth wag mo hon; mae enghreifftiau pendant sy'n profi sylwedd y ddamcaniaeth. Enghraifft o'r fath oedd sefydlu gwladwriaeth Israel: "gyda'r dystiolaeth eu bod yn genedl yn gefn iddynt, mynnodd yr lddewon, drwy rym ewyllys a llafur corfforol, greu y ffactorau hynny (megis lleoliad daearyddol ac iaith) sy'n angenrheidiol i iawn gynhaliaeth cenedl."
Enghraifft arall, yn nes adref, ac i gyfeiriad hollol wahanol, yw perthynas Llydaw a Ffrainc. "Ffordd syml iawn yw ffordd y Ffrancwr o gymathu cenedl sy'n agos iddo. Mae'n gwthio'n ddwfn i feddwl y brodorion y dystiolaeth mai Ffrancwyr ydynt hwy, hefyd; mai rhan naturiol o Ffrainc yw eu gwlad, mai dyna arfaeth Duw, a bod hyn i gyd yn rhan organaidd o gorff Hanes." Effaith y gwthio hwn, dros genedlaethau, drwy'r canrifoedd, "yw cael y brodorion - yr estroniaid - i 'weld' yr undod) i dderbyn y dystiolaeth fel gwirionedd, ac i gyfaddasu eu moeseg i'r dystiolaeth." Unwaith y ceir hyn, yna mae unrhyw ymwybyddiaeth o genedligrwydd "sy'n parhau yn y brodorion yn meithrin ynddynt ymdeimlad o euogrwydd..."
Yn Algeria, fodd bynnag, methodd y Ffrancwr â chyflyru tystiolaeth y brodorion; "ni ddaeth yn rhan o dystiolaeth yr Algeriaid mai Ffrancwyr oeddynt." Onid teg yw awgrymu mai nodweddion amlwg eu harbenigrwydd, megis iaith, lliw croen, a chrefydd yr Algeriaid, a fu'n foddion i gadw'r dystiolaeth yn rhydd o unrhyw eiliw Ffrengig?
"Yn Llydaw, i'r gwrthwyneb, mae'r Ffrancwr wedi llwyddo hyd yn hyn. Mae mwyafrif y Llydawyr yn eu 'gweld' eu hunain yn Ffrancwyr fel y lleill. . . Anghofiwyd yr hyn a berthynai iddynt hwy eu hunain; cofiwyd yn unig yr hyn a berthynai i'w meistri. Heddiw, mae'r ychydig a wyddant am ddydd eu darostyngiad yn gydnaws â'r ychydig a wyddant am darddiad eu cenedl. . . Os digwydd iddynt ddysgu am eu cyndadau, maent yn parhau i feddwl amdanynt fel pobol gyntefig. Yn lle cywilyddio oherwydd y darostwng, maent yn teimlo'n ddiolchgar am gael eu dyrchafu i statws Ffrancwyr. Ffrainc yw mam y Llydawyr hael, a'r ddyletswydd uchaf yw ufuddhau i'r fam."
Tithau hefyd, O Gymru!! Onid yw dadansoddiad Heussaff o effaith ystumio'r dystiolaeth ar yr ymwybyddiaeth Lydewig yn wir yn y cyd-destun Cymreig hefyd? Canys mae tystiolaeth ein pobol wedi'i Phrydeinio - gan gofio mai cyfystyron yw "Seisnig" a "Phrydeinig," bellach. Yn gyfrwys, yn graff, yn gwbl fwriadol, Prydeiniwyd tystiolaeth ein pobol. Mae'r symtomau a'r clwyfau, hefyd yn ddi-rif.
Dyma ychydig ohonynt:
1. Clywch Gymro'n sôn am "y wlad hon," a gofynnwch iddo: "Pa wlad?" Yr ateb, yn aml iawn, ysywaeth: "Wel Prydain, wrth gwrs!"
2. Ceir sôn am "y Frenhines" - nid "Brenhines Lloegr," sylwer - byth a beunydd yn y wasg Gymraeg; fel pe bai gennym Frenhines! Ac yn ddiweddar, mewn colofn wythnosol sy'n pregethu "cenedlaetholdeb," dadleuwyd yn ffyrnig o blaid defnyddio'r term "British money" yn hytrach nag "English money"; ni sylweddolodd y colofnydd mai cryfhau'r dystiolaeth Brydeinig yw unig ganlyniad y fath ddadlau ffug-deimladol.
3. Sylwch fel mae cryfder y dystiolaeth Brydeinig ymysg rhai rhieni Cymraeg yn creu yr anghysondeb erchyll o fod yn awyddus i anfon eu plant i Ysgol Gynradd Gymraeg, tra'n amharod iawn i'w hanfon i Ysgol Uwchradd Gymraeg. Ni ddylid Cymreigio'r plant i'r fath raddau fel y peryglir (sic) eu Prydeinrwydd!
4. Gwrandewch ar rai gwŷr academaidd o Gymry (yn ysgolheigion ein hiaith a'n llên a'n hanes, yn aml) yn sgwrsio'n gyfforddus â'i gilydd yn yr iaith fain. Rhaid profi, wrth gwrs, nad yw Cymreigrwydd academaidd yn dileu'r Prydeinrwydd cymdeithasol!
5. Sylwch mor aml y defnyddir brechdanau ieithyddol gan ein pobol: "So, mi es i yno, d'you see," Ia, ia - rhaid dangos (tra'n siarad Cymraeg, hyd yn oed) ein bod ninnau, hefyd, cystal Prydeinwyr â'r Saeson!
6. Dychmygwch fap o Gymru o'ch blaen. Yna, mae'n eithaf tebyg y gwelsoch Gymru ar y llaw chwith i'ch darlun dychmygol, fel pen dyn ar glun Lloegr. Mae'r dystiolaeth Brydeinig yn hollol ddiogel!
7. Sawl tro y gwrthodwyd hawliau iaith gan gyd-Gymry, oherwydd "rhaid cofio am y Saeson yn ein plith?" Mae teyrngarwch i gyd-Brydeiniwr yn uwch na theyrngarwch i'n cyd-Gymry!
8. "Gwna
hi'n hanfod,
"Ac mi gei di weld!"
Cei, siwr iawn - mi gei weld mai Prydeinig yw'r hanfodion; ond wrth gwrs, 'does dim drwg "chwarae" efo'r Gymraeg a phethau Cymreig!
Gadawn i'r gweddill fod. Awn yn ôl at erthygl iachus Heussaff.
"Mae un o ganghennau Ffenomeneg, sef gestaltiaeth (Almaeneg: gestalt - ffurf), yn dysgu bod ffurf yn ei amlygu ei hun ar drawiad, ac fel undod; a bod undod y ffurf yn rhan o'r dystiolaeth" Er enghraifft, fe welwn driongl, yn gyntaf, fel undod; rhaid wrth gydweithrediad y meddwl a'r ewyllys i weld y triongl fel cyfansoddiad o dair llinell unigol. "O'r ddwy ffurf (triongl; llinell), dywedwn mai'r llinell yw'r ffurf wan, a'r triongl yw'r ffurf gref."
I fwyafrif ein pobol, Prydain yw'r triongl (y ffurf gref), a llinell (y ffurf wan) yw Cymru. Mae'n dilyn, felly, yn ôl rheolau gestaltiaeth, y pery'r dystiolaeth Gymreig yn israddol i'r dystiolaeth Brydeinig tra pery'r "tyst" i feddwl am Gymru fel rhan o "Brydain." Megis y ddwy dystiolaeth, felly'r ddwy "genedl" hefyd.
Beth yw arwyddocâd y gosodiad hwn i ni, Gymry? Hyn - y mae unrhyw ymgais i gryfhau cenedligrwydd Cymru mewn cyd-destun Prydeinig yn sicr o fethu. Un peth, ac un peth yn unig a all warantu llwyddiant - ewyllysio i'r dystiolaeth Brydeinig gael ei gwrthod yn llwyr.
Sut? Drwy ganolbwyntio yn unig ar ein nodweddion di-amwys ni, drwy ymwrthod â'r brwydrau gwleidyddol sy'n perthyn (chwedl yr Athro J. R. Jones) i'r "Amwysedd," drwy ddefnyddio (chwedl Saunders Lewis) "yr unig arf boliticaidd na fedr neb ei defnyddio hi mewn brwydr boliticaidd ond Cymry."
(Cyhoeddwyd yn Y Faner, 21 Hydref, 1965. Dosbarthwyd ar ffurf pamffled, (1,750 o gopïau) ar 26 Hydref, 1965).
Ad-argraffwyd yn Bara Brith (Cyhoeddiadau Modern, 1971).
SYLW: Dywedodd yr athro J R Jones mewn llythyr at Owain Owain (21 Hydref, 1965): "Y mae eich dwy erthygl, "Oni Ennillir y Fro Gymraeg..." a'r un gyfredol yn Y Faner ("Yr Iaith - Arf Gwleidyddol") wedi bod o ddiddordeb a chysur mawr i mi..."
Rhaid dewis un o ddau air yn unig i ddisgrifio cyflwr perthynas gwledydd ein byd â'i gilydd - naill ai Anghydfod neu Undod. Ymhellach, rhaid dewis un o ddau air yn unig i ddisgrifio ansawdd cymharol yr israniadau hynny (gwleidyddol, ethnig, diwylliannol, ac ati) sydd, gyda'i gilydd, yn swm a sylwedd yr hil ddynol - sef Amrywiaeth neu Unoliaeth. Gan hynny, y mae i ni, wledydd y byd, dri llwybr yn ymestyn o'n blaenau - a thri yn unig.
Yn gyntaf, llwybr Anghydfod mewn Amrywiaeth. Yn ail, llwybr Undod mewn Unoliaeth. Yn drydydd, llwybr Undod mewn Amrywiaeth. Nid yw'r pedwerydd llwybr Anghydfod mewn Unoliaeth yn bod, ac eithro yng ngeiriau'r croes-ddywediad yn unig.
Y llwybr cyntaf - llwybr Anghydfod mewn Amrywiaeth yw'r llwybr y mae'r mwyafrif, onid y cyfan, o wledydd y byd yn ei droedio'n awr. Fe arwain y llwybr hwn yn beryglus o agos i lwyr ddinistr; yn wir, yn agos iawn i lwyr anfodolaeth.
Diwedd y daith fydd rhyfel ag arfau cnewyllol a'u tebyg. Nid diwedd y daith ychwaith: pery had bywyd, a'i esblygiad cynhenid, yn fyw yng nghilfachau'r diffeithwch radio-egnïol, gwenwynedig - canys pyrth uffern nis gorchfygant hi - a dechreuir, unwaith eto, ar y broses araf a chymhleth o amlygu ansawdd yr Absoliwt - Perffeithrwydd yn amlhau ei berffeithrwydd drwy gynyddu mewn amrywiaeth oddi mewn i'r undod. Unwaith eto (ac nid oes a ŵyr ai'r ail ai'r milfed tro), fe ddechreuir y broses anorchfygol o amlygu Perffeithrwydd; o'r newydd, megis, wele'r micro-gelloedd cyntefig, abnormal, trawsffurfiedig a oroesoedd y rhyferthwy - yn wir, a grewyd gan y rhyferthwy - yn araf droedio llwybr esblygiad arall; nid oes yr hawl na'r wybodaeth na'r dychymyg gennym i geisio amgyffred ei hynt.
Dyna'r llwybr cyntaf. A ydym eisoes wedi troedio'r llwybr hwn mor bell â'r fan lle nad oes troi yn ôl? Efallai ein bod - ein bod ni, wledydd y byd, eisoes o fewn cyrraedd i ddiwedd ein taith ni. Nid, pwysleisiaf eto, diwedd y daith. Ac os ydym, yna (mawr ein siom) nid oes modd i ni gael gwybod p'un a ymgorfforir ai peidio yng nghynllun esblygiad yr had newydd ryw ychydig bach o'r daioni prin a ddygwyd i fodolaeth gennym ni, blant dynion, yn ystod ein teyrnasiaeth fer, drallodus. Nid oes modd gwybod - ond hawdd credu, a haws gobeithio, mai trawsblaniad o'r fath (o un deyrnasiaeth i deyrnasiaeth esblygol arall) yw'r unig gyfiawnhad (maddeued!) o broses gylchynol sy'n ymddangos i ni, feidrolion, yn hunllefus o gymhleth a gwastraffus.
Yr ail lwybr yw llwybr Undod mewn Unoliaeth. Hwn yw'r llwybr y ceisir ei droedio gan y mwyafrif o wledydd y byd (gan gynnwys y rhai mwyaf nerthol); hwn yw'r llwybr a droedir yn fuan iawn gan y gwledydd hynny sy'n gosod cynnydd materol yn gyfystyr â datblygiad, ac sy'n gwbl ddall i effeithiau dinistriol technoleg gwyddonol dilyffethair.
Fe ddaw lled-lwyddiant, wrth gwrs; fe'i disgrifir mewn nofelau proffwydol, megis Brave New World, Aldous Huxley a 1984, George Orwell. Eisoes, bymtheg mlynedd cyn 1984 George Orwell, fe welir yr arwyddion - tair iaith (Eingl-Americaneg, Rwseg a Tseinieg) yn disodi tair mil, ac yn prysur arwain i un iaith, prif arf Undeb Totalitaraidd; compiwtyddion (cyfrifyddion, os mynnwch) sy'n prysur ddatblygu'r fath gywreinrwydd ag i beri i feddylwyr o'r radd flaenaf, megis Lord Ritchie Calder, ddechrau amau doethineb y tueddiadau presennol; gwladwriaethwyr lle gynt y bu dynion ag eneidiau, a nawdd y wladwriaeth lle gynt y bu hunan-aberth a chariad rhieni a cheraint; "atgyfodiadau" llaw-feddygol a chemegolion ewthanistig i ddifrod gwewyr yr ail eni; arloesi'r gofod yn rhagrith enw Dyn tra pery tiriogaethau helaeth o'r natur ddynol yn goedwigoedd cyntefig, estron.
Dyna'r ail lwybr. Ei derminws yn gylchdro sy'n dychwelyd iddo'i hun, ei lwydni'n drwch. Gwyddom, heb wybod sut a heb ddeall odid ddim, nad yw hyn i fod; gwyddom nad yw i fod am iddo negyddu ansawdd yr Absoliwt; a gwyddom hyn heb wybod (ond yn unig amgyffred, yn niwlog, megis drwy lenni sidanwe) ansawdd yr Absoliwt. Nis oes modd profi hyn, naill ai drwy ddadleuon rhesymegol nac ychwaith drwy gymorth arddangosiadau gwyddonol. Nid credo rhesymol nac afresymol mohono, ond gwybodaeth bendant a chadarn sy'n deillio o'n hymwybod uwch-resymol. Ac yn dilyn hyn, gwyddom y dylem frwydro, gyda grym moesol, yn erbyn pob ymgais i'n tywys ar hyd yr ail lwybr.
Erys y trydydd llwybr - Undod mewn Amrywiaeth. Parchu a diogelu, noddi a chreu, cryfhau a lledaenu undod mewn amrywiaeth - ar lefelau yr unigolyn, y teulu, y plwyf, y genedl, y byd. Hyn sydd gydnaws ag ansawdd yr Absoliwt a hyn yn unig, gan hynny, a all roi ystyr i fywyd ac i weithredoedd dyn.
I gloi, dywedaf beth a all ymddangos yn anghyfrifol o ysgubol, yn beryglus o blwyfol, ac yn chwerthinllyd o naïf.
Ymddengys felly gan i mi, yn gwbl fwriadol, adael i'r darllenydd ei hun lenwi'r agendor rhwng y paragraffau blaenorol a'r datganiad sy'n dilyn:
Y mae unrhyw ystyr clodwiw y gellir ei briodoli i fywyd heddiw, ac unrhyw werth parhaol y gellir ei briodoli i fywyd ddoe, yn dibynnu ar barhad a chryfder yr iaith Gymraeg a'i diwylliant a feithrinwyd ac a feithrinir drwy gyfrwng yr iaith honno; nid i Gymru a'i phobl yn unig, ond i fyd dynion benbaladr; canys fe fydd diflaniad yr iaith Gymraeg yn gyfystyr â rhoi sêl oferedd ar yr hyn oll a fu yn hanes y byd yr ydym ni yn rhan ohono.
Cyhoeddwyd
yn Barn, Gorffennaf, 1969.
Ad-argraffwyd yn
Bara Brith
(Cyhoeddiadau Modern, 1971).
SYLW: sylwer uchod ar y defnydd o'r geiriau 'compiwtyddion + cyfrifyddion'. A yw'r awdur yma'n rhagweld y cyfrifiadur yn rheoli'r blaned? - Gol.
AP BRANGWYN - CYMRO
Rydych yn ei 'nabod yn dda - mae'n holl-bresennol, ysywaeth. Mae'n siarad Cymraeg caboledig - wir, yn well na chi a fi - er mai Saesneg yw'r ci. Braidd yn swil yw'r plant o siarad Cymraeg: efallai mai'r ci sydd i'w feio. Ac mae'r wraig, wrth gwrs, yn methu'n lân a deall pam nad yw'r plant yn siarad Cymraeg efo'r ymwelydd: "Down, Fido!", mae'n sgrechian, rhwng yr ymddiheuriad a'r eglurhad. la, rydych yn siwr o'i 'nabod. Yn enwedig os ydych yn Gymro Da. Fo, rydych chi'n cofio, oedd llywydd y gymdeithas y llynedd. Cymro i'r carn. "Down, Fido!", daw'r sgrechian eto; ac mae'r cyn-lywydd - chwarae teg iddo - yn aberthu uchafbwynt ei araith ar Yr Heniaith i weiddi "Take that blasted dog out!" wrth y plant. Huw yw'r hynaf. "Hiw" mae'r fam yn ei alw, gan danlinellu'r gh. Ond chwarae teg i'r tad, Huw (Wyndodaidd o yddfol) yw'r ynganiad yng ngwydd ffanaticiaid yr iaith. "Pet" maen nhw'n galw'r ieuengaf. Cofiwch chi - fe gafodd ei bedyddio'n Haf, mewn gwewyr o wlatgarwch ysbeidiol, deuddydd ar ôl urddo'r cyn-lywydd. Ond pwy feddyliai bryd hynny mai Saeson fyddai'r cymdogion newydd? A phwy allai feio Saeson mor gymdogol - oni warchodent? - am feddwl mai'r Saesneg am "hanner" oedd "Half?" Dechreuais wenu. "Rwy'n cofio hogan o'r enw Claire yn mynd i fyw i'r de. . . . " Ond roedd hi braidd yn anodd esbonio'r gwamalrwydd, rhwng Ffeido a'r sgrechian a'r rhesi dibendraw o lyfrau amryliw "The Book Club" a safai'n wyryfaidd dynn o'm blaen. Roedd Dadi wedi ail afael yn araith Yr Heniaith, a Mami ar ei thraed. "Do have a cup of tea with us," meddai wrthyf, gan anghofio fy mhresenoldeb. "Cymraeg, ddynas!" gwamalodd Dadi. "And take that blasted dog out!" Chwarae teg i Huw y mab, hefyd. Fe briododd pan dyfodd yn Hugh gh, ac er coffadwriaeth i'w dad, fe ganwyd un pennill yn Gymraeg. 'Doedd Mami ddim yn siwr iawn sut i ddweud y geiriau erbyn hyn; ond er coffadwriaeth i'r cyn-lywydd, fe hymiodd y geiriau yn Gymraeg. Fe fyddai Dadi'n siwr o ddeall - ac oni chanwyd un emyn cyfan yn Gymraeg yn yr angladd er mai Sais oedd y W.M.? "To the Sacred Memory of William Theodore Williams (ap Brangwyn)," sisialodd wrthi’i hun yn hapus, gan gofio lled a thrwch y mynor caboledig, gan euro cynnwys y cromfachau, gan ddiolch am y Theodore. Ficar oedd gŵr Haf. Roedd Grannie'n falch erbyn hyn ei bod wedi troi'n eglwyswraig ychydig cyn y briodas; p'un bynnag, chollod hi 'rioed wasanaeth "Armistice Sunday" na Sul y Maer yn yr eglwys gadeiriol, a 'doedd ganddi 'rioed fawr i’w ddweud wrth ripitio. Ac erbyn i'r drydedd ferch gael ei geni i'r Ficar, roedd Grannie'n gwybod hyd 'n oed y Litani, air Saesneg am air Saesneg. Cofiwch, roedd braidd yn anodd i'r Hen Ledi wybod yn union ffordd oedd y gwynt yn chwythu bob amser. Mae'n wir fod y Ficar wrth ei fodd yn darganfod y gwreiddiau Celtaidd, a doedd ganddo ddim i'w ddweud wrth Awstin. Ond Saesneg oedd ei bregethau o'r bath bob amser. Ac er mai Marjorie ronc oedd y gyntaf o'r tair, roedd yr ail yn Anna feiblaidd-gosmopolitan-Gymreig, a'r drydedd yn Siân. Druan o Grannie. Mae'n debyg mai Rhagluniaeth a'i rhoddodd ochr yn ochr â Theodore, cyn i Siân ddechrau mynd i'r ysgol. Fel y dwedodd Haf wrth y mamau Cymraeg eraill wrth glwyd yr Ysgol Gymraeg - "Poor thing! Her ways were getting rather strange - so old-fashioned, you know!" Mae'n siwr eich bod yn ei nabod. Fo oedd llywydd y gymdeithas y llynedd. Dyn da - a Chymro i'r carn.
Cyhoeddwyd yn YCYMRO, 6 Awst 1964. (Ailgyhoeddwyd yn y gyfrol 'Amryw Ddarnau' (Cyhoeddiadau Modern Cymreig, 1968)
|
|
Welsoch chi fwch-gafr byw, corniog erioed, a hwnnw ar ben stondin pren deg troedfedd ar hugain o uchder? A phedwar fflag yn hysbysebu Guinness yn cwhwfan o bedair cornel ei gorlan aruchel? Heb sôn am fand chwe-darn yn corddi cerddoriaeth rhywle rhwng yr afr a'r llawr, a tharpowlin gwarchodol rhwng pennau'r band a'r afr? Naddo? Wel, fuoch chi 'rioed yn Ffair Pwc, 'ta, yng Nghilorglin, yn ne-orllewin lwerddon? Dyna 'chi le! Tridiau yn Awst - Sul, Llun a Mawrth - mae hen bentra bach Cilorglin yn ferw o bobol, yn Ilifo o gwrw, yn arogli'n hyfryd o dail ceffylau, ac yn diasbedain dan gynddaredd y cyrn siarad sy'n crogi o grib y stondin amhosib hyd at y bont sy'n arwain i'r pentre. Mae'r bwch llyffetheiriog yn cnoi ei dusw gwair yn hamddenol braf. 'Dyw'r cyrn siarad a'r band a'r fflagiau yn mennu dim arno. Decllath odditano, mae'r tincars hwythau yn fodlon braf eu byd, yn drachtio'r cwrw du ac yn cnoi traed moch 'di berwi. Mae tair o'u gwragedd yn eistedd ar y pafin nid nepell o stondin yr afr, gwydraid o gwrw yn llaw bob un, a babi bodlon ar bob glin. Mae'r babis hwythau mor hamddenol â'r bwch-gafr ac mor dew a budur a hapus â'r mamau. Ffair y tincars ydi Ffair Pwc yng Nghilorglin. Mae'r tincars yn heidio yno yn eu carafanau ceffylog, a'r tridiau byr yn cywasgu mwy o fywyd i'w horiau di-gloc na cheir mewn tri mis o fodolaeth y rhelyw ohonom. Yn ymyl y tair sy'n eistedd ar y pafin, mae un arall yn dawnsio. Mae 'na wydraid ganddi hithau, hefyd, a sigarét "Sweet Afton" yn hongian o gornel ei cheg. Cylch trwchus o Wyddelod gwâr yn eu siwtiau Sul yn syllu arni'n hunanymwybodol, ac un o lanciau cringoch y tincars yn gwthio drwy'r dyrfa efo'r het hel pres. Mae'r casgliad yn dda - mwy mewn ofn o lygaid pefriol y llencyn cringoch, mi gredaf, nag mewn teyrnged i allu'r dawnsiwr. Nid y band - na'r tincars - yw'r unig berfformwyr. Mae stryd Clorglin yn faes Steddfod, a stondin yr afr yn babell yr ŵyl. Y band chwe-darn sy'n cyfeilio i'r cystadleuwyr, ac mae'r llwyfan 'ynghrog rhwng yr afr a'r stryd! Rhywbeth fel hyn, mi gredaf, fyddai hunllef Cynan; ac mae defodau Gorsedd Beirdd Ynys Prydain mor ddi-liw â Chyfarfod Misol o'u cymharu â Steddfod Ffair Pwc. Nid Archdderwydd mo'r bwch-gafr, ond Brenin - Brenin Pwc. Mae'n cael ei goroni ddydd Sul, yn gorymdeithio drwy strydoedd y pentra ac yna yn cael ei winshio i ben y stondin amhosib. Ac yno y mae am dridiau, yn cnoi ac yn cnoi. "Pam 'dach chi'n winshio bwch-gafr i ben stondin pren decllath?" gofynnais i amryw. Dim syniad! 'Doedd 'run cof o'r canrifoedd pell wedi pontio'r gagendor rhwng y cyndadau cyntefig a meibion yr ugeinfed ganrif. (Ond i'r Gwyddelod gwâr y gofynnais y cwestiwn). Tybed, petawn i wedi gofyn i rai o'r tincars, a fyddai ateb? Synnwn i ddim nad oeddynt hwy yn wir ddeiliaid i'r Brenin Pwc, ac adlais cryf o'r gorffennol byw yn atsain yn eu hisymwybod. Onid oedd rhyw undod organaidd cyntefig rhwng y tri babi tew a'r tair madonna a steddai ar y pafin am un o'r gloch y bore, a rhyw fwrlwm bywyd, gwrywaidd a diragrith, yn llygaid pefriol y llanc cringoch?
Darlledwyd ar TREM BBC,
Medi 8 1964
|
|
CHWARTER CANRIF
Rhyw fyd od ydi byd cŵn a chathod. Dyna 'chi fwrdd-coffi smart a chaboledig er enghraifft - y gwe-pry-cop yng nghorneli'r coesau a'r sylfaen "pren-tair-haen" maen nhw'n eu gweld. A 'dydy-nhw ddim yn gweld y Iliw lelog ar bren y ffenest, ond yn unig y paent lliw siocled tywyll sy'n llwydo dan y sil. Maen nhw'n gweld godre trowsusau a hemiau sgerti byth a beunydd, ac maen nhw'n gwybod i'r dim pwy sy'n gwisgo trons hir yn yr haf. Naw oed oeddwn i pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd - pum mlynedd ar hugain yn ôl. A rhyw olygfa ci-a-chath gefais i o'r byd gwallgof hwnnw. Dyrchafu llygaid - a gweld y gwe-pry-cop a'r pren-tair-haen lle gwelai eraill brydferthwch ysgleiniog y pren derw trwch papur. Gweld llodrau dynoliaeth - a'r godre wedi breuo - lle gwelai eraill gorunau disgybledig yn drwch o saim-ogla-da. "Maen nhw wedi saethu Jyrman i lawr!": aeth y si drwy'r ysgol. "Fe gewch chi fynd adra bum munud ynghynt" - meddai'r prifathro wrth ein dosbarth - "i chi gael gweld y Jyrman." Gwobr, dalltwch chi, oedd hyn - am mai'n dosbarth ni oedd wedi hel fwyaf o sosbenni aliwminiwm i'r "salvage" o bawb yn yr ysgol, er i fam Huw gymryd un o'r sosbenni aliwminiwm o'r lori "salvage" a rhoi ceiniog yr un i Huw a minnau am beidio dweud. Safai'r Almaenwr ar lwyfan y stesion - rhwng dau awyrennwr o'r ysgol fomio. A ninnau, bencampwyr yr helfa sosbenni, yn sefyll yn hanner cylch syfrdanol bedair llath oddi wrtho. Welais i 'rioed ben mor felyn ar lencyn mor dal. Fe'i gwelaf rŵan. A'r groes haearn ynghrog uwch ei galon. "Dowch, hogia!". Y hi, y ffeindia fyw, oedd yn ein hannog. "Gwaeddwch Bw!" Gwridais, a syllais ar ddüwch meddal y sgidiau hedfan. Ond gyda hi, a chyda Huw, a chyda'r hanner-cylch o hogia'r dosbarth, fe waeddais innau "Bw!" Heddiw, bum mlynedd ar hugain wedyn, ni chiliodd y gwrid yn llwyr. "Wyddost ti," meddai Huw, un diwmod, "Dydyn nhw ddim yn taflu pridd yn gynta ar ben y peilots mae nhw'n gladdu yn y fynwent os 'di nhw'n Jyrmans. Mae nhw'n pwiri gynta." "Nagdyn!" "Ydyn!" Safai Huw a minnau ar un o'r cistiau llechi yn yr hen fynwent, yn syllu drwy'r eiddew a dyfai ar ben y wal - y wal a wahanai'r fynwent hen a'r fynwent newydd. "Jyrman 'di hwn wsti," sisialodd Huw. "Gawn ni weld nhw'n pwiri, toc." Cyflawnwyd y ddefod o gladdu. Uwchben, rhwygai awyrennau Penyberth yr hyn oedd yn weddill o dawelwch cysegredig Pen Llŷn. "Falle nad Jyrman oedd o," meddais wrth Huw, wrth i'r dyrnaid di-ddeigryn gefnu ar y bedd llawn a cherdded allan o'r fynwent newydd. "Jyrman 'di hwn, wsti," sisialais, "er na wnaethon nhw bwiri!" "Naddo," meddai Huw, yn siomedig. Chawsom ni fawr o hwyl yn hel mwyar duon yn yr hen fynwent o hynny hyd amser te. Chwarter canrif yn ôl oedd hyn. A chymraf fy llw mai lliw siocled tywyll yw lliw y paent dan bren sil y ffenest o hyd.
Darllenwyd ar TREM, BBC, 15 Medi 1964. Cyhoeddwyd yn Hamdden, Hydref 1965 ac yna yn Amryw Ddarnau (Cyhoeddiadau Modern, 1968)
|
|
YR AGERDREIGLYDD
Welais i 'rioed stîm rolar yn crashio'n erbyn siop ffish a tships – welsoch chi? Ond synnwn i ddim nad yw'r digwyddiad cyffrous a syfrdanol hwn yn beth tra chyffredin yn ardal Bangor. O leiaf, dyna'r syniad mae dyn yn ei gael wrth rannu pamffledi Cymdeithas yr laith Gymraeg yn y dre. Cnocio'r drws: "Bore da!" Y drws yn cil-agor: "Good Morning." "Pamffled Cymdeithas yr laith Gymraeg - am ddim." "Thank you" - ac edrych ar y bamffled. Yna, yn sydyn, rhyw oleuni newydd yn fflachio i lygaid y darllenydd, a blaenau'i draed yn gwneud miniwet ar y rhiniog, a'i lais yn fêl a melfed wrth ddatgan yn gyfrinachol: "The steam-roller crashed into the fish-and-chips shop!" Y tro cynta i hyn ddigwydd, edrychais arno'n ofnus. Beth ddylwn ei wneud? Rhedeg i ffwrdd? Dweud "la!" - neu "Nage!" Dweud "Yeah-yeah?" Crio? 'Ta chwerthin? "The steamroller crashed into the fish-and-chip shop," meddai eilwaith, a'r mêl a'r melfed wedi troi'n finegr a sachlian. 'Sgydwodd y bamffled iaith yn fy wyneb. "Os 'dach chi'n Gymro, ia, dydwch hyna'n Gymraeg!" Pesychais yn gwrtais. Crafais fy mhen. "Wel. . . . " "Wel?" "Wel, y... wel..." "Twt, twt!" tytiodd. "A chitha'n meddwl ych bod chi'n Gymro." Cododd y bamffled iaith yn faner buddugoliaeth uwch ei ben, ac mewn llais llwyfan, adroddodd yn urddasol: "Gwrthdarodd yr agerdreiglydd â'r maeldy pysg ac ysglodion cloron." "la siwr," meddais, mewn llais porthi pregethwrol, gan gau'r Ilidiart yn ddiogel ar fy ôl. Croesais y ffordd. Curais y drws. "The steamroller. . . " dechreuodd y dyn-dros-ffordd, gan ddawnsio'r un miniwet a'r cynta. Ond dyna'r cyfan a glywais. Boddwyd ei lais gan lais y cynta - roedd hwnnw'n bloeddio nerth esgyrn ei ben (ar draws y ffordd, cofiwch) am rywun yn "rhoddi blwch ei ysmyglus yn llogell ei lodrau." Teimlais fel Sais mewn Seiat. Ac es adre - i feddwl. Ac wrth feddwl, fe ddaeth ateb; sylweddolais, mewn ennyd gwefreiddiol gwynias, pam fod cynifer o ager/drei/glydd/iaid yn gwrthdaro â maelfeydd ffish a tsips 'sgod a sglod ym Mangor 'ma - mae'r dreifars i gyd mor brysur yn rhoi "blychau ysmyglus yn llogellau eu llodrau" fel na fedran nhw ddim gweld i ble'r andros ma' nhw'n mynd.
Darlledwyd ar TREM BBC, 12 Ionawr 1965.
|
|
"Rhen Lanc" oedd ei lasenw - chwarelwr fel 'nhad yng Ngharreg yr Imbill, ac ewyrth iddo, brawd ei fam. 'Roedd yn perthyn i oes y brwmstan a'r tân, a defnydd crai ei wneuthuriad oedd ithfaen y chwarel a ffrydiau gorlifog ffynnon Jacob. Ymdoddai'r ddeubeth - y garreg galed a'r ffrydiau melys - yn un yn undod ei bersonoliaeth. Y nhw - y graig a'r ffynnon - oedd popeth: ystyfnigrwydd y graig oedd gewynnau ei grefydd, a dyfroedd y ffynnon oedd y ffrwd a fyrlymai drwy wythiennau bywyd ei ddyddiau gwaith. Melfaréd y chwarel oedd ei siwt seiat, a thrwch ychwanegol o flacin oedd unig arbenigrwydd ei sgidiau Sul. Un o flodau Seion oeddwn i bryd hynny, yn gwywo yn y set flaen ger y tanllwyth glo yn y Band-o'-Hôp. Brith iawn yw fy ngho' o'r Hen Lanc - tybed a oedd yr ithfaen yn rhy galed i'r gwreiddiau tyner gael gafael tyn, a gorlif ffynnon Jacob yn wlith rhy drwm i betalau gwan? Ac eto, 'dwn i ddim . . . o'r dŵr a'r tân a'r ithfaen a'r brwmstan, mae rhyw ychydig, gobeithiaf, yn aros o hyd yn fy ngwneuthuriad innau. Yn aros, efallai, mor gyndyn ag yr arhosai'r farnish gludiog a chwysai o'r seti pitsh-pein yn y Band-o'-Hôp ar seddau'n trwsusau. "Taflwyd Joseff lawr i'r pydew" oedd y cantata un Groglith (ddanteithiol wledd) wedi marw'r Hen Lanc, a phob un o flodau Seion wedi'u trawsnewid yn fflyd amryliw y diffeithwch dwyreiniol. Roedd y coco ar fy wyneb a choban biws fenthyg fy chwaer yn fwy trallod i mi na'r pydew i Joseff, a'r cyfan - y coco a'r goban a phopeth - yn ing angau i goffadwriaeth biwritanaidd 'Rhen Lanc. Glynodd y cof o'r coco chwyslyd a'r goban biws am dragwyddoldeb plentyn; fe erys y brith gof o biwritaniaeth gyfoethog 'Rhen Lanc yn hwy. Pob parch i'th lwch, 'Rhen Lanc - i gadernid dy graig ac i felystra dy ffynnon, i odidowgrwydd dy ffydd seml, ac i berffeithrwydd dy gredo amherffaith. Tybed a fedri di, 'Rhen Lanc, yn ngrym y brith gof sy'n aros, roi'r ithfaen gadarn eilwaith dan fy nhraed, ac arllwys eto drwy wythiennau f'enaid y dyfroedd clir o'th ffynnon hen?
Darlledwyd ar TREM BBC, 16 Chwefror 1965. Atgyhoeddwyd yn Bara Brith (Cyh Modern, 1971).
|
|
PUM DAFFODIL
Y dydd o'r blaen, mi es i a'r hogia 'ma i Wylfa, i ben pella Ynys Môn. Maen nhw'n codi Atomfa yn Wylfa - ond dach chi'n gwybod, ’ran hynny. Mae pawb yn gwybod. Mae'n talu, dach chi'n gweld, i roi cyhoeddusrwydd da i betha fel hyn. Anwybodaeth, meddan nhw, sy'n meithrin ofn. la, roedd hi'n ddiwrnod braf. A'r hogia - chwech oed ac wyth oed - fel dau gyw gog yn set ôl y car. "Yli!" gwaeddodd Geraint, rhyw ddwy filltir o Wylfa - "Goliath!" "la," meddai Robin, yn ddigon didaro, gan gil-edrych i gyfeiriad y craen haearn philistaidd oedd yn camu'n haerllug dros fryniau'r gorwel. "Dw i wedi'i weld o o'r blaen, yn Nhrawsfynydd." Ac aeth Robin yn ôl i chwilio'r gwrychoedd a chwyrlïai heibio am gynffonnau-ŵyn-bach. Roedd y car a ninnau wedi cyrraedd mynedfa'r Atomfa cyn cael hyd i gynffonnau-ŵyn-bach. Arhosais o flaen yr hysbysfwrdd anferth. "Atomfa Gwylfa," darllenodd Geraint. "Mae o'n Gymraeg!" A chwarae teg i'r Awdurdodau hynaws - mae hysbysfwrdd yr Atomfa yn rhoi teyrnged ysgrifenedig i'r heniaith - heb na chromfach gwarchodol na safle seleraidd iddi. "Falla gawn ni rai ar y ffordd yn ôl," sibrydodd Robin, a'i lygaid yn chwilota'n anobeithiol am gynffonnau-ŵyn-bach ymysg tom y tractorau a thu hwnt i weirgloddiau ddoe. "Mae Miss Tomos isio rai." Aethom ymlaen i'r maes parcio cyhoeddus. "S'mae! Mae'n braf!" "I don't speak it," meddai'r wyneb merfaidd dan y corun dur. "Pam mae o'n gwisgo het haearn?" gofynnodd Geraint. "'Di o ddim yn soldiwr, nag 'di?" "Falla bod hi'n beryg yma," cynigiodd Robin. "Atomfa 'di hi, cofia." Roedd 'na gynffonnau-ŵyn-bach yn crogi'n llychlyd yng ngwrych y maes parcio; ond ddaru'r hogia mo'u gweld - roedd y ddau yn syllu ar het haearn y Sais. "Ffordd hyn, hogia!" Roedd yr Awdurdodau wedi gwneud llwybr bach del, del, o'r maes parcio i gyfeiriad y tŵr gwylio uchel. Roedd 'na ochra bach taclus i'r llwybr bach del, a'r drain a'r mieri a'r cynffonnau-ŵyn-bach wedi'u tocio'n dwt. Tŵr gwylio cyhoeddus 'di o, dach chi'n gweld, a 'does wiw i neb o'r cyhoedd gael dolur ar y llwybr bach del. Fe ddaethom o hyd i'r tŵr gwylio, ac esgyn i'w gopa gwydrog. I'r aswy, roedd rhengau o gytiau Gwyddelod a theirw dur ac ysgerbydau rhydlyd yn rheibio'r golwg. Ac i'r dde, creigiau cynoesol Môn a thangnefedd byw y gwanwyn cyntaf. Pwysodd Geraint y botwm coch yn y caban gwydr. Roedd y tri ohonom yn disgwyl am y llais electronig - llais, yn ôl yr addewid, a wni ddisgrifio'r olygfa ddynol mewn Cymraeg a Saesneg. Ni ddaeth y llais - roedd y teclyn yn fud. A, wel - dim colled, 'fallai. Aethom yn ôl - rhwng môr a mwd; rhwng grymustra cyntefig y creigiau hen a rhwysg dibwrpas y meistri newydd - hyd at y llwybr bach twt â'i ochra bach del, â'i ddrain wedi'u tocio rhag brifo neb. Yno, fin-fin â'r llwybr, mewn hirsgwar o bridd llwm, fe welais y cennin Pedr. Pum daffodil, yn noeth eu melyn a'u gwyrdd. Pridd llwyd oedd eu lawnt, a llwydwyn-felyn oedd Iliw eu bonau - Iliw deilen a dyfwyd dan do. Plygai eu dail llednais i guddio'r bonau noeth, a gwyrai'r pum pen tua'r llawr. Gwridais am eu noethni; ni welodd y plant nhw. Gadawsom y lle. Gadawsom y tŵr gwylio a'i lais electronig mud. Gadawsom bum daffodil yr Awdurdod gwâr. Aethom i chwilio am gynffonnau-ŵyn-bach. Fe awn yn ôl rhyw ddiwmod, efallai. Ar ôl ychydig amser. Fe fydd Amser a'r Awdurdod hynaws wedi rhoi carped glas yn orchudd ar draed y pum daffodil trist, a strontiwm naw-deg yn esgyrn fy mhlant.
Darlledwyd ar CYWAINBBC, 24 Ebrill 1965.
|
|
Y "SITI OF BANGUH"
Glywsoch chi 'rioed am y "Siti of Banguh"? 'Dw i ddim yn sôn am leinar nac am dîm pêl-droed - ond am ddinas Gymraeg mewn ardal Gymreig. Enw'r lle ers talwm, meddan nhw, oedd "Bangor Fawr yn Arfon" - ond rargian, fedrwch chi ddim cael enw mor anwaraidd â hynna ar dre sy mor agos at y Roial Byro of C'narfon, na fedrwch? Na - mae'r "Siti of Banguh" gymaint yn neisiach, yn tydi? Yn dipyn mwy roial. Mae 2 allan o bob 3 yn y Siti yn siarad Cymraeg - yn ôl Cyfrifiad Iaith (Swyddogol) 1961. Ond mae'n rhaid gen i mai siarad ac nid darllen yr iaith maen nhw - achos, 'dach chi'n gweld, "Siti of Banguh," nid DINAS BANGOR, sy wedi'i sgrifennu 'mhobman. Yn rhyfedd iawn (fel deudodd ffrind o'r De) mae 'na fwy o iaith y Tseinî i'w gweld ar adeiladau'r ddinas na sydd 'na o iaith y Cymro - dau fwyty Tseiniaidd, a'r ddau yn rhodresgar-ysgrifenedig Dseiniaidd. Peth od yntê? A finna wedi meddwl erioed mai pobol gwrtais iawn oedd y Tseiniaid, yn bwoian byth-a-hefyd efo'u dwylo yn eu llewys ac yn dweud petha fel "feli onalabl jenglmn." Dêr, sut maen nhw'n medru bod mor anghwrtais ag arddel eu hiaith-ysgrifenedig yn agored-gyhoeddus, yntê? Mae sôn am Dseiniaid yn gwneud i ddyn feddwl am ufudd-dod (neu anufudd-dod) plant i'w rhieni. Ond ar y llaw arall, falla mai cwrteisi cynhenid plant y ddinas sy'n eu gwneud yn llai Cymreig na'u rhieni. Mae'r plant, dach chi'n gweld, tipyn mwy cwrtais na'r rhieni, ac wedi rhoi heibio'r fath anghwrteisi â siarad Cymraeg yng ngŵydd Saeson cwrtais, di-Gymraeg – er, cofiwch, fod disgyblion ysgol fwyaf y ddinas (yr Ysgol Gymraeg) yn dal i wneud peth mor anghwrtais â siarad Cymraeg. Ond diolch i'r drefn - mae nifer da o blant y ddinas yn medru deud petha fel "Shrup!" a "Bingo tonight, yeh?" ac yn siwr i chi, fe fydd gwybodaeth drwyadl a chyhyrog fel hyn o'r Saesneg yn gaffaeliad mawr iddyn nhw rhyw ddydd a ddaw, ac yn dwad â swyddi breision iawn iddyn nhw yn Lloegr. Roedd 'na gnoc ar y drws y dydd o'r blaen - dau sgowt bach "Bob-a-Job." "Fedrwch chi siarad Cymraeg?" "No!" "Dowch yn ôl fory ar ôl i chi ddysgu brawddeg Gymraeg - ac mi gewch chi swllt." Daeth fory. Daeth y ddau sgowt, cnoc, cnoc. "Rŵan ta!" Ac medda'r ddau efo'i gilydd: "Y-mae-y-bachgen-yn-crïo-yn-y-tŷ." Rhoddais swllt iddyn nhw, ac es i'r tŷ - i wrando ar Gôr Godre'r Aran yn canu "Cymru" Gwenallt, ac i grïo lond bol.
* * * Gyda llaw - a chyn gorffen - falle mod i wedi bod braidd yn annheg. Wedi meddwl, mae 'na un lle ym Mangor sy'n arddel, yn gwbwl agored, yr enw "Dinas Bangor." Dowch i mewn i'r ddinas o gyfeiriad Bethesda, i lawr Allt Marchogion, ac ar y llaw chwith, yn anghwrtais-eglur, yn Ffroidaidd-eironig, fe welwch y geiriau swyddogol-gynghoraidd-arwyddocaol: MYNWENT DINAS BANGOR
Cyhoeddwyd yn Y Cymro, 23 Rhagfyr 1965. (Ailgyhoeddwyd yn y gyfrol 'Amryw Ddarnau' (Cyhoeddiadau Modern Cymreig, 1968) |
|
Roedd 'na Siou Flodau ym Mhorthaethwy 'chydig ddyddiau 'nôl, ac un dda oedd hi hefyd, 'nol unrhyw safon. Ond 'rhyn oedd yn ei gwneud hi'n arbennig o dda - i'm tyb i - oedd y ffaith mai Siou Flodau Gymraeg oedd hi. Undeb y Gymraeg Fyw oedd wedi'i threfnu - a phob tamaid o bapur argraffedig a phob cyhoeddiad swyddogol yn Gymraeg i gyd. Ac yn sicr ddigon, dyma’r Siou Flodau gynta 'rioed i gynnwys stondin gwerthu llyfrau Cymraeg, ac i lwyfannu unawdydd yn canu penillion am yr iaith. 'Roedd yr iaith ym mhobman - yn hollol, gwbwl naturiol, heb unrhyw ffalster, a chydag addasrwydd cyflawn. A wyddoch chi – synnwn i ddim nad oedd naturioldeb a chynhesrwydd teuluol yr amgylchiad yn rhoi lliw newydd i'r blodau a sawr newydd i'r llysiau; fe fyddai Syr John, rwy'n siŵr, wedi cytuno mai sŵn yr iaith... roes i'r "petalau'r" lluniaidd dro, a lliw a "sawr y gwin". 'Roedd yr hogia wedi dod i'r Siou efo mi, ac yn dân gwyllt ar y diwedd am gael prynu rhai o'r llysiau a'r blodau. Cariodd Geraint anferth o faro i'r car, fel brenin yn cario teyrnwialen, a Robin yn cario'i dusw blodau mor urddasol a phe bai'n cyflwyno aberthged i archdderwydd. Ac effaith hyn i gyd oedd gwneud i mi feddwl am Mownti Wembli. Dim ond hen drigolion tre Pwllheli sy'n gwybod beth ydi Mownti Wembli - ond mi eglura i chi: Wembli oedd enw hen faes pêl-droed Pwllheli - a chreda i byth nad oes cae o'r un enw rhywle yn Lloegr erbyn heddiw. Wembli Pwllheli oedd safle'r 'Mownti' - a'r Mownti oedd y siou amaethyddol. 'Roedd dau ddigwyddiad pwysig iawn ynglŷn â'r mownti i ni'r plant... yr entri a'r exit. Fel hyn roedd yr entri: tri ohonom yn cronni'n pres poced i dalu mynediad un, yr un hwnnw'n mynd i mewn ac yna'n dod allan yn syth er mwyn cael PASS inc efo stamp rwber ar sawdl ei fawd, ac yna - yn ddiymdroi - yn trosglwyddo'r nod inc i'n crwyn ni tra 'roedd yr inc yn wlyb. A dyna'r tri ohonom ni i mewn am bris un! Yr ail ddigwyddiad pwysig oedd rhannu'r llysiau ar ddiwedd y Mownti. 'Fallai fod garddwyr yn fwy hael 'radeg hynny, neu blant Pwllheli'n well am ffugio chwant bwyd! P'un bynnag, 'roedd y llysiau yn cael eu rhannu am ddim, a phob plentyn yn mynd adre efo cyfraniad i'r lobsgows. Pawb ond Dic Bach. Druan o Dic! 'Roedd popeth wedi diflannu cyn iddo roi'i ddwylo ar ddim. "Cofia di ddwad â rwbath adra efo chdi tro ’ma," siarsiodd ei fam, un tro. "’Na i, Mam!" Ac yn siwr i chi, 'flwyddyn honno, ar ôl y Mownti, 'roedd Dic Bach yn sefyll ar y rhiniog ac yn curo'r drws efo blaen ei droed, yn wên o glust i glust, a'i ddwylo'n dynn tu ôl i'w gefn. Gest ti rwbath, ngwas i?" "Do, Mam. A mae o 'di cael ffyrs preis!" A chyda symudiad tywysogaidd, cyflwynodd Dic Bach ysgub gwenith i'w fam.
Darlledwyd
ar Trem BBC, 1 Hydref 1965. (Ailgyhoeddwyd yn y gyfrol 'Amryw Ddarnau' (Cyhoeddiadau Modern Cymreig, 1968)
|
|
Cwrteisrwydd y Cymro - neu o leiaf yr hyn y mae'n ei alw'n gwrteisrwydd - yw un o'i elynion pennaf. Nid cwrteisrwydd mohono, mewn gwirionedd. Rhyw gymysgedd od ydyw, a'i elfennau yw'r swildod sy'n tarddu o ymdeimlad israddol, yr ymgreiniad meddyliol ffiaidd sy'n perthyn i'r taeog ei ysbryd, a'r llwfdra moesol sy'n nodweddiadol o'r hawdd-ei-fyd ac sy'n un o ganlyniadau anocheladwy gwladwriaeth les. Mae'n hawdd deall tarddiad y ffug- gwrteisrwydd hwn. Cyfyd yn naturiol pan fo cenedl fechan ddiwylliedig - cenedl lle mae'r "pethe" yn rhywbeth amgenach ac mwy real nag unrhyw "kulture" bondigrybwyll - wedi'i darostwng yn wleidyddol i genedl fawr sy'n benboeth ei chenedlaetholdeb ("patriotism" yw'r gair brodorol), sy'n eithafol yn ei hymlid cudd-gyfrwys ac agored o bopeth estronol, ac sy'n gosod Mamon yn dduw uwchlaw'r duwiau. Dyma darddiad y ffug- gwrteisrwydd. A'i feithrinfa yw hawddfyd materol ein pobol heddiw; y mae bol gorlawn yn cynysgaeddu ysbryd llwfr, a gwely goresmwyth yn gwyro'r asgwrn cefn. Na feier y Cymry'n rhy drwm am eu darostyngiad presennol i gyflwr meddyliol taeogion, nac am eu parodrwydd i fabwysiadu safonau materol a safbwynt meddwl cul, ynysol, brodorion Lloegr. Fe fu Lloegr yn ddiwyd iawn drwy'r canrifoedd yn ein halogi a'n llurgunio - yn gwbwl fwriadol, yn ddi-ildio ac yn ddidrugaredd, a gyda'r fath gyfrwystra fel nad ydym yn fodlon credu i hyn ddigwydd o gwbwl. Nid ydym yn fodlon credu - fe fyddai credu'r fath beth yn "anghwrtais!" Druain ohonom - un o symtomau ein hafiechyd cenedlaethol yw ein hamharodrwydd i gredu ein bod yn afiach. Ond edrychwn ar Gymru. Tagwyd ein hiaith, prif atalfa i ddarostyngiad llwyr a buan, hyd at drengi. Tanseiliwyd ein hunanbarch cenhedlig drwy ein amddifadu o'n gorffennol. Mae iaith y Saeson ar dafodau ein pobol yn dystiolaeth fyw o glyfrwch politicaidd Lloegr, ac yn drwst angau ein cenedl. Mae anwybodaeth ein pobol o'u tarddiad hanesyddol a'u hysgariad oddi wrth draddodiadau'r gorffennol yn profi effeithiolrwydd dieflig yr "ofer chwedlau hanesyddol" a ledaenwyd ac a ledaenir yn ein hysgolion i amcanion propaganda gwleidyddol Lloegr. Gorddweud? Na. Iaith y treisiwr yng ngenau ein pobol yw sêl ein darostyngiad, a difwyno ein hetifeddiaeth o'r gorffennol yw'r mwyaf erchyll o'n colledion niferus. Gwrandewch ar Wade-Williams yn disgrifio Cymru yn Seiliau Hanesyddol Cenedlaetholdeb Cymru: "Er symled ac er mor eglur eu hatgofion hanesyddol, fe dorwyd (sic) ar eu traws gan ddyfaliadau Beda, hanesydd mwyaf ei oes, a gŵr oedd yn casáu'r Cymry a'u holl weithredoedd... Fe'm argyhoeddwyd i mai hon yw'r brofedigaeth arwaf a ddaeth i ran y Cymry erioed, a'i bod trwy'r ysgolion yn mennu arnom hyd heddiw... Yn fyr, swm a sylwedd yr haeriadau ffol hyn a darddai o waith Beda oedd mai Britanni Lloegr wedi eu gyrru o'u gwlad oedd Brythoniaid Cymru. Trwy'r ddysgeidiaeth hon, na allaf lai na'i galw'n arswydus, daethai’r Cymry i amau [i gredu?] mai bobl (sic) wastad ar encil oeddynt, er mae'r (sic) gwrthwyneb hollol oedd wir..." Ac wrth drafod y de exidio Britanniae, prif ffynhonnell Beda o chwedl y goncwest Eingl-Seisnig, fe ddywed: "A maentumiaf yn ddibetrus y bydd y genedl Gymreig, hyd oni ddealler y llyfryn hwn am yr hyn ydyw, yn agored fel y mae hi heddiw, yn annheg, yn afresymol, a heb unrhyw sylfaen mewn hanes, i ysbryd digalondid gorchfygedig." Ymhellach: "Ni ddaw gwir atgyfodiad byth i Gymru nes iddi ail afael ar y gwir am ei tharddiad." Ychydig amser yn ôl, clywais athrawes Gymraeg, mewn ysgol yng Nghymru, yn egluro'r gair "oxen" i'r dosbarth gyda'r frawddeg arwyddocaol: "They were the animals which the Anglo-Saxons used for ploughing." Druain o'r Brythoniaid! Mae'n debyg eu bod yn cnoi esgyrn amrwd yn ogofeydd dilewyrch ymennydd yr athrawes tra'r oedd yr hil Diwtonaidd yn trin meysydd ffrwythlon Lloegr fras! Ac os nad yw arwyddocâd y frawddeg a ddefnyddiwyd gan yr athrawes yn gyfangwbl amlwg i chi, ceisiwch ddychmygu athrawes o Ffrances, mewn ysgol yn Ffrainc, yn egluro'r gair "ychen" fel "Yr anifail a ddefnyddiwyd i aredig gan yr hen Diwtoniaid!" Onid yw tarddiad ein "cwrteisi" yn hollol glir? Dyna'r Cymry sy'n rhy "gwrtais" i siarad Cymraeg yng ngŵydd Saeson a fu'n ddigon anghwrtais i wrthod dysgu iaith eu harlwywyr - mae'n arswydo rhag i'r gwrandawr gwâr glywed y sŵn cnoi esgyrn yn seiniau'r Gymraeg! A'r Cymry sy'n rhy "gwrtais" i fynnu swyddogion Cymraeg eu hiaith - mae "ysbryd digalondid y gorchfygedig" yn eu llesteirio, ac ardderchogrwydd epil Beda yn eu llethu. Truain wŷr! Nid ydynt yn deall mai "ofer chwedlau" yw meithrinfa eu "cwrteisi", ac mai'r taeog sydd ynddynt sy'n bodloni ar iaith y Sais. Dylem dosturio wrthynt, a dangos iddynt mai twyll a chelwydd yw sail yr hyn a alwant yn "gwrteisi." Tosturiwn wrth y rhain. Ond nid y lleill - nid yr ychydig a fu'n ddigon ffodus i ddod o hyd i'n gorffennol ac i gyfrannu o draddodiadau'n cenedl, ond sydd eto'n gwerthu'r enedigaeth fraint. Ni allant hwy bledio "ysbryd digalondid y gorchfygedig" yn esgus i'w llwfdra a'u taeogrwydd, nac i esbonio'u hymdrechion chwerthinllyd i fod yn gysgodion bratiog o Saeson eilradd. Gwrthuni, ac nid tosturi, yw eu haeddiant. Dyma sbwriel Cymru - y goleuedig dall a'r cewri bach, sy'n ceisio cuddio eu materoliaeth moethus a'u dyheadau hunan-geisiol drwy bledio "Cwrteisi! Cwrteisi!" Rhain, yn anad neb arall, yw'r mwyaf anfoesgar o'r amrywiol Gymry "cwrtais".
Cyhoeddwyd yn
Barn, Mehefin 1964.
|
|
Y DDELWEDD FAWR
Y mae cyfran helaeth o bobl y byd yn newynu. Yn Ne Affrica, ac yn yr Unol Daleithiau, esgymunir y negro. Syrth gwenwyn anweledig o'r entrychion ac ymgloddia yn esgyrn y di-anedig. Wele ddifesur y pwerau mawrion wedi'u cysegru i dduwiau rhyfel. Pa hawl sydd gennym ni, ychydig Gymry pitw, i ymboeni ynglŷn â thranc iaith sydd eisoes yn ddiflastod yng ngenau y mwyafrif o'n pobol? Pa "foesoldeb newydd" a gyfiawnhâ ein brwydrau Chwihotaidd i ennill ffurflenni swyddogol Cymraeg tra pery un plentyn newynog yn India? Neu i fanylu'n ffanaticaidd parthed iaith gwŷs a siec a hysbyseb tra bo teuluoedd yn anfreintiedig oherwydd Iliw eu croen? Onid ffolineb yw cythruddo'n hunain am mai di-Gymraeg fydd plant Cymru yfory pan gofiwn mai malldod y strontiwm fydd ym mêr eu hesgyrn? Iaith lleiafrif bychan yw'r iaith Gymraeg. Ychydig, ar hyn o bryd, yw ei gwerth economaidd yng Nghymru. Nid yw'n iaith ryngwladol, ac nid oes fawr ddim - odid ddim - gwerth ariannol i'n hiaith tu faes i Gymru. Iaith yr ychydig yw hi - iaith fach, bitw a diwerth yn ôl safonau ein hoes. Y "MAWR" yw popeth heddiw. Gwledydd mawr. "Egwyddorion" mawr. Cyfrif banc a pheiriannau golchi a setiau teledu - MAWR. Dyna'r ddelwedd; dyna'r nod. Dyna uchafbwynt gorchest yr unigolyn. Dyna berffeithrwydd. Hyn yw godidowgrwydd yr iaith Saesneg - mae'n "fawr." Hyn hefyd yw israddoldeb yr iaith Gymraeg - mae'n "fach a di-nod." Y DDELWEDD FAWR sy'n pentyrru aur i goffrau cwmnïau rocedi - nid yw griddfannau babanod croenddu yn mennu ar effeithiolrwydd roced. Y DDELWEDD FAWR sy'n llwytho'r awyr â strontiwm naw-deg - nid yw'r erchyllbethau a esgorir gan wragedd dynion ymhen cenedlaethau yn ddim ond hunllef dychymyg niwrotig, hunllef lwyd sy'n pylu'n ddim yn llewyrch breuddwydion y gwladwriaethau MAWR. Y DDELWEDD FAWR - mawredd yr hil welw - sy'n meithrin yr ofn o'r arall bychan a all dyfu'n fwy, a'r ofn hyn yn caethiwo'r negro yn selerydd y gymdeithas wen. A'r DDELWEDD FAWR sy'n gwneud tranc yr iaith Gymraeg yn rhywbeth dibwys a di-sylw. Pa beth a wnawn? Pa feddyginiaeth sydd gennym? Cyfraniad ariannol i un o'r cymdeithasau sy'n porthi'r newynog? Ymuno ag un o'r mudiadau sy'n ymladd dros hawliau'r negro? Ymgysegru i weithgarwch gyda CND? Ail-ymaelodi â'r PPU? Byddwn onest. Onid cyfran bychan "o'r hyn sydd weddill" oedd y cyfraniad i OXFAM? A sawl myfyriwr neu ymwelydd croenddu a fu'n torri bara wrth ein bwrdd ar ôl i ni ymaelodi â'r mudiad gwrth-apartheid? A wnaethom, a dweud y gwir, ymgysegru'n hunain i waith CND? A thybed, wrth ail-ymaelodi â'r PPU, a wnaethom glirio'n dyledion - y rhai ariannol yn unig, hyd yn oed - a fu'n tyfu'n flynyddol ers 1946? Byddwn yn gwbwl onest. A wnaethom yr hyn sydd yn ein gallu i ddryllio'r DDELWEDD FAWR? Naddo, wrth gwrs - ni chawsom gyfle. Nid yw myfyrwyr croenddu ar gael bob amser te, na gorymdaith CND bob pnawn Sadwrn. A pha gyfle sydd i heddychwr - amser heddwch? Ond mae cyfle. Yma, o'n cwmpas, o ddydd i ddydd, wele faes brwydr, wele gyfle i frwydro'n feunyddiol dros rywbeth "bychan, di-werth, di-nod." Drwy ymladd brwydr yr iaith, ymgodymwn â'r gau-egwyddorion hynny sy'n gynheiliaid ac yn gynhyrchion y DDELWEDD FAWR - y gau-egwyddorion sy'n swyno ein byd hyd at drwmgwsg angau. Chwihotaidd? Gwyddom nad yw mynnu ffurflen Gymraeg yn mynd i lenwi bol yr un Indiad newynog. Gwyddom nad yw llenwi ein sieciau yn Gymraeg yn mynd i buro'r byd - na hyd yn oed aberau a llechweddau Cymru - o dom gwenwynig y pwerau niwclear. Gwyddom nad yw rhoi arwyddion "Llythyrdy" ar adeiladau'r post yn mynd i agor y drysau clöedig i'r croenddu. Ond yr un yw'r frwydr: brwydr y "pethau bychain" yn erbyn y DDELWEDD FAWR. A chan mai Cymry ydym, a chan mai'r Gymraeg yw ein hiaith ac iaith ein plant, yna'r frwydr i adnewyddu ac ymgryfhau'r iaith hon yw ein sgarmes neilltuol ni yn y frwydr fwy. Nid oes unrhyw "foesoldeb newydd" i gyfiawnhau’r amser a'r egni a'r arian a werir i frwydro dros yr iaith Gymraeg yn wyneb brwydrau cyfoes eraill sy'n aros i'w hennill. Nid oes angen cyfiawnhad, canys agweddau yn unig o UN frwydr yw'r brwydrau hyn i gyd.
Cyhoeddwyd
gyntaf yn y Faner, 15 Hydref 1964.
|
|
Mae rhai agweddau o ddatblygiad plentyn yn adlewyrchu datblygiad cyffelyb yn hanes yr hil. Welsoch chi blentyn sydd newydd ddechrau gwersi rhifyddeg yn gwneud ei symiau syml? Yna fe welsoch y plentyn yn "cyfri ar ei fysedd". A'r un modd, gyda'r bysedd yn dywyswyr y daeth yr hil ddynol i ymbalfalu'i ffordd drwy ddrysni byd rhifau gyntaf. Deg bys - gan alw'r bodiau'n fysedd - sydd gennym: a chan mai'r deg bys oedd cynheiliaid cyntaf yr hil ym mröydd mathemateg, megis ag y maent i'r plentyn yn ei wersi cynnar, yna fe dyfodd rhyw arbenigrwydd neilltuol i'r rhif deg. Nifer y bysedd ar y ddwy law oedd cylch cyflawn y weithred o rifo; deg, gan hynny, oedd diwedd pob pennod yn stori'r rhifau. Gyda phob un o'r rhifau o "un" i "ddeg", mae i bob rhif ei enw neilltuol, cwbwl bersonol. Ac mewn cydraddoldeb â phob un o'r rhifau hyd at ddeg, gallwn roi disgrifiad cyfatebol, ar drawiad, gyda'r bysedd. Ond gyda'r rhif deg, dyna'r bysedd i gyd wedi'u dihysbyddu, a dyna natur bersonol, diberthynas y rhif-enwau yn diflannu - am ysbaid, beth bynnag. Beth am y rhif sy'n dilyn deg? Dull y plentyn yw dangos bysedd y ddwy law, a dilyn ag un bys unigol. A'r un modd gyda'r hil yn ei phlentyndod - gan amgyffred y rhif fel "un deg un". Mae enwau'r rhifau sy'n canlyn yn ail-adrodd y patrwm, hyd nes i'r rhif dan sylw fod yn hafal i ddwywaith nifer y bysedd - yn "ddau ddeg". A chan fod perthynas mor syml a chlós rhwng y rhif "dau ddeg" a'r rhif arbennig "deg", mae "dau ddeg" yn etifeddu rhyw arbenigrwydd eilradd ac ail-law; mae'n cael enw sy'n ymddangos yn ddiberthynas â'r rhifenwau a'i rhagflaenodd, ac fe'i defnyddir fel endid rhifol - "ugain" - i ddisgrifio rhifau eraill. Paham, tybed - a rhwng cromfachau - fod llwyth o Esgimoaid yn perchen enwau arbennig a neilltuol ar gyfer pob un o'r rhifau hyd at ugain? Mae'n demtasiwn, rhwng difri a chwarae, rhoi penrhyddid i'n dychymyg, a phriodoli hyn i'r arferiad, ymysg Einsteiniaid cyntefig y llwyth, o ddefnyddio bysedd y traed yn ogystal â bysedd y dwylo wrth rifo. Gan gofio'r hin (a brathu'r tafod), a oes awgrym yn hyn mai ymfudwyr troednoeth o wlad gynhesach oedd cyndeidiau'r Escimoniaid hyn? (Os oes ethnolegwr ymysg ein darllenwyr - traethed!) Sut bynnag am yr Esgimoaid, rydym ni, gyda'n deg enw neilltuol am y rhifau o un i ddeg ac enw neilltuol am "ddau ddeg" yn plethu'r enwau sylfaenol hyn mewn dulliau gwahanol ac addas i ddisgrifio bob un o'r rhifau cynyddol - hyd at naw deg naw. Yna, daw enw newydd: cant. A pha ryfedd fod enw newydd, di-gyswllt, wedi'i roi i'r rhif hwn? Os yw deg yn rhif mor bwysig, onid yw "deg-deg" yn ddeublyg ei bwysigrwydd, ac yn mynnu enw neilltuol? Felly hefyd gyda "deg-deg-deg" - a'i enw yw mil. Nifer y bysedd a feddwn, gan hynny, a luniodd ein disgrifiad geiriol o rifau. Dyma, hefyd, paham yr amgyffrwn rifau mawr fel "hyn-a-hyn" o ddegau a deg-degau a deg-deg-degau. Nid oes unrhyw neilltuolrwydd mathemategol i'r rhif deg. Yn wir, mae deuddeg, sy'n hollti'n rhwydd, yn llawer iawn gwell rhif na deg fel sylfaen i ddisgrifio a thrafod rhifau - a hyn, wrth gwrs, yw'r rheswm dros fodolaeth "dwsin" fel endid rhifol (ond israddol) yn gyfochrog â'r holl-bwysig "deg". Petai dyn - pob dyn, erioed - wedi'i eni heb fodiau i'w ddwylo, ni fyddai'r enwau "naw" a "deg" yn bod yn Gymraeg, na "neuf" a "dix" yn Ffrangeg, na "nine" a "ten" yn Saesneg. I'r dynion wyth bys, ni fyddai unrhyw arwyddocâd arbennig i'r rhif deg, ond fe fyddai wyth yn odiaeth o bwysig. Eu disgrifiad o ddeg fyddai "un wyth a dau", ac o gant, "wyth-wyth a phedwar-wyth a phedwar." Ond ataliwn rhag crechwenu oherwydd cymhlethdod eu disgrifiadau - fe fyddai ganddynt enw bach unsill, twt a del am ein "pedwar a thrigain" (neu wyth-wyth) ni, ac enw unsill arall am ein "pum cant a deuddeg" (neu wyth-wyth-wyth) ni! Ond yn ôl at y dyn deg bys. Gwelsom mai mewn cylchoedd o ddeg y mae e'n rhifo. Naturiol, felly, yw iddo ddefnyddio symbolau rhifau yn ôl yr un patrwm, gan roi arbenigrwydd i ddeg yn ei rif-nodiant fel yn ei rif-enwi. Ac yn ôl y patrwm "degol", unig ystyr y nodiant 358 yw "tri deg-deg a phump deg ac wyth"; neu'n fyr: "tri chant a phump deg ac wyth". Hyn, a hyn yn unig, yw unig ystyr pendant, mathemategol y tri symbol 3 a 5 ac 8 wedi'u gosod yn y drefn arbennig: 3 - 5 - 8. Fe ddaw hyn â ni wyneb yn wyneb â'r anfanteisio dybryd sy'n perthyn i'r dull clasurol Cymraeg o enwi rhifau - rhifau a nodir yn ôl y dull degol o rif-nodiant. Mae'r dull clasurol o enwi rhifau yn anghyson â'r dull degol o nodi rhif mewn o leiaf dri modd; ac, o safbwynt y gwyddoniaethau, mae iddo anfantais arall. Yn gyntaf, mae defnyddio "ugain" fel endid rhifol i ddisgrifio rhifau eraill (e.e. pedwar ugain) yn taro'n groes i'r dull o nodi. Nid 7 + (4 x 20) yw'r nodiant a ddefnyddiwn am "saith a phedwar ugain" ond 87. Golyga hyn fod yn rhaid i'r sawl sy'n clywed yr enw "saith a phedwar ugain" newid yr enw yn ei feddwl (er yn anymwybodol, efallai) naill ai yn "wyth-deg saith" neu yn "eighty seven" cyn iddo fedru ysgrifennu'r nodiant 87. Effaith hyn yw ychwanegu proses feddyliol ddiangenrhaid i'r weithred o drosi rhif-enw yn rhif-nodiant (neu'r gwrthwyneb); ac ym myd mathemateg, ni ellir cyfiawnhau hyn. A'r canlyniad ymarferol, fel y gŵyr pawb, yw i'r nodiant 87 gael ei ddarllen gennym ni'r Cymry Cymraeg fel "eighty seven". (Byddwch onest: a wnaethoch chi, eiliad yn ôl, ddarllen 87 fel "saith a phedwar ugain"?) Nid yw'r gwendid hwn yn perthyn i'r dull Saesneg: fe ddiflannodd ymadroddion megis "three score and ten" i ebargofiant ers amser. Ond mae'n digwydd, i raddau llai, yn y Ffrangeg. Diddorol, gan hynny, yw sylwi fod rhif-enwau newydd megis huitante a neufante yn disodli'r quatre-vingt a'r quatre-vignt dix clasurol yn Ffrangeg Gwlad Belg, yn enwedig felly mewn cysylltiadau mathemategol a gwyddonol. Yr ail wendid yn y dull clasurol Cymraeg o rif-enwi yw gwrthdroi'r unedau a'r degau. "Pump a thrigain", meddir, ond 65 ac nid 56 a ysgrifennir. Mae hyn yn wendid - ond i raddau llai o lawer - yn y rhif-enwi Saesneg am y "teens" ac fe ŵyr seicolegwyr addysg y gwledydd Eingl-Sacsonaidd mor anfanteisiol yw'r gwrthdaro hwn wrth ddysgu rhifyddeg elfennol i blant Saesneg eu hiaith. Y trydydd gwendid - un bychan, efallai - yw'r defnydd a wneir o'r term "deunaw" am un deg wyth. Yn fathemategol, mae'n gwbwl afrosgo, yn ddigyswllt hollol â'r rhif-enwau eraill, ac yn erchyll o anghyson. Pam tybed y mabwysiadwyd "dau-naw" am 18, ond nid "dau-chwech" am 12 a "dau-saith" am 14? Os oes ateb gan un o'r darllenwyr, buaswn yn falch iawn o'i gael! Yn bedwerydd, mae'r modd yr holltir y rhif-enw clasurol i gynnwys enw'r hyn a rifir yn wendid. Beth yw 37.67 Kilogram yn ôl y dull clasurol? A ellir cymharu "dau Gilogram ar bymtheg ar hugain pwynt chwe saith" â "tri deg saith pwynt chwe saith Kilogram", a dweud y gwir? * * * Gwyddom fod y Gymraeg yn ymladd am ei heinioes yn erbyn ffactorau sydd bron yn anorchfygol. Gwyddom hefyd mai tuedd yr oes (er drwg neu er da) yw tuag at wyddoniaeth; yn feunyddiol, mae termau gwyddonol yn dod fwyfwy yn dermau bywyd cyffredin. Ni all y Gymraeg fyw os gwrthyd gwmpasu holl agweddau bywyd - gan gynnwys gwyddoniaeth os deil at ddull o rif-enwi mor anaddas â'r dull clasurol. Paratowyd y ffordd gan y lediwr emynau: "Emyn chwe chant, saith deg a dau". A phwy o'r purwyr sy'n sôn am y flwyddyn "mil, naw cant, pump a thrigain”? Pwy sy'n darllen pris mewn ffenestr siop fel "dau swllt ar bymtheg ar hugain ac un geiniog ar ddeg?" Ac onid "tri deg saith" a ddywed y plentyn yng ngwersi rhifyddeg yr ysgolion cynradd Cymraeg? A chofiwn hefyd mai'r dewis yw rhwng "tri deg saith" a "thirty seven" - nid rhwng "tri deg saith" a "dau ar bymtheg ar hugain". Tra pery'r dull clasurol o rif-enwi, fe bery'r Cymry i lurgunio a gwahanu eu hiaith drwy ddefnyddio'r Saesneg i ddisgrifio rhifau; gwneir hefyd y Gymraeg yn gwbwl anaddas fel iaith pynciau gwyddonol a mathemategol yn ein hysgolion a cholegau. Ystrydeb yw dweud mai tynged iaith sy'n gwrthod "byw" yw marwolaeth.
Y Cymro, Chwefror 25, 1965.
|
|
"STRYD FAWR? TRY HIGH STREET!" Mae stryd yn nhre Pwllheli, a'i henw'n Sicin Sed. Neu dyna oedd ei henw ar dafod-leferydd pan o'n i'n byw yn y dre, yn hogyn ysgol deng mlwydd oed, chwarter canrif yn ôl. "King's Head Street" yw'r enw heddiw, mi warantaf, er fod platiau haearn yn neuben y stryd yn darllen Stryd "King's Head." Mewn rhan arall o'r dre, roedd adfeilion cwrt o deios yn cuddio mewn triongl o dai, a'r "entri" i'r cwrt yn dwnel drwy un o'r rhesdai. Sgifftan oedd ein henw ni ar y lle. Does dim teios yno heddiw, na nemor ddim o'u hôl. Does dim un o blatiau haearn y Cyngor yno, chwaith, i ddweud mai STRYD "GIFT OF ANN" oedd yr enw un waith, ac mai haelioni'r Frenhines Ann, o Loegr, a'r elusendai a godwyd yno un tro, oedd tarddiad ein Sgifftan ni. O leiaf, dyna 'sboniad yr haneswyr lleol. Mae Pwllheli yn frith o hen enwau diddorol am strydoedd a rhanbarthau'r dre - rhai yn rhamantus, rhai yn lled dywyll eu hystyr, eraill yn anesboniadwy, bron. Does dim anhawster gyda Rodyn a Lawr Gors a Lawr Tai, na Phenlleiniau, Pen-cob a'r Gadlys. Ond beth am Rala, Pentra-wanc a Phentra-pôth? Mae Lonco-bach yn ddirgelwch i'r dyn dwad, nes iddo weld yr arwydd haearn a'i Lôn Cob Bach disgybledig. A chydag enwau ardderchog megis Penrhydliniog a Thalcymerau, mae'r lled ddirgelwch yn cynyddu rhamant yr enwau. Diolch i'r drefn (yn ffurf y Cyngor Trefol a'i arwyddion haearn), ni wnaiff y rhain ddirywio'n 'Penny Lenny' a 'Talky Mary' - onid 'ruwd a redodd, ar lafar. Eto i gyd, serch platiau dwyieithog y Cyngor, mae Pen Lôn Llŷn (a'r addewid o orwelion sancteiddiolach) wedi crebachu'n "Lleyn Street." Carthwyd Stryd Moch yn "Gaol Street" anacronistaidd, gyda'r awgrym fod hynafieithrwydd yr iaith fain yn neisiach na rhochiadau'r Gymraeg. A hyn i gyd, cofier, er i droliau ffermydd-unieithog Pen Llŷn, mor ddiweddar â'r tri degau, ymgasglu'n rhes hir yng ngwaelod Stryd Moch bob dydd Mercher marchnad - y troliau'n dynn o foch dan eu rhwydi rhaff, a rhochian y genfaint yn rhechan drwy ddrws ffrynt cil agored y Meitar, allan drwy'r drws cefn llydan, i atsain lawr Stryd Lygod. Mae cof brith gennyf o'r moch, ond nid y llygod. Mae yna Lôn Dywod a "Sand Street" ym Mhwllheli - y ddwy yn wahanol, a'r ddwy (ynghyd â Phen Cei) ymhell o'r môr erbyn hyn. "New Street" yw'r Saesneg swyddogol, gogoneddus, am Lôn Dywod (Lôn Dwad ar lafar), a'r Traeth yw gwreiddiol "Sand Street" - fe aeth y "tr" ar goll o "Strand Street" ers talwm iawn. Heddiw, mae plant Traeth a Lôn Dwad yn gorfod cerdded i Lamor Berch (Glan-y-môr Abererch), neu i Pitsin ("pitching" cerrig yr harbwr), neu "rownd y Ddau" (y ddau bromenâd sy'n caethiwo Lamor Dre) os ydynt am anadlu tipyn o heli'r môr. Mae'r Maes - brith gof o laswellt, a Sasiwn mewn pabell enfawr, a'r "Wall of Death" mewn cwt pren anferth, crwn - wedi'i drigonomeiddio'n "Maes Square" erbyn hyn, gyda'i arwynebedd tarmac a'i gerrig palmant onglog, a'i lochesi-bws yn bwyntiau ABC. Mae Pentra-poth (Pentref Poeth y plat haeam) wedi colli ei gynhesrwydd - fferodd yn "North Street," "No Entry," "One Way Street." Fe aeth Lôn Cob yn "Embankment Road," Stryd Llan yn "Church Place" - a diflanodd Cae Brics a Phit Cŵn, Tocyn Brwyn a Thocia, i ddifancoll ddiddagrau ymysg y genhedlaeth newydd. Chwarter canrif yn ôl, pan oeddwn i yn hogyn ysgol deg oed (yn 1939), anaml iawn y defnyddid yr enwau Saesneg ar lafar - oddigerth i enwau "datblygiadau" brics-melyn Solomon Andrews o Gaerdydd, a adeiladwyd ac a fedyddiwyd ym mhlentyndod fy rhieni - "West End," "Recreation Road," "South Beach" a "Cardiff Road." Onid oes rhyw eironi rhyfedd yn y ffaith mai'r unig enw Cymraeg a ddaeth o'r cyfnod melyn hwnnw oedd - Pont Solomon? Pa fodd yr halogi? Sut bu i'r hen enwau, oedd yn fyw ar wefusau plant ysgol y dre chwarter canrif yn ôl, ddiflannu bron yn llwyr erbyn hyn? Mae'r dre yn dal yn weddol Gymreig, a'r Cyngor, fel y crybwyllwyd, wedi rhoi'r enwau Cymraeg ar blatiau haearn yr arwyddion beth amser yn ôl. Mae'r ateb, rwy'n credu, yn hawdd i ddod o hyd iddo - Saesneg yw iaith y papurach, iaith y byd swyddogol; Saesneg oedd, ac yw, iaith yr hysbysebion a'r hysbysiadau, iaith y ffurflenni swyddogol ac iaith swyddogol y llythyrdy, iaith masnach, iaith arian. Pan oedd hysbyseb Saesneg mewn papur Cymraeg lleol yn cymeradwyo dulliau trin gwallt "Mirabella's Hairdressing Salon," onid oedd "Slaughterhouse View" yn gyfeiriad mwy addas na "Lôn Lau" i sefydliad mor ffroenuchel? Pan oedd hysbysiadau ysgrifenedig Eglwys y Llan yn Saesneg, genedlaethau'n ôl, onid naturiol oedd i Stryd Llan gael ei hanglicaneiddio'n "Church Place?" Ac onid oedd y ffurflenni swyddogol yn dweud yn ddigon plaen: "Return to the Ministry of Pensions Office, High Street, Pwllheli?" Y cyfeiriadau Saesneg, yn ddieithriad, a ddefnyddiwyd ar amlenni swyddogol, ar ddogfennau'r Cyngor, ar gofrestri etholiad a chofrestr y "Register-R." Nid oedd iaith Pantycelyn yn ddigon urddasol i foli Mamon, ac enwau Saesneg strydoedd Pwllheli sydd i'w gweld ar fantolenni ac yn adroddiadau'r capeli Cymraeg. Yn merw'r fath lifeiriant, taflwyd ymaith y cyfan, bron, o'r hen enwau Cymraeg gonest ac ystyrlawn, ac yn eu lle cafwyd snobeiddiwch anonest "West End", gwreiddioldeb ail-law "New Street," a noethni di-rym "North Street" druan. A chyda'r enwau, y gwreiddiau, hefyd. Dadwreiddiwyd plant y dre o'u cynefin hanesyddol, trawsblanwyd hwy i ryw fyd papur Seisnigaidd, ffals a ffug. Mor ffals â chenhinen blastig, mor ffug â phrins-o-wêls. Soniais am Sicing Sed a Sgifftan fy mhlentyndod - mor anseisnig, os nad mor bersain, â Phenrhydliniog a Thalcymerau. Fe anseisnigwyd, oni chymreigiwyd, yr enwau estron gan gymdeithas uniaith Gymraeg, gyhyrog ei hiaith. Llarpiwyd y seiniau Seisnig, a hyrddiwyd nhw'n ôl yn feiddgar, yn fendigedig, yn orchestgar Gymreig, mor Gyrnreig ag "inci-smôl" am liquorice ball, "shel-ffiar" am fire shovel, "tobias" (marblis gwydr, mawr o boteli cwrw hen-ffasiwn) am beer taws, "ffenas sgeilat" am sky-light, "dannedd cryja-byja" am gutta-percha teeth, "Rel We" am The Railway Temperance Hotel, a "Ragat" am The Ragged School Mission Hall. Ond mae'n rhy hwyr i hynna ddigwydd rŵan. Mae'n rhy hwyr bellach i gymdeithas ddwyieithog, sy'n wan a bratiog ei Chymraeg, fedru derbyn a gweddnewid y llu o dermau Seisnig sy'n tagu'n hiaith. Ni chlywir "cream slice" yn troi yn "leisa gri," na "fish fingers" yn "shingars pysgod" - o hyn i Sul Pys. Bellach, mae'n rhaid bathu mwy a mwy o dermau Cymraeg, yn llawer mwy trwyadl ac yn llawer mwy niferus na wneir yn bresennol - a'u bathu ar frys. Ac wedi'u bathu, rhaid eu gwthio, gwthio - yn yr ysgolion a'r colegau Cymraeg, mewn cylchgronau a llyfrau a phapurau, yn rhaglenni Cymraeg y radio a'r teledu, yn ddeheuig, yn feunyddiol, yn ddidrugaredd. Ac o'u defnyddio, fe ddônt mor naturiol a rhesymol â "rhaglen deledu" neu "darw potel." 'Run pryd, rhaid dal ein gafael yn dynn, yn wancus ac yn eithafol yn yr hen enwau Cymraeg sydd bron â diflannu. Dechreuwn gydag enwau'n strydoedd, enwau'n trefi a phentrefi, enwau'n siroedd. Defnyddiwn nhw ar ddogfennau a ffurflenni swyddogol, mewn hysbysebion ac ar amlenni, ac ar lafar. Gofynnwn i'n cynghorau lleol a'n cyrff cyhoeddus eraill eu harddel. O wneud hyn, fe wnawn fwy dros warantu parhad y Gymraeg na phe baem wedi sgrifennu awdl.
Cyhoeddwyd yn BARN, Medi 1965. Gweler hefyd: Bathu termau. |
Sgwrs radio ar Trem, BBc, 7 Hydref 1965)
(Ailgyhoeddwyd yn y gyfrol 'Amryw
Ddarnau' (Cyhoeddiadau Modern Cymreig, 1968)