Owain Owain y Gwyddonydd
'Gwyddonydd a estynnodd ffiniau'r iaith' oedd disgrifiad Emyr Llew ohono yn Y Faner Newydd.
Hydref 1948: Coleg y Gogledd (Prifysgol Cymru, Bangor). Gradd
Dosbarth Cyntaf mewn cemeg a ffiseg.
Gweithiodd yn
Atomfa Windscale, (Sellafield yn ddiweddarach), Cumberland fel gwyddonydd niwclear;
gan buro pliwtoniwm ar gyfer creu bomiau niwclear; hyn oedd
pwrpas yr atomfa (y cyntaf drwy Wledydd Prydain), gyda thrydan yn
dod yn yn sgil hyn.
Er iddo arwyddo'r Papurau Cyfrinachol Llywodraeth Lloegr 7 gwaith yn ystod yr amser hwn, rhagwelodd effaith negyddol, genynol i'r gwastraff niwclear a thorrodd y rheolau Cyfrinachol o leiaf 7 gwaith yn rhybuddio pobol o'r peryglon yn y wasg Gymraeg. Darllener hefyd ei storiau byrion Pum Daffodil a Y Pysgodyn Arian.
Trafododd lawer o bynciau gwyddonol yn y Gymraeg am y tro cyntaf. Y Cyfrifiadur a'r We Fyd-eang er enghraifft.
Bathodd hefyd lawer o dermau gwyddonol Cymraeg a sgwenodd nofel ffug-wyddonol 'Y Dydd Olaf'.
Fel athro mathemateg yn Nhywyn, lansiwyd cylchgrawn 'Y Gofod' a gafodd sylw gan NASA a'r USSR.