O Lyfrgell Owain Owain Owain y person; ei fywyd 1929 -1993 Y Dydd Olaf: un o lyfrau Owain Owain Y Tafod cyfarchion y nadolig: gan yr arlunydd Owain Owain dyfyniadau am Owain Owain
 


Storiau Byrion Owain Owain


Y Sgodyn Aur    Ffarwel Ha'    Libi-Laban    Karol    Fory Eto    Clywsoch Ddwedyd    Mwyar Awst    Y Darganfod    Y Beic    Nos Sadwrn    Y Gwrthod    Ni'n Dau    Dydd Sul    Dim Ond Fory...    Y Pysgodyn Arian    Defaid Eraill    Jeli Coch i De    Y Feis

 

 

Y SGODYN AUR

Chreda’ i byth na'r peth 'gosa welais i 'rioed i un o'r tylwyth teg oedd y dyn-hel-racs fyddai'n dod â'i drol at glwyd yr ysgol. O, 'doedd o ddim yn fach, cofiwch - wel, ddim yn fach iawn - a 'doedd dim byd arallfydol ynglŷn â'i wisg; yn wir, 'roedden nhw'n briddllyd o ddaearol. Ond rargian! Pwy ond un o'r tylwyth teg allai drawsnewid cydaid o garpiau tyllog yn bysgodyn o aur coch, a gweddnewid hen sgert wlanog yn focsaid o sialc amryliw, 'run peth yn union â sialc yr ysgol, a chyda digon o liwiau gwahanol i sgwennu "John-sws-sws-Mair" ar dalcen tŷ Tomi Robaits mewn saith a mwy o liwiau'r enfys?

Cofiwch - 'roedd hi'n demtasiwn fawr i ddewis y sialc. 'Doedd "John-sws-sws-Mair" wedi sgwennu mewn col-tar ar dalcen-'di-rendro ddim yn rhyw liwgar iawn, ac 'roedd Tomi Robaits wedi rhoi gora i geisio platio'r sgwennu-col-tar efo brwsh sgwrio ers misoedd. Wir, fe fyddai sialc Iliw yn her newydd i Tomi Robaits ac yn symbyliad i regfeydd ffresh 'run mor Iliwgar â'r sialc.

Ond 'roedd y demtasiwn i ddewis 'sgodyn aur yn fwy. Dew, 'roedd o'n grand - mor grand ag unrhyw 'sgodyn aur o ffair pentymor, ac yn gan-mil haws i'w gael nag unrhyw 'sgodyn ffair. Cwpwl o garpiau gwlanog, a fi oedd piau'r 'sgodyn.

Dyna bechod fod Mam wedi dewis gwneud jam-mwyar-duon 'run diwrnod ag oedd y dyn-hel-racs wedi penderfynu dod at yr ysgol. Chefais i - neu o leia', chafodd y syniad - fawr o groeso gan Mam. 'Doedd y cardyn llwydwyn awdurdodol a ddygais adre'n chwys i gyd yn tycio dim, er i mi stryfflagu i’w ddarllen i Mam o'r Ilinell agoriadol "Very Important Announcement" hyd at y llinell ola' "Yours, etc., etc., Sebastian Brown, V.C."

"Ddim rŵan," meddai Mam, a'r ewyn piws ar y sudd berw yn dringo'n fygythiol o fewn modfedd i ymyl y sgelat: "Fedra' i ddim gadael hwn rŵan i fynd i ch'lota am racs."

Rhyw lwydni rhyfeddol oedd y llwydni a ddaeth i'm byd yr eiliad hwnnw. A'r 'sgodyn aur yn nofio 'mhellach, bellach oddi wrthyf drwy gymylau trwchus o 'seldra llwyd.

"Ond Mam . . . "

"Ddim rŵan," meddai eto, a rhimyn o sudd coch yn rhedeg yn ara'-deg-bach lawr ochor y sgelat, ac yn hisian anobaith wrth ddiferu i'r fflamau nwy.

 *   *   *   *

 'Roedd Mam yn rhoi labeli bach gludiog ar y potiau jam chwilboeth pan ddychwelais i'r tŷ. Wnes i ddim dangos y 'sgodyn aur iddi. Mi fyddai'n siwr o ofyn o ble gefais y carpiau. A phwy a ŵyr - 'fallai y gwnâi i mi fynd â'r 'sgodyn aur yn ôl i'r dyn-hel-racs.

Yn slei bach, 'dych chi'n gweld, - a rhyngoch chi a fi - o drol y dyn-hel-racs y cefais y carpiau.

Darlledwyd ar TREM BBC, lonawr 1965.
Cyhoeddwyd yn HAMDDEN, Mehefin 1965.
(Ailgyhoeddwyd yn y gyfrol
'Amryw Ddarnau' (Cyhoeddiadau Modern Cymreig, 1968)


FFARWEL HA'

Safai'n llonydd a hen rhwng pyst y drws cefn, ei hwyneb tua'r ardd a'i chefn tuag ataf. Hwyrddydd o haf, a'r golau gwyn yn treiddio drwy'i gwallt brith, ac yn ariannu teils y llawr. Safai gyda'r tawelwch golau hwnnw sy'n perthyn i ganfasau'r Iseldiroedd; y cysgodion yn llawn golau, y llonyddwch perffaith yn llawn bywyd.

Tu draw iddi, yn llygad y goleuni hwyr, balchder y blodau, a thlysni trymach y lawnt a'r dail; ambell frigyn yn siglo'n ysgafn yn y gofod glas rhyngddi hi a chronglath y drws, yn awgrymu mwy, yn arwain y meddwl heibio iddi, a thros y llwybr lludw, a'r lawnt, i ymgolli yng nghyfrinach dwfn ei gardd.

Safai'n llonydd, ei phais fodfedd yn llaesach na'i sgert laes, ei hysgwydd dde fodfeddi'n is na'r chwith, a'r arddwrn chwith yn denau, yn esgyrnog, yn fain, yn fregus o denau wrth ei bysedd cnotiog ar bost y drws. A'r golau distaw gwyn o hyd yn  llifo heibio iddi, a throsti, ac o'i hamgylch ac ohoni.

'Doedd dim modd i mi fedru gweld ei hwyneb na'i llygaid; eto i gyd, gwyddwn fy mod yn gweld yr ardd â'i llygaid hi.

Gwyddwn fod y pelydr byw o'r dail a'r petalau a'r glaswellt a'r pridd yn llithro'n ufudd i ddyfnderoedd ei llygaid tywyll, yn cronni ac yn grisialu yno, i'w rhyddhau, yn ôl ei dewis hi, i'm meddwl innau.

Hi oedd piau'r ardd. Hi a'i creodd. Hi a blannodd y gwreiddiau a'r atgofion ym mhridd y blynyddoedd. Trwy ei llygaid hi yn unig y gellid gweld yr ardd - ei gardd hi.

 

* * *

"A pheth o hwn, hefyd," meddai, "mae o'n dlws iawn."

Plygais innau'n ufudd, a fforchio darn o'r tyfiant yn rhydd o'r clwm, a'i osod yn barchus yn y biwch carbod, yn y gornel olaf.

"Dy ddewyrth ddaeth a hwn i mi o 'Mwythig." 'Doedd dim angen iddi ddweud rhagor - 'roeddwn wedi clywed y gweddill o'r stori gan Mam, droeon.

"Mac o'n dlws iawn," meddai eto; ond 'roedd yn syllu ar greithiau'r clwm, ar hagrwch yr hollt yn y pridd, a 'roedd ei llais yn bell.

Prysurais innau i grafu ychydig bridd i'r twll, i lenwi'r gwacter, i guddio'r graith. Sioncodd hithau; a meddai, a'i llais yn ncs : "Ddechrau'r ha' mae o ar 'i dlysa."

Symudodd ddwylath-dair. "A hwn," meddai, gydag amnaid troed, ond yn dyner. "Dos â hanner y clwm. Mae o'n tyfu'n fras. Mae'n hen bryd i mi'i deneuo fo."

"Mae'r bocs yn llawn, Modryb. Fasa'n well i mi'i adael o?

Mi ddaw 'na ddigon o gyfle eto."

"Na!" yn bendant; "dos i nol bocs arall i'r cwt glo ar y silff."

'Doedd wiw ei gwrthod.

"Tyrd a dau focs!" gwaeddodd; ac mewn llais meddalach : "Dwyt-ti ddim ond dechrau byw."

 

* * *

'Roedd bwt y car yn orlawn.

"Cofia di roi digon o ddwr iddyn nhw," siarsiodd am y degfed tro : "'nenwedig yr wythnosa cynta."

"Gwnaf siwr." Trois allwedd y car. "Ond mae'n rhaid i mi fynd, Modryb!" - am y trydydd neu'r pedwerydd tro.
"Mi gei di fwy, mis nesa," addawodd, "os byw ac iachos ddoi di lawr."

"Reit - diolch!" Sbardynais yn glir o'r gafael, wrth gwrs.

Gwaeddodd hithau'n uwch na'r ebychiad: "Dyna'r mis gora am ddadwreiddio." Ac wedi i'r car dawelu unwaith eto :
"Mi fydd 'na Ffarwel Ha' - bloda, felly, nid gwreiddia -  Mair. Mi fydda nhw yn 'i gogoniant."

"Mi ddeuda i wrthi ond wir, Modryb, mae'n rhaid i mi fynd."

Edrychais drwy ffenestr dde'r car, lle gwyrai'r ffordd yn ol i gyfeiriad ei gardd, tu cefn i'r ty. Gefais gip arni, yn sefyll yn hen ac yn llonydd yn ei gardd.

'Welodd hi mohono i. Ac er bod y golau gwyn yn dechrau pylu, fe'i gwelwn yn glir yn syllu, yn synfyfyrio, ar y pridd fires wrth fon y clwm.

* * *

'Roedd hi'n hwyr ar Mair a finnau yn cyrraedd adre'n ô1, a'r holl siarad mân gyda'r llu o berthynasau pell wedi'n hen flino.

"'Wyddwn i ddim dy fod ti mor sentimental," sibrydodd Mair yn y gwely. 'Roedd awgrym o wawd yn ei llais - awgrym yn unig, a 'rwy'n fodlon cyfaddef mai ymgais i fod yn gell- weirus yn hytrach nag yn wawdlyd, efallai, oedd y cyfan - ymgais fethiannus i godi calon.

Troais ar fy ochr dde, i wynebu'r erchwyn - yn araf, felly, rhag ofn i Mair feddwl fy mod yn groen-denau. "Falla 'mod i," atebais.

"Ond pam Ffarwel Ha'?" gofynnodd - heb na gwawd na chellwair yn ei llais.

"Pam lai?" Ceisiais swnio'n ddidaro. "Roeddyn-nhw'n dlws iawn." Ac wrthyf fy hun : "Yn 'i gogoniant."

Lled-gododd ar ci phenelin, a phlygu drosof. "Ia - yn dorch, efalla, ne'n dusw; ond ddim. .. " Gwyddwn oddi wrth ei llais, heb unrhyw amheuaeth, nad oedd gronyn o wawd nag o gellwair yn ei geiriau. "A'r sbrigyn 'na - wedi hanner gwywo - heb flodyn na dim arno fo. . . pam rhoist-ti hwnna i mewn hefyd?"

"'Dwn i ddim," atebais, yn onest. Yna, yn llai gonest:
"Waeth 'ti befo - welodd 'na neb - dim ond chdi a'r saer."
Ac i ddileu'r anonestrwydd : "Falla mod i'n sentimental."

Gwthiais yn ddyfnach i'r gobennydd. Trodd Mair hithau ar ei chefn.

"Beth oedd o?" gofynnodd, toc.

"Y?"

"Y sbrigyn."

'"Dwn i ddim." Ceisiais swnio fel petawn ar fin cysgu:
"'Dwn i ddim beth oedd 'i enw fo."

"Nos dawch," meddai, yn dawel iawn.

"Nos dawch." Troais yn ôl ar fy nghefn: "Rhywbeth ddaeth dewyrth yn ôl o 'Mwythig."

"O." Ac wedi ysbaid o funud neu ddau: "Rwy'n falch dy fod ti'n sentimental."


Cyhoeddwyd yn Barn, Chwefror, 1969.
Ailargraffwyd yn Bara Brith (Cyhoeddiadau Modern, 1971).


LIBI-LABAN

Safai'n wyddonol gysact ym mhen pella'r labordy, ei got- lwch yn wyryfol, llaes, a'r cloc trydan uwch ei ben yn drydydd llygad iddo. Gwyddwn fod y par llygaid yn gwardio'n gudd y tu ôl i'r gwydrau tobias, a'r wên felfared yn hongian o labed y naill glust i labed y llall; gwyddwn hefyd fod y naill fawd yn chwarae mig â gwas y Hall y tu ôl i'w gefn. A gwyddwn hyn i gyd serch y niwl sylffiwraidd a'r syrffed stem a lenwai'r agendor rhyngof fi a'r Uwch-Ddarlithydd. Pwy nas gwyddai, ar ôl dwy flynedd a mwy o brentisiaeth mor glos?

'Roedd poteli sgleiniog yr hylifau cemegol yn chwysu'n chwarter llawn ar eu silffoedd di-lên, a fflamau nwy y llosg- yddion yn parhau i ddawnsio'n wrthnysig ddistaw yn yr awyr anwar. Safai'r tiwbiau gorlawn yn dawel a sydêt yn eu crud, eu gwala'n gaethiwus, grwn, eu gweddill amryliw yn llynnoedd afreolaidd ar wyneb tîg y fainc. Gorweddai eraill o'r hil yn
driphlith-draphlith wrth draed y crud, eu gwegni anniwair yn wahoddiad cyfoglyd, eu hannibendod yn rhoi bodlonrwydd anniddig i'r gydwybod. Y cadach yn gyrbibyn, yn wlyb diferol, yn drewi o hylifau amrywiol, a'r brwsys-gwrych yn goes-gam, a banner moel.

"Heat gently," meddai'r Llyfr. Berwais.

"Then filter whilst hot," meddai'r Llyfr. Hidlais. 

"Wash the precipitate with N/10 sulphuric acid," meddai'r
Llyfr. Golchais.

 

"Och, no!" sisialodd yr Uwch-Ddarlithydd, yn foesgar ei sŵn, yn ddistaw y tu cefn i mi - a gwyddwn, heb edrych, fod y wên felfared yn dal i hongian o labed i labed: "Not hydro- chloric! Not hydrochloric!" Gwenodd yn uchel, a Ilithrodd yn ôl i'w gilfach dan y cloc, ei fodiau a'u gweision yn dal i chwarae mig, ond yn orfoleddus ac yn wyllt, y tu ô1 i'w gefn.

"Twll dy din di, Ffaro!" meddwn innau, yn barchus ddistaw, cyn iddo gyrraedd cilfach y cloc, a chyn iddo droi rownd.

Diffoddais y fflam nwy. Teflais y got-lwch syrffedig i waelod y locer, a dihengais.

I'r byd mawr. l'r awyr aer. Drwy'r drws a oedd bellaf oddi wrth y cloc.

 

* * *

'Roedd hi'n braf ar y bryn, a'r awel yn dyner. Coed derw ac awyr las a murmur y don fel ym mhob stori.

A'r llyfryn, wrlh gwrs. Telynegion.

Rhyw fath o bry' oedd o, mae'n debyg. Bron rhy fach i'w weld, ac yn goch, goch, goch. 'Roedd yn gwibio'n wallgof rhwng y llythrennau gwâr, o un lle i'r llall, yn ôl ac yn ôl drachefn, heb ddeall yr un gair - heb wybod, yn wir, mai geiriau oeddyn nhw.

Cyrhaeddodd ddotyn yr "i" gyntaf yn "rhiain". Bu'n hir yn cyrraedd, yn drafferthus ei daith.

Rhois innau fy mys arno - libi-laban, impiwdentis. Megis cusan.

'Roedd 'na smotyn coch lle bu. Yn amdo, yn arch, yn ddoe-heddiw-ac-yfory, yn bopeth a fu ac a oedd; yn ddyfodol disglair. Yn feddargraff ac yn gofiant, yn awr olaf ei gene- dlaethau fil. Yn smotyn bach coch rhwng odlau telyneg.

Darllenais innau'r gweddill o'r darn godidog, gyda'm bys- dangos ar y gwaed, a thipian y cloc trydan di-swn yn drwst yn fy mhen.

Cyhoeddwydyn Barn, Tachwedd, 1969.
Ailargraffwyd yn Bara Brith (Cyhoeddiadau Modern, 1971).


KAROL

Rhowliodd y camera unwaith eto, a gwyddwn mai dyma - o'r diwedd - y llun a barhai am byth.

"Cut"' gwaeddodd y dyn chwyslyd o'i gadair ganfas. "Fe wna'r tro," sisialodd, ond yn eithaf bodlon, wrth y ferch mewn sgert twid. Yna, cododd o'r gadair ganfas, a chroesi tuag at Maria. Gwthiodd y gwair bras oddi ar y clustogau plastig esmwyth, gorweddodd ar ei hyd yn ymyl Maria, a thaniodd ddwy sigaret, Gwyliodd y ddau y mwg yn codi fel arogldarth,
cyfuwch â'r lampau trydan cryf, i ymgolli rhwng trawstiau llychlyd yr hen stabal.

Daeth sgrech arall o'r daflod ym mhen pellaf, tywyll, yr hen stabal.

"Mae'r blydi Arab 'na bron a 'ngyrru i'n wallgo!" cwynodd Jo. Croesodd i gyfeiriad Maria a'r dyn chwyslyd, gan sychu'r lliw brown a'r saim a'r chwys o'i dalcen ar lewys neilon ei fantell werinol.

"Jiw, nid Arab," cynigiodd y dyn chwyslyd, yn sych reit.

'"Roedd hi'n drewi!" Gwasgodd Maria y geiriau drwy wefusau drud, a'i ffroenau ar gau.

"Fasa tithau hefyd,"hyrddiodd Jo; ond 'roedd o'n gwenu wrth daflu'r geiriau ati, a'i law eisoes ar ei phen-glin.

"Mae ganddi drwyn lddewig gret!" Y dyn chwyslyd oedd yn siarad; wrth siarad, plygodd ei sigaret fyw i gyfeiriad cefn llaw Jo.

"Cystal a fun i?" gofynnodd Maria, yn rhedeg ei bysedd meinion ar hyd llinell berffaith ei thrwyn.

"Sgen-ti ddim trwyn Iddewig, siwr dduw!" 'Roedd llaw Jo yn ôl, ond yn is na'i phen-glin y tro hwn.

"Trwyn bach del," ebe'r dyn chwyslyd, "Del iawn, Maria."

Daeth sgrech arall o'r daflod - yn hir ac yn crynu. A lleisiau uchel, ac ambell reg.

'"Oes rhaid i ni aros yma?" Aeth cryndod bach llwfr drwy gorff Maria. "'Wna set yn y stiwdio mo'r tro?"

"Maria!" 'Roedd y syndod yn llais y dyn chwyslyd yn hollol real. Yna, gyda ffug sobrwch, siarsiodd hi: "Welaist-ti rioed mohono'i yn gwrthod cyfle i fod yn authentic, naddo?"

"Plastig ydi dy fabi di," chwarddodd Jo.

"Be'ti'n ddisgwyl arall?" gofynnodd Maria, yn gwthio'i bys i fol y dyn chwyslyd - "Fo ydi 'dad o; like father, like son!"

A chwarddodd Maria a Jo yn wyllt, ond nid y dyn chwyslyd.

Daeth swn bach od o'r daflod - rhyw fwmian sgrechian, bron; bron fel ci yn udo.

"Roedd hi wedi cerdded milltiroedd," ychwanegodd y dyn chwyslyd; '"Roedd hi'n laddar o chwys."
"Fonta'n ei lordio hi ar gefn ei ful," ebe Jo.
"Yn ôl eu traddodiad," ebe'r dyn chwyslyd.
"Paganiaid!" ebe Maria.

Peidiodd yr udo. Rhuthrodd rhywun - dyn main - i lawr o'r daflod, heibio i Jo a Maria a'r dyn chwyslyd, heibio i'r paraffernalia i gyd, ac allan drwy'r drws.

"'Roedd o'n gwenu!" ebe Maria, a gwên yn ei llais hithau.

"Mab, felly," ebe'r dyn chwyslyd, yn ffeithiol sych.

"Ych-a-fi!" cwynodd Maria, ond heb fod yn goman. 'Roedd ei bysedd, fodd bynnag, yn crynu wrth iddi dynnu yn y sigaret: "Yn fan hyn, o bob man!"

Daeth y dyn main yn ôl, a thri o'i gymrodyr gydag ef.

'Roeddyn nhw'n wên o glust i glust, ac yn siarad fel melinau pupur. Gwthiodd y pedwar heibio, ac i gyfeiriad y daflod.

"Fe gawn ni lonydd i fynd ymlaen efo'n busnes, 'rwan - gobeithio!" ebe'r dyn chwyslyd, yn codi o'i glustogau plastig,

"mae'r siou fawr drosodd." Dilynodd Jo ef, i gyfeiriad y gadair ganfas.

"Doethion!" gwaeddodd y ferch mewn sgert twid - ac ymddangosodd tri o rai lliwgar o rhywle.

"Diffodd y seren 'na," gwaeddodd y dyn chwyslyd wrth y trydanydd; "'Does dim o'i hangen hi 'rwan." Aeth pawb i'w le.

"Diffodd y seren!" adleisiodd y ferch mewn sgert twid.

Daeth llais y trydanydd o'r cefn yn rhywle: '"Fedra i ddim mae 'na ddiffyg ar y weirio. 'Wnaiff hi ddim mynd allan!"

"O Iesugristbach!" ebychodd Jo, "dyma ffordd i dreulio 'Dolig!"

 

Cyhoeddwydyn Y Cymro, Nadolig 1968.
Ailargraffwyd yn
Bara Brith (Cyhoeddiadau Modern, 1971).


 

FORY ETO

Sombrero wellt ar y Put-U-Up - ei chorun yn biws a gwyrdd a phinc, a'i chantel yn lliw gwellt wedi'i gannu. Roedd hi'n edrych yn iawn yn hongian ar yr hoelen yn y garafan, ond mae'n edrych yn hollol ffug fan yna, ar y Put-U-Up. Modlan piau hi; Modlan yn dair oed, ac yn cysgu'n sownd yn y gwely. A'r sombrero cyn hyned a'r haf diwethaf.

Darnau lliwgar o dai plastig ar y carped gwyrdd tywyll - talcenni tai a gwydrau ffenestri modfedd a chorn simdde neu ddau, a'r cyfan yn driphlith-draphlith. Ty wedi hanner ei godi, a'r adeiladydd dengmlwydd yntau'n cysgu yn ei wely. Guto, felly.

Pentwr o lyfrau - rhai Gerallt a minnau, yn gymysg, ar y i bwrdd coffi. Beibil Pitar Williams yn sylfaen i'r pentwr, a'r Bywgraffiadur yn faen-clo. From Flints to Printing a Jennings a Helynt Coed y Gell ac Enwau Adar - rhai Gerallt - yn swatio rhyngddyn nhw. A Gerallt hefyd, mi debygaf, yn swatio rhwng y cynfasau, yn ddeuddeg oed.

A'r babi yn effro. Ar lin Gwen. Ar y Put-U-Up yn ymyl y sombrero.

A'r darn papur ar fy mwrdd yn wyn, a thair stwmp yn y plat-llwch.

Hei-ho! Fe ddaw cyfle eto fory.

 

* * *

'Roedd y gwynt hallt wedi chwipio'r ciprwydd ifainc.

Y chwe pellaf - yng nghysgod yr hen glawdd - yn dal yn las; ond y pedair arall wedi cochi, ac un neu ddwy o'r pedair, yn nhwll y gwynt, wedi cochi o'r bôn i'r brig.

Trueni. 'Roedd y deg ohonyn nhw wedi teithio'n dda yn y garafan, yr holl ffordd o waelod Sir Gaerfyrddin, ar y lap ola o'r daith adref. A'r deg coeden las, yn eu potiau plastig du wedi llenwi ty-bach y garafan i'r fodfedd.

Trueni. 'Roeddyn nhw'n rhai drud. Ond fe ddaw cyfle arall, y flwyddyn nesaf.

 

* * *

Ganodd y gloch am y tro olaf - olaf o'r dydd, o'r wythnos. Amser te, dydd Gwener.

Amser te. Amser i ymlacio. Amser i anghofio'r gwersi a'r inc coch a'r sialc gwyn a'r plant a'r plant a'r plant.

Paned. A smoc. Mygyn neu ddau, a'm traed ar y Put-U-Up. Cynilunio'r ardd newydd. Gynllunio taith garafan yr haf nesaf. Amser i roi inc du ar bapur gwyn; amser i 'styried.

Amser i gofio. Am y sombrero ar yr hoelen, a'r cawl cynffon Heinz, a'r tes nwy Calor, a sip y cwdyn-cysgu yn gwrthod sipio.

Amser i gau llygaid. Rhoi amser rhwng crornfachau. Tawelu'r tipian ac anadlu cwsg.

Ond y sombrero a'r tai plastig a'r Enwau Adar yn mynd driphlith-draphlith. Y sombrero yn y llaid, a'r tai plastig iawn wedi'u dryllio, a'r llyfrau - ie, y llyfrau, hyd yn oed - dan draed. Swn y ffrwydradau'n ddi-baid, a'r milwyr yn nes, a'r ergydio'n amlach. Y swn yn uwch, y swn yn nes, y swn yn amlach.

"Dad!" Modlan oedd yna. "Deffro, Dad - 'dwy isio tynnu dy lun di'n cysgu!"

Hen gamera yn hongian o'i gwddf - hen beth rhad o Hong-Cong - a'r sombrero ar ei phen : "Deffro, Dad!"

Gwenais, serch y blas drwg yn fy ngheg a'r cwsg llwyd yn fy llygaid. Rhois fy nhraed i lawr o'r Put- U- Up. Clywais rywbeth - talcenni tai plastig - yn crensian dan fy nhraed; neidiais yn ôl, yn hanner effro. Trewais fy mhenelin mewn pentwr o lyfrau ar y bwrdd coffi; dymchwelodd y pentwr i'r llawr. Wrth gwrs, 'roedd yna botel o inc heb ei chau ar ben y pentwr; a'r llyfr trymaf, wrth gwrs, oedd y llyfr a ddisgynnodd ar droed Modlan.

Daeth Guto i mewn i weld beth oedd achos y sgrechian; gwelodd y talcenni plastig. Daeth Gerallt i mewn i weld beth oedd achosion y sgrechian a'r gweiddi - a gwelodd yr inc. A daeth Gwen i mewn - i weld pwy oedd yn ei chael hi mor hallt.

A pha fabi fedrai gysgu drwy'r cyfan?

Es allan i'r ardd. 'Roedd yna hen wynt oer yn yr ardd gefn.

Gwelais fod tair, o leiaf, o'r coed ifainc yn golledig. 'Roedd hi'n llawer rhy oer i wasgu lindys rhwng bys a bawd - p'un
bynnag, 'doedd y cabaits ddim gwerth eu hachub erbyn hyn. Dechreuodd lawio; es yn ôl i'r ty.

Distawrwydd mawr.

Yn ôl i'r gadair, a'm traed yn ôl ar y Put-U-Up. Cau llygaid ar yr inc ar y carped gwyrdd - 'roedd y botel bron yn wag, diolch i'r drefn.

Ond dim cwsg. Dim ond cau llygaid. A bod yn ddiolchgar.

Yn ddiolchgar fod y sombrero'n ôl ar y Put-U-Up ac nid yn y llaid; fod y tai plastig yn rhai ffug yn unig; fod yr inc, hyd yn oed, heb fynd ar y llyfrau.

A chwe choeden, o leiaf, yn dal yn las. A digonedd o gabaits yn y siopau.

A'r babi'n dechrau crio'n llawen unwaith eto.

A haf nesaf, a thaith garafan, o'n blaenau.

 

Cyhoeddwyd yn Y Wawr, Chwefror, 1969.
Ailargraffwyd yn
Bara Brith (Cyhoeddiadau Modern, 1971).

 

 

CLYWSOCH DDWEDYD

Mae'r fersiwn wreiddiol a gyhoeddodd Owain tua 1951 i'w weld yma.

MIL-naw-pedwar-wyth, a heddwch yn ddwyflwydd oed. Dwy flynedd i'r meysydd lasu; dwy flynedd i ddynion fethu ag anghofio.

Deunaw mlynedd yn ôl, a minnau'n ddeunaw oed.

* * * * *

Deffroais yn oer ac yn wlyb gan wlith - doedd 'na fawr o gysur mewn cwdyn-cysgu cotwm. Lled godais ar y twmpath gwair, ac edrych o'm cwmpas. Ymbalfalu - y bysedd wedi cyffio - am y paced Gaulloise, a blasu gwres y fatsen bron cymaint a chic y baco du.

A dal i edrych. Syllu'n ddibaid, fel petawn yn ceisio cael golwg ar enaid y lle -  ar y peth rhithiol hwnnw sy'n clymu coed a mynydd ac awyr yn un, ac o'u cyfannu yn rhoi ystyr i'w bodolaeth.

I'r dwyrain, Schwartzwald, y Goedwig Ddu. Swatiai'n anniddig oer a noeth tan fantell denau y bore amrwd, yn nhrwmgwsg bregus y munudau olaf. I'r gorllewin, seren unig yn  herio'r dydd, a mynyddoedd Vosges yn araf ddiosg eu cobannau nos. I'r de, i'r gogledd, ymdroellai'r ffin rhwng erwau llonydd Ffrainc a'r Almaen - yn glawdd dychmygol, o sylwedd cadarnach  na cherrig a chlai. Ac uwchben, yn gwawdio'r ffin, ymdoddai dydd a nos i'w gilydd.

Cerddais drwy olau gwantan y bore bach - fy mhac ar fy nghefn, a rhyw arswyd rhyfedd yn perthyn i sŵ n hoelion  f'esgidiau ar y ffordd garegog. Ond yn raddol ac yn ddiffwdan, fe ddeffrodd y wlad; a chyda'r deffro, diflannodd  y rhin rhyfedd oedd i swn yr hoelion ar y cerrig. Ciliodd y tarth oddi ar wyneb y meysydd, gan adael ei ddafnau  gwlith ar ôl, yn enfys o liwiau. Dechreuodd y blodau afal wenu. Pa ryfedd i'r adar - a minnau - ganu emyn o fawl i  brydferthwch tawel gwlad Alsace ?

Cam ar ôl cam, coeden ar ôl coeden, tyddyn ar ôl tyddyn. Efallai mai'r gwres a'r llwch llwyd oedd i'w beio -  ond o dipyn i beth, diflannodd y mwynhad o'r cerdded. Aeth y cilomedrau'n hwy, y coed afal yn undonog,  a'r adar yn fwy swnllyd. Beth gebyst a wnaeth i mi ddod i le fel hyn ar fy ngwyliau ?

Yna fe ddaeth y lori - lori Ffrengig anferth. Breciodd mewn cwmwl gwichlyd o lwch, gwthiodd y gyrrwr ei ben allan o'r caban gyrru, gwaeddodd rywbeth na ddeallais mo honno,  ac amneidiodd tua chefn y lori.

Cymrais fy siawns - roedd yn mynd tua'r cyfeiriad iawn, p'un bynnag. Neidiais ar du ôl y lori - ac i ffwrdd a ni! Gorweddais innau ar fy hyd, a'm pac yn obennydd, gan wylio mwg fy sigaret yn codi'n araf am ennyd ac yna'n diflannu'n ddim  yn y llif aer cyflym a ruthrai o'n cwmpas. A gwyddwn, heb drafferthu edrych, fod gwlad Alsace mor brydferth  ag erioed unwaith eto.

Fe aeth awr a rhagor heibio cyn i'r lori aros - ger gwesty bychan, Au Coq d'Or. 'Doedd dim golwg o'r ceiliog aur,  ond eisteddai cath ddu enfawr ar un o'r byrddau bychain crynion ger y drws, a gorweddai un arall yn y pridd  cynnes rhwng bonion y gwinwydd oedd yn dringo'r mur. Ger y simdde, roedd llwyfan bychan o bren, a thusw o wair  amo; ond doedd 'run cicionia wedi derbyn y gwahoddiad i nythu yno, hyd y gwelwn i.

Neidiodd y gyrrwr o'i gaban heb yngan gair, a brasgamodd i mewn i'r gwesty. Dilynais ef, gan synnu braidd at ei anghwrteisi.
Ond sylweddolais fy nghamgymeriad wrth groesi'r trothwyroedd y gyrrwr, yn groes i draddodiad, yn talu 'mlaen llaw.  Chwarae teg iddo, roedd yn benderfynol o gael talu drosof.

Eisteddasom ein dau wrth y bwrdd ger y wal - llun General de Gaulle ar y naill ochor, a llun Mair Forwyn ar y Hall. Dechreuodd y gyrrwr siarad - nid mewn Ffrangeg, ond mewn  Almaeneg. Ceisiais ddilyn y llif di-dor o Almaeneg am ychydig eiliadau - ond methais.

"Mae'n ddrwg gen' i," meddais, yn Ffrangeg; "Mae f'Almaeneg yn wan iawn."

Edrychodd arnaf-braidd yn siomedig, efallai. "Pardon!
Ymddiheuraf! Ond . . . tybiais mai Almaenwr oeddych chi - eich dillad, a'ch cyfarfod mor agos i'r ffin, efallai."

Roedd y bwyd yn flasus a'r gwin yn dda - a sgwrsio'n bleser. Tua diwedd y pryd, gofynnais iddo sut y medrai siarad  Almaeneg mor rhugl.

Cododd y caraff gwin, a thywallt ychydig ohono i'r ddau wydr.

"Roeddwn yn garcharor yn yr Almaen . . . am dair blynedd . . . yn Buchenwald.... "

A chofiais innau'n sydyn am fore'r diwrnod, ac am filltiroedd real y ffin ddychmygol, ac am ddydd a nos yn ymdoddi i'w gilydd goruwch y ffin.

Cyhoeddwyd yn BARN, Mehefin 1966.
Ailargraffwyd yn
Amryw Ddarnau (Cyhoeddiadau Modern, 1968).

 

 

MWYAR AWST

Y CHYDIG iawn o'r mwyar duon oedd yn aeddfed - rhyw dair neu bedair mewn lled braich, a rheini, gan amiaf,  yn cuddio'n ddwfn yn y berth. 

Roedd gwaelod y cwd papur yn beryglus o wlyb, a'r sudd piws yn diferu'n araf o gorneli'r bag. Piws, o'r herwydd,  oedd cledr ei law chwith, a glasddu bawd a bysedd ei law dde. Gwyrai'r bachgen yn glos i'r berth, i chwilio am y mwyar aeddfed.

Roedd sawr y berth yn ysgafn dan ei ffroenau, ac ambell ddeilen yn cyffwrdd â'i foch. Ychydig bigiadau i'r bysedd a  ymbalfalai yng nglesni'r berth, a rhyw sgriffiad bach neu ddau i'r arddwrn dde - dim mwy.

Fe wyddai fod ei dad yn wael. Weithiau, yn nyfnder y berth, gwelai'r gwely hir, llonydd, a'r wyneb llwyd, tynn.  Neu'r cwpwrdd isel ger y gwely, a'r wats boced arno, a thician y wats yn llenwi'r stafell drymaidd, a giard y wats yn  hanner cylch am waelod y llestr dŵr, a'r dŵr yn y llestr gwydyr, crwn, yn chwyddo'r giard arian yn neidr ysglyfaethus,  a'r tician yn uwch, a'r wyneb llwyd yn llonydd, a'r trymdra'n pwyso ac yn pwyso. . . .

Yna'r fwyaren ddu yn nyfnder y berth - du a chrwn ac aeddfed, a'i bochau llawn yn arian byw. A'r fwyaren yn ildio'n  rhwydd i'w fysedd dengar, ac yn swatio'n ysgafn, glos, yn y dwrn llac. A'r wats yn distewi, heb adlais, a'r gwely a'r cwpwrdd  a'r wyneb llwyd yn fflachio'n ddim. Dim ond distawrwydd yr Allt Fawr, a'r sudd yn cosi ei arddwrn chwith wrth redeg yn rhimyn  coch, araf, o gornel y cwd papur. Distawrwydd, ac ambell bigiad i'r bysedd, a dim mwy.

Ni wyddai ddim, ac ni fynnai wybod dim, am y fiaren arall. Doedd dim angen iddo wybod. Ei frawd oedd piau hi. Estynnai'i  fysedd yntau, hefyd, gan geisio gafael, heb reswm, heb obaith, yng nghochni'r fiaren arall a blygai'n glos uwch weddill ei gorff.

Distawrwydd yr Allt Fawr, a distawrwydd arall ar lethr bryn yn Ffrainc. Y ddau ddistawrwydd - a'r wyneb llwyd, efallai, yn  gwybod y ddau.

Rhedodd y bachgen i lawr y llethr, gan gydio'n dynn yn y cwd papur gwlyb. Yn ddistaw, yn y pellter, clywai gloc y dref yn  taro tri. Arafodd, ac ymlacio'i afael yn y bag. Uwchben, yng nglesni gwynias Awst, roedd ehedydd unig yn hofran; gwelodd  y bachgen. Cysgododd ei lygaid a'i law dde, ac arogi y sudd mwyar ar ei fysedd poethion yn gryf yn ei ffroenau.  Safodd yn hir, gan syllu ar yr ehedydd, ac anadlu sawr y mwyar, ac anghofio'r wyneb llwyd.

Yn araf, cerddodd tuag adref. Roedd yr Allt Fawr a'r perthi mwyar y tu ôl iddo, a'r wyneb llwyd o'i flaen.

Ni wyddai ddim am y fiaren arall.

* * *

Ganllath neu fwy o'r tþ, cyn cyrraedd y tro yn y stryd, gwelodd gar y doctor yn mynd heibio. Fe'i gwelodd droeon  cyn hyn - yn rhy ami i'r digwyddiad ddod ag unrhyw ofn yn ei sgil. Edrychodd yn swil i gyfeiriad y car wrth iddo fynd  heibio, a gwelodd ben y doctor yn troi'n sydyn, am ennyd, i edrych amo. Doedd dim arwyddocad i hyn, ychwaith -  dim ond gweld, a derbyn, ac anghofio.

Cyrhaeddodd y drws. Roedd y cerpyn am y nocer pres yn union fel ag y bu am wythnosau, bellach. Cydiodd yn fwy  tynn yn y cwd papur gwlyb, a teimlodd y sudd yn rhedeg yn gyflymach rhwng ei fysedd, i ddiferu'n ddistaw ar y lechen  grasboeth, las. Edrychodd ar gylchoedd coch y sudd mwyar; edrych, a gweld, ac heb ddeall.

Clywai sŵn dwl y nocer dan ei fysedd. Curodd eto, yn ysgafnach.

Gwelai gornel y cwd papur gwlyb yn dechrau rhoi, a gwasgodd y bag yn dynach.

Roedd y mwyar a'r papur yn gymysgedd coch a du a llwyd ar y garreg las pan agorwyd y drws. Roedd yntau'n wylo'n hidl.

Ac ym mhoethder y gusan, fe wyddai. Ond ddim am y fiaren arall.

* * *

Cysgai'n ysgafn, gydag ambell ochenaid yn ysgwyd ei gorff. Roedd ôl y sudd mwyar ar y gynfas wen, ond ni fyddai  dim cerydd pan ddeuai'r bore.

Cysgai'n ysgafn, bron yn effro, gan suo'r meddwl di-gwsg gyda'r gobaith y deuai'i frawd yn ôl, yn fuan, fuan, fuan.  I hel mwyar, efallai - llond cwd papur, efallai - ar lethrau perthog yr Allt Fawr, is ehedydd unig yn hofran yn yr awyr wynias.

Cyhoeddwyd yn YCYMRO, 5 Awst 1966.
Ailargraffwyd yn
Bara Brith (Cyhoeddiadau Modern, 1971).

 

Y DARGANFOD

ROEDD deg o enwau wedi'u sgrifennu ar ddalen wag y llawlyfr a deg Ilinell yn eu llyffetheirio i'r gorffennol. Roedd  un enw arall, hefyd, ar y ddalen wag - heb linell drwyddo, yn gorchestio yn ei ddyfodol dilyffethair, ac yn ddiogel  yn y wybodaeth nad oedd bywyd wedi dechrau eto.

Trywanodd Wilias y deg enw eilwaith, a diflannodd deg ysbryd llwyd y myfyrwyr hen i gornel eithaf yr ystafell.  Yno, doedd dim llygedyn o olau melyn Mehefin i'w bywhau, ac ni fyddai hyd yn oed gerpyn brysiog gwraig y  llety yn medru chwalu gwe llychlyd eu nyth.

Deirgwaith fe drywanodd Wilias yr enwau; crebachodd y deg ysbryd yn ddim. Bellach, Wilias yn unig oedd piau'r  llawlyfr, ac ef yn unig oedd piau'r ystafell. A chyda'r ystafell, bodolaeth: ac o berchen bodolaeth, perchen yfory, hefyd.

Gwthiodd Wilias yn ddyfnach, yn fwy cyfforddus, i'w gadair. Roedd bywyd yn ddiogel - ef oedd piau yfory.

Edrychodd ar y pelydr melyn yn tresmasu i'w fyd. Roeddynt yn cronni'n llynnoedd dibwrpas ar y leino gwyrdd  tywyll, ac yn afradloni eu gwlith aur ar wellt brown y mat. Rhywsut, roeddynt yn ei anesmwytho - cododd o'r gadair,  a'r llawlyfr agored yn dynn yn ei law chwith, a chyda'r llaw dde, tynnodd un o'r llenni'n eofn dros hanner melyn y  cwareli gwydr. Eisteddodd eilwaith - filwaith - yn ei gadair, heb ollwng gafael unwaith yn y llawlyfr agored.

O'i gadair, gwelai flodau cotwm y cyrten, ac nid oedd arno ofn.

Roedd y cyrten yn cuddio hanner heulog sil y ffenest, ac ni allai weld y deiliach yno yn dal i ymserchu yn y gawod  aur; ni wyddai, ychwaith, fod tu chwith i'r blodau cotwm yn perthyn i'r byd melyn arall.

Trodd i ddechrau'r bennod gyntaf. Darllenodd y pennawd. Tu allan, tu hwnt i'r blodau cotwm, clywodd leisiau, a sŵn  traed ar balmant, ac yn y pellter, afreal, sŵn ci yn cyfarth. Edrychodd eto tua'r ffenest, ond roedd popeth yn iawn; doedd  dim o'r golau llachar yn tresmasu i'w fydysawd, ac nid oedd sylwedd i'r sŵn.

Darllenodd y pennawd eto. Rholiodd ei dafod am yr ychydig eiriau, a llyncodd hwy'n araf, fel pe bai'n blasu'r llymaid cyntaf  o wddf y botel. Ond clywodd sŵn y cyfarth yn nes, ac edrychodd yn sydyn tua'r blodau cotwm, a gwelodd fod ychydig olau  haul yn treiddio - drwy wead bras y llenni. Symudodd ei gadair, ei chefn tua'r ffenest, a gafaelodd yn dynnach yn y llawlyfr.

Eto, a'i gefn tua Mehefin, darllenodd eiriau'r pennawd. Ac eto. Mynnodd eu darllen, bob un o'r pedwar gair. Doedd neb na dim  yn mynd i'w rwystro. Tu yma i'r blodau cotwm, doedd dim ond ef a'r llawlyfr, a'r deg ysbryd llychlyd a ddiflannodd yn ddim.

Chwarddodd yn ysgafn wrth feddwl am y deg yn diflannu'n ddim. L. S. Roderick - dyna'r cyntaf. Roedd yn cofio inc coch yr  enw'n iawn. A'r ail enw. A'r trydydd . . . na, y pedwerydd. Neu'r trydydd? Roedd yn anodd cofio, yn boeth yn yr ystafell glos.  Trodd i'r ddalen wag, a gwenodd - ef, yn wir, oedd yn iawn.

Darllenodd y pennawd eto. Roedd yn hawdd ei ddarllen. Doedd dim byd haws. Ond rhywsut, ni fedrai'n ei fyw gofio'r chweched  enw. Preece, efallai ? Neu Hughes ? Roedd Hughes yn MM o'r enwau, p'un bynnag.

Hughes, wrth gwrs, oedd enw Marian. Marian Hughes. Efallai ei bod yn perthyn i'r Hughes a roddodd ei enw yn ei lawlyfr ef.  Peth hynod fyddai hynny. . . a gwenodd. Fe ddylai fod wedi gofyn i Marian, echdoe, cyn y ffrae . . . a gwenodd eto, canys  fe wyddai nad oedd Marian ddim yn bod y tu yma i'r blodau cotwm.

Marian. Edrychodd tua'r gornel eithaf, gan weld dim, dim ond sgertin llychlyd wedi'i baentio'n llwydwyn, a choes cadair,  ac ôl sgriffio ar y pren tywyll, yn edrych fel map, ond doedd o ddim yn fap o unman oedd ef yn gwybod amdano, nac yn wlad  nac yn sir nac yn gyfandir - eto i gyd, roedd yn edrych fel map, ac fel dim byd ond map, er, wrth gwrs, mai sgriffiadau ar bren  tywyll oedd y cyfan. Pwy fuasai'n tynnu llun map ar goes cadair, ddwedwch - chi?

Gwenodd, a gwelodd Marian. Mor fyw ag echdoe. "Marian!" meddai, yn ysgafn, Gwenodd hithau. Diflannodd.

"Marian!" Ni ddaeth yn ôl. "Marian!" sisialodd yn uwch, ond yn ddistaw o hyd, rhag ofn i'r deg ysbryd ei glywed. Ac eto,
yn
uwch: "Marian!"

Disgynodd y llawlyfr trwm yn glewt i'r llawr. Gorweddai'r llyfr yn drwsgl a llonydd ar y leino gwyrdd, ei ddalennau agored  i waered. Syllodd Wilias arno, ond nis cododd.

"la?" gofynodd gwraig y llety, yn agor y drws ac yn gwthio'i phen i'r ystafell: "Oeddach chi'n deud rwbath, Wilias ?"

"Na!" Cododd y llyfr. "Na - dim ond darllen yn uchel."

"O! Meddwl o'n i 'ch bo' chi'n deud rwbath."

"Na - darllen oeddwn i - darllen yn uchel."

"O!" Agorodd y drws led y pen. "Meddwl o'n i." Cymrodd gam i mewn i'r ystafell. "'Dw i am roi cyrtans newydd yn fama. Ma rhein ‘di bruo. Fasa rhei piws yn mynd yn dda efo lliw setî. Be ‘dach chi’n feddwl, Wilias? 

"Da iawn," atebodd; a "Marian!" meddai wedyn, yn ddistaw ynddo'i hun.

"Wth gwrs, ma isio setî newydd, hefyd, a deud y gwir. Ond 'na i'm prynu rhei heid tro nesa. Hen betha oer 'dy nhw'n te?"

"la." Cofiodd am y deg enw ar y ddalen wag. Yn rhwysgfawr, yn ffwdanus, byseddodd y llyfr, gan droi i'r bennod gyntaf, a llyfnu'r dalennau agored yn ormodol.

"Ond well i mi beidio prynu cyrtans nes fydda i 'di prynu seti newydd, falla. Falla neith Iliw'r cyrtans ddim mynd efo'r setî newydd. Be 'dach chi'n feddwl, Wilias ?"

Dos, meddai'n ddistaw; dos i'r diawl. Ond yn uchel: "la - felly fyddai orau, Mrs. Defis."

"Be ?" Cymrodd gam arall i mewn i'r ystafell - roedd sgwrs hir, ddiddorol, ddibwys yn yr arfaeth. "Peidio prynu cyrtans?"

O uffern, gwaeddodd, yn ddwfn ac yn ddistaw yn rhywle - cyrtans piws ac arholiad fory a seti nefi-blw a phennod gyntaf heb ei darllen a Marian heb wenu a deg ysbryd llwyd a Hughes a Roderick a. . . .

Cododd, a rhoddodd y llyfr ar fraich y gadair. "Na - dyna fyddai orau," meddai, yn ddisynnwyr ac yn ddihidio; a "... llyfrgell . . . " mymiodd, wrth wthio rhwng Mrs. Defis a'i chwpwrdd gwydyr yn llawn o souvenirs, ac allan drwy'r drws.

"la," meddai Mrs. Defis, heb gau ei cheg ar ôl dweud yr "ia," ac heb wybod beth oedd hi'n ei ddweud, ond yn gwybod fod rhywbeth o'i le ar y stiwdant.

******

Cododd o'i eisteddle ar y graig pan oedd y melyndra olaf yn cilio o haul Mehefin. Roedd yna olau trydan gwan i'w weld yn ffenestri rhai o dai y dref islaw, a rhyw brysurdeb newydd yng ngherddediad y dynion modfedd.

Cerddodd yn ôl dros y caeau, i'r dreflan gyfagos, i gyfeiriad y llety.

Ar ben y stryd, gwelodd fod y dyn-drws-nesa yn dai i grafu a llyfnu'r drws ffrynt, yn union fel yr oedd oriau 'nghynt.

"Mae'n nosi'n braf," meddai'r dyn-drws-nesa, yn gIên ddigon, wrth i Wilias gerdded i lawr un llwybr y ddau dþ; "Braf fory eto, 'dwy'n siwr."

"Gobeithio, wir!" atebodd Wilias; "Nos dawch!" Roedd ei swper yn ei ddisgwyl ar y bwrdd, a'r llenni wedi'u tynnu'n dynn, yn aros y golau trydan.

Ac am y tro cyntaf erioed, fe wyddai Wilias mai heddiw yw bywyd, a phopeth yw bodolaeth. Ond ni wyddai eto mai Marian oedd y ddau.

Cyhoeddwyd yn BARN, Medi 1966.
Ailargraffwyd yn
Amryw Ddarnau (Cyhoeddiadau Modern, 1968).


Y BEIC

DRANNOETH, gwelais ei seren uwchben y binwydden, drwy'r ffenest oer, a gwyddwii mai'r nos a'i creodd hi. Gwyddwn mai duwch y nos oedd piau'r disgieirdeb, mai ehangder y tywyllwch a roddodd iddi ei hunigrwydd hunllefus. Un seren, a'r nos ym mhobman; unigrwydd, a'r golau gwan yn gwenu yn y pellter hiraethus.

Ychdig oriau - ddoe, ganrifoedd yn ôl - codais y beic. Rhywun arall a'i cododd ef. Doedd y beic fawr gwaeth - rhyw sgriff fach ar enaml coch y ffrâm, a'r felin wynt blastig ar gorn chwith y beic wedi stymio chydig.

Doedd na fawr o waed, chwaith, medde-nhw. Haen denau o
eira briwsionllyd ac ôl sgid y lori yn dduach o'r herwydd. Rhyw
smotyn bach yma ac acw, medde-nhw. Dim ond ei law chwith oedd wedi'i hagru gan yr olwyn flaen.

Codais y beic. Roedd arall wedi'i godi ef. Roedd y beic yn drymach, efallai, a'i haeam yn oerach, efallai. Coch oedd y beic hefyd, a'i felin wynt blastig wedi 'stymie ychydig, nemor ddim.

Ers talwm oedd hynny; roedd y clychau wedi hen ddistewi, yr anrhegion wedi'u hysgiyfaethau yn nhai eraill, a'r carolau disgaidd di-Dduw wedi'u cordeddu'n fud. Erbyn hyn, roedd y diwrnod hir-ddechrau yn ddoe.

Edrychais eto ar ei seren, a gwyddwn nad oedd o fewn cyrraedd. Nid oedd modd i mi ei chyffwrdd. Roedd yn bell ac yn unig, a'r nos wedi'i chreu.

******

"Beic!"

Roedd ei lygaid yn ddisgieirach nag unrhyw seren, a'i wenau yn fiwsig.

"Un coch!"

Diflanodd y wên am eiliad: "Does dim melin wynt!"

"Oes siwr!" meddai'i fam, gan roi'r bocs carbod iddo. "Dyma

hi!"

"Beic coch!" meddai eto; a "Melin wynt!" meddai, wrth agor y bocs carbod. A "Boio!" meddai, yn wên i gyd.

"Cofia di beth ddwedon-nhw wrthyt ti,” meddai’r fam.

"Cymer bwyll!" meddais innau, gan osod y felin wynt ar gorn chwith y beic.

"Boio!" meddai, am yr ail dro; a gadawodd ni.

******

 

"Mae'r ŵydd yn siwr o fod yn barod," meddai'i fam. "Mi roi'r pwdin yn ôl am ychydig - mae'r tatws wedi hen ferwi."

"Rois ti halen efo nhw 'tro 'ma ?" Rhywsut, gobeithiwn nad oedd halen yn y tatws; fe fyddai hynny'n esgus bach i rwgnach tipyn.

"Do."

"0!" Doedd dim arall i'w ddweud - dim ond suro ychydig mwy dan y croen, a diawlio'r Nadolig yn ddistaw, a cheisio crebachu ychydig ar y llawenydd ffwdanus ac ar y doniolwch ffuant.

"Ble mae'r hogyn 'na, dwed?" Roedd hyn yn rhoi cyfle i'r surni epiesu. "Mae o'n gwybod yn iawn faint o'r gloch 'di hi."

"Sut ?" gofynnodd ei fam, yn ddistaw o'r gegin.

Ond cefais arbed osgoi'r cwestiwn, oherwydd y pryd hynny y dyrniwyd y drws ffrynt.

******

"Ga'i feic Dolig, Dad ?"

"Cei."

"Un coch?"

"la."

"Mae gan Dafydd Tŷ Ucha felin wynt ar ei feic - un yn troi ac yn gwneud sŵn. Ei nain o roddodd hi iddo fo."

"Gei dithau un hefyd."

"Boio!"

******

Rhuthrais drwy'r drws ffrynt, ond ataliodd fi.

"Paid!" gwaeddodd, gan dynnu'n dynn yn ysgwydd fy nghot.

"Paid!" meddai wedyn, yn ddistewach, a trodd ei wyneb i waered.

"Paid!" meddai eto, a'i lais awdurdodol yn llawn dagrau. "Mae'n rhy hwyr."

"Y beic . . . ?"

"la."

"Dim . . . ?"

"Na," a rhoddodd ei law arall ar fysgwydd arall.

"Mi a'i nôl y beic," sibrydais, yn llonydd, a gadawodd i mi fynd.

* * * *

Roedd y binwydden wedi diflannu'n liwyr yn y duwch, a'i seren yn ddisgieirach nag erioed.

Estynnais fy llaw tuag ati. Roedd hi'n bell, bell i ffwrdd, a gwydr oer y ffenest yn llen rhyngorn. Symudais fy llaw ychydig, a diffoddodd ei seren. Tynnais fy llaw yn ol, a disgieiriodd ei seren unwaith eto.

"Boio," medais, wrthyf fy hun, yn weddi.

Tynnais y llenni ar draws y ffenest, gan gau y duwch - a'i seren ef - allan o'r tþ.

Es lawr. Roedd pawb ond ei fam wedi mynd.

"Tyrd," meddai ei fam; "Cymer 'chydig o datws a chig."

Bwyteais yn ddistaw, gan synhwyro, heb glywed, fod ei fam yn wylo yn y gegin; gan wybod, heb ddeall, fod seren yn gwennu'n wan ym mhellafoedd hiraeth.

"Dim halen yn y tatws," meddais wrthyf fy hun, ond nid wrth ei fam. 

Cyhoeddwyd yn Y Cymro, 22 Rhagfyr 1966.
Ailargraffwyd yn
Amryw Ddarnau (Cyhoeddiadau Modern, 1968).


NOS SADWRN

GLAW man, yn ddigon ysgafn i orffwys ar flew ei amrannau; wrth gil gau ei lygaid, roedd y dafnau glaw yn hollti'r golau gwan ym mhen pella'r stryd, ac yn gosod modrwy o liwiau llwydwyn o gwmpas y lamp. Rhyw niwl o law, yn hongian yn yr awyr, ac yn gorwedd fel gwlith ar gorunau'r dynion ac ar gadachau - pen merched y dreflan.

Glaw nos Sadwrn, glaw tyner yr hydref, yn ceulo'n ddistaw ar baent gwyn a phaent du'r "Bus Stop," ac yn hercian lifo, heb frysio, i lawr y postyn haearn.

Tynnodd Aled ei fys yn araf i lawr y postyn, i greu camlas o'r du i'r gwyn. Ymdoddodd ychydig o'r dafnau i'w gilydd, gan lifo'n gyflymach yn ôl ei fys; yn llwyddiant yr arbrawf, fe wnaeth gamlas arall, yn gyfochrog â'r gyntaf.

Gosododd ei fys unwaith eto ar y polyn, ond sylweddolodd fod un o'r gwragedd ifanc yn y queue yn edrych arno, a chyda here o swildod, gwthiodd ei law i boced ei got fawr; plethodd hithau'i breichiau, a gwthio'i gwefus isaf i'w cheg, yn arwydd o fuddugoliaeth.

Rhyw ddwsin oedd yn aros am y bws. Roedd dwsin neu fwy ynddo'n barod o ben draw'r dreflan, yn eu derbyn yn oddefgar, gyda balchder cynnil yr arloeswr yn llechian yn eu hwynebau.

Esgynodd Aled i'r llofft; fo oedd y cyntaf yn y gynffon, a doedd o ddim am fentro o flaen pawb i ganol y llawr isaf. Roedd hi'n wahanol i fyny - yn fwy amhersonol, rhywsut, ond eto, run pryd, yn gyfeillgar a chlên.

Eisteddodd yn y set gefn wag. Doedd o'n adnabod run o'r pump wyneb a drowyd i'w gyfeiriad - hon oedd ei ail wythnos fel myfyriwr, yn lletya yn y dreflan - a'r unig beth a wyddai am y dair merch a ddaeth i eistedd yn y set o'i flaen oedd mai merched Woolworth oeddyn - nhw. A sylweddolodd, yn ddiolchgar, nad oedd y wraig ifanc a fu'n syllu arno yn y queue ddim wedi dod i lofft y bws.

Tu allan, dechreuodd fwrw o ddifrif, yn ddigon trwm i do'r bws ganu dan y gawod, a rhowliodd y penbyliaid dŵr i lawr cwareli'r ffenest, eu hochrau'n arian yn erbyn cefnlen bygddu'r nos.

Cychwynodd y bws ar ei daith i'r dref, a rhedodd y penbyliaid dŵr wysg eu hochrau, eu boliau'n arian byw, ar hyd y cwareli gwydyr.

Roedd un o'r dair merch Woolworth a'i braich chwith ar hyd gefn ei set, ei hwyneb ar hanner tro tuag at Aled. Unwaith, gwelodd  Aled hi'n edrych arno, a throdd yntau'n sydyn i edrych ar y penbyliaid dŵr yn sglentio mynd ar wydyr y ffenest - a thu hwnt i'r ffenest, rhywle yn y duwch, adlewyrchiad gwan, megis ysbryd, o ferch Woolworth a'i llygaid tuag ato. Daliodd ati i edrych ar y rhith-ferch, nes i'r bws gyrraedd pen y daith; yna, gan droi'n sydyn yn ei set, fel nad oedd ei lygaid ddim ar y ferch iawn yn hwy nag ennyd, rhuthrodd i lawr y grisiau ac allan i'r glaw.

*****

Roedd hi'n sych a chynnes yn y dafarn lefrith, a'r cromiwm yn sgleinio fel glaw nos Sadwrn ar balmant stryd. Roedd meinciau lledr coch y cilfachau coffi yn gartrefol a chadarn; cilfach Aled, yn unig, oedd yn wag.

O'i gilfach, gwelai'r glaw yn ei harllwys hi y tu hwnt i'r drysau gwydyr, a'r cotiau glaw a'r pennau plyg yn rhuthro heibio, nôl a blaen, nôl a blaen. Weithiau, roedd un o'r pennau plyg yn ymgrymu tua'r gwres a'r golau, am amrantiad, cyn diflannu am byth; a weithiau, fe godai un, neu efallai ddau, o gludwch y cilfachau, a chodi coler yn uwch, a thynhau gwregys, ac allan, pen i waered, i'r nos Sadwrn wlyb.

Yna fe ddaeth y dair i mewn, yn wlyb diferol, ac yn chwerthin wrth ysgwyd eu hunain o flaen y cownter - chwerthin ac ysgwyd, eu hwynebau'n fflamgoch, mewn dawns gyntefig i dduwiau'r glaw.

Gwelodd Aled hi, a hithau Aled. Edrychodd yntau ar y gwpan goffi o'i flaen, a throdd y coffi'n araf. Edrychodd eto, ond roedd y dair a'u cefnau ato, yn archebu coffi, ac yn chwerthin, chwerthin, chwerthin, a'i chot law hi'n dynn amdani, a'i gwallt, wedi'i ryddhau o'r sgwâr sidan, yn fyw gan chwerthin.

Daeth y dair tuag at ei gilfach, cwpan goffi yn llaw bob un, a'r cwpanau llawn yn gorfodi rhyw urddas syml i'w cerdded, a hudoliaeth newydd i'w hosgo.

Closiodd Aled yn nes i wal y gilfach; run pryd, cododd goler ei got. Ni wyddai'n iawn beth i'w wneud. Tynnodd ei gwpan goffi yn nes ato; yna, gwthiodd hi 'mhellach oddi wrtho. A phan gododd deuddyn o'r gilfach olaf cydrhwng Aled a'r dair, a'r dair yn dewis y gilfach wag honno, roedd y rhyddhâd a'r siom cyn gryfed â'i gilydd.

Eisteddodd a'i hwyneb wedi'i gyfeirio tuag ato, weithiau'n diflannu o'r golwg tu ôl i un o'r ddwy arall, yna'n ail ymddangos, mewn fflach o chwerthin gwridog, rhwng y pennau duon.

Cododd o'i chilfach mewn ton o chwerthin. Gwelodd Aled hi'n nesu ato, sigaret farw rhwng ei bysedd, a'r ewinedd yn gochbiws. Plygodd tuag ato, yn dal y sigaret fodfedd o'i gwefusau trwchus. 
"Sgynnoch-chi dân,plis?"

Wrth osgoi'i llygaid, gwelodd Aled y pennau duon eraill ar dro, yn gwenu sialens. Roedd arogl glaw ar ei chroen gwlyb, yn deifio'i ffroenau, a theimlai'i hun yn gwrido fel merch.

"Dwy'i ddim yn smocio ... sorri!" Ceisiodd wenu, rhyw wên fach grynedig, wan.

"O!" Ymsythodd, gan adael y sigaret a'r ewinedd cochbiws yn eu hunfan, yn sialens o hyd.

"Sorri!" Cynigiodd eto, a'r wên yn gryndod babiaidd.

Trodd y ferch - yn araf i ddechrau - yn ôl tua'r gilfach, a'r pennau duon yn cyd-symud â hi, fel pennau pypedau dwl.

"A'i nôl rhai," baglodd Aled, yn laddar o chwys, a'i lais yn gymysg o ymddiheuriad ac ymbil.

Efallai na chlywodd hi ddim. Eisteddodd, taniodd un o'r lleill sigareti'r dair, a chwarddodd y dair yn uwch, uwch, uwch nag erioed.

Brysiodd Aled yn euog heibio'u cilfach. "Nos dawch!" : roedd y geiriau'n ei dagu. Cododd hithau ei phen, gan esgus wenu'n oeraidd a di-sut, a'r ddwy arall yn gwenu o glust i glust.

Plygodd Aled ei ben i'r glaw, a diflannodd i dduwch gwlyb y nos Sadwrn.

 

*   *   *   *

Roedd y wraig ifanc ar y bws, a dyn efo hi, ysgwydd yn ymserchu ysgwydd, yng nghlosni anwybodaeth.

Gwelodd Aled nhw wrth esgyn y grisiau, a gwelodd nhw eto wrth ddisgyn o'r bws yn y dreflan.

Prysurodd y wraig ifanc a'r dyn i gyfeiriad y golau gwan ym mhen pella'r stryd, ac wrth i Aled roi ei law ar lidiart gwlyb y llety, clywai'r glaw yn chwerthin yn y rhigolau, a gwelai'r dŵr yn dawnsio'n ddu ac yn arian ac yn orfoleddus i mewn i'r gwter tywyll.

Cyhoeddwyd yn Y Cymro, 22 Rhagfyr 1966.
Ailargraffwyd yn
Amryw Ddarnau (Cyhoeddiadau Modern, 1968).


Y Gwrthod

Y Gwrthod; stori fer gan Owain Owain

 

Y Gwrthod: Rhan 2

Cyhoeddwyd gyntaf yn 'Barn', Mai 1967

Ailargraffwyd yn Amryw Ddarnau (Cyhoeddiadau Modern, 1968).


NI'N DAU

GWELAIS ef yn cerdded drwy'r dail, yn llusgo'i draed drwy'r Iliwiau, a'i gorff bach crwn yn ddu yn erbyn y melyn a'r coch a'r melyngoch drud.

Roedd o'n rhy bell i ffwrdd i mi fedru gweld ei wyneb unwaith eto - y ddau lygad du, crwn, bach, a'r dannedd hen yn grwst llwyd, a rhychau'i groen yn drwch o fryntni ddoe.

Sgidia-hoelion-mawr am ei draed, yn rhy drwm i'w codi - y dail yn gawod felen ar eu trwynau, ac yn rhychio'n wlyb o'u hôl. Cot ddu fawr yn gloch o'i gwmpas, a'i ddwylo ar goll yn ei llewys. Dim het, a nemor ddim gwallt. A'r got ddu'n dynn ar y crwman bach crwn.

'Dwn i ddim i ble roedd o'n mynd. Mae'n debyg na wyddai yntau ddim, chwaith.

***

Roedd hi'n haws rhoi'r nodwydd yn ôl ar ddechrau'r record nag estyn record newydd o'r gist - a ni fydd pumed simffoni Beethoven, o glywed ei hanner cyntaf am y pedwerydd tro yn olynol, yn hþn o'r herwydd.

Fe gochodd y tân ymhen dim. Pric neu ddau, a throi dwrn y ffliw 'run ffordd a'r cloc - dyna hi. 'Doeddwn i ddim wedi sylwi, yn ystod y tri pherfformiad cyntaf, fod y tân yn mynd drws nesaf.

A pheth arall - roedd y coffi du yng ngwaelod y gwpan wedi oeri. Sylwais i ddim ar hynny, chwaith, yn ystod y trydydd perfformiad.

Llyncais y gweddill o'r coffi oer, a gwrando'n anniddig ar y record gormesol.

Efallai mai tri pherfformiad, wedi'r cwbwl - yn olynol - yw rhicyn syrffed yr hanner cyntaf o bumed simffoni Beethoven.

******

'Dwn i ddim, mwy na wyddost ti, i ble roedd o'n mynd. A fedrwn i ddim yn fy myw dynnu fy llygaid oddi arno, y creadur bach du, hen, a'r dail mor goch a melyn o'i gwmpas, a'r sgidia-hoelion-mawr yn Ilithro'n drwsgwl drwy'r sisial amryliw.

Mae'n bosib mai mynd adre roedd o - arferiad yn hytrach na mympwy. Yn ol i'r stafell bygddu, i slytian yfed te melys. cyn llowcio'r mwydon bara o'r gwpan, cyn piso'r tan yn farw, a chyn cysgu'n belen ddu, got fawr, ar y fatres oer.

I freuddwydio, efallai. Am de melys a mwydon bara, o bosib.

Neu arall, efallai.

Wyddwn i ddim. A 'does gen-i ddim hawl i wybod.

******

'Dydi dau bric fawr o gynhaliaeth i dân, na phumed perfformiad - yn olynol - o hanner cyntaf pumed simffoni Beethoven i'r enaid.

A 'does 'na fawr o bwrpas mewn yfed gwydraid o win coch rhad - serch y llwyaid siwgwr - ar ôl tair paned o goffi du.

Rhois y fraich a'i nodwydd i orffwys, a throi dwrn y ffliw yn groes i'r cloc. Gadewais y gwpan wag a'r gwydr hanner llawn ar y pentan enaml melyn. Ac es i'r gwely.

I freuddwydio, efallai.

Am hen ddyn bach du, crwn, yn dawnsio cerdded drwy'r dail melyn, ac yn canu, canu, canu pumed simffoni Beethoven.

Cyhoeddwyd yn Y CYMRO, 21 Rhagfyr 1967.

Atgynhyrchwyd yn Amryw Ddarnau


 

DYDD SUL

PEIDIODD amser a diflannodd lle. Roedd y pedwar mur a'r colofnau haearn yn rhan o gân ddibatrwm y gwynt a'r glaw, a'r meinciau llonydd, un ar ô y llall, yn fylchau llwyd rhwng tipiadau distaw y cloc.

Rhywle . . . a rhyw dro. Nid oedd pendantrwydd i amser nac i le - dim ond crwydriadau'r llygaid yn creu rhith syniad o le, a'r aros difesur yn creu amser.

Ceulodd gwybodaeth; a'r ceulad oedd sylwedd pob rhith.

Oddigerth i'r darn bara. Hwn oedd cnewyllyn y ceulo. Hwn hefyd oedd man cychwyn pob taith. Hwn oedd rheswm a chyfanrwydd y meinciau a'r dipian, y glaw a'i swn, y cloc a'r colofnau haearn. Hwn oedd popeth a phob amser, yn ddim ac yn ddigyfnod, yn rhywbeth, yn bopeth.

Yn Dduw.

****

"Gymri-di fwy o refi?"

"Na 'naf - does 'na fawr o flas amo fo." Sychodd ei geg gyda chefn ei law.

Roedd y grefi wedi magu croen ar ochrau oer y blat, a'r damau bras o'r cig mollt wedi fferu i'w gilydd. Sychodd y grefi gyda'r darn bara - doedd dim tatws ar ôl o amser cinio. Llyncodd y bara seimlyd, a gwthiodd y blat ychydig fodfeddi oddi wrtho.

"Mi gymra'i damad o bwdin."

"Does 'na ddim ar ôl. Y chdi orffennodd o - amser cinio."

"Mi gymra'i frechdan jam, 'ta!"

Aeth hithau i'r gegin i nô y jam a'r dorth dafellog.

Taenodd yntau'rjam yn drwch ar un o'r brechdanau, a gwthiodd y dafell yn goch i'w geg. Roedd rhimyn o'r jam yn goch ar ei ên, a sychodd ef a'i fys, a'i lyfu.

"Bara 'jam yn bwdin!" Cododd heb symud ei gadair, a disgynnodd honno i'r llawr, yn glewt.

"Bara 'jam," sgyrnygodd, dan ei wynt, ac aeth allan o'r gegin ac i fyny'r grisiau, heb godi'r gadair. "Swpar wyrcws!" sisialodd yn sarrug ar ben y grisiau.

Yn y gegin, plygodd hithau'r papur amryliw yn dynn am y gweddill o'r bara tafellog, a blasodd lwyaid o'r jam cyn cau'r pot yn bendant dynn.

"Dwyt-ti'n haeddu dim gwell!" gwaeddodd, wrth y bwrdd gwag.

******

Roedd y darn bara yn wyn, wyn. Sgwâr ydoedd, ciwb perffaith, pob gronyn yn wyn, yn sgwâr o ronynnau, yn giwb o wynder llawn.

Nid oedd yn siwr sut i'w ddal. Nid oedd byth yn siwr sut i'w ddal. Nid oedd erioed wedi gwybod sut i'w ddal.

Gwelodd y gwynder, a theimlodd y perffeithrwydd ciwbaidd yn gwthio'n glos i'w gnawd ei hun.

Syllod amo, ar y gwynder ysblennydd, yn dynn yn ei fysedd brwnt. Gwelodd y croen euog yn llybeinio'r perffeithrwydd gwyn.

Clywodd y glaw a'r dipian yn bell, ac yna'n agos, a gwelodd gefn mainc yn dilyn cefn mainc, un ar ôl y llall, yn adleisio'r glaw ac yn cyd-symud a'r cloc, yn sgleinio'n goch, yn llenwi amser, yn gwawdio disgyblaeth lle, a'r colofnau haearn yn sefyll, sefyll, sefyll.

Gwnaeth fel o'r blaen. Agorodd ei geg, i ddisgwyl y bara. Dilynodd y bysedd euog y darn gwyn. Ymdoddodd y perffeithrwydd i'w boer ei hun. Llyncodd ef, i'w berfedd ei hun, yn wynias wyn.

A gwyddai. ar ôl ugain cynhaeaf a mwy, mai hwn oedd ffrwyth pob cynhaeaf a fu erioed. Gwyddai mai yn hwn y llechai holl heulwen holl hafau'r byd, mai i hwn y distyliwyd pob cawod a phob gwlithyn ers yr enfys gyntaf.

Gwyddai mai hwn oedd Duw.

******

"Gymri-di fwy ?"

"Tamad o gig - paid a rhoi dim mwy o'r tatws 'na i mi." Gwthiodd y blat ginio i'w chyfeiriad.

"Hwda!" meddai toc, ar ôl dod yn ôl o'r gegin bach, gyda'r cig iddo ef, a mwy o ginio iddi'i hun, a phwdin reis i'r ddau.

Claddodd yntau'r cig, a rhawiodd y reis glydiog ar ei ôl.

"Wyt-ti'n mynd i'r capal pnawn 'ma?"

"Ydw," atebodd yntau. "Cymun," meddai wedyn, yn ddistaw, braidd.

"Rho dy got fawr," meddai hithau. "Mae'n ei thywallt hi, allan."

"Mm," meddai. Ac wedi bwyta ail blatiad o'r reis, a chrafu'r ddysgl, cododd yn ddiseremoni o'r bwrdd.

******

Wedi oedfa'r prynhawn, a the distaw o frechdanau a chacen siop a jeli melyn, cysgodd yn drwm yn y gadair freichiau ger y tân.

Yna deffrôdd - funudau'n rhy hwyr i fynd i oedfa'r nos. Cododd o'r gadair, aeth i'r tþ bach ac yn ôl, ac - heb yngan gair - pendym- piodd yn y gadair freichiau hyd amser swper.

"Tyrd i nôl swpar."

Cododd yn flin o'r gadair freichiau, ac eisteddodd yn rwgnachlyd fud wrth y bwrdd.

"Gymri-di fwy o refi?" gofynnodd hithau, toc.

"Na 'naf - does 'na fawr o flas arno fo," a sychodd ei geg gyda chefn ei law.

*****

Gwyddai mai'r darn bara hwn oedd ffrwyth pob cynhaeaf a fu erioed. Gwyddai mai er mwyn hwn y bu'r troi a'r hau a'r medi a'r trin. A gwyddai fod y perffeithrwydd gwyn, bellach, yn rhan o'i gorff ef ei hun.

Cododd ei ben. Ac heb feddwl, yng ngrym arferiad ei ddeugain mlynedd, sychodd ei geg a chefn ei law.

Cyhoeddwyd yn BARN, Chwefror 1968.
Ailargraffwyd yn
Amryw Ddarnau (Cyhoeddiadau Modern, 1968).


DIM OND FORY ...

DAU hen ŵr a thair hen wraig oedd piau'r aros - 'doeddwn i ddim yn ei berchen, ond yn unig yn ei deimlo a'i frith adnabod.

Eisteddai'r naill hen ŵr wrth y tân, yn gwylied y gwres ac yn chwythu ychydig fwg baco i fyny'r simdde. Un esgid ddu ar y ffender ddur, a bysedd cam ei law chwith yn ysgafn ar ei ben-glin, yn maglu gobaith. Cuddiai'r bysedd eraill rhwng clustog ei gadair a chysgod ei glun, i gelu'r anobaith. Weithiau, fe symudai'r bysedd chwith o'i ben-glin i'w getyn mewn rhangylch eofn, i fowldio'r baco yn ddianghenraid, ac i brofi bywyd. Dro arall, fe symudai'i ben o gyfeiriad y tân i edrych drwy'r ffenest ddall - yn ofni gweled, ac yn falch o'r llenni tynn ac o'r llanw golau a lenwai'r ystafell glyd. Ac weithiau, mewn ennyd o wendid, fe siglai'i ben yn ôl, a'r edrychiad lan, ac ochenaid trichwarter canrif yn Ilithro'n ddistaw rhwng y gwefusau llwyd.

Gorweddai'r llall tu hwnt i'r palis pren, a'i lygaid bach duon yn chwerthin a chwerthin. Gorweddai'n glyd, yn gynnes, yn gyfforddus dawel - a'r llygaid yn pefrio, yn dân o lawenydd, yn fwrlwm o fywyd.

Wrth gwrs fe wyddai; a gwyddai fy mod innau'n gwybod. 'Roedd ef yn deall, hefyd; ond nid oeddwn i.

*****

Duwch diderfyn tu hwnt i bob lamp, eu hedefyn golau yn pallu cyn plymio'r dyfnder. Roedd ambell ddeilen hwyr yn crynu'n arian yng ngolau'r lamp agosaf, a thalcen y tþ yn llwyd a gwlyb yn ei golau gwan.

Doedd neb, bron, yn fyw yn y pentref - y mwyafrif yn farw wrth eu setiau teledu, yn gwrando'n fyddar ar y sgrechian, ac yn rhythu'n bŵl ar gysgodion byw. Doedd na neb i'w weld ar stryd unig y pentref, nac unrhyw symudiad - dim ond y dail a grynai'n hwyr yng nghysgod lamp.

Dim bywyd, bron, a nemor ddim symud. Ac yn y tþ, dau hen ŵr a thair hen wraig yn disgwyl tragwyddoldeb.

A dau lygaid du, yn gwybod ac yn deall, yn orlif o fywyd, ac yn chwerthin mewn llawenydd.

A minnau, heb ddeall, yn ei weld a'i adnabod.

******

Curais y drws yn ysgafn, ei agor cyn y gwahoddiad, a'i gau yn sydyn ar fy ôl, cyn i'r golau ddiflannu'n llwyr drwy'i gil, ac ymgolli'n ddim yn y tywyllwch ofnadwy.

Lled gododd hithau o'i chadair, heb sythu o'i phlyg, i'm cyfarch heb eiriau. Symudodd y ddwy arall, heb godi - pletiad ffedog, ac amnaid troed. Symudodd yntau'i ben o gyfeiriad y tân, a'm cyfarch a'i fysedd cam, heb ddwedyd dim.

Un hen ŵr, a thair hen wraig, a minnau'n deall y distawrwydd.

******

Wir, doeddwn i ddim wedi disgwyl ei weld yn edrych mor dda.

Fel cyw gog, yn fywyd i gyd.

Roedd y gobennydd pinc yn edrych yn od, braidd. Dwn i ddim pam, ond feddyliais i 'rioed mai gobennydd pinc fyddai ganddo.

Oedd, roedd o'n fwrlwm o fywyd. Roedd bywyd yn dawnsio yn ei wythiennau, yn gwthio'n heintus o gell i gell, yn Ilifo drwy bob cyhyr ac yn gorlifo'n orfoleddus o'r ddau lygaid du.

Bywyd a bywyd a bywyd, mewn corff llonydd, ar obennydd pinc, a'r ddau lygaid yn ddawns o orfoledd.

"Doedd hi fawr o Ffair G'langaea'," meddais wrtho'n dwp. "Roeddach chi'n well eich lle fan hyn."

Gwenodd yn gwrtais, yn llawn cydymdeimlad â mi, a'r bywyd yn dal i fyrlymu o'r ddau lygaid du.

"Smart iawn," meddais, yn fwy twp na chynt, gan bwyntio tuag at y gobennydd pinc. "Smart iawn" meddais eilwaith, yn ymbalfalu.

Gwenodd eto, gan swatio'n dynn i'r cynfasau, a'i lygaid yn gwawdio 'nhwpdra - yn ddifalais, yn llawn cydymdeimlad, ond yn ddireidus wyllt.

"Mae nhw'n deud . . . " dechreuais eto; ond gwyddwn yn iawn nad oedd modd i mi na neb arall ddweud fawr o ddim a fuasai'n bwysig neu'n ddiddorol.

Mor bwysig â Ffair G'langaea' ar ddechrau tragwyddoldeb. Mor ddiddorol a gobennydd pinc i un yn dechrau byw.

Cyhoeddwyd yn BARN, Ebrill 1968.

Ailargraffwyd yn Amryw Ddarnau


Y PYSGODYN ARIAN

I LAWR yn nyfnderoedd glas y lagwn, mae'r pysgod arian yn gorwedd heb gyffro. Weithiau, ond ddim yn ami, mae'r fraich ddur yn gadael ei hogof ddu, yn llusgo'n araf drwy'r dwr llonydd, yn Ilithro'n llyfn a distwr drwy'r tawelwch llaith, ac yn sefyll am ennyd uwch y cyrff arian. Yna, heb swn, mae'r grafanc haeam yn ymlacio, a'r corff gwyn metalaidd yn lled-lithro, lled-ddisgyn, i orffwys, gyda'r gweddill, ar waelod y lagwn.

Mae'r fraich ddur yn dychwelyd i'w chuddfan, a'i thawelwch hi a llonyddwch y pysgod mud yn ddwndwr dychrynilyd.

Clywir mwmian ysgafn yn rhywie - mwmian trydanol y peiriannau pell - a chlic derfynol y grafanc yn ei hogof isel, ymhell yng nghrombil y peil. Dwysheir y distawrwydd gan y mwmian ysgafn, a thawelwch ofnadwy yr Atornfa yn atsain o fur i fur.

Erys y pysgod silindraidd ar waelod y lagwn las. Maent yn farw ac yn arian byw, eu cyrff yn oer, heb lygaid, heb gnawd, a'u boliau'n llawn o'r gronellau gwenwynig a grewyd gan ddyn.

Mae dwr y lagwn yn las. Ond mae'n edrych yn oer, a golau treiddgar y tiwbiau trydan yn farrug gwyn ar ei waliau plwm.

Crynnaf ym mhoethder y gwres canol. Gadawaf y lagwn a'i bysgod pliwtoniwm, a dychwelaf i'm swyddfa gyfagos.

Eisteddaf. Drwy'r ffenest fewnol, gwelaf y dynion prysur yn cyfiawnhau'u cyflogau, yn gwneud eu dyletswydd, yn ennill arian i fynd a'u teuluoedd ar draethau lleuog yr arfordir heintus. Maent yn brysur iawn - yn puro pliwtoniwm, yn cywain i'w hysgyborau, yn rheibio'r Cread, yn gwatwar Duw.

Edrychaf ar y lamp goch. Mae'n dal yn ddall. A'r gloch wen gyda'i barrau cochion. Mae'n dal yn fud. Pwy, tybed, a wel y lamp yn cochi, ac a glyw y gloch yn canu ? Ni fydd ail nac eilwaith.

Na hidia - mae'r pysgod arian yn dawel, a'u boliau'n llawn o'r wyau mall.

Rhof fy nhraed ar y ddesg. Gwelaf y lamp goch ddall yn ddall o hyd, a chlywaf fudandod y gloch. A disgwyliaf, fel y disgwyliais droeon, am gochni'r lamp, am gnul y gloch, am gyffro maleisus y pysgod milain.

Nid yw'r lamp yn goleuo. Nid yw'r gloch yn canu. 0 bryd i'w gilydd, fe ddaw'r gweision dwi i mewn, eu gwenwisg yn rhagrithio gwynder, a'u shibolethau technegol yn gwaradwyddo gwareidd-dra.

Mae'r pysgod yn byhafio. Fydd 'na ddim cyffro yn y lagwn heno.

Fe gaf gysgu-ci-bwtsiar a'm traed ar y ddesg, a'r gloch a'r lamp goch bron yn anghof.

Ac o bryd i'w gilydd, fe gaf edrych drwy'r ffenest fewnol, a gweld y dynionach yn gwneud eu dyletswydd - yn gwarantu i'r oesoedd a ddel oroesiad y pysgod arian.

******

loshico, Shiconw a'u mam. Ac wrth gwrs, y bychan.

Gorweddai'r bychan ar y traeth cynnes, a'r glustog sidan yn obennydd i'w ben. Dwylath oddi wrtho, eisteddai'r fam ar ei chadair gynfas. Mae'r ddau arall yn y m6r.

Mae'r fam yn gwylio'r bychan; yn gwylio'i aelodau lluddiedig, y wyneb tenau, y croen sy'n liwytach na'r melyn iach. Mae'n ei wylio'n llechwraidd; nid yw am iddo'i gweld.

Deufis arall, efallai. Dwy flynedd, hyd yn oed ? Ond pythefnos. . . ?

Yn enw'r Cyndadau - nid pythefnos!

Mae'r bychan yn symud ei fraich yn araf, yn rhoi'i law yn llen rhyngddo ef a'r haul. Hithau'r fam, heb symud, yn nesau, yn dyfeisio'r frawddeg nesaf, yn ymarfer y wen, yn ewyllysio'r dagrau'n sych.

Ond nid yw'r bychan yn cyffroi. Mae hithau'n pellhau, a'r ewyllys yn pallu.

"Drychwch, Mam!" Y ddau arall, yn syth o'r heli, eu cyrff yn ddisgiair o'r mor, a'r pot gwydr yn siglo'n beryglus o'i linyn brau.

"Pump o bysgod bach, Mam! Rhai arian! Fi ddaliodd dri - a Shiconw'rlleill."

Mae'n ceisio gwenu. "loshico," meddai, "Dangos nhw i'r bychan."

Mae yntau'r bychan yn lled-godi'n lluddiedig ar un penelin, yn edrych ar y pysgod arian yng ngwaelod y pot gwydr.

"Del!" meddai, a'r ffieidd-dra ym mer ei esgym yn gwneud y gair yn gamp.

Cyhoeddwyd yn BARN, Ebrill 1968.

Ailargraffwyd yn Amryw Ddarnau


DEFAID ERAILL

SGOTYN dwylath oedd Swyddog Platŵn y Cadetiaid, yn debycach o ran gwedd ac osgo i fenyw-ddyn yr hysbysebion "Drambuie" yng nghylchgronau sgleiniog y Taleithiau Unedig nag i'r honglad cyhyrog hwnnw sy'n taflu morthwylion o'r blychau ceirch uwd - sydyn. Ac eithrio'r cilt o liwiau pleth, a'r petheuach blewog ynghrog wrth ei wregys, a charn-pen-carw y sghean-dhu rhwng ei hosan wlân a'i ben-glin noeth, 'roedd o'n fwy o Sais nag o Sgotyn. Moelni cytseiniol y Sassenach oedd prif nodwedd ei leferydd; estron hefyd oedd seiniad ac orgraff ei enwau Celtaidd. Saesneg, wrth gwrs, oedd ei unig iaith; Anglaidd, felly, ei fryd, a meudwyol ei athroniaeth. Llais oer oedd ganddo, yn anghyson â'i ymddangosiad, ac yn gwneud i ddyn anghofio'r hysbysebion sgleiniog ac ail-edrych ar y sghean-dhu.

"Bristol Cream" oedd cyfarchiad cudd y noson honno - y Capten Douglas Vaughan ei hun a'i dewisodd. Dewisiad ffroidaidd addas - ni ellid gwell.

Cyflwynodd y geiriau cudd i'r ugain ohonom, dan olau lleuad nid tyner, a'r fawnog dan ein traed. Fe'i cyflwynodd i ni heb arlliw o'r "r" yn yr un o'r ddau air, a'r gwynt oer oddi ar y meini mynyddig yn cwhwfan ei gochl Albanaidd, a'i wneud yn wawdlyn o ddyn. Roedd ffon bugail ganddo - ffon bawd, o ddraenen ddu, o dras Gymreig, o'r cynefin hwn.

Meddyliais innau - yn y modd anghyson hwnnw o feddwl sy'n perthyn i bob sefyllfa afreal - am wynt cryf ar rosdir uchel, am Mr. Rochester, am Orson Welles, am gadeiriau esmwyth a chil-olau cynnes, am docynnau swllt a naw i ddau, am olau lloer arall a hwnnw'n dyner.

"Bwledi iawn y tro hyn," eglurodd - a'i lais ronyn yn gynhesach nag arfer - "gan mai hwn yw'r olaf o'r ymarferiadau." 

Islaw, ond eto'n agos, 'roedd "sŵn hen afon Prysor" yn ddistaw herio'i lais; blas barrug ar y gwynt, a'r gwynt a'r barrug yn esgus i grynu.

"Un y cant," eglurodd, "ar gyfartaledd, o ddamweiniau angheuol - mae'n dderbyniol hollol gan y Swyddfa Rhyfel." Profais innau, am y tro cyntaf, y ffug-sicrwydd hwnnw o anfarwoldeb sy'n llareiddio'r ystadegau mwyaf erchyll, a gwneud eu sicrwydd mathemategol yn eiddo'r cant-namyn-un arall.

Eglurodd hefyd y cynllun iawndal - "i'r brodorion" - ar gyfer pob dafad a leddid. Eglurodd hyn yn fanwl; nid oedd ei Swyddfa Rhyfel yn hoffi cyfartaledd uchel o ddamweiniau angeuol i ddefaid.

Roedd y gwynt yn chwythu'n gryfach ac yn oerach, y gochl Albanaidd yn cwhwfan yn fwy dramatig, a'r lleuad yn dringo'n uwch dros y fawnog. Cydiodd afrealaeth y sefyllfa ynof yn fwy tynn nag erioed, a theimlais fy hun yn chwerthin yn ddistaw. Pendronais - ai un ddafad y cant (megis gyda'r milwyr) oedd "cyfartaledd derbyniol" ei Swyddfa Rhyfel? 0s llai - ai economeg yr iawndal oedd y ffactor pwysicaf? Neu rhyw lygriad sylfaenol a dwfn ym mhersonoliaeth Lloegr sy'n rhoi N syml o flaen yr S.P.C.C., ond R frenhinol o flaen yr S.P.C.A.? Neu - pwy ŵyr? - fod penteuluoedd y dosbarth llywodraethol-milwrol yn Lloegr yn fwy epiliog na hyrddod Meirionnydd ?

Oriau'n hwyrach, a minnau'n dal i bendroni, daeth dwylath o ddyn mewn cochi Albanaidd ataf drwy'r swn a'r barrug, gan sibrwd "Bristol" hufenaidd yn fy nghiust. Sibrydais innau - ar ol hir ymbalfalu - "Un y cant." Ond chlywodd o ddim, mae'n debyg; o leiaf, nodiodd ei ben yn fodlon, a diflanodd yn orsonaidd wych i'r cysgodion brau.

***

Lladdwyd saith dafad - rhyngom ni a nhw. Ni laddwyd yr un o'r cadetiaid, nac ychwaith yr un werinos y "gelyn." Fe fu'r bwledi byw fodfeddi'n uwch na'r talaf; a'r talaf, fel pawb, ar ei gwrcwd. Saith dafad - pump gennym ni, a dwy ganddyn nhw. A'n tair dafad gogyfrif ni yn dri pheint o gwrw drannoeth - tri pheint yr un, ar draul y "gelyn."

Iawndal, wrth gwrs, i'r "brodorion;" a'r Capten Vaughan a'i Swyddfa Rhyfel heb wybod, debygwn i, am y gampwriaeth gudd a'i haddewid o gyfeddach rhad.

Sarhawyd neb; anrhydeddwyd pawb. Dim ond un fethodd a chofio'r cyfarchiad cudd; a hwnnw heb ei ddarganfod.

* * * *

Llanwyd y pebyll â thrwmgwsg. Dim ond ychydig oriau o gwsg oedd i'n rhan - am chwech o'r gloch y bore fe fyddai Jock MacGregor, fel arfer, yn canu'r pibau rhwng y rhengau pebyll.

Pawb yn cysgu. Pawb ond un. A hwnnw'n gwrando ar "sŵn hen afon Prysor" drwy ganfas tenau'r babell, yn teimlo'r grug dan ei fysedd wrth erchwyn y gwely gwersyll, yn dychmygu gweld y cysgodion yn symud wrth i'r lleuad ddringo'n araf "tros fawnog Trawsfynydd," ac yn cofio'r preiddiau gwasgarog, llwfr, yn y cwm estron, yn eu cynefin oer.

Sgwennwyd: 6 Ebrill 1968. 
Cyhoeddwyd gyntaf yn Barn, Awst 1968.
Amryw Ddarnau (Cyhoeddiadau Modern, 1968).


JELI COCH I DE

Hwn ydy'r darn dwaetha. Dyn a ŵyr o ble ddaw'r nesa. Ond mae o'n siwr o ddwad. Mi fydd yn rhaid i ni gael tân, doed a ddelo.

Hen styllan sych, bwdwr, wedi bod yn sgelcian ar silff ucha'r garej am dragwyddoldeb. Peth od na wnes i mo'i gweld hi echdoe, i mi hollti'r silffoedd llyfra 'na yn bricia tân.

Doeddyn nhw'n dda i ddim, yr hen silffoedd llyfra 'na. A dydy hon fawr o styllan, chwaith - un pen yn ferw o dylla pryfaid, a baw adar a phlu a gwellt rhyw oes o'r blaen yn gacan ar y pen arall.

Mae'n hollti'n hawdd - yn rhy hawdd. Mi losgith fel matsen, a phoeri gwreichion ar y ryg biws. Mi fydd y pricia yn neidio ac yn clecian, a llond simdda o fwg ac o fflamia -  a'r clapia glo yn farw ddu 'chydig eiliada wedi'r gwreichion orffen. Ond dyna fo - does dim dewis!

Mae nhw'n deidi sych yn y popty bach, a'i gael o'n lân unwaith eto. Mi fydd arni hi eisiau fo ar gyfer mwy o glytiau - yn go fuan, hefyd!

Ogla da ar y cawl - mi glywa'i o o'r fan hyn.

Ond beth 'tae 'na rhyw afiechyd yn y pricia tân? Yn y baw adar, fallai? A hwnnw'n mynd i'r clytia? Ac i'r babi? Mi ll'neua' i o'n lân - rhag ofn!

Damia'r eira 'ma! A diolch fod Jên wedi mynd pan aeth hi! Mae'n dal i bluo.

Chreda' i byth na fydd y cawl 'na'n flasus. Mi ro'i dro bach iddo fo, rhag ofn. Dydi cawl wedi cudio fawr o beth ar dywydd eira.

Damia'r llwy! A mae'r cawl 'ma'n boethach nag o'n i wedi'i feddwl - braidd rhy boeth i sgota yn ei ganolam lwy ddiflanedig! blas od ar fy mysedd i, hefyd - y llwch o'r styllen, fallai. Ta waeth, mi sterileiddith y cawl nhw - y llwy a'r llwch.

Fasa well sterileiddio'r popty bach, fallai? Rhag ofn? 

Dyna fo - mae'n lân rwan. Ogla disinffectant ei lond o. A wneith y disinffectant ddim drwg i'r ryg biws, chwaith, a deud y gwir. Dim ond brwsio'r ryg yn dda, a chael gwared o'r llwch coed a'r crimpion rhisgl; mi sychith y disinffectant yn syth bin, a fydd y ryg ddim tamaid gwaeth. A mi wneith y pricia tân yn iawn ~yr aelwyd am rwan.

Mae'n dal i fwrw eira; y gwynt sy'n ei wneud o edrych yn waeth na mae o. Mi fydd y cawl yn werth ei gael, a digon o bricia tân at fory, a'r popty bach yn ddigon glân i chi fyta'ch uwd ohonno fo, heb sôn am sychu clytia.

la - mi wna'i jeli i de. Llond powlan fawr. Digon am fory, hefyd. Mae'r hogia'n hoff o jeli. Jeli coch. Mi gledith mewn dim, tywydd oer 'ma.

Siwr fod 'na jeli, fan hyn. Na - fan hyn. Tybed? Be'di hwn? Na. Lle gebyst. . . ?

Damia'r cawl! Ond dim ots - mi wagia'i o i sosban lân. A dod o hyd i'r llwy run pryd. Fydd 'na ddim blas cudio amo fo wedyn.

 * * *

Dyna'r jeli wedi'i wneud. A'r cawl mewn sosban lân. A phricia tân fory yn sych ac yn deidi ar yr aelwyd. A'r popty bach yn lân. A'r ryg biws fawr gwaeth, mae'n debyg. . . .

O'r aflwydd! A damia'r hogla 'ma! Clapia o rew ac eira du ar y ryg biws, a banner y pricia tân wedi diflannu'n ddefnydd crai rocedau ac awyrennau a. ...

O'r nefoedd! Pedwar pâr o sanna gwlyb-diferyd yn fy mhopty bach i, ac ogla chwys traed yn gymysg ag ogla disinffectant, a dau bar o sgidia-dŵr yn dadmar yng nghanol y rhelyw o'r pricia tân - a dyna'r cawl yn berwi trosodd yn yr ail sosban!

Jên fach - brysia adra! Gei di jeli coch i de!

Y Cymro; Mehefin 1968

Amryw Ddarnau, 8 Ionawr, 1968




Y Feis

Y Feis: stori fer gan Owain Owain

 

i'w barhau