Dylanwadu ar Yr Athro J R Jones
Llythyr gan Yr Athro J R Jones yn datgan fod dwy ysgrif gan
Owain Owain wedi ei symbylu i sgwenu erthygl i'r Faner a arweiniodd
yn ddiweddarach at ei lyfr 'Prydeindod'.
Sylwer mai 'y Gymru Gymraeg' a ysgrifennodd yr Athro:
gan mai newydd iawn oedd y term Y Fro Gymraeg iddo ef a phawb arall.
26 Tachwedd, 1964
Llythyr gan yr Athro J R Jones at Owain Owain. "Y mae eich dwy erthygl,
"Oni Ennillir y Fro Gymraeg..." a'r un gyfredol yn Y
Faner ("Yr
Iaith - Arf Gwleidyddol") "Credaf fod eich her yn un bwysig dros ben. Ysgrifenais lith ar ol darllen y gyntaf ('Ateg i her Owain Owain'). "Credaf, rhyngom y byddwn wedi rhoi sialens go bwysig i arweinyddiaeth y Blaid." |
|
2 Rhagfyr, 1964
Llythyr yn dweud i'r Faner roi teitl gwahanol ar yr
erthygl, fel nad ydyw mwyach yn "amlwg mai (Gol: sylwer ar iaith y penllythyr!!!) |
|
Rhan 2 | |
21 Hydref, 1965
"Mae arnaf eisiau diolch yn arbennig iawn i chwi am yr ysgrif 'Y Dystiolaeth Brydeinig' thesis golau, cynaledig a phwysig dros ben. .... Mae'r dadansoddiad yn un anarferol o bwysig...." "Bu darllen eich ysgrif yn gysur mawr i mi ac nid lleiaf oblegid yr ategiad cryf sydd ynddi i'm syniadau i fy hun. Yr wyf ar fin cyhoeddi... Prydeindod... ac wedi bod yn teimlo'n bur bryderus ynghylch y fenter...." "Daeth eich erthygl olau chwi a chalondid mawr." |
|
Ateg i Her Mr Owain Owain; erthygl gan yr Athro J. R.
Jones yn y Faner, Rhagfyr 3ydd, 1964. 'Y mae yn aros, yn gyntaf dir Cymru - eithr yn unig y gweddillion hynny ohono sy'n parhau mewn mesur o briodas organaidd ac o gydymdreiddiad â'r iaith Gymraeg: 'Bro Gymraeg' Mr Owain Owain.' |
|
Gweler hefyd Y Faner (28/01/1965) Erthygl
gan yr Athro: 'Difrifwch y ddadl hon, fel y pwysleisia Mr Owen Owen , yw ei bod yn gwbwl bosibl i'r boblogaeth sydd ar ddaear 'Wales' gael trefn, a hyd yn oed reolaeth 'ranbarthol,' ar ei bywyd ac ar yr un pryd golli ei bodolaeth... |
|