O Lyfrgell Owain Owain Owain y person; ei fywyd 1929 -1993 Y Dydd Olaf: un o lyfrau Owain Owain Y Tafod cyfarchion y nadolig: gan yr arlunydd Owain Owain dyfyniadau am Owain Owain
 


LYTHYRAU JOHN HUMPHREYS, M.T.S.F.G.,

ynghyd â Llythyrau perthnasol eraill,

drwy garedigrwydd ei or-ŵyr, Sion ap Sinjin Homethway, T.D.

(Cyhoeddwyd gyntaf yn Y Cymro, 8.12.66 - 16.3.67)

 

Cyfres y Gyntaf, yn yr hon y mae John Humphreys, Ysw.,

M.T.S.F.C., yn trafod iechyd teuluol, dirywiad delweddau'r

oes, a phynciau eraill. (Gosodir llythyr John Humphreys,

Ysw., M.T.S.F.G., yn olaf o'r ddau am resymau hanesyddol

yn unig. Dalier Sylw: mae "Wffras" y llythyr cyntaf yn

cyfeirio at John Humphreys, Ysw., M.T.S.F.G.).

 

8 Rhagfyr, 1966.

Annwyl Wffras,

Wir i ti, 'rhen gyfaill, mae'n hen bryd i ni'n dau ail ddechrau

sgwennu i'n gilydd 'rwan ac yn y man, wel-di. Mae 'na

gymaint i'w drafod, a phethau ddim hanner mor dda ag yr

oeddyn nhw yn ein hamser ni, wel-di. Felly, dyma roi cynnig

ami, fachgen!

 

'Wna i ddim hel dail, a gofyn sut mae hwn a'r llall - 'fydda

nhw ddim gwell na gwaeth o'r gofyn. Rhyw hen siarad gwag

ydi peth fel 'na, a chymaint o bethau pwysig yn sgrechian am

gael eu trafod.

 

Dyna 'ti fusnes Plas y "Prince of Wales," Wffras bach, 'r hen

law. Rargian - dyna 'ti fusnes llosg! Mae sôn am ei roi yng

Nghastell Penrhyn; 'dwn i ddim os yw swydd agent chwarel

yn mynd efo'r ty ai peidio, ond fe wnai noson yn Ffair

Llanllechid unwaith y flwyddyn les mawr i'r bachgen, a mae

'na injans tren iawn wedi'u hamguedda yn y Castell, 'nôl

pob stori. Er, cofia di, mae'n eitha tebyg mai ei roi o'n y loj

fasa orau, a chysidro costau byw a phopeth, heb sôn am yr holl

injans tren sy'n cael eu prysur hamgueiddio. Gofia, 'r oeddwn

i wedi fy siomi braidd nad oedd Cled a Gronwy ddim wedi

rhoi'r dampar ar y syniad, a chynnig ty cownsil ym Maes

geirchen i'r Tywysog bach. Ond dyna fo - cwpan rownd ydi

hi, fachgen, a 'chawn ni byth ddau Diwc o Winsor mewn oes,

chwara teg.

 

'Chreda i byth na fuasa Ynys Enlli yn well situation i'r

Tywysog bach, a dweud y gwir mewn difri' calon. Dyna 'ti

traddodiad i ddechrau, wel-di, Wffras bach - Brenin Enlli ac

Esgyrn y Saint a phopeth. Y feri ples, siwr i ti! A 'fydda 'na

ddim angen codi Plas iddo fo - mae'r goleudy'n mynd yn

wag cyn bo hir! Gynted byth ag y bydd Atomfa newydd

Edern yn rhoi hwb ychwanegol i bethau, fydd 'na ddim

llawer o bysgod gwerth eu bwyta rhwng Enlli a Gwylfa ('dydi

sgotwrs Llyn Traws ddim eisiau goleudy, wrth gwrs), a fydd

'na 'run capten gwerth ei halen yn mentro'i long (heb sôn am

ei griw) yn y cawl môr. Na, goleudy Enlli piau hi, Wffras

'r hen law, ac Aberdaron yn Roial Byro, i roi bwrdeisdrefi

Nefyn a Phwilheli yn y shêd. Yr unig anfantais, hyd y gwela'

i, fydd colli Cynan fel un o ddarpar frodorion Aberdaron.

Magi'n cofio atoch, a chofia fi at Nel, 'r hen goes.

Wilias.

 

Annwyl John Williams,

Hyfryd o beth oedd derbyn llythyr oddi wrthych unwaith

eto, gyfaill annwyl, a deall eich bod i gyd mewn llawn iechyd,

fel ninnau, ysywaeth, oddigerth i ychydig annwyd (arnom ni,

felly, diolch am hynny) ) ac Elen hefyd, ysywaeth. Balch ydym

o roi gorffwys i'ch pryder, fod pawb yn iawn, oddigerth i'r

annwyd, gan anfon ein parchus gofion at eich annwyl briod,

Margaret Williams, yn yr un modd.

 

Cywir o beth, John Williams, yw eich cyffelybiaeth. Na,

ysywaeth, mae'r amserau wedi newid, fel y dywedais wrth

Elen ychydig amser yn unig yn ôl. "Cofiwch, Elen," oedd fy

union eiriau wrthi, fe gofiaf yn iawn, "mae pethau wedi

newid, ysywaeth."

 

Pwynt athronyddol, wrth gwrs, yw'r cyfan, fel y crybwyllais

wrth agor y noson rydd yn y Brotherhood ychydig fisoedd yn ôl,

ac ofnaf nad wyf yn eich dilyn o gwbl ynglyn a phreswylfa

H.R.H. ei Fawrhydi. Nid yw swydd agent chwarel, nac

ychwaith gofalwr goleudy, yn swydd addas i gnotyn sy'n

tarddu o foncyff brenhinol. Hyderaf, gyfaill annwyl, na

wnewch ledaenu'r fath syniadau yn gyhoeddus; ac nid da o

beth, yn sicr, ysywaeth, yw cysylltu enw'r P________ of

W_______ gyda phethau megis peiriannau hunansymudol a

Ffair Llanllechid.

 

Hyderaf eich bod i gyd mewn llawn iechyd oddigerth i

ychydig annwyd, fel ninnau, ysywaeth.

Ydwyf, gyfaill annwyl,

Yn ddidwyll,

Yr eiddoch,

John Humphreys, M.T.S.F.C.


 

Cyfres yr Ail, yn yr hon y mae John Humphreys, Ysw.,

M.T.S.F.C., yn ateb yr ail o lythyrau un John Williams,

("Wilias"), ac yn rhoi cynghorion dwfn a dihafal ynglyn â'r

priodoldeb o roi seddau i wragedd bonheddig ar gerbydau

cyhoeddus, a materion eraill.

22 Rhagfyr, 1966.

 

Annwyl Wffras,

Mi ges flas hynod iawn ar dy lythyr dwaetha, 'r hen law.

Dal ati, Wffras bach,'r wyt ti a dy lythyrau'n glod mawr i'r

gyfundrefn bresennol) ydych wir!

 

Mae arna'i flys trafod yr heniaith hefo ti'r tro yma, 'r hen

gyfaill, er bod pawb a phopeth wedi llwyr flingo'r hen gread-

ures erbyn hyn, heb sôn am ei halltu a'i phiclo a'i rhostio a'i

sgleisio cyn deneued a chig moch mewn wyrcws. Ond 'ta

waeth, mae un peth yn dal i fy mlino, a phwy wyr na wnei di,

'r hen law, yn dy ffordd ddihafal ac anfwriadol dy hun, roi dy

 fys ar bethau?

 

Ddweda'i wrthyt ti be sy'n fy mhoeni i'n fwy na dim, 'r hen

Wffras - pam mae hwn a'r llall yn poeni gymaint am yr hen

greadures? Be "di'r argymhelliad, ffrindiau? - fel basa'r pregeth-

wr gwadd yn gofyn.

 

Mi fydda' i'n meddwl yn amal am hen wraig mewn bys

orlawn, a hithau, 'r hen greadures, yn rhyw hongian sefyll

gerfydd blaenau'i bysedd, a haid o lanciau glwth yn gorfeddian

eistedd yn y seti esmwyth. Wffras bach, dyna 'ti olygfa, yn-te?

A'r hyn sy'n 'y mhoeni i, wel-di, ydi hyn - pwy sy'n mynd i

roi sêt gyfforddus i'r hen wraig, a beth sy'n ei gymell o i roi

sêt gyfforddus iddi, a pham mae eisiau rhoi sêt gyfforddus iddi

o gwbwl?

 

'Tawn i ar y bys, mi rown fy sêt iddi er mwyn dangos i'r

lleill fod 'na rywrai o hyd sydd am ddangos parch at rywun sy'n

neb - yn neb mewn fiordd o siarad, achos mae'r hen wraig yn

siwr o fod yn fam i rhywun, mi waranta, ac yn nain i lawer,

chreda'i byth.

 

Cofia, mi rown fy sêt iddi 'tasa hi'n nain i mi, hefyd - a deud

y gwir yn onest mi rown fy sêt iddi'n llawer cynt. Peth

annaturiol iawn fydda i mi beidio, yn-te? Ond mi hoffwn i

feddwl, 'r hen law, 'mod i'n dangos parch iddi am ei bod hi'n

neb, mewn ffordd o siarad, ac am ei bod hi'n rhywun, hefyd,

mewn ffordd arall o siarad, yn hytrach na rhoi sêt iddi am

ei bod hi'n nain i mi.

 

Cofia di, Wffras, 'rhen law, petawn i'n gweld un o'r glas-

lanciau'n stwffio'r hen greadures oddi ar y sêt, er mwyn iddo

fo gael mwy o le i chwyddo, mi wylltiwn yn gacwn; a phetai'r

hen greadures yn nain i mi, mi wylltiwn yn gandryll. Dyna fo,

wel-di - mae gwaed yn dewach na dwr wedi'r cwbwl. Ac er

'mod i'n pwysleisio'r argymhelliad - wel, mae'r hen natur

ddynol yn mynd yn ddynol iawn pan fo dy nain di dy hun

yn cael ei cham-drin, yn dydi?

 

Wyddost-ti beth arall, 'r hen gyfaill? Y peth dwaetha'n y

byd i mi ei wneud (gobeithio!) fyddai gweiddi yng nghlust

y dyn yn y sêt nesa : "Cod, y diawl, a dangos dipyn o barch i'r

hen ledi!" Er, cofia di, Wffras, mi waeddwn hynny - a gwaeth

yng nghlust yr hen labwst tew fydda'n gwthio nain oddi ar y

sêt. Ar y llaw arall, 'r hen law, 'chymrwn i mo'r byd am

drawo cyllell yn y llabwst i'w gael o i symud - 'faswn i fawr

gwell, wê1-di Wffras, a'r hen nain wedi'i sathru i dragwydd-

oldeb yn y sgarmes.

 

Anfon air yn fuan, 'r hen goes. Mi fydda' i'n falch o dy

sylwadau amhrisiadwy. A chofia ni'n dau at Nel.

Wilias.

 

Annwyl John Williams,

Amheuthun iawn oedd derbyn eich llythyr dilys a da,

gyfaill annwyl, a derbyn hefyd wybodaeth eich bod eich dau yn

drwyadl holliach, a'r annwyd wedi llwyr ddianc, ysywaeth.

Dychwelaf eich dymuniadau a'ch diolch diffuant gyda

chyflymdra dihysbydd, gyfaill annwyl.

 

Dechreuasoch drwy drafod yr heniaith annwyl, a da oedd

hyn, i'm tyb i, gan fy mod am ddweud llawer, yn gyngor da,

ysywaeth, nad oes neb dyn na neb arall wedi'i ddweud i'r

presennol foment. "Gwr cas," fel y dywedais wrth f'annwyl

briod, Elen, ddyddiau'n ol, "gasao wlad ei fagwraeth," a

chynghorion cyffelyb dihafal, megis "Ergyd aml a egyr amlen,"

ac ymlaen yn yr un doethineb, rhai mewn cynghanedd ac

eraill ddim, gan gynnwys vers libre wrth gwrs, yn ôl y gofyn ac

ysgogiadau'r Awen.

 

Yna, gyfaill, fe aethoch i drafod moeswerth rhoi lle i wraig

fonheddig ar gerbyd cyhoeddus mewn gwth o oedran. Balch

iawn oeddwn o hyn, er i mi fethu, o'r herwydd, gael cyfle i

roi cynghorion da i chi parthed yr iaith Gymraeg, megis "Ymyl

amlen a egyr argae," gan fod moeswerthgarwch estyn sedd i

wragedd bonheddig mewn gwth o oedran ar gerbydau

cyhoeddus yn llawer pwysicach na'r iaith Gymraeg, neu hyd

yn oed yr iaith Saesneg. Er - a phrysuraf i ddweud hyn - mae

problemau'r iaith yn bwysig iawn, gan nad oes fawr o obaith

i barhad Gorsedd na Chlwb Cinio na Chyrndeithas Cym-

mrodorion nac unrhyw gorff cyffelyb os nad ydym am wynebu'r

problemau yn eofn, a phenderfynu, unwaith ac am byth,

ddileu y fath erchyllderau a "saith-deg-pump" a "oeddyn-

nhw." Fel y dywedais ychydig yn ôl wrth y Doctor Kate neu

wrth f'annwyl briod, Elen, ac nid wyf yn cofio'n iawn pa un

o'r ddwy, "Nid Cymro o'r iawn gyff sy'n dweud ei fod yn

naw-deg-saith oed, ddoctor annwyl." Ac onid prif ysgogiad

ein Llywodraeth tadol i barhau i ddosbarthu ffurflenni

Saesneg yng Nghymru yw'r deisyfiad cryf a chywir i beidio'n

rhannu'n ddwy garfan - "Carfan y Naw-deg-naw" a "Char-

fan y Cant-namyn-un" - drwy roi ffurflenni Cymraeg o'n blaenau?

 

Ond i ddychawelyd at y pwynt pwysicaf, sef seddau i rai

mewn gwth o oedran, mae fy nadansoddiadau i fel a ganlyn,

sef, i ba le mae'r bws yn mynd? A chan eich gadael chwi gyda'r

cwestiwn holl bwysig a phwysfawr yna, gyfaill annwyl,

oherwydd i mi eisioes roi cyngor da i chwi ar ei ganfed, fe

adawaf i chwi ei ateb eich hun, gan obeithio eich bod chwi a

Margaret Williams annwyl mewn iechyd da, ysywaeth.

Ydwyf, gyfaill annwyl,

Yn ddidwyll,

Yr eiddoch, etc

John Humphreys, M.T.S.F.C


 

Cyfres y Drydedd, yn yr hon y mae John Humphreys, Ysw.,

M.T.S.F.C. yn ateb y trydydd o lythyrau un John Williams,

ac yn ymollwng i wir Ysbryd y Nadolig, a thrwy hynny yn

arddangos peth o'i ffraethineb naturiol.

5 Ionawr, 1967

 

Annwyl Wffras,

'Dwn i ddim yn iawn beth i'w drafod hefo ti'r wythnos yma,

'r hen law - wythnos Dolig, wel-di, y clenia o'r wythnosau i

gyd. Mi fasa'n beth reit hawdd, chreda i byth, i mi drafod y

Nadolig ei hun, a deud pob math o betha, yn dda ac yn

ddrwg, a chael rhyw hwyl bach ar ben pawb, a chwthu

bygythion, a sôn am commercialisation bob yn ail gair. Mi

fasa'r hen lythyr 'ma'n edrych yn sgleigaidd iawn, Wffras

bach. Ond fasa'r un o'r ddau ohonan ni'n fawr elwach, wel-

di, Wffras 'rhen law, achos peth eitha hawdd ydy tynnu hwyl

am ben y lleill, yn-te, a gweld bai ar y lleill, ac anghofio,

'r hen gyfaill, ein bod ni, hefyd, yn eu canol nhw!

 

Na 'wna'i ddim trafod y Nadolig hefo ti, ddim mor agos

i'r wyl ei hun; hen beth cas, 'r hen Wffras, fydda' i mi roi

pawb a phopeth yn y fantol, yn dyrcwn a Christionogion ac

yn bwdin plwm a chracars a phaganiaid a phawb, a minna

fel rhyw fwngral o siopwr a barnwr ac angal yn chwara

hefo'r pwysa, ac yn cael pawb yn brin. Ond 'd oes dim o'i le,

'r hen law, i ti a finna sôn tipyn am y Dolig, yn nagoes?

'Fydda' i ddim yn tynnu'n groes i ysbryd Gwyl y Geni wedyn,

'na fydda 'ni?

 

'Wyddost ti, 'r hen Wffras, mae 'na lawer o sôn am thrills y

dyddia yma, yn-does? Ond 'chefais i rioed, a cha'i byth eto,

fwy o thrill na fyddwn i'n gael yn hogyn bach, fore Dolig,

ac yn estyn fy llaw, yn hanner cysgu, dros y dillad gwely, a

theimlo'r hosan Dolig yn llawn dop! 'Anghofia'i byth y wefr

fydda'n rhedeg drwy 'mysedd i, Wffras 'r hen law, ac yn rhyw

hanner ama' os oedd y peth yn wir ai peidio, ac yn rhyw ofni

deffro'n iawn, rhag ofn mai breuddwydio o'n i. A rhyw hosan

ddigon bach oedd hi, hefyd, a honno wedi'i thrwsio nes bod

ei sowdwl hi fel mat drws cefn, a'r gweddill ohoni mor

rhwyllog a chyrtan bach, a lliw'r orenj i'w weld yn glir

drwy'r tylla, a chornel finiog un o'r cnau-siap-cwch yn gwthio

trwy un o'r tylla eraill, a swn clecian papur mwya gogoneddus

wrth lusgo'r hosan dros y dillad gwely, yn nes ac yn nes ac yn

nes.

 

Deud i mi, Wffras bach - ydi plant heddiw'n cael y fath

thrill, deuda?

 

A dyna 'ti'r pwdin, 'nenwedig sgleisen dew ohono fo

wedi'i ffrio'n grimp i swper, hefo siwgwr gwyn yn drwch, a'r

wydd yn chwilboeth i ginio, a'i chroen hi'n clecian dan dy

ddannedd di, a'r mins peis wedi'u crasu ddwywaith, a'r

ginger wine, potel sos neu beidio. 'Dydyn nhw ddim run fath

heddiw, rhywsut, nadyn 'nhw?

 

Fi sy'n wahanol, medda Magi; fi sy'n mynd yn hen, medda

hi, a sug baco'r blynyddoedd wedi lladd hynny o flas sydd ar

ô1 yn fy nhafod i. 'Choelia'i fawr, Wffras bach! Y hi sy'n

wahanol, medda fi - yn dilyn yr oes, wel-di. Pwdin Dolig

mewn papur piws, a dwsin o fins peis wedi bod yn llechwra

mewn amdo blastig ac arch garbod am fisoedd cyn y 'Dolig,

a rhyw gywion ieir o ben-draw-byd wedi'u rhewi'n gorn,

made to measure, a phob deryn yn y deyrnas yn llawn o stwffin

papur diddeigryn. 'Welais i ddim, byd mwy anghynnes yn fy

mywyd, naddo wir!

 

Ond dyna hi - a finna wedi gaddo peidio rhoi neb na dim yn

y fantol.

 

Anfon bwt o lythyr, 'rhen gyfaill - hydnod 'tae o'n ddim ond

brawddeg fler rhwng y robin goch a'r "Cyfarchion Tymhorol."

A chan mai wythnos Nadolig ydi hi, mi orffenna' inna reit

deidi am unwaith:

Boed eich Nadolig yn Wyl y Geni!

Wilias.

 

 

Annwyl John Williams,

Ardderchog o beth, gyfaill annwyl, yw eich awgrym clodwiw

i ni beido a threiddio'n rhy ddwfn yr wythnos dymhorol hon -

ac i ni, ein dau felly, ymgyfranogi o Ysbryd y Nadolig, fel y

dywedais wrth f 'annwyl briod, Elen, cyn derbyn eich croes-

awgar lythyr, gyfaill annwyl. Gan hynny, ac o'r herwydd,

ysywaeth, ataliaf rhag mynegi'r doreth o deimladau cyrhaedd-

gar a gwerthfawr sydd gennyf parthed masnacholeiddio'r

Nadolig, ac mewn gwir ysbryd gostyngedig fe ataliaf rhag rhoi

i chi amryw gynghorion da a doeth, gan wybod, gyfaill

annwyl, y gwnewch ddisgyblu eich siomiant, a'u derbyn ar

eu canfed yn aeddfedrwydd yr amser, John Williams.

 

Do, gyfaill annwyl, fe wneuthum innau, hefyd, ymgyfran-

ogi o'r wefr foreol Nadoligaidd, er nad oedd yr hosan yn un

wedi'i thrwsio) yn sicr ddigon, fel y crybwyllwch, gan fod Mam,

melys gof, a thawelwch i'w llwch, yn eu rhoi i'r tlodion pan

oeddynt yn barod i'w trwsio, bendith ami.

 

Parthed eich sylwadau ar ddanteithion a moethynnau'r

Nadolig Llawen, ac oherwydd i mi awgrymu ein bod yn

cydgyfranogi o Ysbryd Llawen y Nadolig, nid wyf am eich

condemnio'n llym gogyfer eich moethusrwydd, ond yn unig,

gan gofio'r amser, fel y dywedais wrth Elen, f'annwyl briod,

nos Nadolig llynedd, wrth noswylio, ddweud wrthych chi,

hefyd, gan ddywedyd, "Mwtrin maip," oedd fy union eiriau,

"sy'n cynhedda hun hynod."

 

A chan ddilyn fy syniad o gydymgyfranogi o Ysbryd

Llawen y Nadolig Llawen, yr wyf innau, hefyd, am ymollwng

ychydig, dan reolaeth, yn sicr, a rhoi lle, gyda disgyblaeth

lem, i fy ffraethineb naturiol ymhelaethu'r doniolwch, odid

disgybledig, sydd i'r Nadolig Llawen. Dirwynaf f'ychydig

epistol gwael a gwelw (mewn ffordd o siarad, wrth gwrs) i

ben drwy adrodd i chwi ystori ffraeth, i chwithau hefyd, a'ch

annwyl briod, Margaret Williams, gael cydymgyfranogi,

megis f 'annwyl briod, Elen, o'r ffraethineb.

Byddwch barod. (I'r ffraethineb, felly).

 

Gofyniad : Pwy yw gwraig y Tad Nadolig?

Ateb: Mary Ecsmas.

(Hynny yw, Merry Xmas, neu Christmas, sef Xmas cyn ei

dalfyrru).

 

Ac yn swn eich chwerthin iach, gyfeillion annwyl, ac i

barhau'r ffraethineb ychydig ennyd ymhellach, fe'ch gadawaf

gan ddymuno i chwi, yn groes i f'arferiad o ddiweddu fy

llythyrau,

Mary Ecsmas.

John Humphreys, M.T.S.F.G.

 


 

 

Cyfres y Bedwaredd yn yr hon y mae John Humphreys,

Ysw., M.T.S.F.G., yn ateb y pedwerydd o lythyrau un John

Williams, yn mynegi peth barn ar Broblem Lliw, ac yn

arddangos afresymoleg llythyr John Williams yn eglur iawn.

19 Ionawr, 1967.

 

Annwyl Wffras,

Mae arna'i flys, 'r hen law, ar ddechrau blwyddyn newydd

fel hyn, drafod y busnes du a gwyn 'ma hefo ti, 'nenwedig y

dyn Smith 'na yn Rhodesia a'r llall yn Lloegr, a'r jolilot i gyd.

 

Mi ges flas arbennig - ar ôl gadael 'rysgol, cofia - ar ddarllen

straeon y Mabinogi, wst-ti, a'r ora ohonyn nhw i gyd gen i

i oedd stori Pwyll Pendefig Dyfed ac Arawn Brenin Annwn yn

newid lle ar ôl yr helynt hela, mi gofi, a'r naill yn mynd i

wlad y llall ac yn cogio bach mai fi-di-fo.

 

Diawcs, fachgen, ro'n i'n meddwl dydd o'r blaen, ar ôl

darllen stori Pwyll unwaith eto, mai peth da fasa rhoi Smith

yn Brif-Weinidog Lloegr am ddeufis-dri, a Wilson yn Brif

Weinidog Rhodesia. Smith, mae'n debyg, fydda Pwyll yn

mynd i Annwn, achos mae Lloegr dipyn mwy anwaraidd na

Rhodesia erbyn heddiw, wel-di, yn y bôn. A Wilson, siwr i ti,

fydda Brenin Annwn, yn dân i gyd am fod cwn hela rhywun

arall yn meiddio gwledda ar ei sglyfaeth o'i hun.

 

Cofia, nid dweud 'dwy i fod Smith yn wyn neu'n ddu i

gyd nagi, myn cebyst i! A 'dydw i ddim yn dweud chwaith

fod Wilson yn ddu neu'n wyn i gyd, achos welais i rioed ei

wadna fo. Ond rhyw feddwl 'dwy i, we1-di, Wffras bach, 'r hen

gyfaill, nad ydi'r busnes du a gwyn 'ma, a siarad yn ffigurol,

ddim hanner mor glir a'r busnes du a gwyn 'ma, a siarad yn

llythrennol.

 

Ond i fynd yn ô1 at yr agenda, 'r hen gyfaill, 'r hen law,

hefo Wilson yn Rhodesia a Smith yn Lloegr. Beth wnai

Smith yn senedd Lloegr, was? Wel, mi ddeuda i wrthyt

ti'r un peth yn union a Wilson o'i flaen. Pregethu democrat-

iaeth ar gyfer Rhodesia (mae cig carw'n gig blasus) medde

nhw) a dal ati i gadw brodorion natives Cymru anwar heb

yr hawl i lywodraethu'u hunain. A beth am Wilson yn

Rhodesia? Wel, 'r un peth yn union a mae Wilson yn ei wneud

yng Nghymru heddiw, 'r hen gyfaill - parchu hawliau

brodorion Rhodesia i'r un gradda'n union a mae o'n parchu'n

hawlia brodorol ni yng Nghymru heddiw, wel-di.

 

A sôn am ddu a gwyn, mi 'ro'n i'n breuddwydio'r dydd o'r

blaen fod pob Cymro wedi deffro un bora a gweld fod 'na

resi du a gwyn ar draws ei wyneb, 'r un peth yn union â

sebra. Wel dyna 'ti le, fachgen! Rhan fawr ohono' ni'n sgwrio'n

hunain yn gignoeth i geisio cael gwared o'r rhesi, a rhan

helaeth o'r lleill yn gweiddi'n groch nad oedd dim rhesi

arnyn-nhw!

 

'Wst-ti be, 'r hen gyfaill? Ar ôl y freuddwyd 'na, 'chreda'i

byth nad ydi'r dyn du yn dipyn mwy lwcus na ni'r Cymry

achos, wel-di, wedi meddwl, 'chlywais i rioed am Ddic

Sambo-Dafydd, wnest-ti?

 

Cofia draethu, 'r hen law!

Wilias.

 

Annwyl John Williams,

Bydded eich Blwyddyn Newydd Dda yn gyfesur o ddyddiau,

gyfaill annwyl, a'ch annwyl briod yn yr un modd, gan obeithio

i'r annwyd gadw draw, ac i chwithau, fel ninnau, ac Elen,

f 'annwyl briod, hefyd, ymborthi mewn porfeydd gwelltog.

 

Fel y dywedais wrth Elen, f'annwyl briod, ar drothwy'r

flwyddyn ymadawedig, gan weithio'r odl yn gywrain:

 

Mae'r Flwyddyn Ymadawedig

Yn Fythol Ddiflanedig;

Ymgipiodd fyrdd Gyfeillion Lu

I'w Thangnefeddol Ddwyfron Ddu.

 

Hyn i gyd, oherwydd y du, yn fy nhywys yn ôl at eich

gwerthfawr lythyr, a'i gynnwys hefyd, gyfaill annwyl.

 

Yr ydych, yn amheuthun felly, yn trafod problem enfawr y

Du a'r Gwyn. Cofiaf yn iawn y Parchedig William Havlup

yn ein cynghori, mewn cyfarfod pregethu, a minnau ar

ddechrau fy nghyfnod flaenorol, yn ein cynghori gyda'r

geiriau, "Nid yw dau ddu," meddai, "yn gwneud un gwyn,"

gan bwysleisio'r un yn ei ffordd arbenigol ac awdurdodol ef

ei hun.

 

Serch hynny, nid oes colour bar yn ein ty ni, a phe digwyddai

i lu o ddynion duon - ie, rhai pygddu, hyd yn oed - alw yma

rhyw brynhawn Sul neu'i gilydd, fe fyddem yn rhoi'n hael

o'n hymborth tlawd iddynt, yn sicr ddigon, serch eu lliw,

oherwydd i hynny o beth fod yn llawer mwy aberthol na

rhyw gyfraniad mewn arian mamonaidd i Oxfam neu gyffelyb,

ysywaeth.

 

Ond atolygwch, John Williams, credaf i chi fynd ar gyfrgoll

mewn rhan o'ch llythyr, gan nad oes rhif uchel o ddynion

duon yng Nghymru, ysywaeth, er bod rhai yng Nghaerdydd,

yn ôl rhai. Hefyd, yr ydych yn anghofio fod y Mabinogi

wedi'i gyhoeddi flynyddoedd cyn darganfod Rhodesia, yn ôl

pob tebyg, ac yn bendant cyn dyddiau yr annwyl Ddoctor

Livingstone, mae'n bur debyg.

 

Gan hynny, oherwydd i'ch damcaniaethau sylfaenol fod yn

dra gwallus, gyfaill annwyl, a'r annwyd yn drwm arnaf ar

ddechrau Blwyddyn Newydd Dda, prysuraf i gloi'r Epistol

hwn, ac i gyfansoddi tôn deimladwy i f'emyn tymhorol,

gan orffen:

Ydwyf, gyfaill annwyl,

Yr eiddoch yn gywir,

Eich annwyl gyfaill,

 

John Humphreys, M.T.S.F.

 


 

Cyfres y Bumed, yn yr hon y mae John Humphreys, Ysw.,

M.T.S.F.C., yn ateb y pumed o lythyrau un John Williams,

a thrwy hynny yn datgelu ei Athroniaeth Bywyd.

26 lonawr, 1967.

 

Annwyl Wffras,

Sut mae petha erbyn hyn, 'r hen law? A sut rnae'r annwyd -

heb anghofio Nel!

 

Mi es i Lerpwl dydd o'r blaen, wel-di. Wel, dyna 'ti le

am annwyd! Siopa fel ffwrneisia, a strydoedd fel entri gefn

mewn ffatri rew.

 

A sôn am bobol! 'Ro'n i'n sefyll ar ben grisia yn un o'r

siopa mawr 'na, ac edrych i lawr rhwng y canllawia, tri neu

bedwar llawr efo'i gilydd. Pobol ymhobman, yn berwi drwy'i

gilydd - bob lliw a llun, yn lân ac yn fudur, yn wlyb ac yn

sych, tew a thena, mawr a bach. "R oedd o'n creu rhyw arswyd

ar ddyn, Wffras bach - oedd, myn cebyst i!

 

A wyddost ti beth oeddyn-nhw'n ei wneud? Wel, mi ddeuda

i wrthyt ti. Prynu petha plastig. 'Roedd 'na blant efo'u

trwyna'n rhedeg yn gwario syllta ar rocedi plastig fydda dan

draed drannoeth, merched tew chwyslyd yn prynu llathenni o

gyrtans plastig yn ferw o rosod cochion a photeli Cianti a

thomatos a physgod aur, dynion tena efo mwstashis bach duon

yn prynu tacla plastig ar gyfer stwnshian do-it-yourself yn y

semi, rhyw lymrynnod o wrageddos yn prynu geriach plastig

i wneud hi'n haws i sgleisio wya-di-berwi'n-galed, ac un dyn

bach, bler a budur a'i gaberdine o'n steiniada byw, yn prynu

bwndal anfarth o gydau plastig amrywiol ac amryliw - i be',

'sgen i 'r un syniad dan haul, a 'synnwn i ddim nad oedd

ganddo fo ddim chwaith.

 

A mi es i feddwl, wst-ti, fan yno, ar ben y grisia - be'

gebyst yda ni, a be' yda ni'n neud yma? A rhywsut neu'i

gilydd, Wffras bach, 'r hen law, 'fedra i yn fy myw feddwl ein

bod ni yma i brynu tacla plastig da-i-ddim, 'fedri-di?

Cofia, mi glywais i seicolegydd un tro yn deud peth fel hyn -

pan mae gwas ffarm, medda fo, yn edrych ar y sêr, ac yn

dechra gofyn "Beth yda ni? Beth yda ni'n da yma?" yna,

medda'r seicolegydd, yna mae o'n gwbwl sicr fod y gwas ffarm

druan yn dechra colli ami, ac yn hwyr glas iddo fo ddechra

llenwi'i ddyddia efo carthu beudai a godro liw dydd, a phesgi'i

hun ar chips a chwrw liw nos. Wel, Wffras bach, 'r hen law,

mi ddeudwn i mai'r seicolegydd oedd yn dechra colli arni.

Achos, wel di, os nad ydi'n iawn i was ffarm gael gofyn "Beth

yda ni? Beth yda ni'n da yma?," yna, mae'n ddigon clir

beth yda ni a beth yda ni'n da yma, Wffras Bach - diawl o

ddim.

 

Ond 'dydi hynna ddim yn ateb y ddau gwestiwn ar ben y

grisia, 'r hen gyfaill. A 'dwn i ddim os medra'i hateb nhw! Ond

mi wn i hyn - mae 'na ateb iddyn nhw, a mi wn i hefyd nad

yda ni ddim yma er mwyn cael prynu tacla plastig mewn siopa

mawr yn Lerpwl. Ac unwaith mae dyn yn gwybod hynna,

'd ydi o fawr o ots wedyn nad ydi o ddim yn gwybod yr union

atebion.

 

Siwr i ti, felly ro'n i'n rhesymu ar ben y grisia 'na. A mi es i

lawr nhw'n eitha bodlon, 'r hen Wffras.

 

'D oedd Magi ddim wedi dod hefo fi i Lerpwl, a mi

feddyliais inna y dylwn i fynd a phresant bach yn ôl iddi hi. A

siwr i ti, mi ges yr union beth yn un o'r siopa mawr 'na - y

teclyn bach dela welaist ti 'rioed i sgleisio wya-di-berwi'n-

galed, mewn plastig pinc.

 

Anfon air, 'r hen gyfaill. 'Nenwedig os cei di weledigaeth.

Cofion,

Wilias.

 

O.N. 0s gwn i fasa Nel yn licio i mi yrru 'chydig o gydau

plastig iddi hi? Mae ganddo ni fwy na digon, o bob lliw a

maint.

 

Annwyl John Williams,

Cysur o'r mwyaf, gyfaill annwyl, oedd teimlo cynhesrwydd

cich gofynion teimladwy parthed f'annwyd, sydd, ysywaeth,

yn llawer gwell. Ond nid yw wedi clirio'n llwyr, a'r mynych

beswch, John Williams annwyl, yn rhoi ateb i'ch cwestiwn

dwfwn, mi gredaf. "Pa beth yw dyn?" oedd eich cwestiwn,

ond odid? Atebaf innau, yng ngwefr y pesychu : "Meidrol,

John Williams, meidrol; fel glaswelltyn, yn gwywo a phesychu

pan rua'r gogleddwynt oer."

 

Fe fydd nifer o'r cydau plastig yn ddefnyddiol iawn, gan i

hyn ysgafnhau eich baich, os nad ydych am eu hanfon gyda'r

post a ninnau i dalu'r cludiad. Eisoes, gyfaill annwyl, a

Margaret Williams, eich annwyl briod, hefyd, mae Elen,

f'annwyl briod, yn ymboeni fod dillad isaf ei mam, melys

goffadwriaeth, yn melynu yn y dror, ac fe fydd y cydau plastig

yn ddefnyddiol iawn.

 

Yr ydych hefyd, John Williams, yn eich llythyr croesawgar,

yn trafod Pethau Mawr Bywyd, a da yw hyn, gan fod dyn yn

fwy na phlastig, pa mor ddefnyddiol bynnag fydd y cydau

i Elen, f'annwyl briod. Ond nid wyf yn sicr beth yw

eich athrawiaeth, a mawr hyderaf nad ydych yn pregethu yn

wahanol i Mr. Gwilym O. Roberts, y Doctor Tudur Jones,

a'r Athro J. R. Jones, Os ydych, nid ydych yn iawn; ond os

ydych yn cydweld â hwy, yr ydych yn sicr o fod yn gywir.

 

Ofnaf nad ydwyf ychwaith yn dilyn darnau eraill o'ch

llythyr. Ond teimlaf fod gweision ffermydd sy'n syllu ar y

sêr ac yn gloddesta ar ysglodion cloron a'r ddiod gadam yn

anabl iawn i garthu beudai, ac yn debygol o ddal yr annwyd

yn rhwydd iawn, ysywaeth.

 

Nid wyf ychwaith yn deall arwyddocad na gwerth eich

ymweliad â Llyn Lleifiad, gan fod Elen, f'annwyl briod,

eisoes wedi anfon peiriant tafellu wyau caled-ferwedig i

Margaret Williams, eich annwyl briod, yn anrheg Nadolig.

Ond nid yw f'annwyl briod am i chwi ei anfon yn ôl, gan nad

yw yn credu ynddynt.

 

Ydwyf, gyfaill annwyl,

Eich annwyl gyfaill,

John Humphreys, M.T.S.F.G.

 

O.N. Nid yw f'annwyl briod am i chwi anfon cydau

plastig cochion, oherwydd iddi deirmlo nad gweddus mohonynt

i'w darpar swydd. A mawr hyderaf na wnewch ddefnyddio

iaith anweddus yn eich llythyrau eto.


 

Cyfres y Chweched yn yr hon y mae John Humphreys, Ysw.,

M.T.S.F.C., yn ateb un o lythyrau un John Williams, a

thrwy hynny yn mynegi barn ar Sancteiddrwydd Bywyd,

Ymgeledd Merched ac amryw bynciau eraill.

 

2 Chwefror, 1967.

Annwyl Wffras,

Mi welais i lun yn y papur dydd o'r blaen - llun dyrnaid o

blismyn a haid o soldiwrs yn cribinio'r coedwigoedd 'na yn

ymyl Llangurig, yn chwilio am y carcharor 'na oedd wedi

denig o Walton neu rhywle. Pa dân sydd ar groen 'r hen

Wilias 'rwan? mi glywa 'i di'n gofyn. Wel, mi ddeuda i

wrthyt ti, 'r hen Wffras, 'r hen gyfaill - 'roedd 'na reiffl gan

bob un o'r plismyn, ond 'r un shimrin o reiffl gan y soldiwrs

shoot-to-kill'.

Cofia, yn ô1 rhai, 'doedd dim angen reiffl ar neb. Ond

boed hynny fel y bo - yr hyn sy gen i ydi hyn - os reiffl, pam

rhoi un i'r plismon os nad oedd eisia rhoi un i'r soldiwr? 'Does

'na' ddim conscripsiwn 'rwan, fel y gwyddost, ac felly mae pob

lembo sy'n dewis mynd i'r fyddin yn mynd gan ddallt mai'i

brif orchwyl fydd lladd. A mi wyddost gystal â fi mai lladd

efo LL fawr ydi thema'r cyfan yn y fyddin - ar wahân, wrth

gwrs, i'r ychydig eithriada hynny lle mae'n bwysicach clwyfo

dyn mewn modd arbennig yn hytrach na'i ladd, er mwyn i

sgrechian y truan byw greu ofn ar ei frodyr.

 

Ar y llaw arall, 'fedra i ddim meddwl, rhywsut, fod pob

plismon sy'n plismona wedi cael ar ddallt fod lladd, o bosib',

yn rhan o'i waith. Mi fedri ddadla, wrth gwrs, fod gwaith

plismon yn dod â rhyw lofrudd i gyfraith - hyd yn ddiweddar

iawn, beth bynnag - yn gam cynta tuag at ei ddienyddio, ac

mai lladd 'di lladd, beth bynnag ydi'r term technegol. Eto

i gyd, 'r hen Wffras) dwed a fynot, mae rhoi reiffl yn llaw

plismon yn beth gwahanol, yn-tydi? Mae hynna'n false

pretences, ddwedwn i - os nad yw pob plismon yn cael gwybod,

yn hollol glir, wrth iddo listio, fod hi'n bosib' y bydd rhywun yn

deud wrtho fo rhyw ddydd am ladd fel rhan o'i waith.

 

Paid ti â meddwl am eiliad mai dadla ydw i y dylai'r

milwyr 'na hefyd fod wedi cael reiffl. 0 na! Arswydo ydw i

fod pobol yn cael eu rhoi mewn sefyllfa lle mae'n bosib' deud

wrthyn nhw i ladd, fel rhan o'u gwaith, a nhwtha o bosib',

heb ddallt hynny wrth ymgymeryd â'r gwaith. Mi wn i fod 'na

rai plismyn yn ddihirod, fel mae 'na rai doctoriaid a gweithwyr

y cyngor a grosars a phob galwedigaeth arall yn ddihirod

ond fachgen, 'fedri di feddwl am ein hen gyfaill, P.C. Jôs o

Lanfano, yn mynd yn wirfoddol i joban sy'n golygu lladd?

 

A sôn am ladd, mae gen i barch mawr tuag at lysieuwyr

- vegetarians - o bob math. Cofia, mi fydda' i'n awchio am gig

yn amal, ac yn cael cystal blas â neb ar y "seigiau ar y Sul".

Eto i gyd, 'r hen gyfaill, 'synnwn i ddim mai'r llysieuwyr

sy'n iawn, petawn i'n onest â mi fy hun. A ph'un bynnag

mae'n rhaid i ni gael ein crancod a'n heithafwyr ym mhob

maes, wst-ti, er mwyn gwthio'r cyfaddawd yn nes i'w le.

Wel di, 'r hen Wffras - nid lladd yr eidion neu'r oen neu'r

cyw iâr ydi'r pechod mawr - y pechod, 'r hen gyfaill, ydi'r

ffaith ein bod ni'n rhoi bod dynol - y bwtsiar neu'r wraig

ffarm - mewn sefyllfa sy'n ei gymell o i ladd. Nid amddiffyn

y creadur mae'r llysieuwyr, a deud y gwir - ceisio amddiffyn

y dyn mae o. Achos, wel di, 'rhen gyfaill, mewn cymdeithas

sy'n gweld dim o'i le mewn lladd anifal, 'dydi o ddim yn

beth anodd cyflyru'r gymdeithas honno i gymryd y cam nesa'

- lladd dyn.

 

Dyna'r cwbl am 'rwan, 'r hen Wffras - mae cinio'n barod

Biff-stec, nôl yr ogla. A mi fydda' inna'n eistedd wrth y bwrdd,

a'i sgafflo, heb ronyn o gydymdeimlad â'r bwtsiar truan

hwnnw a orfodwyd i lefal tipyn "is na'r angylion" er mwyn fy

chwanta' i.

 

Ond tyda ni'n wan, 'r hen gyfaill?

Cofion,

Wilias.

 

Annwyl John Williams,

Diolch i chwi, gyfaill annwyl, am eich llythyr, a balch

ydwyf o gael dweud fod f'annwyd wedi cilio'n llwyr o'r

diwedd. Nid ydych yn trafod eich cyflwr iechydol teuluol,

ond gan fod yr annwyd ymhobman, prysuraf i roi i chwi fy

meddyginiaeth bersonol fy hun, sef - te biff poeth a chysurlawn,

i'w yfed am hanner awr wedi wyth (wedi naw yn yr haf) bob

nos, cyn ymddeol yn ddiymdro i'r gwely.

 

I drafod ail ran eich llythyr yn gyntaf - yr wyf yn cydweld â

chwi yn llwyr, ac ni chymerwn y byd am ladd oen bach, un o

anwyliaid Natur, yn prancio'n ffri ymysg y briallu tlysion. Na,

credaf i mi gyfodi goruwch anfadwaith o'r fath, er mai myfi fy

hunan) mewn ffordd o siarad, sy'n dweud hynny. Ac ni welwyd

erioed yn ein ty ni, ar ein haelwyd Gristnogol, unrhyw beth

megis pen mochyn ag aurafal yn ei enau, neu ddofednod

heb eu pluo a'u trin, oherwydd ni fyddai ein cyneddfau

teimladol yn caniatau'r fath erchyllterau. Yn wir, gallaf

ddweud heb flewyn ar fy nhafod fod Elen, f 'annwyl briod, yn

gwrthwynebu ymddangosiad clun cyw iar, hyd yn oed, ar

fwrdd ein hymborth, oherwydd i'r cyfryw beth ei hatgoffa o'i

mam, melys goffadwriaeth, a oedd yn cadw ieir, a hefyd am

gywion bach melyn ei phlentyndod. Na -un o'm prif orchwyl-

ion, oherwydd ac ysywaeth, yw tafellu'r cluniau yn y gegin cyn

iddynt ymddangos o flaen f 'annwyl briod.

 

Ac yn gysur pellach i chwi, gyfaill annwyl, fe ddylech

gofio fod Ahasfferus Davies Jones, cefnder (o waed coch cyfan)

i Elen, f 'annwyl briod, ac yn gigydd o'i grud, bron, yn flaenor

(yn gyd-flaenor, felly) gyda ni, yntau hefyd yn fawr ei barch,

ac yn cyfrannu'n hael i'r R.S.P.C.A.

 

Parthed rhan gyntaf eich llythyr, nid wyf yn cytuno mor

llwyr. Ystyriwch, frawd annwyl, y posibilrwydd erchyll o'r

carcharor dieflig yn dod wyneb yn wyneb ag Elen) f'annwyl

briod, neu hyd yn oed Margaret Williams, eich annwyl briod.

 

Oni fyddai dryll y plismon y pryd hynny yn gaffaeliad mawr,

ysywaeth? Na, mae'n rhaid i ni feddwl am deimladau eraill

heb sôn am fod yn amddiffyniad i'n gwragedd annwyl.

Hunanoldeb, John Williams, yw'r maen tramgwydd mwyaf

fel y dywedodd Eseia (neu Amos, efallai).

 

Hyderaf, gan hynny, fod fy nghysur ar y naill law, a'm

cyngor ar y llaw arall, yn gaffaeliad i chwi, fel bob amser.

Ydwyf, gyfaill annwyl,

Eich annwyl gyfaill,

John Humphreys, M.T.S.F.C

 


Cyfres y Seithfod, yn yr hon y mae John Humphreys, Ysw.

M.T.S.F.C., yn ateb y seithfed o lythyrau un John Williams

a thrwy hynny'n datgelu ei allu cyfansoddol ac uchder ei

safon broffesiynol.

 

9 Chwefror, 1967.

Annwyl Wffras,

Os gwn i beth wyt ti'n feddwl o'r busnes canu emyna' 'ma,

'r hen gyfaill? Mae'n debyg dy fod ti -wedi darllen yr hanes yn

Y Cymro - y gweinidog 'na o Wrecsam oedd yn teimlo fod rhag-

lenni emyna' Cymraeg y BBC yn "porthi moethusrwydd

teimladol" ac yn "sentimentaleiddio crefydd i farwolaeth."

'D wy'i ddim yn siwr iawn beth oedd y gwrthwynebiad

penna', 'r hen Wffras - fod pobol yn gwrando ar emyna' ar y

radio yn lle yn y capel, neu'n bod ni fel Gymry yn rhy barod i

ganu emyna', neu fod crefydd wedi troi'n ddim ond canu

emyna'.

 

Os yr ola' ydi o, 'r hen Wffras, wel o leia' mae o'n newid

bach o grefydd sy'n ddim ond pregethu neu'n ddim ond

pwyllgora neu'n ddim ond diwinydda. Ac os yda ni am grefydd

un-ochrog o gwbwl, 'synnwn i ddim, 'r hen law, na'r emyna'

pia hi. Mae 'na fwy o gymundeb cyfriniol i'r rhelyw ohono'

ni'n dod o ganu emyna', wel-di, nag o un o'r lleill; a 'fedra i

ddim derbyn fod crefydd yn grefydd os nad oes 'na le i gyfrin-

iaeth ynddo fo. 'Chreda i byth nad Aldous Huxley ddwedodd

rhyw dro fod gwrando ar ganu emyna' Cymraeg yn cael yr

un effaith arno fo a byta'r myshrwms rhyfedd 'na o Fecsico.

'Wnes i rioed gael cyfle i fyta'r myshrwms 'na, ond 'synnwn i

ddim nad ydi o'n iawn.

 

Ar y llaw arall, 'r hen law, mi faswn i y cynta i gydweld ein

bod ni'n brysur iawn yn puteinio'n hemyna' drwy'u rhoi nhw

yn yr un dosbarth a'r "Eneth gadd ei gwrthod" a "Sospan

Fach," ac anghofio mai emyna' ydyn nhw. Mi wyddost gystal

â fi fod 'na fwy o ganu emyna' ar noson waith (a nos Sul

hefyd, falla) yn nhafarndai Cymru nag yn y capeli, a chlywais

i rioed ddim byd mwy anweddus yn fy mywyd na chynull-

eidfa o Gymry mewn gem rygbi yn canu "Bread of Heaven."

 

Ond os oedd y gweinidog o Wrecsam yn ei deud hi am fod

rhaglenni'r BBC yn gneud i bobol wrando ar emyna' adre yn

lle yn y capel, yna 'dwy'i ddim rhy siwr lle 'dwy' i'n sefyll.

Yn gynta', wel-di, 'd ydi pobol ddim yn peidio mynd i'r

capel am fod 'na ganu emyna' ar y BBC. Ac yn ail, 'r hen

Wffras, rhaid i ni gofio fod patrwm cymdeithas yn newid yn

ôl fel mae techneg byw yn newid. A wyddost ti, 'rhen law,

'd wy' i'n rhyw feddwl nad ydi crefydd ddim wedi newid ei

dullia' fel y dylai hi, i gyd-fynd â'r newid yn y patrwm.

 

Mi ddeuda i stori wrthyt ti, er nad ydwy i ddim yn siwr iawn

beth ydi'r wers! Hen ffrind oedd yn deud y stori, wel-di, a

sôn oedd o am ei hen nain pan oedd hitha'n ddynas ganol

oed - yn gul ei chrefydd ac yn fyr ei hamynedd. 'Roedd hi'n

seiat yn y capel, a'r praidd yn dysgu sol-ffa am y tro cynta'

rioed. 'R oedd yr hyfforddwr yn cael eitha' hwyl ar betha',

achos yn fuan iawn 'r oeddyn nhw'n canu rhywbeth fel

"Gwaed y ffa-soh'n codi lah-soh." Wel yn siwr i ti, dyma'r hen

ledi'n neidio ar ei thraed, taro'i sowdwl yn y llawr, a chloncian

allan tan weiddi "Os dach chi'n dwad â iaith y Diafol i

mewn i'r Cysegr, mi ydw i'n mynd allan!" A dyna ddiwedd

y sol-ffeuo!

 

A gan mai sôn am ganu emyna' Cymraeg yda ni, mi

ddeuda i wrthyt ti be' sy' ngwylltio i'n fwy na dim - y cwacs

o gerddorion 'na sy'n trefnu ac ail drefnu ac ad-drefnu 'rhen

donau ardderchog 'na yda ni wedi'u canu ar hyd y cened-

laetha', a gwneud y cywdal mwya' ofnadwy ohonyn nhw,

hefo'u hamen diderfyn a'u cymhlethu di-chwaeth. 'R un

peth yn union â phetai gwraig y ty yn cymryd sosbenaid o

botas blasus a chwilboeth ac yn trio gneud souffle hefo fo.

Rho wybod, 'r hen gyfaill.

Wilias.

 

Annwyl John Williams,

Prysuraf i'ch ateb gyda'r troad, gyfaill annwyl, gan i'ch

llythyr diwethaf fy nghyffwrdd, ie, hyd y galon. Gwir, a dim

ond y gwir, oedd eich datganiad clir a chroyw, gyfaill anwyl-

af, am y cwacs o gerddorion sy'n puteinio'n emyn-donau

mawreddog. Siaradaf innau, fe wyddoch, nid fel lleygwr,

ond fel un ag awdurdod ganddo, fel Member of the Tonic Sol

Fah College, drwy arholiad a chydag anrhydedd, fel mae'r

memrwn yn ei brofi tu hwnt i bob amheuaeth, ac wedi'i

fframio gan f 'annwyl briod, Elen, er i mi wrthwynebu hynny'n

gryf, serch yr annwyd trwm oedd arnaf ar y pryd, mewn passe-

partout.

 

Ie, gwir y dywedasoch, ac fe wn innau ym mha fodd y

gwrthodir trefniadau gwych a gwell, drwy brofiad personol

chwerw. Oni wneuthum, i drefniant o "Dôn y Botel" ar gyfer

trombôn a thair ukelele, ysywaeth? Ac Elen, f 'annwyl briod,

hyd yn oed, sydd bron yn dôn-fyddar, serch hynny'n gallu

gwerthfawrogi campweithdra a gwreiddioldeb y trefniant, a

hynny ar bapur yn unig, fe ddylech gofio, gan nad oedd modd

cael tair ukelele gyda'i gilydd. Ond fel y dywedais wrth Elen,

f'annwl briod, yng ngwynias y foment: "Ni chlywir cerddor

yn ei gôr ei hun." A chofiaf innau ei hateb hyd fy medd:

"Pwy a gano gloch," meddai, "a'i dodi dan lestr?" Ie, gyfaill

annwyl, hynna oedd ei hateb.

 

Mae'n amlwg yn eich hanesyn o Hen Nain (yn yr ystyr

Great-grandmother, mi obeithiaf) eich cyfaill, nad oedd y

codwr canu, yn bur wahanol i rai, yn deall ei aruchel swydd,

ac yn sicr ddigon, ni allasai fod yn M.T.S.F.C., drwy arholiad,

heb son am anrhydedd. Ni chefais i erioed unrhyw Hen

Nain, nac ychwaith Nain, neu unrhyw berthynas arall, yn

codi o f'ymarferiadau Sol Ffa, fel y'm hatgoffwyd gan Elen,

f'annwyl briod, wrth i mi ddarllen eich llythyr iddi.

 

Fe hoffwn draethu'n helaeth, a chydag awdurdod anrhyd-

eddus drwy arholiad, ar y gweddill o gynnwys eich llythyr,

ond teimlaf mai pwysig iawn yw i mi eich ateb gyda'r troad,

i chwi gael y boddhad o wybod mor drylwyr y cytunaf a'ch

paragraff olaf pwysig. Gan hynny, er mwyn dal y post,

dirwynaf i ben.

Ydwyf, gyfaill annwyl,

Eich annwyl gyfaill,

John Humphreys, M.T.S.F.G. (d.a.; g.a.)

 


 

Cyfres yr Wythfed, yn yr hon y mae John Humphreys, Ysw.,

M.T.S.F.C., yn ateb yr wythfed o lythyrau unJohn Williams,

ac yn trafod Ffaeledigrwydd Dyn.

 

Annwyl Wffras,

16 Chwefror, 1967

'Ro'n i'n meddwl dydd o'r blaen, fachgen onid oes 'na

bob matha' ohono' ni! Mi es i am dro bach - yn fy nychymyg,

cofia - ar hyd stryd y gwn i'n dda amdani, dow-dow o dy i

dy; a chael cipolwg slei-bach ar hwn a llall. A wyddost-ti, ar

ôl gorffen y sgelcian dychmygol 'na, mi ddois i i un canlyniad,

ac un yn unig - halen y ddaear ydyn nhw i gyd, bob un wan jac,

ia, myn cebyst i!

 

Rhyw un neu ddau ohonyn-nhw'n unig, hyd y gwelwn i,

oedd heb ei fai - wel, nesa' peth i ddim, felly, a chofio popeth.

'Roedd 'na ambell un yn rêl teyrn, un arall yn walch heb ei

ail; 'roedd 'na hen sguthan fan hyn, a dau neu dri go gas fan

acw. Ond wyddost ti, 'r hen Wffras, 'r hen law, 'chreda'i

byth nad oedd 'na fwy o dda nag o ddrwg yn rhein, hefyd - a

hynny o ddrwg oedd ynddy' nhw, wel-di, yn eu gwneud

nhw'n genuine iawn. Ac os 'di peth yn genuine, 'dydi'r mân

ffaeledda' ddim yn rhyw bwysig iawn, yn na'di? Mi rown i

jwg hen ffasiwn yn llawn cracia' ar fy silff-ben-tân, wel-di,

ond 'rown i ddim un o'r petha' newydd llachar cogio-hen 'na

yno, na wnawn dros fy nghrogi.

 

Dyna i ti Lisa Gacan-bwdin, 'r hen gyduras, yn rhegi fel

nafi, ond y beth ffeindia dan haul. Mi gwelais i hi un diwrnod

flynyddoedd yn ôl, cofia - yn rhegi rhyw hogyn bach i'r

cymyla' am ei fod o wedi gollwng pot jam yn racs-mân-

grybibion ar bafin Stryd Fawr; 'doedd o ddim yn perthyn

iddi hi, cofia, ond y peth nesa' wnaeth hi, 'dawn i byth o'r

fan, oedd picio i mewn i'r shop i brynu pot jam newydd iddo fo.

A deud y gwir, 'r hen Wffras, mi ddeudwn i fod "Mistar"

neu "Syr" neu "Gyfaill" o enau rhai yn dipyn mwy o reg na

geiria' cochach o enau 'r hen Lisa. Y galon, wel-di, 'r hen

gyfaill, sy'n rhoi ystyr iawn i eiria', greda' i.

 

A dyna i ti Huw Fflamia, yn chwil ulw feddw gaib bob nos

Sadwrn - a sawl noson arall, hefyd, 'sa'i'n dod i hynny - ond

yn ista fel craig yn y setis ffri bob bora Sul, ac yn gynta un yn

y festri noson waith os oedd eisia symud meincia ar gyfer

parti plant, ac yn ola' i fynd o'na, amser cau neu beidio.

'Chymrwn i mo'r byd, 'r hen Wffras, am feiddio deud pa

fath stad oedd ar enaid Huw Fflamia; nid fy musnes i ydi

hynny, wel-di!

 

A sôn am eneidia', mi glywais i hen Sgwl yn deud un tro,

mewn rhyw gyfarfod cyhoeddus neu'i gilydd, mai un cyngor

yn unig oedd o'n arfer ei roi i'r cywion athrawon fydda'n dwad

i'w ysgol o: "Cofiwch," medda fo, "fod pob un o'r deugain

ffernol bach sy'n gwingo a gwichian o'ch blaen chi yn perchen

ei enaid ei hun." A 'synnwn i ddim, 'rhen Wffras, nad oedd

hynna'n gyngor gwerth ei gael. Ac yn wir, we1-di, nid yn unig

am y dosbarth o ddeugain, ond am y stryd 'na o ddeugant.

 

Peth anodd, 'r hen law, ydi cofio hynny bob amser, yn-te?

'Nenwedig am rywun 'r wyt ti'n ei gasau. Unwaith erioed y

teimlais i 'mod i'n casau rhywun yn eigion fy nghalon,

mawr fy nghywilydd. Nes i mi gofio, yn sydyn reit, am eiria'r

hen Sgwl. Cofia, 'r oedd hi'n fatal roial ceisio darbwyllo fy

hun fod gan y dihiryn enaid - rhyw gninyn o enaid wedi

crybychu'n ddim oedd y cyfaddefiad cynta'. Ond unwaith y

cyfaddefais i hynny i mi fy hun, dyna'r casineb yn lleihau, a'r

crybychu'n dechra' llyfnhau. A wyddost ti, 'r hen Wffras,

'chreda'i byth nad oedd tipyn o'r crybychu yn fenaid i fy

hun yn diflannu 'r un pryd!

 

Achos fel 'na mae hi, wel-di, 'rhen law. A phetai ni'n dallt

petha'n iawn, 'synnwn i ddim nad ydi eneidia' Lisa Gacan-

bwdin a Huw Fflamia, rywsut neu'i gilydd, yn rhan ohona i

ac ohono ti. A'r cwbwl lot i gyd - chdi a fi a Lisa a Huw - yn

ddim mwy na chrybychiada' mewn rhyw un enaid mawr.

Anfon air, 'r hen goes. A madda'r bregeth.

Cofion,

Wilias.

 

Annwyl John Williams,

Yr wyf wedi darllen eich llythyr deirgwaith, gyfaill annwyl,

ac Elen, f 'annwyl briod, hefyd, ond ofnaf nad wyf yn hollol

sicr o'ch neges, ac anodd iawn, o'r herwydd, serch fy nhalentau

epistolgar, yw ateb eich cyfryw lythyr.

 

Bid siwr, mae eich aralleiriad o gyngor gwerthfawr y

prifathro yn ddealladwy a derbyniol, er i mi deimlo nad cywir

eich union eiriau, oherwydd nad yw gwyr bonheddig proffes-

iynol megis prifathrawon a chodwyr canu (trwyddedig, felly)

yn defnyddio geiriau anweddus.

 

Ond yn sicr ddigon, nid ydwyf yn alluog i dderbyn eich

damcaniaeth parthed cymeriadau gofyniadol megis y wraig

aflan-wefus a'r gwr annirwestol y soniwch amdanynt. A da

peth yw i chwi gofio, John Williams, fel y dywedais wrth Elen,

f'annwyl briod, fwy nag unwaith ar ôl darllen eich llythyr,

gyda thinc farddonol: "Nid a phot jam mae achub cam."

Ac yn yr un wythien, gan ymadweithio i ysgogiad yr Awen

unwaith eto, ysywaeth, fe ddywedwn: "Nid yw meinciau

megis peintiau," gan adael yr epitaph, yn ôl y dull modern, yn

fwriadol dywyll ac anorffenedig, er mai gwell, efallai, fyddai

ysgrifennu:

nid yw

meinciau. .....

megis. .....

........... Peintiau.

 

Nid wyf am drafod eich damcaniaeth ryfedd ac ofnadwy

sy'n ymgysylltu cymeriadau megis H.... Ff.... ac eraill,

megis myfi fy hunan, a hyd yn oed chwychwi, ond gadael i

Hanes, gyfaill annwyl, brofi annheilyngdod eich gosodiad.

Digon yn unig yw i mi eich atgoffa y byddai'r arian a werid

gan y cymeriad H.... Ff.... mewn un cyfeddach (er i mi

fod yn gwbl anwybodus ynglyn a phris y ddiod gadarn)

yn fwy na digon i roi iddo sedd amgenach nag un o'r free seats'.

 

Teimlaf eto ysgogiad yr Awen, a chan nad yw eich damcan-

iaethau, gyfaill annwyl, gyda bob gonestrwydd, yn haeddu

eu trafod, gorffennaf fy llythyr er mwyn cael cyfle i orffen yr

Awdl a ddechreuais uchod cyn dechrau'r ymarferiadau sol-ffa.

Ydwyf, gyfaill annwyl,

Eich annwyl gyfaill,

John Humphreys, M.T.S.F.C.

 

 


 

Cyfres y Nawfed, yn yr hon y mae John Humphreys) Ysw.,

M.T.S.F.C., yn ateb y nawfed o lythyrau un John Williams,

a thrwy hynny yn dangos ei ddawn arbennig i ffurfio geiriau

mwys, ac yn trafod diffygion treuliad ei annwyl briod a'i

hymadawedig fam.

 

23 Chwefror, 1967.

Annwyl Wffras,

Mae'n nhw'n deud wrtha i, wel-di, fod hi'n bosib' i ddyn feddwi

ar bob matha' o betha', ac yn siwr i ti, mi ges i enghraifft dda

o hynny dydd o'r blaen.

 

'R o'n i'n siarad hefo hen gymydog, ac yn rhyw glecian

barablu am hyn a llall, a dyma fo'n deud reit sydyn - "Diawcs,

John Wilias, 'wyddost ti na fedra' i ddim madda' i grim-cecs,

na fedraf wir! 0s gwela' i blatiad ohonyn nhw mewn ffenast

siop, mae'n rhaid i mi gael prynu dwy-neu-dair ohonyn nhw,

a'u byta nhw i grogi ar eu penna'."

 

Wel ych-a-fi, medda fi wrthyf fy hun; ond 'wnes i ddim byd

ond gwenu'n wan arno fo. 'Roedd y syniad yn codi cyfog

arna' i, a 'fedrwn i ddim cael digon o ras i blethu geiria'.

 

"Meringues yn fwy na dim," meddai'r cyfaill boliog wedyn,

"'nenwedig rhai pinc."

 

Mi wn i'n iawn nad ydi dyn efo boliad o feringues pinc ddim

am fynd adra i guro'i wraig - wel, am wn i, felly. Ond wst-ti

be? Tawn i'n ddynas briod, 'chreda i byth na fuasa'n well gen

i i'r gwr ddwad adra'n feddw a 'nghuro i, na meddwl fy mod i

wedi priodi rhyw labwst llonydd a'i fol yn llawn o feringues

pinc.

 

A sôn am feringues, 'wyt ti wedi meddwl yn ddiweddar,

'r hen gyfaill, fel mae'n bwydydd ni yn mynd yn fwy ffug ac

yn fwy synthetig o ddydd i ddydd? Gwynwy-wy a siwgwr a

hufen ffres oedd meringues unwaith, pan oedd Mam yn gweini

yn nhy'r agent, ond gwmon a chôl-tar a phetha fel'na ydi

defnydd crai yr erchylltera' pinc 'na oedd y cyfaill boliog yn

sôn amdanyn nhw.

 

A dyna i ti'n bara beunyddiol ni! Dyn a wyr beth ydi rhai

o'r tortha' tafellog 'na sy'n llonydd orfadd ar silffoedd siopa'

am ddyddia' bwygilydd. 'Wyddost ti, 'roedd gen i fwngral

bach yn ddiweddar iawn, a chreda fi neu beidio, mi wrthoda

fyta bara-llefrith wedi 'neud hefo'r hen fara tafellog 'na,

ond mi lowcia fara-llefrith wedi 'neud hefo bara iawn. Gwnai,

myn cebyst i!

 

A'r menyn 'r un peth. 'Wyddost ti, 'roedd Ifas Clogwyn

Ddu, 'r hen gr'adur, yn deud wrtha i fod o'n cofio'r amser pan

fyddai pwys o fenyn bach a hanner peint o driog du wedi'u

cymysgu'n dda yn mendio unrhyw fuwch; ond erbyn heddiw'

medda fo, 'fasa'r gymysgedd ddim yn mendio cur pen ar

chwanan. 'Feiddia fo ddim rhoi'r cywdal i fochyn, medda fo,

heb sôn am fuwch.

 

A nid yn unig y bwyd ei hun, wel di, 'r hen law, ond y

gneud a'r byta, hyd yn oed. 'Wyddost ti, mae dyn yn colli

rhywbeth heblaw blas a daioni'r bwyd pan mae darn o dost

yn neidio'n drydanol o rhyw dostar cromiwm, yn lle cochi'n

araf o flaen tanllwyth o dân. 'Dydi'i gorff a'i gylla fo ddim yn

cael amser i baratoi, we1 di, a 'dydi'r poer a'r petha' eraill 'na

ddim yn cael amser i lifo fel y dyla nhw. 'Does ryfedd yn y

byd mawr fod 'na gymaint yn diodda o gamdreuliad.

 

Mae eisia' rhyw lwybyr canol, hyd y gwela'i, 'r hen Wffras.

Nid meddwi ar feringues pinc ar y naill law, nac ar y llaw

arall gipio darn o fara cemegol o dostar trydan hefo un droed

ar y rhiniog. Nid byw er mwyn byta na byta er mwyn byw

ond yr orchwyl bleserus o fyta yn rhan o fywyd diwylliedig,

'r hen law, heb fod yn drachwant phariseaidd mewn byd sy'n

llwgu, na chwaith yn broses arall eto tuag at wneud dyn yn

beiriant anifeilaidd.

 

Wffras bach - gofyn i Nel os oes ganddi risêt torth-anamal,

'nei-di? A mi a' inna' i chwilio am bopty mawr yng nghefn

gwlad yn rhywle.

Cofion,

Wilias.

 

Annwyl John Williams,

Diolch i chwi unwaith eto am eich llythyr blasus ("pun", fe

welwch!), gyfaill annwyl. Yr oedd yn amheuthun o beth (un

arall eto, sylwer).

 

Gwelaf mai llythyr ysgafn iawn sydd gennych y tro hwn

John Williams, ac anodd, felly, ysywaeth, ydyw i mi eich ateb

gyda'r dyfnder a'r pwys arferol. Yn wir, cefais beth pleser o'

ddarllen, ac er i'r ysgafnder eich amddifadu o dderbyn ateb

gafaelgar yn ôl yr arferiad, eto i gyd, yr ydych eisoes wedi

derbyn dwy "pun".

 

A dyma wledd arall i chwi, fel y dywedais wrth Elen

f 'annwyl briod, ar ddiwedd y paragraff yntaf:

"Dawn elwach yw doniolwch

Na chwerthin crach hen wyneb crych."

Sylwch fod yr uchod nid yn unig yn gynghanedd, ond hefyd yn

ystyrlawn.

 

Nid oes gan Elen, f'annwyl briod, fwyd-gyfarwyddyd

torth-anaml gan nad yw rhufon yn dreuliadwy iawn ganddi,

fel ei mam, melys goffadwriaeth, o'i blaen. Ond amgaeaf

gyfarwyddyd potas-llong, am i'r cyfryw ddysgl fod yn faeth-

lon a rhad - yn un o brif ddysglau Elen, f'annwyl briod,

ysywaeth.

 

Ydwyf, annwyl gyfaill,

Eich cyfaill annwyl,

John Humphreys, M.T.S.F.G.

 


 

 

Cyfres y Ddegfed, yn yr hon y mae John Humphreys, Ysw.,

M.T.S.F.G., yn ateb y degfed o lythyrau un John Williams,

ac yn trafod Halogiad Gwalia Wen.

 

2 Mawrth, 1967.

Annwyl Wffras,

On'd oes 'na ladd ar y bobol ifanc heddiw, 'r hen Wffras?

'Rwyt ti'n cofio cystal a finna' fel 'roedd 'na ladd ar ein

cenhedlaeth ni, oes a fu - ond diawcs, fachgen, 'chreda i

byth nad ydi'r agendor rhwng y cenedlaetha' yn fwy - yn

llawer iawn mwy heddiw nag yn ein dyddia' ni, 'r hen law.

 

Wel di, rhyw ddeud y drefn oedd hi amser ni, a'r ddwy

genhedlaeth yn medru cytuno, o leia', i anghytuno. Ond

Wffras bach' - dydi'r ddwy genhedlaeth heddiw ddim yn

siarad yr un iaith, hyd yn oed. A rhag ofn i ti

fy nghamddallt, nid sôn am y Gymraeg a'r Saesneg ydw i

er, wrth fynd heibio, fel petai, falla fod y gwahaniaeth tafod

rhwng plant a'u rhieni, yng Nghymru felly, yn elfen go gre'

yn y mater.

 

Nid dyna'r unig reswm, wrth gwrs - o bell ffordd. Achos,

fel y gwyddost, mae'r broblem yn bod mewn sawl gwlad

arall - ym mhob gwlad, 'synnwn i ddim, ond fod hi'n anodd

cael gwybod yn iawn am rai ohony' nhw.

 

'Dwn i ddim faint wyt ti'n ymhel â phobol ifanc, 'r hen

Wffras, ond mae 'na nai i mi, Ifan - falla dy fod ti yn ei nabod

o - yn gneud gryn dipyn â nhw. A siwr i ti, mae Ifan yn

llygad ei le, greda' i, wrth drafod y busnes.

 

'Wyddoch chi, d'ewyrth - medda' Ifan - be' sy fwya'

nodweddiadol o bobol ifanc heddiw? Gwn, atebais inna'

fandaliaeth. Nagi, medda fo - protestio.

 

A mae Ifan yn iawn, wel di. Wrth gwrs, mae'r fandaliaeth

yn cael y llythrenna' brasa' yn y papura' mae straeon fel

'na'n gwerthu'n well. Ond Ifan sy'n iawn. Dos di tan y wyneb,

'r hen Wffras, a mi weli di mai protestio ydi'r nodwedd amlyca'.

Mi gei di o yng Nghymru - protestiada' iaith. Yn Lloegr

protestiada'r C.N.D. Ym Merica - protestiada' lliw. A faint

o'r cynnwrf diweddara' 'na yn China oedd yn tarddu o

ysgogiada' politicaidd, a faint ohono fo, mewn difri' calon,

oedd yn tarddu o ysfa ienctid heddiw i brotestio?

 

A wyddost ti, 'rhen Wffras - mae 'na ddau beth go ddi-

ddorol yn codi o hyn i gyd. Yn gynta', wel di, mae 'na rhyw

linyn sy'n rhedeg drwy'r holl brotestiada' gwahanol 'ma,

yn eu clymu nhw yn ei gilydd; 'run peth ydi'u tarddiad nhw

yn y bôn, er iddyn nhw amlygu'u hunain mewn ffyrdd mor

wahanol. A'r ail beth ydi hyn, mai llygriad o'r brotest

amgenach ydi'r fandaliaeth 'na, hefyd - y garfan wanna'i

moesoldeb, druain gwyr, yn teimlo'r un ysfa i brotestio, ond

yn methu sianelu'r brotest mewn dull mwy gwâr.

 

Mi ges i'r fraint un diwrnod yn ddiweddar, wel di, o wrando

ar gyfarfod o bobol ifanc; fi oedd yr unig un hen yno, 'rhen

law. 'Roeddyn nhw'n gwbwl ddilyffethair, a mi glywais i

bob matha' o betha'. 'Roedd 'na betha' da yn cael eu deud-

'roedd 'na faswedd a hiwmor y ty bach, hefyd, a rhyw

ddiffyg aeddfedrwydd a thoreth o hiwmor ffug, annaturiol

yn codi ohono fo. Ond dyma 'na fachgen ifanc yn dod ymalen,

efo'i gitar, ac yn canu un o'r caneuon 'na sy'n protestio yn

erbyn rhyfel - a mi glywet bin yn disgyn. Mi newidiodd yr

awyrgylch yn syth. 'Roedd hwn yn rhywbeth real. 'Roedd

hwn yn bwysig. 'Roedd hwn yn genuine, yn bersonol, yn

hunllef o wir. Fachgen - dyna i ti brofiad!

 

A mi wyddwn i'r pryd hynny fod Ifan yn iawn. A mi

wyddwn i hefyd pam ei fod o'n iawn.

 

Ansicrwydd. Ansicrwydd o'r bom felltigedig. Ansicrwydd

o'r dyfodol, o barhad bywyd fel y gwyddom ni amdano.

Rhywbeth arall, hefyd. Rhywbeth sy'n clymu'r holl

brotestiada', gwâr a fandalaidd, a'r gân gitâr a'r gwrando

cignoeth yn un bwndel tyn: gwybod fod achos yr ansicrwydd

ofnadwy 'na i'w gael ym methiant a rhagrith a gwendida'r

gorffennol.

 

Pwy sy'n rnynd i feio'r to ifanc am brotestio, 'r hen Wffras?

Y ni - y gorffennol? Rhad arna ni!

 

Nid beio ddyla ni, ond ymfalchio, ymfalchio fod y goreuon

o bobol ifanc y byd yn prysur sylweddoli fod erchylltera'

mwya' bywyd yn tarddu o betha' bychain - diffyg parch

dynoliaeth tuag at betha' bychain bywyd: ieithoedd bychain,

gwledydd bychain, haenau difreiniog, gwan, mewn cyrndeithas

gref, glos.

 

Na, fachgen - mae'r busnes protestio 'ma yn amgenach

peth na mae'n ymddangos ar yr olwg gynta'.

Rho wybod, 'r hen gyfaill,

Wilias.

 

 

Annwyl John Williams,

Diolch i chi, gyfaill annwyl, am eich llythyr, a da gennyf

ddweud fod eich llythyrau yn llawer mwy diddorol ar brydiau

na'i gilydd.

 

Ond i fynd yn ôl at eich llythyr, credaf eich bod yn traethu'r

gwirionedd, John Williams, ac eithrio ychydig eithriadau:

wrth gwrs.

 

Yn sicr, ac er enghraifft, ni allaf gytuno â chwi mai ein bai

ni yw bodolaeth y ffrwyd-belenni cnewyllol. Onid y Gwyddon-

wyr sydd i'w beio? Ac os ydych yn haeru mai rhagrithwyr yw

ein cenhedlaeth ni, yna, dywedaf, bydded i bob dyn siarad

drosto'i hun, a thros ei rieni ei hun. Neu fel y dywedodd

Elen, f'annwyl briod: "Nid rhagrithiwr, ond Gwraig Fon-

heddig, oedd fy Mam," melys goffadwriaeth.

A pheth arall, John Williams, credaf i mi deimlo tinc o

gydymdeimlad yn eich trafodaeth â'r fandaliaeth erchyll sy'n

cerdded drwy Wlad y Menyg Gwynion. Hyderaf, mewn

gobaith, nad gwir mo hyn; ond os gwir, mawr eich cywilydd

am gynnal breichiau halogwyr Gwalia Wen.

 

Ni allaf ychwaith dderbyn fod agendor rhwng rhieni Cymraeg

a'u plant o iaith Saesneg. Fe wyddoch fod Sion, fy ngorwyr,

yn ddi-Gymraeg, oherwydd i'w daid ar ochr ei dad fyw yn

gwrtais ac yn fonheddig yn Rhos-on-Sea ers blynyddoedd.

Ond credwch fi, mae Sion yn agos iawn atom, ac eisoes wedi'n

hanrhydeddu drwy ennill y Territorial Decoration, ac yn

gwneud ymgais lew iawn i ddysgu geiriau Gymraeg megis

"Nos Da!" a "Dim Cymraeg!" serch ei brysurdeb mawr.

Na, gyfaill annwyl - pe byddai pawb o'n pobol ieuanc fel

Sion, ni fyddai unrhyw reswm mewn protestio.

 

Ydwyf, gyfaill annwyl,

Eich annwyl gyfaill,

John Humphreys, M.T.S.F.G.

 


 

 

Cyfresyr Unfed, ar Ddeg, yn yr hon y maeJohn Humphreys,

Ysw., M.T.S.F.C., yn ateb yn unfed llythyr ar ddeg o'r

eiddo John Williams, a thrwy hynny'n trafod sut i feithrin

yr ysbryd iawn.

 

 

9 Mawrth, 1967.

Annwyl Wffras,

'Chreda i byth, 'rhen gyfaill, nad ydi trafod peth wedi

mynd yn bwysicach na'r peth ei hun erbyn heddiw, wel di.

Mae 'na rhyw sôn yn y papura' byth a hefyd am rhyw gomis-

iwn neu banal neu bwyllgor neu weithgor yn ista i drafod hyn

a llall, yn cyhoeddi dalenni bwygilydd ar yr holl drafod, ac

yna - y corff a'r cynnyrch yn diflannu i ebargofiant. A'r

peth ei hun ronyn elwach, wel di, ar ôl yr holl stem a phapur.

Cofia - falla' mod i'n methu. Falla 'mod i'n rhy sinical.

Falla fod isio trin a thrafod a chyhoeddi dalenni di-ben-draw

cyn medru gwella'r peth. A falla fod 'na rhywfaint o wella'n

dilyn y trafod.

 

Falla.

 

Ond diawcs, fachgen, 'chreda i byth nad oes 'na ronyn o

wirionedd, o leia', yn yr hyn 'rwy'n ei ddeud. Siwr i ti,

mae 'na ormod o drafod, yn-does, a deud y lleia'?

Dyna i ti'r busnes iaith i ddechra'. Trafodaetha' di-ri';

cyhoeddiada' rhibidi-res. Y cwbwl yn dda. Ond eto i gyd

faint elwach?

 

Wedyn, dyna i ti fusnes uno'r enwada'. Cyfarfodydd trafod,

pamffledi trafod, ysgolion trafod, erthygla' trafod. A phan

ddaw'r Sul, mae gen-ti hanner dwsin o bregethwyr, mewn

tre' fechan, yn pregethu i ddyrnaid o bobol. A phob un o'r

chwe Ysgol Sul yn gwthio plant o bump i bymtheg i ddau neu

dri o ddosbarthiada', fel petai egwyddorion addysg sabothol

yn wahanol i egwyddorion addysg diwrnod gwaith.

 

Dallt ti - nid lladd ar y capeli bach a'u hysgolion Sul

bach ydw i. Piti ar Gymru pan fydd pob Soar y Mynydd

wedi'i gau! Ond peth hollol wahanol ydi dau gapel yn yr un

stryd, wel di, a hanner dwsin neu ddwsin ym mhob man

yn addoli yr un Duw. 'Radeg hynny mae dyn yn dechra

meddwl, wel di - oes isio'r holl drafod?

 

A dyna i ti'r busnes addysg 'na wedyn. Dyna ti fusnes

trafod'. A chyhoeddi adroddiada'! A phwyso a mesur, dadla' a

chega, ia a nagi. Ac yn y diwedd, wel di, 'd ydi petha ddim

fel y dyla nhw fod, cynllunia' newydd neu beidio; a phetawn

i'n gadael i'r sinig sy tu mewn i mi siarad heb flewyn ar

dafod, mi ddywedwn - yn waeth nag oeddan nhw, ar

lawer cownt!

 

Wel di, 'rhen Wffras, 'rhen law, rhyw gyffwrdd ag esgyrn

y petha' mae'r trafodaetha' 'ma, yn amlach na pheidio.

Trafod sut i weinyddu ffurflenni Cymraeg, sut i wneud y

cydaddoli yn gyfansoddiadol gywir, sut i roi i lawr ar bapur y

ffordd ora' o lenwi oria' ysgol y plant. A pha mor dda bynnag

ydi ffrwyth trafodaetha' fel hyn, 'dydyn nhw ddim yn

llwyddo, 'r hen Wffras, am nad ydyn nhw ddim yn ymhel yn

benna' ag ysbryd y peth.

 

'Fydd 'na ddim problem gweinyddu efo'r ffurflenni Cym-

raeg os ydi'r ysbryd yn lawn. 'Fydd 'na ddim problema'

cyfansoddiadol efo'r cydaddoli - os ydi'r ysbryd yn iawn. A

'd oes 'na'r un cynllun addysg dan haul yn mynd i lwyddo'n

well na'i ragflaenydd os nad ydi'r ysbryd yn iawn; rho di

gynllun truenus i athro ysbrydoledig, a mi neith gampia' efo

fo, ond rho di gynllun gwych i athro diysbryd, a lob-scows

troednoeth gei di.

 

A dyna hi, wel di. Ddim trafod y gweinyddu, ddim trafod

y cyfansoddiad, ddim trafod y cynllun sydd isio'n benna'

ond meithrin yr ysbryd iawn. Mi ddaw'r petha' eraill 'na

wedyn, yn ddigon reit i ti.

 

A sut mae meithrin yr ysbryd iawn, medda ti ?

Wel - mae'n rhaid i ti ofyn y cwestiwn yna i un gwell na

fi, wel di!

 

Cofia fi at Nel, 'r hen goes!

Wilias.

 

 

Annwyl John Williams,

Diolch i chi am eich llythyr, gyfaill annwyl, ac am ei neges

anorffenedig. Yr ydych yn treiddio'n ddwfn y tro hwn, ond

eto'n methu a chyrraedd y pinacl eithaf. Da yw hyn, gan iddo

roddi cyfle i mi lenwi'r bwlch. Neu fel y dywedais wrth Elen,

f'annwyl briod, rhai misoedd yn ôl, "Gwynt afiach sy'n

chwythu ddim da i neb," gan gyfieithu'n gynnil o'r Saesneg,

welwch chwi.

 

Sylwch nad oes angen i chwi ofyn i neb arall ateb eich

cwestiwn, gyfaill annwyl, gan fy mod eisoes wedi dadansoddi'r

broblem enfawr hon ers peth amser, ac wedi rhoi anerchiad

arni i'r Gyfeillach, gan nad oedd yr aelodau, drwy amryfusedd,

wedi derbyn eu copiau sol-ffa mewn pryd, a hyn yn gohirio'r

Gantata, er dirfawr siom, ond hefyd yn rhoi cyfle i mi fathu

dywediad newydd; "Mae pob gwynt yn chwythu rhywbeth i

rhywle."

 

Ond i fynd yn ô1 at y prif thema, fe gyrhaeddodd y copïau

sôl-ffa o'r diwedd, a mae yna argoelion hyfryd ym mrig y

morwydd. Eisoes, y mae Elen, f'annwyl briod, yn rhagweld

llwyddiant mawr, ac yn brysur yn gorffen yr het newydd.

Ei het hi ei hun, wrth gwrs, gan nad yw'n arferol i arweinwyr

wisgo het, fel y gwyddoch.

 

I ateb eich cwestiwn, John Williams, pa fodd mae meithrin

yr ysbryd iawn, fe ddywedwn i, fel y dywedais wrth y Gyfeill-

ach, fod angen gofyn un cwestiwn arall er mwyn cael yr

ateb. Sef yw hwnnw - nid pa bryd mae'r copiau sol-ffa yn

mynd i gyrraedd, a pha mor dda yw'r trefniant, a sut orau

mae llwyfannu'r Gantata; ond yn unig ofyn - beth yw ein

rhesymau, gyfeillion annwyl, dros gredu fod y Gantata yn

werth y drafferth? Ac fel y dywedais wrth y Gyfeillach yn fy

mherorasiwn : "Wrth ofyn ac wrth geiso ateb y cwestiwn yna,

gyfeillion, y meithrinir yr ysbryd iawn."

 

Hyderaf, John Williams annwyl, nad yw hyn i gyd yn rhy

dywyll i chwi. Ond os yw, erfyniaf arnoch ystyried Elen,

f'annwyl briod, sy'n dôn-fyddar, a'i het newydd ysbrydlawn.

 

Ydwyf, gyfaill annwyl,

Yr eiddoch yn ysbrydoledig,

John Humphreys, M.T.S.F.C.

 


 

 

Cyfres y Ddeuddegfed, yn yr hon y mae John Humphreys,

Ysw., M.T.S.F.G., yn ateb y deuddegfed o lythyrau un John

Williams, ac yn trafod Gwerthfawrogiad.

 

Annwyl Wffras.

16 Mawrth, 1967.

'Wyddost ti, 'rhen gyfaill, mi ddeudwn i fod gallu dyn i

werthfawrogi yn un o'r breintia' mwya' mae o wedi'i gael gan

ei Greawdwr. A mi ddeudwn i hefyd, 'r hen Wffras, fod dyn

sy'n medru gwerthfawrogi'n hael yn ddyn hapus iawn.

Ond rhyw grydiriad digon cynnil ein gwerthfawrogiad yda

ni, yn-te? Rhyw swnian a chwyno a hel beia' byth a hefyd,

wel di, a chymaint ganddo ni i'w werthfawrogi!

 

Sylwa di, 'r hen law, ar yr ateb gei di pan ofynni di i rywun

sut mae o. 0s oes ganddo fo boen clust, mi waranta' i mai'r

ateb gei di fydd "Reit dda, diolch ond mae gen i andros o

boen yn fy nghlust!" Dyna i ti ddyn sydd heb ddysgu sut i

werthfawrogi. Ond petai ti'n ddigon lwcus i ofyn i un o'r

ychydig sy wedi dysgu gwerthfawrogi, wst-ti be fyddai'i

ateb o? "Mae gen-i andros o boen yn fy nghlust - ond mi

'dw i'n iawn 'blaw am hynny, diolch!"

 

Peth mawr, 'rhen Wffras, ydi'r gallu i werthfawrogi petha'

bach. A phetha' syml a phetha' cyffredin. Achos cyfres o

betha' bach, syml, cyffredin ydi bywyd, yn-te? Eithriada'

ydi'r dyddia' mawr a'r digwyddiada' mawr, ac os nag ydi dyn

yn medru gwerthfawrogi'r petha' bach mewn bywyd, mae'i

fywyd o'n fwy o faich nag o fraint, creda fi!

 

Mae 'na gymaint o betha' y dyla ni eu gwerthfawrogi,

wel di - ond yn gwbwl ddall iddyn nhw fel arfer, gwaetha'r

modd.

 

Mae 'na sôn mawr am y cyffuria' 'ma heddiw, yn-does?

Cyffuria' o bob math. A phetha' dieflig ydyn nhw hefyd, yn ôl

pob stori. Ond mi ddarllenais i ryw dro yn rhywle am wyddon-

ydd oedd wedi gneud arbraw hefo un o'r drygia' lleia' ffyrnig

- tan ddisgyblaeth, cofia - a wedi cael profiada' hynod iawn.

Mi freuddwydiodd, dan ddylanwad y dryg, ei fod o mewn

gardd floda'; a dyma i ti beth oedd yn hynod - 'doedd y

bloda' yn yr ardd yn cael fawr ddim o effaith arno fo, ond

'r oedd o bron a llewygu dan effaith llesmeiriol y dail. Dyna i

ti brydferthwch, medda fo! 'Roedd hi'n amhosib' disgrifio'u

prydferthwch nhw' - roeddyn nhw'n boenus, yn arteithiol

boenus, o brydferth.

 

A byth ar ôl hynny, medda fo, mae o wedi medru gwerth-

fawrogi prydferthwch dail - eu lliw nhw a'u siap nhw, a

theimlo rhyw wefr o'u cyffwrdd nhw, ac o wrando ar eu

miwsig nhw, ac edrych arnyn nhw'n dawnsio. Dyn, wel di,

wedi dysgu gwerthfawrogi rhywbeth taken for granted o'r blaen.

Wedyn - dyna i ti'r hen Huw Dafydd. Dyna i ti ddyn sy

wedi dysgu gwerthfawrogi! Mae o'n ddall bost ers hanner

can mlynedd a mwy, wedi colli'i olwg yn anterth ei ddyddia',

yn ugain oed. A wyddost ti beth ydi testun gwerthfawrogiad

Huw Dafydd ? Fod ei Greawdwr o wedi rhoi ugain mlynedd o

weld iddo fo, a wedi rhoi cof iddo fo, iddo fo fedru dal ati, am

hanner can mlynedd arall a mwy, i weld yn ei ddallineb,

'Chei di neb hapusach dan haul na Huw Dafydd - am ei

fod o wedi dysgu gwerthfawrogi, wel di!

 

Trasiedi mawr heddiw, 'rhen Wffras, ydi'r ffordd mae'n

pobol ifanc ni'n cael eu difreinio o'r ddawn i werthfawrogi.

Mae nhw'n cael cymaint ar blât, wel di, fel mae'n anodd

drybeulig iddyn nhw fedru meithrin y ddawn. Achos, wel di,

'rhen Wffras, mae 'na aberth neu golled neu debyg ynghlwm

wrth werthfawrogiad bob amser.

 

Neu - fel y gwyddonydd 'na a'r dail - mae'n rhaid cael

rhyw gyfrwng arall, annaturiol a ffiaidd, i roi dyn yn y stad

iawn i fedru "gewrthfawrogi."

 

Pwy fasa wedi meddwl, 'r hen gyfaill, mai un o ganlyniada'

"popeth-ar-blât" fyddai problem cyffuria' heddiw?

 

Annwyl John Williams,

Diolch i chwi am eich llythyr unwaith eto, gyfaill annwyl, a

mawr hyderaf nad profiad personol o boen clust a'ch symbyl-

odd i ysgrifennu yn y modd y gwnaethoch, gan fod poen clust

cynddrwg ag annwyd trwm, o'r bron. Da gennyf innau

ddweud nad ydym ni dan yr annwyd ar hyn o bryd, ac yn

gwerthfawrogi hynny'n fawr, fel y crybwyllwch yn eich llythyr,

er nad yw byth yn bell iawn oddi wrthym, ysywaeth.

 

Yr wyf yn adnabod y cyfaill Hugh David Jones yn dda, a

chofiaf i mi ymgomio ag ef, yn gyfeillgar a phleserus, ychydig

flynyddoedd yn ôl. Cofiaf yn dda i minnau, hefyd, sylwi ar ei

hapusrwydd, er i'r annwyd fod yn drwm arnaf ar y pryd, ac,

yn wir, yn brif destun ein trafodaeth. Credaf hefyd i mi, yn

ystod y drafodaeth, ddarganfod cyfrinach ei hapusrwydd,

oherwydd iddo ddweud na fyddai'r annwyd byth yn ei boeni.

Cefais innau'r fraint o ddweud wrtho, yn gwbl athronyddol,

ac yn gaffaeliad mawr iddo, gobeithiaf, fod rhywbeth bach

yn poeni pawb, gan fychanu poendod mawr yr annwyd yn

fwriadol iawn. Neu fel y dywedais wrth Elen, f'annwyl briod,

ar ôl dychwelyd adref a rhoi iddi adroddiad o'n hymgom:

"Mae gan y dall ei lygad dychymyg, ond nid oes trwyn

dychmygol gan glaf yr annwyd."

 

Nid wyf yn credu fod eich damcaniaeth ynglyn â'r cyffuriau'n

gywir, os wyf yn eich deall yn iawn. Yr wyf bob amser yn

gwerthfawrogi popeth, ond eto i gyd yn gorfod cymryd

drygiau a chyffuriau lawer, oherwydd trymdra'r annwyd,

serch y beef-tea nosweithiol. Sylwch hefyd na chefais erioed

freuddwydion llesmeiriol am ddail nac unpeth arall, serch y

cyffuriau lawer, er i mi freuddwydio fy mod yn frawd i Handel

ar ôl dos gorgydwybodol o ipepecuanah a thinti-riwbob.

Dirwynaf i ben, gyfaill annwyl, gan i mi deimlo'r annwyd yn

nesau, ac Elen, f 'annwyl briod, eisoes wedi llenwi a gorchudd-

io'r poteli dwr poeth.

 

Ydwyf, gyfaill annwyl,

Eich annwyl gyfaill,

John Humphreys, M.T.S.F.C.