Yr Athronydd Gwrthniwclear
Trodd o fod yn wyddonydd yn Windscale i fod yn llais gwrthniwclear
cynnar, unig.
Gwyddonydd niwclear gwrthniwclear oedd Owain Owain.
15 Hydref 1964 |
Y ddelwedd fawr sy'n llwytho'r awyr
â strontiwm naw-deg. Nid yw'r
erchyllbethau a esgorir gan wragedd ymhen cenedlaethau yn
ddim ond hunllef dychymyg niwrotig sy'n pylu'n ddim yn
llewyrch breuddwydion y gwladwriaethau mawr. |
Ysgrif yn Y Faner |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
6.8.69 Nodion Gwyddonol |
'... pan gofiwn am y croeso brwd a roddodd yr Ynys i
ddwy ffynhonnell - Wylfa a Rio Tinto - a fydd yn parhau i
wenwyno Môn a'i phlant ymhell ar
ôl i bwer yr atom a
defnyddgarwch alwminiwm fod mor hen ffasiwn a stof-baraffin
a gwlanen goch? etc. |
|
|
27-5-1970 Nodion Gwyddonol
|
'Mae'r term "Cadwraeth" - a'i gyfystyr
Saesneg, "Conservation" - yn rhy farwaidd. Bwrlwm bywyd,
natur yw natur... Nid rhywbeth sy'n sefyll y tu allan i hyn
i gyd yw dyn... ond rhan anochel ac anrhydeddus o'r patrwm
cyflawn.
O leiaf - felly y dylai hi fod. Yn anffodus nid felly y mae
hi. Bellach, mae dyn yn ystyried ei hun yn endid annibynol,
y tu allan i'r patrwm, gyda'r hawl ganddo i newid y patrwm i'w
fodloni ei hun.
Gan anghofio, wrth gwrs, fod unrhyw newid yn y patrwm yn
gorfodi newid ynddo ef ei hun, sy'n rhan o'r patrwm.
Yr un gwendid sydd wrth wraidd y "pechod" hwn ag sydd wrth
wraidd y mwyafrif o'n pechodau - diffyg parch, a'r diffyg
parch yn ei gwneud hi'n bosibl i ni ganolbwyntio ar y "cael"
heb ystyried y "rhoi". Yr hen, hen stori, wrth gwrs, o roi'r
hunan o flaen arall.
Yr "arall" yn nhestun "Cadwraeth Natur" yw'r cenedlaethau
sydd i ddod....
Rydym yn rhy barod o'r hanner i dderbyn elw'r presennol heb
ystyried colledion y dyfodol. |
|
|
15/12/1971 Nodion Gwyddonol |
'Bum yn gweithio yn Windscale (Cumberland
am gyfnod byr iawn, rai blynyddoedd yn ôl. Yn ffodus roedd
hynny cyn i ddamwain hunllefus 1957 ddigwydd.
'Mae trigolion Gwynedd- eisioes wedi'u melltithio a dwy
atomfa hen-ffasiwn, a'r clochlefain hurt am drydedd atomfa i'w
glywed unwaith eto...' ayb |
|
|