Bathodyn i'r Gymdeithas
Crewyd bathodyn y gymdeithas gan Owain Owain. Danfonodd sgetsys o dafod y ddraig at John Davies ychydig fisoedd cyn mynd ati i gyhoeddi'r Tafod y Ddraig cyntaf, a hynny yn haf 1963.
Addaswyd y syniadau hyn ar gyfer y logo a ddefnyddir gan y Gymdeithas hyd heddiw. Mae'r sgetsys gwreiddiol - yn llaw Owain Owain - yn y Llyfrgell Genedlaethol, ac fe'u hatgynhyrchir yma trwy ganiatad Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Lluniodd chwech ohonynt i gyd, dyma enghraifft arall: