3 Medi, 1964: Llythyr gan Owain Owain at John Davies parthed protest Dolgellau.
Braenaru'r tir cyn protestio. Rhybuddia Owain fod angen,
"Os oes aelodau'n dyheu am weithredu, yna bydded iddynt
brofi eu argyhoeddiad drwy ymroi i waith caled a diramant
cyn y sioe (protest Dolgellau).
P.C. - 'Mae'r Blaid yn cloi potensial enfawr yr iaith fel arf wleidyddol.
|
|
Llythyr Owain Owain 'Gwn fod yn rhaid i ni herio'r awdurdodau, fod yn rhaid i ni weithredu'n anghyfansoddiadol... Ond mae'n rhaid i'r paratoadau ar gyfer gweithrediadau o'r fath fod yn llawer mwy trwyadl na'r presennol. Mae'n dod i hyn: os nad yw aelodau'r Gymdeithas yn barod i weithio - a gweithio'n galed o ddydd i ddydd - yna nid oes hawl ganddynt i fynnu "stunts", ac ni ddaw unrhyw elw i Gymru o weithtredu'n fyrbwyll.' Yn eironig iawn, rhagwelwyd cyflafan Dolgellau yn y llythyr hwn. 'Proffwyd tanbaid yr adfywiad iaith' oedd disgrifiad Emyr Llew ohono yn Y Faner Newydd.
|