O Lyfrgell Owain Owain Owain y person; ei fywyd 1929 -1993 Y Dydd Olaf: un o lyfrau Owain Owain Y Tafod cyfarchion y nadolig: gan yr arlunydd Owain Owain dyfyniadau am Owain Owain
 


Yr Ymgyrch paentio Arwyddion Ffyrdd Saesneg.

Torriad allan o'r Wester Mail, 29/Mehefin/1965. Un o brotestiadau cyntaf Cymdeithas yr Iaith.

Ynddo mae Owain Owain yn bygwth peintio arwyddion Cyngor Sir Arfon a Chyngor Tref Bangor; roedd hyn yn rhagflaenu un o brif ymgyrchoedd y Gymdeithas am y degawadau nesaf.

Gweler hefyd: Crwsâd Drwy Berswâd: (Tudalen 9-10): Brwydr iaith Tanygrisiau (Brewer Spinks)

'Brwydr Ffestiniog ydoedd yn y lle cyntaf yn ôl Owain Owain, Bangor, ond yr oedd wedi troi yn frwydr Cymru. Yr oedd yn rhaid gwneud rhywbeth ymarferol heb dreisio'r unigolyn. Os na fyddai'r pendrefyniad yn gryf ac os methai gweithredu lleol, cyfreithlon, byddai raid i aelodau Cymdeithas yr iaith Gymraeg ystyried sut i weithredu. Rhybuddiodd Owain, os na cheid penderfyniad cryf y byddai ef, wythnos i'r noson honno am saith o'r gloch, liw dydd, yn mynd o'r ty gyda phot o baent du a brwsh ac yn dileu hynny a fedrai o eiriau saesneg oddi ar hysbysfyrddau ac adeiladau'r llywodraeth yn ninas Bangor.

'Er iddo gael gwahoddiad, ddaeth Huw T Edwards ddim i'r ail gyfarfod (ym Mlaenau ffestiniog) ag yntau'n Llywydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Credai Owain Owain y dylai Plaid Cymru fod wedi cynnal protest gref a dylanwadol ar y dechrau. '

gan John Lasarus Williams