Gwneud y pethau bach, dyddiol, drwy gyfrwng y Gymraeg;
dyma oedd un o gonglfeini syniadau Owain Owain.
Mewn
ysgrif ar Rifynnau Cyntaf Tafod y Ddraig fe ddywedodd:
"O edrych yn
ôl i'm cyfnod fel golygydd Tafod y Ddraig
yn ystod 1963 - 1964,
pa neges (i'm tyb i) sy'n treiddio
drwodd yn glir
i'r cyfnod hwn?
"Hyn, debycaf i:
effeithiolrwydd gwaith caled, gwaith cyson -
yn aml yn
ddiramant, yn aml yn bedestraidd, serch hynny yn amrywiol,
yn aml yn ddiddorol, anaml yn gyffrous, byth yn ymfflamychol.
"Hyn yw angen mawr Cymru
heddiw:
gweithwyr caled, gweithwyr cyson, gweithwyr
adeiladol, gweithwyr creadigol, gweithwyr positif - gydag
argyhoeddiad
dwfn o werth yr unigolyn, a chariad tuag at ei gyd-ddyn, yn
ogystal â thuag at Gymru.
Yr argyhoeddiad a'r cariad yw
ffynonellau'r egni a'r grym a'r nerth
a wna'r gwaith yn bosibl ac a wna barhad a chryfhad pob
iaith a chenedl a diwylliant lleiafrifol
yn nod cyraeddadwy:
a wna byd cyfoethocach yn realiti."
|
Cyhoeddwyd y labeli 'Siaredir Cymraeg Yma' ar 18
Hydref, 1963 gan Owain Owain. |
|
|
|
31 Hydref 1963
Gwilym R Jones yn dweud: 'Rwy'n synhwyro mai yn
ninas Bangor y mae'r gweithgarwch mwyaf
dros amcanion Cymdeithas yr Iaith Gymraeg y dyddiau
hyn...'
'A ydyw pethau wedi tawelu tuag Aberystwyth ...?'
|
|
|
|
26 Mawrth 1964
Gwilym R Jones yn 'Y Faner':
Yma mae'n brolio ymgyrchoedd Owain Owain a Chell
Bangor 'y gwaith dygn a gyflawna'r gymdeithas yn awr
gydag ychydig o adnoddau ariannol y tu cefn iddi.
Un o'i chymwysterau amserol yw rhannu degau o
filoedd o ddalennau propaganda i geisio deffro ein
pobl i fynnu ffurflenni etholwyr Cymraeg...'
|
|
|
|
30 Medi, 1965
Llythyr a sgwennodd Owain i'r Faner.
|
|
|
|