NEUADD CYNDDYLAN
(Cyhoeddwyd
yn Cymru'r Plant, lonawr, 1966.)
(Addaswyd o ddwy gân ddi-enw
o'r nawfed ganrif) Dros fil o
flynyddoedd yn ôl 'roedd Cynddylan yn Dywysog Powys. Fe laddwyd
Cynddylan mewn brwydr ffyrnig, a drylliwyd ei Neuadd. Gadawyd
ei gorff, a chyrff ei filwyr
marw, yn Neuadd Cynddylan, ym Mhengwern (ger Amwythig).
Gerllaw'r Neuadd ddrylliedig 'roedd eryr anferth yn byw - Eryr Pengwern.
Neuadd Cynddylan
Yn dywyll heno
Heb do, heb wely,
Heb ddrysau iddo;
Heb dân, heb gannwyll,
Heb fywyd ynddo.
Eryr Pengwern
A'i big yn llwyd;
Eryr Pengwern
Yn awchu am fwyd. . . .
Neuadd Gynddylan
Yn ddistaw heno
Heb gerddor, heb seiniau
I atsain drwyddo.
Distaw, tywyll,
Llwyd a digyffro.
Eryr Pengwern
A'i sgrechian croch,
Eryr Pengwern
A'i big yn goch.