O Lyfrgell Owain Owain Owain y person; ei fywyd 1929 -1993 Y Dydd Olaf: un o lyfrau Owain Owain Y Tafod cyfarchion y nadolig: gan yr arlunydd Owain Owain dyfyniadau am Owain Owain
 


A hwy a ffromasant

(Ar ôl clywed y Parchedig Rees T. Williams, Llwyngwril,
yn pregethu ar y testun: "...a hi a dorrodd y blwch...")

Mair o Fethania
a'th ennaint drud -
ai hyn dy gyfraniad
i dlodi'r byd?
Fe dorraist y blwch
- nid digon ei agor -
a thywallt y nard
heb feddwl rhagor
am gost y weithred:
ni holaist faint,
na gwrando ar och
y darbodus saint.

Distrywiaist y costus,
oferaist y drud:
ai hyn dy gyfraniad
i dlodi'r byd?

Ie - torraist y blwch:
difethaist y drudfawr -
y fandal hir walltog
a'th ddifrod anwar!