Amser
Pan oedd doe yn heddiw
(a minnau, i'w ganlyn, yn well;
ac agosrwydd fy holl yfory
yn rhyw ffantasmagoria pell)
ar hafddydd fe ddown o'r ysgol
hyd odre glaswelltog y Garn
gan blymio'n ddwfn i'r gwyrddlesni drud
a chyfnewid llechweddau llwydlychlyd y stryd
am dawelwch Denïo.
Dim ond ambell fref
a rhyw dincian anesboniadwy, draw o anheddau'r byd,
a ymdreiddiai i'r clyw yn ddiogel a chraff:
'roedd y lleisiau eraill i gyd
(y blodau a'r dail a'r prydferthwch praff)
yn seiniau rhy helaeth, rhy swrth
i wahanu o'r hollbresennol hud.
Nes dod at yr afon:
Er mor undonnog ei chân,
nid oedd ei sisial yn syrffed i'r glust
na'i dawns i'r llygad; 'roedd ei dyfroedd glân
yn cywrain gonsurio cysgodion y dail
a'u gwasgar yn gawod gyfoethog
ar raean llwyd.
Beth oedd sail
ei henw, dyfalwn?
Afon Goch.
Ni hoffwn hyn:
nid oedd rhuddain gwaed
yn gyfath â'i thangnefedd gwyn.
'Roedd y pompren yn croesi'r afon;
ei choedydd yn llwyn
o goedgen a mwswg emrallt.
Pa ryw swyn
hebryngai'r croesi a'r glanio draw!
Y bompren oedd fynedfa
i Ganan fythol-wyrdd,
lle trigai camelod ac Indiaid,
crocodeiliaid, morladron a myrdd
o Aelodau'r Gyfeillach Gyfrin
a Gŵyl y Gymdeithas Gudd:
diniwed iawn eu natur
a smal oedd pob bygwth a brath -
ni allai fod ond felly
mewn nefoedd afoesol o'r fath.
Y bompren oedd y fynedfa.
Hon oedd fy mhompren i.
* * * *
'Roedd yr hogia' wedi hen 'laru
ar chwarae yng ngardd Ty Nain -
rocedau'r ddau wedi 'rafu
a'r peiriannau yn isel eu sain.
"Hei bois!" meddwn innau, heb
feddwl,
"Beth am gerdded at lan Afon Goch?"
Daeth gweddnewid i'r ddau wyneb diflas:
"Hwre!" oedd yr ateb croch.
Cawsom hwyl yn dringo Allt Bartu -
y mwyar yn ymffrost o sudd;
gwelsom wiwer ger ffynnon Pentaddug
yn c'naeafu ffrwythlonedd y gwydd.
Aethom heibio i'r hen fynwent gyfoethog
(nid tad ydyw tad ar lan bedd);
cyrhaeddasom (o'r diwedd) Ben Dalar -
ni bu falchach 'r un gyrrwr y wedd!
O'n blaenau, Afon Goch.
Nid oedd dim newid.
Nid oedd treiglad amser
wedi heneiddio treiglad y dwr.
Nid oedd dim newid.
Dim.
Cawsom hwyl yn dilyn ei glennydd:
"Dacw lyffant!" - "Ji-binc!" - "Sili-don!"
Gwnaethom bibau o'r sycamorwydden -
Oceanws, Alphews, Stymon.
Helsom fuches o fuchod-coch-cota
(rhy chwim ydoedd Rhiain-y-dwr);
gwelsom falwod, mwyalchen, malws,
chwrligwgan, plu'r waun a iâr-ddwr.
A'r bompren.
Rhedodd y ddau ati
gan chwerthin a gweiddi,
baglu, syrthio,
gwthio, neidio,
yn llawen a nwyfus,
yn ddi-dor barablus,
bochau yn gochion,
coesau yn wlybion,
eu gwynt yn eu gyddfau
a'u llygaid yn berlau.
"Na! Dewch yn ôl"
"Ond Dad! ..."
"Dewch yn ôl!"
"Ond Dad! ..."
"Dewch adre; mae'n amser
te!"
Cyhoeddwyd gyntaf yn Y Faner, 15 Ebrill, 1965.
Cymharer y gerdd hon gydag awdl Yr Afon (Gerallt Lloyd Owen)