Cofebion Tywyn
Ceinrwy gwraig Addian sydd yma -
yn ymyl Bud a Meirchiaw:
a Chun, hefyd - gwraig Celen,
Tricet nitanam: erys briw.
Geiriau ar garreg hen.
Addian ei hun, mi wn,
a fu'n naddu'r graig yn gofeb:
safai'r garreg amrwd yn uwch nag ef,
a'i gwydnwch llwydfelyn yn ildio'n ddrud
i'w ebill a'i ddwrn dur a'i wae.
Safodd y goflech hyd hoedl Cun,
cwympodd pan syrthiodd Addian.
Tricet morthgig: erys craig.
Saif heddiw yn eglwys Cadfan
yn Nhywyn: cofeb hynaf ein hiaith.
Saif yn hen
yng nghysgod newydd
ei chell wyth ganrif.
Saif yn y goleuni llwyd
sy'n hidlo drwy'r ffenest fain
yn nhrwch mur.
Saif yno.
Heddiw y'i gwelais gyntaf.
Gelwais i'w gweld
i ladd orig
cyn Steddfod y Plant
yn y neuadd gerllaw.
Gelwais i'w gweld
gyda'r ddwy fach,
'Doedd gan y ddwy ddim diddordeb
yn y garreg ddi-lun:
oedai'r ddwy - yn eu diniweidrwydd -
yng nghyntedd yr eglwys
(Eglwys Cadfan)
yn dotio ar flodau plastig pabi
yn nhorchau Mawrth
ac yn syllu'n llawn ofn
ar y pennau llewod
a guddiai'n lleng
mewn coedwig Brydeinig
o flodau gwaed.
Ni wyddai'r ddwy.
A minnau, drwy'r porth treisiol,
i geisio'r goflech ddi-drais
i lwch Ceinrwy, meirchiaw a Chun.
Ac fe'i cefais -
cofeb hynaf ein hiaith
mewn dwrn dur
yn gaeth i fur calchwyn,
a cherdyn mewn Saesneg gloyw
yn egluro'r wyrth.
Syllais ar y garreg
a deall
sut y teimlai Aiddan gynt.
Prysurais
drwy ragrith y porth estron:
'roedd y ddwy yn yr awyr iach,
yn fy aros rhwng dwy res
o gelyn gwyrdd.
Cyrhaeddwyd y neuadd.
Gwingai'r plant yn eu seddau
yn fendigedig o fyw,
a iaith Aiddan yn ddwndwr gogoneddus
yng nghlustiau heddiw.
Hon,
ydoedd cofeb y dydd.
Y Faner 07/04/1972