Crwydro Cymru - Blwyddyn Arwisgiad '69
Wylaf wers,
Huriwyd draig petrual
yn groeso
i hers ein diciâu.
Bûm yn Llanelli heno
yn gwrando ar iaith fain
yn gorlenwi'r sosban
ac yn hisian
i'r uffern nwy high speed.
Ddoe yn Nhywyn
Meirionnydd;
i arwisgo'r Gymraeg
â chywilydd newydd
ei gwych anrhydedd grach.
Echdoe ym Mangor -
yn Arfon, gynt yn Fawr;
nofiais mewn llyn nofio
a foddwyd ddydd ei fedydd
mewn môr main estron.
Dridiau cyn hyn
Pen Llŷn a'i dangnef -
a'i fordiau Bed & Breakfast
a'i fyrddau cyfnewid buchedd
a'i gytiau haf i ieir.
Gwelais ddyn a'i fintai
yn dathlu maint
ein braint
o dywysog dwyieithog
drwy gerdded mewn syrffed
hyd rodfa arddangosfa
"Ideal Home"
yng nghartre Dafydd,
Meri Ann
a Joni Bach.
Roedd cadwyn aur am ei wddf
ac un arall am ei draed, -
un drom ac anweledig, yn llawn rhwd:
'doedd dim aur arni hi.
Yn Nhywyn druan
clywais lys-genad cadwynog Lloegr
yn haerllug gyflyru 'mhlant
dan warant y gyfundrefn lofr.
Hannoedd o'n prifddinas
yn Arglwydd Faer
i ni.
Mab
coron ein taeogrwydd
oedd rhwydd destun ei araith;
amhleidiol deg ei retreg
a di-bwyllgor-addysg-gynhyrfiol
ei amholiticaidd iaith.
Roedd marchnad Fawr ym Mangor
yn corddi pres
i'w daenu ar frechdan arall.
Cydau marw, amryliw,
llawn llwch diwefr
yn prynu
llith angau
mewn blychau lliwgar, llwyd.
Ni welais i ddim o'r ddraig
ond ar bympiau petrol;
a glaslanc o Sais
ar bais blastig
yn Woolworth,
druan bach.
Nepell o dre Pwllheli
ar gyrion penrhyn Llŷn,
gwersyll
yn llawn Pwyliaid musgrell
a llain o garafanau
a llerpyn ffatri
hyn-a-llall.
Penyberth,
unwaith
oedd ei enw.
Do_
mi grwydrais.
Ac ar a welais
ac a glywais
wylaf wers -
am dri a thri
a thri.