O Lyfrgell Owain Owain Owain y person; ei fywyd 1929 -1993 Y Dydd Olaf: un o lyfrau Owain Owain Y Tafod cyfarchion y nadolig: gan yr arlunydd Owain Owain dyfyniadau am Owain Owain
 


Cyfaddawd

Yn wylaidd, Gymro, derbyn ddur y llafn
    sy'n gudd dan faneg wen awdurdod gw
âr;
pa l
ês mewn treisio trais? Mil gwell troi safn
    dy lid a'th wae yn wên - mae gw
ŷr a'th gâr!
A fynni groes a loes y sawl na dry
    ei ddicter cyfiawn yn fudandod dall?
Pa fudd mewn corddi ceubwll? Enaid cu -
    edrych ar byllau'r byd a'u llutrod mall:
anymerodrol glai Gwyddelod cam
    ac esgyrn sychion crudau'r Affrig flin;
y llwch, y lludw gwynias o Wŷth-nam,
    a gwaddod du'r Americanaidd win.
Ond ni - osgown hen gynnen sur yn gl
ên
gan dreisio'n plant â chyfaddawdol wên.