O Lyfrgell Owain Owain Owain y person; ei fywyd 1929 -1993 Y Dydd Olaf: un o lyfrau Owain Owain Y Tafod cyfarchion y nadolig: gan yr arlunydd Owain Owain dyfyniadau am Owain Owain
 


Cynefin

Peth od yw mynd 'nôl i'm cynefin
A chwrdd â dieithriaid ar stryd;
Plantos na wn eu henwau)
Wynebau na thraethant eu bryd;
Y strydoedd yn llawer iawn culach,
Teios droedfeddi'n llai,
Dim aur ar balmantau mwyach
A'r môr yn yr harbwr ar drai.

 

Ai breuddwyd oedd traethell arian?
Nid breuddwyd yw prudd-der y don
Na'r tristwch sy' nghusan y tywod
Ai breuddwyd oedd hafddydd llon?

 

'Does neb 'nawr yn croesi'r bompren
(Dim rhisgl yn addurn i'w choed);
Nac undyn yng nghesail ei chanllaw
Na deuddyn ym mroydd yr oed.

 

Diflannodd pob rhamant o'r llennyrch.
Pwy fu'n dofi pob llwyn
Ac yn tocio'r perthi?
Pwy fu'n diwyd grymannu pob swyn?

 

Bum ganwaith yn ôl i'm cynefin,
Yn dilyn y llwybrau i gyd;
Ond methais fynd 'nôl i'r Mehefin
Fu'n troedio'r llwybrau drud.

 

Gyhoeddwyd yn Y Faner, 10 Medi, 1964.