Dwylo
Gweithiaist ni'n gywrain,
Arglwydd -
lluniaist ni'n hael
o lwch paradwys ac ysbryd mael;
rhoddaist
(o'th fawr haelioni)
ddwy glust i gyd-glywed,
dau lygad i gyd-weled,
a chymheiriaid cyfled
y ddeheulaw a'r aswy law.
Ninnau, Arglwydd,
mewn pleidlais o gael ein plesio,
a gawliasom dy gymynrodd
drwy greu deuoliaeth
o'r ddyblyg rodd.
Echnos, Arglwydd,
clywsom ag un glust
wylofain paderau
ym mhellterau byd.Na hidia, Arglwydd,
canys a'r llall
clywsom yr hwiangerddi haerllug
a'u heddychol hud.
Echdoe, Arglwydd
(odid drwy edrych)
cil-welsom y bryntni pell
drwy lygad pwl.
Ond iachawdwriaeth!
pefriodd y llall
yng ngloddest llygeidiog
y lleidiog wledd
a gwaelododd y bryntni
yn ffiolau'r medd.
Y Saboth, Arglwydd, mewn cyfrin gell,
offrwm deheulaw gudd;
a'r penwythnos, ASba,
i'n brodyr pell,
offrwm yr aswyn rudd.
Cyhoeddwyd yn Y Faner, 27 Chwefror, 1969.