O Lyfrgell Owain Owain Owain y person; ei fywyd 1929 -1993 Y Dydd Olaf: un o lyfrau Owain Owain Y Tafod cyfarchion y nadolig: gan yr arlunydd Owain Owain dyfyniadau am Owain Owain
 


Epigramau

Mae llygaid y ferch fel glas y wawr -
yn newid gwedd bob munud awr.

Ei gwefus sydd fel ceirios ir -
yn denu adar o bob sir.

Mae gwên y fûn yn ddiliau mêl -
â thrwch o gŵyr i'w dal dan sêl.

Gefynnau dur i ddofi'r gwalch -
ond modrwy aur i ddofi'r falch.

Modrwy aur yng ngwallt y fûn
sy'n denu gwell o ddwylo'i dyn.

Modrwy i hwch i atal y twrian -
modrwy i ferch i atal y stwrian.

Os gwallt dy wraig sy'n afradu dy bunt
cofia mai ti ddaeth
â'r britho 'nghynt.

Os yw tin dy wraig sydd fel talcen tas:
cofia dy gyfraniad - asen fras!

Os clebran dy wraig yw achos dy glwy
rho ddiolch am ddeddf sydd yn gwahardd dwy!

Mae ynddi fil o feiau  yn gaeth -
ond dwyfil a mwy yn ei chymar gwaeth.

Rhoist iddi fodrwy aur yn rhad:
na foed dy aur yn daliad brad.

Tydi â'i crëodd: câr hyhî.
Onid ei chariad a'th greodd di?