O Lyfrgell Owain Owain Owain y person; ei fywyd 1929 -1993 Y Dydd Olaf: un o lyfrau Owain Owain Y Tafod cyfarchion y nadolig: gan yr arlunydd Owain Owain dyfyniadau am Owain Owain
 


Gweledigaethau

Yn encil amser a'i adlais
mi a welais adfail diffaith
ganmilwaith godidocach
na chrach gaerau
ein rhwysg a'n rhemp.

Yno,
yn agendor diguriad
ei dor furiau drud,
gwelais weledigaethau doe
yn dyheu
am eu hiawn gywiriad.

Gofynnais iddynt:
"Ai hir yr aros?"

Yn ebrwydd, daeth ateb:
"Nid oes hyd i ddyhead
na ffin i gynefin angof."

Gofynnais eilwaith:
"A ddewch chi'n ôl
rhyw ddydd?"

Atebwyd:
"Nid rhydd i ni;
Tydi, Enaid, biau'r ateb."

"Pa fodd," gofynnais,
"y bydd hyn?"
"Y Dyn! Oni wyddost?

Onid ymffrost dy angof
o'th ddoe
a'n cadwynodd ni?

Ystyria, Enaid, fel y deillia
afraid unigedd dy rawd
o'r angof hwn."

"A'r yfory?"
   
"Ohono, hefyd, y daw brad
   
anorfod
yr yfory amddifad."

 

"Eglurwch weithian -
mae'r cyfan yn ddu."

"Nid oes eglurhad.
Nid yw rhad iaith rhesymeg
na llwm noethni rheswm,
yn rhan ohonom ni."

 

"Traethwch!" heriais,
"a'ch llais eich hun.

Na fyddwch fud!"
"Pan gymer ddoe
ei hoe yn heddiw,
a phob rhyw heddiw'n
ddoe a fydd
fe ddown yn ôl."

"Rhigwm gwrach!
A pha elwach ni?
Ffyliaid! Nid nyni fu'n creu
gorffennol digyswilt
a'i ddyfodol dall."

 

Diflannodd pob rhith
yn haerllugrwydd
yr anobaith.

Minnau'n ôl
i rwysg heddiw
a rhemp fory;
hwythau dan glo
yn y doe gwyn.

 

Cyhoeddwyd yn Y Faner, 27 Ghwefror, 1969.