O Lyfrgell Owain Owain Owain y person; ei fywyd 1929 -1993 Y Dydd Olaf: un o lyfrau Owain Owain Y Tafod cyfarchion y nadolig: gan yr arlunydd Owain Owain dyfyniadau am Owain Owain
 


Canaf Gân i'r Lili

Canaf i'r wynnaf a'r lanaf o'r fflur:
mewn oes mor aflan - wele destun pur!

 

O! Lili wen hardd!
O! dywed i mi -
o ble daeth d'ogoniant,
o ble daethost ti?

'O wely o bydredd,
o boethder tail:
o wreiddyn cynrhonllyd,
drwy'r lleuog ddail.'

Pam sbwylio'r darlun
a'th ateb hy' ?
Oni wyddost mai anllad
yw geiriau mor gry' ?

'Ti sy'n gofyn !
Arnat ti mae'r bai !
Ydi'r gwir yn dy frifo?'

Dy le di ydy edrych yn neis -
yn wyn fel amdo cyn y cloddio trwodd,
morddi-frycheulyd â phlat-arch cyn y claddu.
Wyddost ti ddim dy fod ti'n arwydd o lendid,
yn symbol o symlrwydd seintlyd,
yn shiboleth gweledig o biwritaniaeth ddi-liw?
Pam 'rwyt ti'n siarad mor hyll?

 

'Traethais wirionedd
Onid pridd yn pydru
yw pridwerth fy mhrydferthwch?
Onid oes cynrhon yn gloddesta
'mysg y gwreiddiau a rydd i mi faeth ?
Onid trwy drwch o lau gwyrdd
y mae'r dail yn anadlu bywyd?
Neu ai gwell gennyt i'm gwynder
fod yn gelwydd gwyn?'

 

Mae gwirionedd yn iawn yn ei le.
Ond ystyria:
onid yw dy wirioneddau
yn gostwng gwerth dy brydferthwch,

yn dryllio dy ddelwedd
ac yn rheibio dy rith?

 

'Ti biau'r ddelwedd :
ti biau'r rhith, hefyd -
rhithfyd heb gynrhon yn y gwreiddiau
na llau ar y dail,
a delwedd sy'n gwrthod derbyn
mai tail a thom yw defnydd crai
y prydferth a'r pur.
Eithr myfi biau'r prydferthwch -
yn rhydd o'th rith
a heb ddyled i'th ddelwedd:
yn fuddugoliaethus wyn
uwch y pridd du,
yn fendigedig o bur
uwch damnedigaeth y dail lleuog.
A hynny - deall -
heb nawdd dy ddelwedd ddryslyd
na rhagrith dy ledrithiol fyd.'

 

Canaf gân i'r Lili -
i fuddugoliaeth y petalau pridd,
i deyrngarwch y dail dioddefgar,
ac i wydnwch y gwreiddiau gwyn.