O Lyfrgell Owain Owain Owain y person; ei fywyd 1929 -1993 Y Dydd Olaf: un o lyfrau Owain Owain Y Tafod cyfarchion y nadolig: gan yr arlunydd Owain Owain dyfyniadau am Owain Owain
 


Rho arwydd

Rho arwydd inni, Arglwydd -
bellach,
dim ond darn hiraethus a diffrwyth
o lwyfan 'steddfod ein hoes
yw erwau'r Ardd:
darn i'w droedio'n ddagreuol ar ddydd alltud
cyn dychwelyd yn llawn gwenau
i gynefin ein haelwydydd-ar-wasgar, clyd.
    A blas yr afal -
bellach,
nid yw'n ddim ond dincod ar ein dannedd,
a'r cof brith o'i chwerwder-melys
yn ddim ond esgus parod i lyncu'r ffisig mêl.
    Pa ryfedd nad y'm yn ddeiliaid?
    Pa ryfedd nad oes ynom ddeall?
        Dwed wrthym eto, Arglwydd -
        pa beth sy'n dda
        a pha beth sy'n ddrwg?

Rho arwydd i ni, Arglwydd -
bellach,
nid yw'r golofn dân yn ddigon gwynias
yn erbyn cefnlen lachar ein cyfnos,
na'r cwmwl mwg yn ddigon du
yn nuwch ein dyddiau.

Pa ryfedd mai cam yw ein cerdded?
Pa ryfedd nad oes i ni orwelion?
    Dangos i ni eto, Arglwydd -
    ogoniant y wawr
    a duwch y nos.
 

Arglwydd -
rho eto arwydd:
nid yw'n rhwydd
i ni dderbyn y lleill.

Y Faner, 16-04-1970