O Lyfrgell Owain Owain Owain y person; ei fywyd 1929 -1993 Y Dydd Olaf: un o lyfrau Owain Owain Y Tafod cyfarchion y nadolig: gan yr arlunydd Owain Owain dyfyniadau am Owain Owain
 


Salm y Gardnyr Diwyd

Gad i mi dyfu maip, O Dduw,
heb brotest yn yr ardd:
    eu tyfu'n rhes ddi-wyro
    mewn pridd (heb faeddu dwylo)
    a'u gweld yn felyn-chwyddo
    yng nghanol chwyn.

Gad i mi fewri'r maip, O Dduw,
yn botes - llyfn fel llymru:
    eu berwi'n shitrws rhywiog,
    yn gawliog, ddi-lygeidiog,
    a'u blasu'n ddi-eneiniog
    heb fwrw sen.

Rho i mi gwsg-y-maip, O Dduw,
yn felys a di-euog:
    a'r boliad con-fen-siadol
    yn gyfan-soddi-adol
    dan reol ffisig gwladol
    gwladwriaeth les.