O Lyfrgell Owain Owain Owain y person; ei fywyd 1929 -1993 Y Dydd Olaf: un o lyfrau Owain Owain Y Tafod cyfarchion y nadolig: gan yr arlunydd Owain Owain dyfyniadau am Owain Owain
 


Salm Dau-ddeg Tri

Arglwydd, bydd imi'n gydymaith:
mae dy eisiau arnaf.
Na'd i mi orwedd
mewn porfeydd gwelltog
an'm tywys ger ferddwr tawel:
eithr dychwel Dydi fy enaid -
nid fy nghorff.

Gan hynny, na'm harwain
ar hyd llwybrau cyfiawnder
er mwyn fy enw,
ond rhodia gyda mi
drwy gysgodion bywyd:
yna,
nid ofnaf niwed
gan ffon na gwialen
o dderbyn cysur
dy gwmni Di.

A dysg i mi, Arglwydd,
i arlwyo bord fy ngwrthwynebwr,
a iro'i ben ag olew:
yna fy ffiol, yn wir, a fydd lawn,
a'm henaid a breswylia ynot
holl ddyddiau fy mywyd.
    Yn ddiau, Arglwydd,
    y drugaredd hon
    yw cyfran hoedl
    o'r tragwyddol dda.