Teulu'r Gegin yn Cael Te
(Cyhoeddwyd gyntaf yn 'Deryn',
Hydref, 1964.)
"Tic-toc,"
Ebe'r cloc,
"Mae'n amser cael te!"
"Blib-blob,"
Ebe'r tecell,
"Gwnaf botied o de."
"Tinc-tonc,"
Ebe'r sosban,
"Gwnaf i ferwi meipan."
"Ond ha!"
Ebe'r tân
Gan fflamio a mygu,
"Myfi fydd yn c'nesu a berwi y dwr!"
"O! taw â dy
stwr!"
Ebe'r tân
wrth y cloc:
"Taw di yr hen frân!"
"Cei broc!"
Ebe'r sosban
O gyfeiriad y pentan.
"Gan bwy?"
Ebe'r llwy,
Yn rhoi winc ar y tân.
"Nawr!
Nawr!"
Ebe'r tecell;
"Ust! Ust!"
Ebe'r badell.
"Dyna ddigon!"
Ebe'r radell,
"Onid e,
Chawn ni ddim te!"
Wedi'r elwch
Bu tawelwch,
A berwyd y dwr
Gan y tân
yn ddi-stwr;
Eisteddodd y cwmni
Pob un yn ei le,
Bwytawyd y feipen
Ac yfwyd y te.