Wrfilod Wranws
(Argraffwyd gyntaf yn Ionawr
1974 mewn cyfrol o'r enw Creaduriaid, CPPC)
Mae'r blaned Wrfilod
yn wrlwm o wrfilod
o bob ffliw a fflun -
rhai yn wnllyd, och,
ac eraill yn hyll o nefibliw.
Un felly yw'r wrfil Achan -
ei groen yn achod i gyd,
a'i draed yn ddianghenraid.
Mae'n byw mewn hen achau,
ac yn bwyta dim ond cryps.
Ar ôl te, mae'n mynd i gacan:
wedyn, yn dost,
mae'n llyncu mil o badledi Braso
ac yn gweld y gwynt.
Ond bwrgoneddig o wrfil yw'r Dadach:
mae'n sychu'i geg
wyth gant, saith-deg naw a hanner
o weithiau bob dwthwn, weithian,
ac yn wrthog o dwng ar gyfartaledd.
'Welodd neb erioed
y Dadach yn maglamu -
dim ond gesgumodi
a hownowian fel bow
drwy'r dydd.
Dipyn o fwngrel
yw'r Achanadach -
mae'n sychu'i geg
bedwar cant a thri-deg a naw a thri-chwarter
o weithiau bob-yn-ail dwthwn,
ac yn bwyta cryps bob diwrnod arall,
fwy neu fwy.
Weithiau,
mae'n cnoi badledi Braso
ac yn maglamu fel bow;
ond yn grondifyrbwll,
dydy o byth yn howowian cyn te!