Y Cyfnod Sialcaidd
(Argraffwyd gyntaf yn Ionawr 1974 mewn cyfrol o'r enw
Creaduriaid, CPPC)
Triceratops a Trachodon,
blodau lliwgar a choed cyll,
derw, iorwg, Trenodon -
a'r Tyrnosawrws hyll.
Celyn, ffawydd a magnolia,
Brachiosawrws (talaf un),
Helioceras, Twritela,
helyg, ffigys - ond dim dyn!