Gorchwylon Nadolig 'Nhad
Nadolig 1980: 'Llyfr y Nadolig Cymreig' (gol. Ifor ap Gwilym)
GORCHWYLION NADOLIG 'NHAD
(Pwllhelii - 1937)
Pan oeddwn i yn wyth oed, fy nhad oedd piau'r
Nadolig.
Mam, wrth gwrs, oedd yn cymysgu'r pwdin ac yn ei
ferwi - ynghanol cymylau trwchus o stêm - wythnosau cyn yr Ŵyl. Mam
hefyd oedd yn cymysgu ac yn crasu'r deisen - er mai fy chwiorydd
oedd yn rhoi'r past-almon a'r iâ-melys arni, a minnau (yn wyth oed)
yn cael rhoi'r robin goch pinc a'r coed-pîn-mewn-tybiau-cochion a
dyn-eira-llynedd llwyd ynghanol y siwgwr gwlyb. Mam hefyd oedd yn
gwneud y mins-peis a'r gwin sunsur: ac ar y diwrnod mawr ei hun, hi
oedd y brif-gogyddes a'r pen-olchwr-llestri.
Ond fy nhad, yn siŵr i chi, oedd piau'r
Nadolig. Ef oedd yn berchen cyfrinachau'r Nadolig: ef,
felly, oedd piau'r Nadolig ei hun.
Y cyntaf o orchwylion pwysig Nadolig fy nhad oedd
cael y Goeden - a hynny dridiau-bedwar cyn yr Ŵyl. Ym Mhwllheli,
yn ystod y cyfnod y soniaf amdano, 'doedd coed Nadolig ddim yn cael
eu gwerthu mewn siopau; cael coeden oedd bawb. A'r cael
oedd y gyfrinach gyntaf a berthynai i Orchwyl Pwysig Cyntaf fy nhad.
Nid coeden-bîn mohoni, wrth gwrs - and celyn: cangen
braff o gelyn ysgleiniog, a'i ffrwythau fel ceirios tanbaid, yn
llosgi'n goch ynghanol y drysni gwyrdd. Nid cangen heglog, hir,
ychwaith - and ei dail a'i brigau clos yn ffurfio pêl gron, a'r bêl
yn hongian o gronglath uchel ffenest y gegin, ac yn llenwi'r agendor
rhwng y muriau trwchus oddeutu'r ffenest.
'Welais i erioed mo'r goeden yn cael ei
haddurno. Wrth edrych arni o droed y grisiau, drwy gil y drws, nos
Nadolig, fe'i gwelwn yno, yn ysblennydd yn ei choch a'i gwyrdd - ond
heb unrhyw addurn arall. Ond bore dydd Nadolig – gwyrth! gwyrth! -
roedd y goeden yn gawod o afalau ac orennau a chlychau siocled mewn
papur arian a sêr gwydr amryliw a chant a mil o bethau nad oes modd
i un dyn byw eu disgrifio'n iawn.
"Y Tylwyth Teg, w'sti!" eglurodd fy nhad: "Nhw fu wrthi - drwy'r nos!"
Roedd cyfrinach y Tylwyth Teg, hyd yn oed, yn
perthyn i fy nhad: ef, yn wir, oedd piau'r Nadolig.
Yr Ail Orchwyl Pwysig o eiddo fy nhad oedd Prynu'r
Ŵydd. A hynny, bob blwyddyn, yn y Ffair Wyddau a gynhelid yn Neuadd
y Dref, ddeuddydd-dri cyn y Nadolig.
“Well i chi fynd!" ebe mam wrth fy nhad, gan edrych
yn bryderus ar y cloc: "Mae'n hwyr glas arna' chi fynd!"
Ond gan fy nhad oedd y gyfrinach: "Rhy gynnar, Meri
bach!" ebe fy nhad; "Awr arall - o leia:"
"Dim gŵydd fydd hi - gewch chi weld!"
Hanner awr yn ddiweddarach, roedd fy nhad yn rhoi'i
got-fawr amdano, ac yn gafael yn y fasged a fu'n sefyll ar y bwrdd
am ddwyawr: "Mi â'i dow-dow!"
Ac yn siŵr i chi - yn y cyfnod hwnnw pan nad oedd
oeriadur ddim yn beth cyffredin - fe fyddai fy nhad yn ôl ymhen yr
awr, gyda'r ŵydd fwyaf a welwyd erioed.
"Hanner y pris!" ebe fy nhad, yn wên o glust i glust: "Y fargen ora’ eto!" Mae'n
rhoi'r fasged drom ar y bwrdd, a'r newid trwm yn nwylo mam - ond
mae'n cadw'r gyfrinach iddo'i hun.
Yn sicr - unwaith eto - fy nhad biau'r Nadolig.
Y Trydydd Gorchwyl Pwysig oedd Paratoi ar gyfer
Ymweliad Sion Corn. Fy nhad oedd yn crogi'r hosan hir wrth droed fy
ngwely, ac ef oedd yn rhoi'r gwydraid o win sunsur a'r platiad o
fins-peis ar ben y cwpwrdd bach wrth yr erchwyn. Ei gyfrinach ef
oedd sut y gwyddai mai gwin sunsur a mins-peis oedd hoff fwyd Sion
Corn - ac ni fu yr un Bore Nadolig heb wydr gwag a phlat lân.
Flynyddoedd yn ddiweddarach, cefais wybod am
gyfrinach fwy a berthynai i'r Trydydd Gorchwyl Pwysig: y lapio
gofalus, y llenwi hael, y broblem aruthrol o benderfynu 'Pa bryd?'
Ac o ddod i wybod hynny, fe wyddwn hefyd - gyda mwy o sicrwydd na
chynt - mai fy nhad oedd piau'r Nadolig.
Ar ôl te
Dydd Nadolig y cyflawnai fy nhad y Gorchwyl Pwysig Olaf. 'Wnes i
erioed ddeall yn iawn y gyfrinach a wnâi'r gorchwyl hwn yn Orchwyl
Pwysig: ond gwyddwn (heb ddeall) bod rhyw arwyddocâd dwfn yn perthyn
iddo.
Yn y gegin bach, mae mam a fy chwiorydd yn golchi
llestri'r te Nadolig. Yn y cyntedd, mae yna bin-rowlio gwydr,
hen-ffasiwn - na fu erioed yn rowlio pastai - yn hongian ar y wal,
yn ymyl y stand-hetiau. Ar fwrdd y gegin, mae fy nhad eisoes wedi
rhoi y pot pâst a phentwr o luniau bach lliwgar - y lluniau a oedd
(oriau ynghynt) yn addurno'r cracyrs.
Mae fy nhad yn dod â'r pin-rowlio o'r cyntedd ac yn
ei roi, yn ofalus ac yn seremonïol,ar fwrdd y gegin. Mae'n eistedd
wrth y bwrdd, ac yn tynnu'r pot pâst a'r pentwr lluniau yn nes ato.
Yna, mae'n astudio'r pin-rowlio yn bwyllog ac yn araf iawn.
O'r pentwr lluniau, mae'n dewis llun - seren
wyth-bigyn, neu ferch fach Diwtonaidd mewn cot ffwr, neu ddyn eira
gwych. A chyda gofal mawr, mae'n rhoi pâst ar gefn y llun, ac yn ei
osod yn ofalus, ofalus, ofalus ar y pin-rowlio.
Dim ond y lluniau mwyaf dethol sy'n cael mynd ar y
pin-rowlio; 'does dim lle i'r lleill, oherwydd mae'r addurn gwydr
eisoes yn frith o luniau - lluniau o bob gŵyl Nadolig a fu erioed.
Mae mam a fy chwiorydd wedi gorffen golchi a sychu'r
pentwr anferth o lestri. I’r funud, bron, mae fy nhad wedi gorffen
ei Orchwyl Pwysig Olaf, ac yn rhoi'r pin-rowlio yn ôl ar yr hoelen
yn y cyntedd, gerfydd y llinyn: am flwyddyn gron, fe fydd y pin-rowlio-na-rowliodd-ddim-erioed
yn aros yno yn amyneddgar, yn disgwyl am ddyfodiad Nadolig newydd, a
sêr papur disgleiriach na chynt.
'Wnes i erioed ddeall arwyddocâd y gorchwyl pwysig
hwn. Un o gyfrinachau fy nhad - un o gyfrinachau'r Nadolig - oedd
hynny. A chan mai fy nhad oedd piau'r Nadolig a'i gyfrinachau, roedd
yr hawl ganddo i gadw'r gyfrinach arbennig hon iddo'i hun.
Owain
Owain
Tudalen 1 | Tudalen 2 | Tudalen 3 |