O Lyfrgell Owain Owain Owain y person; ei fywyd 1929 -1993 Y Dydd Olaf: un o lyfrau Owain Owain Y Tafod cyfarchion y nadolig: gan yr arlunydd Owain Owain dyfyniadau am Owain Owain
 


Gwobrau

8.1968 Defaid Eraill Barn Cystadleuaeth Stori-fer. Beirniad: Pennar Davies. Gwobr gyntaf. Cyhoeddwyd yn Barn Awst 1968 ac ad-argraffwyd yn Amryw Ddarnau (1969).
12.69 Hei Ho! Pwyllgor Addysg Meirionnydd / Cyd-bwyllgor Addysg Cyhoeddwyd fel llyfr (Dryw; 1972)
8.70 Y Gofodwr Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Rhydaman Soned arbrofol. Beirniad: J Gwyn Griffiths. Gwobr gyntaf.
8.70 'Rhen Wilias Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Rhydaman Cystadleuaeth cerdd dafodiaith. Beirniad: Dyfnallt Morgan. Cydradd gyntaf.
8.71 Cerddediad Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bangor Cystadleuaeth cerdd deledu. Beirniad: Gwyn Erfyl a Geraint Stanley Morgan. Gwobr gyntaf. HEB ei darlledu na'i chyhoeddi.
8.71 Am Dro i'r Lleuad Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bangor Cystadleuaeth llyfr gwyddonol i blant. Beirniad: Dafydd Kirkman. Gwobr gyntaf. Cyhoedwyd yn Cymru'r Plant yn fisol 1972 - 73.
8.71 Y Peiriant Pigmi Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bangor Cystadleuaeth stori-fer. Beirniad: Kate Roberts. Cydradd ail. Cyhoeddwyd yn Y Peiriant Pigmi (Gomer; 1973).
Sulgwyn 78 Y Syrcas Fawr Eisteddfod Pantyfedwen, Pontrhydfendigaid Cystadleuaeth baled wreiddiol. Beirniad: Geraint Bowen. Gwobr gyntaf. Cerdd ddychanol ar arwisgiad 69.
2.72 Rho Gynnig! Pwyllgor Addysg Caerfyrddin Cystadleuaeth llyfr cwis i blant. Ail wobr. Cyhoeddwyd yn llyfr gan Christopher Davies; 1974.
12.5.72 Os Clebran... BBC (Bore Da!) Gwobr gyntaf. Wedi ymddangos cyn hynny yn Y Faner, 26.8.71.
26.5.72 6 stori fer Eisteddfod Pantyfedwen, Pontrhydfendigaid Beirniad: J Gwilym Jones. Cyntaf. Cyhoeddwyd y chwe stori yn y Peiriant Pigmi (Gomer; 1973).
8.72 Y Gerdd Arobryn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Hwlffordd Cystadleuaeth cerdd radio. Beirniad: Dyfnallt Morgan. Cydradd gyntaf.
9.72 Bara Brith Yr Academi Gymreig Gwobr Goffa Griffith John Williams. Cyntaf.
5.73 Eisteddfod Pantyfedwen, Pontrhydfendigaid Cystadleuaeth y Gadair: ail. Beirniad: Derec Llwyd Morgan
8.73 Baled Llyn Barfog Eisteddfod Pantyfedwen, Pontrhydfendigaid Ail wobr. Cyhoeddwyd Barn Medi 1974.
8.73 Gofod Cystadleuaeth cylchgrawn ysgol Y wobr gyntaf a'r ail.
8.74 Ddoe a Fory Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caerfyrddin Cystadleuaeth cyfrol o farddoniaeth wreiddiol i blant dan 13 oed. Cyhoeddwyd wedyn "Cerddi Ddoe a Fory" (Gomer; 1977)
3.76 Y Dathlu Teledu Harlech Beirniad: Islwyn Ffowc Ellis. Cystadleuaeth stori-fer. Cydradd gyntaf. Cyhoeddwyd yn y TV Times yn ddwy ran; 20.3.76 a 26.3.76.
8.76 Beirniadu:
   Merch Gwern       Hywel
Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Aberteifi Cystadleuaeth Beirniadu Drama Deledu "Merch Gwern Hywel". Beirniad: Islwyn Ffowc Ellis. Cydradd gyntaf.
4.77 Mical Cyngor Celfyddydau Cymru Cyfrol y flwyddyn. Cyhoeddwyd gan Gomer; 1976.