O Lyfrgell Owain Owain Owain y person; ei fywyd 1929 -1993 Y Dydd Olaf: un o lyfrau Owain Owain Y Tafod cyfarchion y nadolig: gan yr arlunydd Owain Owain dyfyniadau am Owain Owain
 


Undeb y Gymraeg Fyw.

Sefydlwyd  Gorffennaf 1965 gan John L. Williams ac Owain Owain.

Gweler hefyd ddyfyniad gan John L Williams: Cyfeiriadaeth a'r ysgrif Siou a Mownti.
Yn 2003 cyhoeddodd John L Williams gyfrol o'r enw Crwsâd Drwy Berswâd.

Yn fuan ar ôl hyn, gadawodd Owain Owain ei swydd fel Uwch-ddarlithydd Mathemateg yn y Coleg Normal Bangor i ymuno a staff Urdd Gobaith Cymru fel Pennaeth llawn amser cyntaf yr Urdd yng Nglan-Llyn. Fe'i benodwyd i 'roi trefn ar y gwersyll. 'Mae pethau wedi mynd yn fler iawn yno!' fel y dywedwyd wrtho mewn llythyr gan Syr Ifan (i'w gyhoeddi eto).

Roedd dealltwriaeth rhyngddynt hefyd y byddai'r Urdd yn sefydlu ysgol uwchradd Gymraeg, breifat o dan brifathrawiaeth Owain Owain.