O Lyfrgell Owain Owain Owain y person; ei fywyd 1929 -1993 Y Dydd Olaf: un o lyfrau Owain Owain Y Tafod cyfarchion y nadolig: gan yr arlunydd Owain Owain dyfyniadau am Owain Owain
 


Cell Bangor

Yn yr adran hon edrychir ar y gell gyntaf un: Cell Dinas Bangor.

'Fel gyda phob mudiad o bwys, daeth nifer o ffrydiau ynghyd i sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, ac un o'r ffrydiau mwyaf croyw oedd ffrwd Bangor, ym mherson Owain Owain.' Dafydd Iwan, 2007

Hon, wrth gwrs, oedd unig gell y Gymdeithas am beth amser. 'Aeth ati fel mudiad ynddo'i hun', medd Gwilym Tudur yn 'Wyt Ti'n Cofio?' (1989, Gwasg y Lolfa).

Dilynwud esiampl Cell Bangor yn ddiweddarach drwy ffurfio Cell Ceredigion yn Ionawr 1964, Caerdydd ym mis Mawrth a Blaenau Morgannwg yn haf 1964. (Gweler tud 101 o 'Trwy Ddulliau Chwyldro (Gwasg Gomer, (1998) Fel y dywedod John Davies yn Y Ddraig Goch (Ionawr 1964) gweler: 'ein gobaith ni yn y misoedd nesaf yw ceisio dilyn esiampl Cell Bangor mewn cynifer o lefydd ag sy'n bosibl. (gweler isod)

   
Llawysgrifen Owain Owain (Ysgrifennydd y gangen, ond yn amlwg hefyd yn Drysorydd y Gangen!) yn dangos Derbyniadau Cell Bangor Mai - Awst 1963.

Aelodaeth Cell Bangor

Sonir yma am ei ysgrif 'Gweithrediadau Personol'.

 

   
Taliadau'r fantolen uchod.
   
10 Gorffennaf 1963.

Cofnodion Cell Bangor o Gymdeithas yr iaith, yn llawysgrifen yr ysgrifennydd: Owain Owain.

Y Parch Ifor Williams oedd yn y gadair, sylwer, yn wahanol i'r hyn a ddywedir yn 'Drwy Ddulliau Chwyldro'.

Archebion Treth Dwyieithog.

Addysg Gymraeg: ysgolion uwchradd.

Cynnig diddymu trydydd cymal y tocyn aelodaeth.

   
Owain Owain oedd ysgrifennydd (a thrysorydd gweithredol!) cell Rhanbarth Arfon o Gymdeithas yr Iaith.

Yma fe welir, yn ei lawysgrifen, rai o'r cyfranwyr cynnar:

Maldwyn Lewis (Porthmadog)

Trefor Selwya

Ken Hardy (Bangor)

Emyr Preis

Hywel Hughes

W A Jones (Llanrug)

Robat Gapper

M H Jones (Yr Adfa)

Dan Thomas

Mae'r fantolen hefyd yn dangos taliadau a wnaed parthed protest Robat Gruffudd yn gwrthod derbyn ei wradd.

Hefyd: argraffu Tafod y Ddraig.

 

 

   
John Davies at Owain Owain Ionawr 1964

Erthygl gan John Davies yn y Ddraig Goch.

'Yn Nhre Bangor, fodd bynnag y mae'r gwaith mwyaf yn cael ei wneud ar hyn o bryd a'r rheswm pennaf am hyn
ydyw ymroddgarwch diflino Mr Owen Owen, ysgrifennydd y gangen yno. Ym Mangor fe drefnwyd ymgyrch i gael
papur y dreth yn Gymraeg, ymgyrch i Gymreigio'r siopau, ymgyrch i gael ysgolion uwchradd Cymraeg, ymgyrch i
ddangos gwerth ariannol y Gymraeg, ymgyrch i Gymrreigeiddio Llyfrgell y Ddinas ac Ysbyty Mon ac Arfon. '

'Pe bai gan bob tref gangen mor gref a changen Dinas Bangor fe ellid gweddnewid y sefyllfa yng Nghymru mewn byr amser, a'n gobaith ni yn y misoedd nesaf yw ceisio dilyn esiampl Cell Bangor mewn cynifer o lefydd ag sy'n bosibl.'