O Lyfrgell Owain Owain Owain y person; ei fywyd 1929 -1993 Y Dydd Olaf: un o lyfrau Owain Owain Y Tafod cyfarchion y nadolig: gan yr arlunydd Owain Owain dyfyniadau am Owain Owain
 


Ein Cyflyru

Cyflyru dynoliaeth: hunllef fwyaf Owain.

Sgwennodd Owain Owain gerdd, sy'n pwysleisio pwysigrwydd yr amrywiaeth hwn (gweler y bennod 'Cyfoeth yr Amrywiaeth'): sef Llwydni (1968) - y gwrthbwynt absoliwt i Gyfoeth yr Amrywiaeth:

'Gwelaf y bodau llwydion
yn rhengoedd dall -
rhifau talcenni'n unig
yn dangos nad hwn yw'r llall....

'Clywaf y Llais:
"Onid un
yw brawdoliaeth dyn?"

'Sieryd -
yn ufudd, ymgryma byd.

'Un Llais.
Un byd.
Un llwydni llwyd.'

 

Modus Operandi'r Brawd Mawr (neu'r Ddelwedd Fawr chwedl Owain) yw ein cyflyru; tynu ein gallu i feddwl yn rhydd ac yn annibynol. Dyma ydy thema ei nofel wyddonias 'Y Dydd Olaf'.

Yn 17/09/1969 dywed yn ei Nodion Gwyddonol Rhif 22 (yn Y Cymro):

'Mae'r pryderon... hyd y gwelaf i yn perthyn i ddau ddosbarth: effaith buan ac effaith pell cwlt y cyfrifydd (cyfrifiadur). Yr effaith buan fydd... diflaniad rhyddid personol yr unigolyn.'

 

mwy i ddod...