Y Perspectif Byd-eang
"...llwyddodd Owain Owain i osod ein brwydr yn ei chyd-destun byd-eang." Gareth Miles, Y Faner 3-7-69
Gweld y patrwm mawr, a'i ddiffinio.
Yn ei erthygl Y Ddelwedd Fawr mae'r awdur yn rhoi rhesymau ehangach na fu cyn hynny dros frwydr yr Iaith:
'Yma, o'n cwmpas, o ddydd i ddydd, wele faes brwydr, wele gyfle i frwydro'n feunyddiol dros rywbeth "bychan, di-werth, di-nod." Drwy ymladd brwydr yr iaith, ymgodymwn â'r gau-egwyddorion hynny sy'n gynheiliaid ac yn gynhyrchion y DDELWEDD FAWR - y gau-egwyddorion sy'n swyno ein byd hyd at drwmgwsg angau.
'Ond yr un yw'r frwydr: brwydr y "pethau bychain" yn erbyn y DDELWEDD FAWR.'
Efallai mai'r term pwysicaf a fathodd Owain oedd 'Cyfoeth yr Amywiaeth' (gweler ei ysgrif Y Tri Llwybr):
'Y mae unrhyw ystyr clodwiw y gellir ei briodoli i fywyd heddiw, ac unrhyw werth parhaol y gellir ei briodoli i fywyd ddoe, yn dibynnu ar barhad a chryfder yr iaith Gymraeg a'i diwylliant a feithrinwyd ac a feithrinir drwy gyfrwng yr iaith honno; nid i Gymru a'i phobl yn unig, ond i fyd dynion benbaladr; canys fe fydd diflaniad yr iaith Gymraeg yn gyfystyr â rhoi sêl oferedd ar yr hyn oll a fu yn hanes y byd yr ydym ni yn rhan ohono.'
Mae ganddo gerdd, sy'n pwysleisio pwysigrwydd yr amrywiaeth hwn: sef Llwydni - y gwrthbwynt absoliwt i Gyfoeth yr Amrywiaeth:
'Gwelaf y bodau llwydion
yn rhengoedd dall -
rhifau talcenni'n unig
yn dangos nad hwn yw'r llall....
'Clywaf y Llais:
"Onid un
yw brawdoliaeth dyn?"
'Sieryd -
yn ufudd, ymgryma byd.
'Un Llais.
Un byd.
Un llwydni llwyd.'
Cofiwch ddyddiad ysgrifennu'r gerdd: nid 2007 eithr 1968.
Gweler hefyd ei Lythyr at y Cenedloedd Unedig.
Pam brwydro dros y Gymraeg yn hytrach na thros Oxfam? | |
Drafft o Rifyn 8 o Dafod y Ddraig, (llawysgrifen Owain). Enghraifft o roi'r Gymraeg yn ei chyd-destyn fyd-eang. |
Yn Nodion Gwyddonol, Rhifyn 42 (11-12-1970), dywed Owain:
'Un o'r diarhebion gorau, i'm tyb i, yw "Nid wrth ei big mae prynu cyffylog". Un o fy rhesymau dros hoffi'r ddihareb yw'r ffaith ei bod yn gwrthdystio yn erbyn yr athoniaeth gyfoes o "Bigger and Better." Ac mae unrhyw beth - boed yn ddihareb neu yn weithred - sy'n gwrthdystio yn erbyn yr athroniaeth goeg honno yn werthfawr.'
Unffurfiaeth
(i'w orffen)
Ofn fwyaf Owain Owain oedd y 'llwydni llwyd' (gweler 'Y Ddelwedd Fawr' a'r gerdd 'Llwydni' a'r nofel 'Y Dydd Olaf'.
Mae Owain yn gweld pwrpas i leiafrifoedd yn y frwydr rhag llwydni totalitaraidd. Yn ei Nodion Gwyddonol, Rhif 48 (25-03-1970, dywed:
'Fe hoffwn innau gynnig un ffordd arall o'i gwneud hi'n llai rhwydd i'r gwas droi'n feistr. Y brif atalfa i gyfundrefn gyfrifyddol (hy cyfrifiadurol) lwyryw bodolaeth unedau -bychain ond cryf ac iach - sy'n diogelu'r gwahaniaethau hynny a rydd ystyr a lliw a chyfoethogrwydd i fywyd; gwahaniaethau ethnig ac ieithyddol a diwylliannol.
'I ni yng Nghymru, diogelu a noddi'r gwahaniaethau hynny sydd ynghlwm wrth iaith a thraddodiad "gwahanol" yw ein rhan feunyddiol yn yr ymdrech fyd-eang i wrthsefyll tresmasiad y gyfundrefn gyfrifiadurol (unffurf) i fyd dynion.'
Bathodd y term 'Cyfoeth yr Amrywiaeth'.
Cyhoeddodd erthygl ar hyn yn 'Tafod y Ddraig', Chwefror 1965. Wele adolygiad o'r 'Tafod' hwnnw, sef golygyddol y Y Faner' Chwefror 11, 1965:
Cyfoeth yr Amrywiaeth. Gweler hefyd 'Cwrs y Byd, Rhif 3 (19-01-1973); :
Teithio'r Gofod; Amrywiaeth. Planed Daear yw'r 'Fechan Gyfoethog'. 'Nid yw ein Daear yn ddigon mawr i ni fedru fforddio gwstraffu ein hadnoddau prin, nac ychwaith yn yn ddigon mawr i fod yn gartref i fwy nag un gwladwriaeth mewnblyg, hunanol, dreisiol a materol.... darbodaeth ofalus a chyd-weithrediad llwyr yw amodau di-amod parhad bywyd.' 'Byd totalitariaeth byd-eang... ' 'Cyfoeth yr amrywiaeth yw cyfoeth Daear. A'i dyfodol.' Gweler hefyd y bennod 'Perspectif'. |
|